Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH.
Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH. — ♦ Bum yn ymdrin ychydig a'r Parch. T. Johns, Capel Als, y ddau dro diweddaf parthed i ymddygiadau y Bedyddwyr a'r Annibynwyr, pan y maent yn y mwyafrif ar unrhyw Fwrdd. Ond rhywfodd neu gilydd gwnaeth d-I y wasg gam a mi drwy osod "dan" fel rhif yr Annibynwyr a etholwyd ar y Cynghor Trefol ddwy flynedd yn ol, yn lie y gair saith, a'r wythnos cyn hyny gosododd "Tyst a'r Dydd yn lIe "Tyst." Tebyg iawn fod y darllenydd wedi deall mai camsyniadau oeddent. Ni fuasai synwyr yn- ddynt fel y darfu iddynt ymddangos, Yr wyf wedi bod yn traethu fy Hen ar y Bwrdd Ysgol, a hefyd ar y Cynghor Trefol, ac wedi profi yn ddigamsyniol fod y Bedydd- wyr, pan yn y mwyafrif a y Bwrdd Ysgol, wedi ymddwyn yn hollol deg  v A "b a ?C?t, ?.c ? yv Aniiibyiiwyr pan yn y mwyafrif, wedi ymddwyn yn hoU- ol enwadol, gan edrych ar bob etholiad drwy spectol yr en wad, ac nid barnn teilyngdod y naill ymgeisydd a'r llall. Yn awr symudaf gam yn mlaen, a chymeraf olwg ar y mater- ion hyn fel y maent wedi eu cario allan ar Fwrdd y G-warcheidwaid. Y mae 27 o warcheidwaid yn cyfansoddi Bwrdd Llanelli, ac o ran golygiadau crefydd- ol gellir eu dosbarthu fel y canlyn :—Eglwys- wyr, 12; Bedyddwyr, 9; Annibynwyr, 3;. Methodistiaid, 3. Gwelir felly fod 3 Bedydd- iwr am bob Annibynwr ar y Bwrdd. Pe bu- asent yn euog o'r hyn y cyhudda Mr. Johns hwy, buasai 3 allan o bob 4 o'r swyddwyr yn Fedyddwyr. Ond gadawer i ni edrych i fewn ai felly y mae mewn gwirionedd. Pan ddarfu i Mr. W. B. Jones ymddiswyddo fel Relieving Officer, etholwyd Mr. James Isaac (Annibynwr) yn ei Ie. Pan giliodd Mr. James Isaac etholwyd Mr. White (Annibyn- wr) yn ei le. Pan ymddiswyddodd Miss Trinder o fod yn Assistant Matron, etholwyd Miss Jones (Annibynwraig) yn ei lie. Gweithiwyd yn galed i gael gwared o Mr. Thomas (Eglwyswr), Assistant Overseer Llanedi, er niwyn ethol INIR. Jones (Annibyn- wr) yn ei le. Gwnaethpwyd pob ymdrech i gael Mr. John Williams (Methodist) allan o fod yn Assistant Overseer Llannon, er mwyn ethol Mr. Jenkins (Annibynwr) yn ei le. Nid yw hyn felly yn ymddangos fel pe bai y Bedyddwyr yn cymeryd mantais o'u liifer ar y Bwrdd i ethol Bedyddwyr i'r swyddi. Y mae gan Bwrdd Gwarcheidwaid Llanelli 24 o swyddwyr, a dosberthir hwy yn ol eu golygiadau crefyddol fel y canlyn— Eglwyswyr, 8; Annibyn-wyi-, T; Methodist- iaid, 5 Bedyddwyr, 4. Gwelir felly nad yw y Bedyddwyr yn cymeryd mantais ar eu nifer ar unrhyw Fwrdd i roddi y swyddi i'r rhai sydd yn dal yr un golygiadau crefyddol a hwy, fel y gwna yr Annibynwyr. Yr wythnos nesaf, os byw ac iach, ymgymeraf a'r Cynghor Sirol, &c., ac yma gwelir Annibynia yn anterth ei nerth yn gweithio dros ei phlant, ac nid y lleiaf ar y llwyfan yw y Parch. T. Johns ei hunan
YSGREPAN GWILYM MORLAIS.
YSGREPAN GWILYM MORLAIS. Cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol Caer- salem y Sul a nos Lun diweddaf. Pregeth- wyd gan y Parchn. W. J. Lewis, Llannon, a D. Collier, Hirwain. Cafwyd cyfarfodydd ardderchog. Cynelir cyfarfodydd blynydclol Moriah, Llanelli, a Tabernacl, Llwynhendy, dydd Sul a nos Lun nesaf. Yn Moriah bydd y Parchn. W. P. Williams, Gland wr, a J. Williams, Aberteifi, yn traethu'r genadwri; ac yn y Tabernacl bydd y Parchn. Dan Davies, Forth, a W. Saunders, Rhymni. Ceir cyfar- fodydd da yn y ddau le, tebyg iawn. Cyflwynwyd pleidlais o ddiolchgarwch1 gwresog i Mr. Edward Roberts, cadeirydd y Cynghor Plwyfol am y flwyddyn ddiweddaf, am ei egni a'i lafur di-ildio, a'i anmhleidgar- wch diwyrni yn ystod tymhor ei swyddog- aeth. Ethalwyd Mr. Dl. Davies, Ffynon- ymenyn, yn gadeirydd am y flwyddyn nesaf. Dymunaf iddo bob llwydd i gario'r gweith- rediadau yn mlaen. Teimlodd aelodau y Cynghor Trefol ei bod yn ddyledfcwydd arnynt i gyflwyno diolch- garwch y Cynghor i Mr. D. W. Rees, y cadeirydd, ar ei ymadawiad a'r gadair dydd Linn diweddaf am ei wasanaeth gwerthfawr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; ond yn eu hawydd neillduol i gario allan benderfyniad- all y clique- fu yn eistedd yn gyfrinachol i osod Mr. Ernest Trubshaw yn y gadair, anghof iwyd yn hollol fod Mr. John Griffiths, yr aelod ffyddlonaf ar y Cynghor, wedi bod yn llenwi yr is-gadair, ac am hyny cafodd fyned heb eu diolch, pe bai yn rhyw lawer g\vaeth o hyny. Rhyfedd y gwahaniaeth sydd yn aelodau y Cynghor pan y maent yn gofyn am ein pleidleisiau, a phan y maent yn ethol cadeir- ydd. Y maent yn yr etholiadaif yn Arwyr Rhyddid ac yn Radicaliaid i'r asgwrn cefn, ond mor fuan ag yr etholir hwy, y peth cyn- taf a wnant yw ethol Tori o'r Toriaid, neu mewn geiriau ereill, Arch-Dori Llanelli, yn gadeirydd ar y Cynghor. Credaf fod pethau fel hyn yn warth arosol ar Radicaliaeth yr aelodau, ac yn slap yn ngwyneb yr ethol- wyr yn gyffredinol. Os oedd Mr. John Griffiths yn deilwng i lenwi is-gadair y Cynghor, sicr yw ei fod yn deilwng i lanw yr uwch-gadair, ac yn llawer mwy felly na gosod Sais uniaith nad oes ganddo na chyd- ymdeimlad na ph arch gwirioneddol i Gymru na Chymro, ac yn enwedig felly os bydd yn dygwydd bod yn un o breswylwyr Llanelli. Nid wyf yn amheu galluoedd Mr. Trub- shaw fel masnachwr alcan. Tebyg iawn y medr ddal ei dir ei hun yn dda yn y cvfeiriad hwnw, ond nid yw hyn yn profl nad oes ereill ar y Cynghor a allasent lenwi y gadair cystal, os nid yn well, nag ef; ond y mae'n rhaid cydnabod ei hawliau am ei fod yn Sais, ac y mae'n rhaid cael Cyfrin-gynghor i weithio y peth allan yn dawel, heb yn wybod braidd i neb, fel y bydd yn ymddangos yn fwy gogoneddus pan wel oleuni dydd fod y bleid- lais yn unfrydol. Y mae'n llawn bryd i gael gwared o'r glicyddiaeth sydd ar y Cynghor y dyddiau hyn. Bob tro y mae Mr. Trubshaw wedi cael cyfle i wthio Sais i swydd yn Llanelli, y mae wedi defnyddio ei ddylanwad a'i bleidlais dros hyny. Y mae j yn llawn bryd i ni gael dyn i lanw un o brif swyddi y dref, sydd a chalon all guro mewn cydymdeimlad a ni fel Cymry, a dyn fydd yn barod i gydnabod fod rhyw faint o allu a Inedrllsnvydd mewn Cymro.
1 ! LLITH CROMWELL.I ji
1 LLITH CROMWELL. SYR,—Bydd well cystal a derbyn fy esgus- awd, neu yr achos i telynt yr arwr enwog oeddwn wedi ddechreu ysgrifenu ddod allan. hyd at ei farwolaeth. Darfu i mi, er's dydd- iau bellach, gymeryd prydnawn cyfan at y gorchwyl, ac yn siwr i chwi, aetli hyd haner nos arnaf, ac yr oedd hono yn nsson ystorm- 11yd iawn. Yr oedd y corwynt yn rhuo yn nghorn mwg-dwll fy mwth fel llu o deirw Basan yn ddigon i beri i mi gredu fod fy mwthyn ar ech wyn yr Atlantic Ocean; ond I drwy y cyfan daeth hwylAeibio i mi y noson hono na chyfarfyddir a'i bath yn ami. Yr oeddwn wedi torchi fyny fy Uewys at y gwaith hefyd, a phan yr edrychais dros fy eiddo yr oeddwn yn ei weled braidd yn rhy odidog i'w osod mewn newyddiadur. Pe bu- asai y Grand Old Man yn ei weled yn iaith ei hun buasai yn synu, neu Charles Dickens, pe bai yn fyw, nid rhyfedd pe buasai yn cynyg diploma i mi fel pen nofelydd. Ond wedi haner y noson hono darfu i mi daflu fy hun i ddinystr cwsg,"a chael fy hun yn effro wedi bod yn ei gol am rai oriau ond Och yr oedd yr oil o'm llafur yn ofer, a ffrwyth fy nhalent ddysgIaer wedi myned yn ymborth i'r fflamim. Rhy wfodd yr oedd y forwyn fach wedi bod yn ei thrafferth i enyrn y tan, a rhywfodd, nid o'i bodd, rwy'n siwr,y gwnaeth hyny, ond felly y bu, Mr. Gol. anwyl, a rhy anhawdd i mi osod ar bapyr y fath golled. Bum bron credu y buasai yn rhaid myn'd a ini-cbwi wydduch i b'le ond wedi myned allan, a chael drachtio ychydig o'r awelon pur daethym ataf fy hun yn o lew, braidd fel o'r blaen.-(I'w bavhau.)
-. I ! URDD ANNIBYNOL Y TEML-I…
URDD ANNIBYNOL Y TEML- W- Y It DA. Cynaliwyd cyfarfod nos Wener diweddaf mewn cysylltiad a Theml Gobaith, Llangennech, o'r Urdd uchod, er aurhegu y Brawd John Morgans, hedd- geidwad Llangenuech, ar ei ymadawiad a'r He i fyned i Lansawel. Teimlai y frawdoliaeth demlyddol pas gallent adael i'r amgylchiad biraefchus fyned heibio heb iddynt, mewu ffurf ymarferol, ddangos eu parch a'u hsdmygedd o'r brawd ffyddloti oedd ar droi ei gefn ar Langennech, lie, ar ol iddo dreuiio ychydig flynyddau, yr oedd wedi enill iddo ei hunau barch ac anrbydedd nid byeban o berwydd ei ddilysrwyud a'i uniondeb yn ngbyflawniad ei swydd fel heddgeidwad, a'i dymherau addfwyn fel dyn a chymydog. ac yn benaf oil fel cefnogydd selog a gweithiwr difefl dros egwyddorion dirwest yn y lie. Wedi cymeryd y gadair lywyddol gan y Brawd Ifor Watts. Dosbarth Ysgrifenydd Llanelli, awd yn mlaen a phrif amcan y cyfarfod, a cbyfiawnwyd y gorcbwyl o aurhegu y brawd a chyfrol ddestlus o'r nofel, Rhys Lewis," yu ddeheuig iawn gan y Parch. D. A. Jones, Llangenuech. Diolchodd y Brawd Morgans mewn teimladau toddedig iawn am y teimlad a roddai fodol- aeth i'r anrheg. Siaradodd amryw o frodyr y deml mewn geiriau a theimladau uchel am ffyddlondeb y Brawd Morgans i'r deml, a'r achos dirwestol yu gyffredinol, ac amlygent deiraladau biraethus iawn wrth orfod colli brawd mor anwyl o'u plitb. Wedi cael ton gan barti o'r deml, ymwabanodd pawb, wedi cael cyfarfod wrth eu bodd, a'r dymuniad cyffredinol oedd Duw yn rhwydd t'r Brawd Morgans yu ei le newydd.
ITUMBLE. I -
TUMBLE. Da iawn genyf bysbysu fod cyfarfod llenyddol wedi bod dydd Sadwrn diweddaf yn Bethesda, Tumble. Cafwyd te rhagorol yn y prydnawn wedi ei ddarparu gau bedair o wragedd—Mrs. Rees, Coedcae; Mrs. Morgans, Pantycelyn Cottages Mrs. Lewis, Tynton a Mrs. Jones, Tumble Street. Etholwyd Mr. Daniel Thomas yu gadeirydd y cyfarfod, ac wedi cael anerchiad agoriadol gau yr arweiiiydd, Parch. E. H. Davies (gweinidog), awd drwy y rhaglen gtnlynol:- Ton, y cor can, Tom Morgans cun, Y Gwauwyn," parti; trie, Evan Thomas, W. Griffiths, a Mary Jane Thomas can, Eleanor Morgans can, Dan Morgans, a gorfu iddo ddod yn ol yr ail waitu adroddiad, nifer o'r plant; can, "Y Dryw," John Lloyd-galwyd ar Dan Morgans i ganu y penillion y mae Dan yn enwog fel canwr penillion trwy yr boll le, pob parch iddo fyn'd rhag ei flaen can, William Rees ac amryw o ganeuou ereill. Cafwyd anerchiadau gau E. H. Davies a'r cadeirydd, a galwyd ar y cor i orpheu y cyfarfod. Gobeithiaf y bydd i'r cymydogion hyn i anrhegu Mr. Davi(1 Morgans am chwareu trwy barhady cwrdd. T. SYR,-Wrth daflu cipolwg dros eich newyddiadur am yr wythnos ddiweddaf, canfyddais llith o dan y penawd, Gair Bach o'r Tumble," gan un a eilw ei hun yu Hen Weithiwr. Nid oeddwn yn meddwl gwueud niwed i neb wrth anfon fy llithiaui'ch newydd- iadur, fel y cyfeiria Heu Weithiwr, ond bwriadwn iddynt fod yn foddion i'r dynion a'r lie er iddynt ddod yn fwy tebyg i ddynion, yn lie bod fel paganiaid sydd yn byw yu ngwledydd pellenig y ddaear, beb wybod y gwahaniaeth rhwng y Sabbath a rhyw ddiwrnod arall. Treulia rhai y Sabbath fel diwrnod i hela clecs o dy i dy, a gwelir llawer ar byd y caeau ar y Sul, a gallai rhyw ddyeithr-ddyu a ddygwyddai fyned heibio gredu mai dynion gwyllt ydynt, wrth weled eu campau. Y mae yn warth fod dynion yn yr oes oleu hon yn gwueuthur yr hyn a wnant ar y Sabbath. Byddai yn dda iddynt gofio am y dydd a ddaw, pryd y bydd yr r Hwn fydd yn dyfod gyda'r cymyiau yn dweyd wrth- ynt, Ewch oddiwrtbyf, chwi weithredwyr anwiredd." Cofier nad wyf yn meddwl am bawb sydd yn y Tumble. Diwygiwch, fechgyn ieuainc, a dynion mewn oed, onide gwelwch eich camsynied yn y dydd a ddaw, ac efallai hyny yn fuan. Peth arall oeddwn am ddweyd oedd fod yr hen lowr wedi gwneud camsynied mawr wrth ysgrifenu y llythyr diweddaf, trwy ddweyd fod gwraig wedi bod genyf. Os bu gwraig genyf, nid wyf yn gwybod dim am dani, beth bynag; ond bwriadaf cael un yn fuan. Dichon fod yr Hen Weithiwr yn tybied fy mod fel efe, yn methn cael rfafr neb, gan ei adael yn hen ianc, ac yn heu gybydd, fel Hawer o hon- ynt. Wrth sylwi ar ei lith yn fanwl, canfyddir ar un- waith mai blaidd mewn croen dafad y w. Efallai y cewch rhagor y tro nesaf. SHONI TAKWR Tyi.LAr. I
Y DWYLAW CROESION.I
Y DWYLAW CROESION. I MR. GOL.,—Yr wythnos hon, y mae Uvgaid y rhan fwyaf o breswylwyr y Dwylaw Croesion wedi eu hagoryd. Yr oeddent yn methu dirnad yn mha wlad oedd y gymydogaeth ucbod. Clyvvais rai o honynt yn dywedyd yr wythnos hon fod Shon Fair Play yn Crosshands, a dyma y rheswm oedd genyf dros ei alw yn Crossbands y tro hwn er iddynt gad ar ddeall mai yma yr oeddwn, a hefyd am fod y rhan fwyaf o'r benywod mor anllytbyrenog. Er eu bod wedi eu geni a'u magu yn y gytnydogae tb, nid oeddynt yn gwybod enw yr ardal yn Gymraeg !—nid yn unig y benywod, enN,, yr ar(la l yti Gyrnraeg ond y bechgyn ieuainc hefyd. Er eu bod wedi myned trwy bod dosbarth yn yr ysgol ejfenol, ac wedi dysgu cyfieithu yn yr ysgol nos, eto nid oedd ganddynt un amc nam y Dwylaw Croesion. "Y Dwylaw Croesion meddent, gan synfyfyrio yr oedd mor ddyeithr iddynt a phe buasai yr ardal yn yr Unol Dalaethau. Os ydynt yn gwybod daearyddiaetli yn well na cbyfieithu, byddai yn well i mi dyuu map o Sir Gaerfyrddin er cyfarwyddyd iddynt. Fel y dywedais yn fy Ilitb blaetiorol, talais ymweliad a'r pentref. ac er siomiant i mi, ni ddaeth un fenyw i fy nghyfarfod, ond rbywfodd, yn ddamweiniol, daeth un fenyw fach i gyffyrddiad a mi, gan yr hon y cefais lawer o helyntiou. Tra yn siarad a hi. wele ddyn yn nesau atom, ac yn marchogaeth ar ddeugylch, ac yn sydyn disgynodd yn yr hotel gerilaw. Dyn dyeithr, aie ? meddwn wrth y fony w. Nage," meddai; y mae yn by w yn y gymydogaeth,ac y mae yn marchogaeth ei geffyl i gael ei foreufwyd a'i giniaw, ac i'r llythyrdy, er nad yw ei ffordd'yn rhyw lawer mwy na thair naid I milgi. Nid teg," meddai, "fod swyddwyr segur yn j cael eu harbed fel byn, tra y mae y gweithiwr, druan, yn gorfod cerdded yn galed hwyr a boreu. Clywais gauddi fod un o gents Syr John yn afreolus iawn weithiau, er ei fod yn proffesa pethau gwell. Gellir dywedyd am dano ei fod yn gwasanaethu dau I arglwydd, ond yr wyf yn credu ei fod yu aberthu mwy ar allor Bacchus nag ar allor y gwir Dduw. Clywais I hefyd fod gormeswr mewn glofa yn y gymydogaeth. J Gocholed y cyfryw, rhag i mi gael cipolwg arno, ac yna I bydd yn gorfforol yn y a'i ddysgyblion- I os na fydd iddo newid ei ffordtl. SHON CHWAKEB-IEG. 1
iI ¡CYFRINFA RIIOSYN GLAN-…
I CYFRINFA RIIOSYN GLAN- f DAFEN. Daeth cyfansoddiadau i law yn arwyddedig a'r llen-enwau canlynol, mewn cysylltiad a'r cyfarfod cystadleuol a gynelir dydd Sadwrn nesaf yn Maes- canner :—ddarllenfa Gyhoeddus."—Awel Mai (1). Y Ffermwr (Iro(i(i yfi Golier,Ffermwr Ty Draw, Hen Was Ffarrn, Efe ei Hunan, a Smiler (4). Y traetbawd. "Y Moddion mwyaf Effeithiol i gael gan y Dosbarth Gweithgar i ymuno a Chymdeithasau Cyf- eillgar.Hel1 Aelod, Darbodwr, Llais o'r Dyffryn, a Brithwn (4). Yn dyfal chwiiio am y goreuon, yr eiddocb, Felinfoel. CAltODYN. I
ANERCHIAD1
ANERCHIAD 1 Gyflwynwyd yn y wledd i Mr. a Mrs. Lewis, Dolybar House, Cwmfelin, Ebrill lOfed, 1897, adeg y cyrbaedd- asant 40aiu mlwJdd yu y bywyd priodnsol. Tua broydd y gorphenol Chwim ehedodd f'swen swynol, Er cae I trem yn ddarluniadol Ar eich by wyd priodasol. Yno gwelai'm llygaid craffus Olion llafur dau darbodus, Fu yn casglu'n dra rhagorol Erbyu bywyd priodasol. Fel gwna greddf yn myd yr adar, Feity gwnaethoch chwithau'n gynaf, Darpar nythle'n wir bwrpasol Cyn boreuddydd priodasol. Eilwaith 'hedodd fy meddyliau Dros y deugain o flynyddau, Gan syll-dremu ar eich llwybrau Sydd yn llawu o felus ffrwythau. Tomos Lewis diymhongar, Ylna sydd fel heulwen Uachar, Wedi byw yn wron priod- Deugain mlwydd heb feddwol ddiod. Cristion sydd a'i arf yn loew, (Fel pob duwjol heb y cwrw), Byth croes-eiriau, byth yn bwrw, Byth mae Tomos yn ddi-dwrw. Hannah'i gydmar, mamaeth dduwiol, Fyw athrawes yn yr ysgol, Chwilio'r memrwn ol a gwrthol, Am nef-wersi adeiladol. Benditb ydyw i'r dysgyblion Eich bod yn atlirtwes weitbioii, Herwydd gyrwch hwynt yn union I Galfaria tua'r ffynon. Nid yw chwedlau ac ystraeon Yu cael hamdden enill cynffon, Dosbarth sydd yn hwylus ddysgu Y gwirionedd-Gair yr lesu. Bellach, deulu, ymgysurwch Yu y ffaith fod 41 parch a bri" Heddyw'n adsaiu trwy'r gym'dogaeth Am eich hael wasanaeth chwi; Codi wnaethoch deulu barddwych Yu y deugain mlwyddi hyn, Rhai yn feirdd a gwych gerddorion Swynol sydd mewn pant a bryn. Boed prydnawnddydd bywyd tawel, Dedwydd rhan mewn hyn o fyd, Almoii bren fo'u teg flodeuo Yn ugardd amser ar bob pryd Pan ddel Iesu'ch cyrchu gartref, Drwy or'chwyliaeth Brenin Braw" Ewch heb rwgnach i'r gororau Tragywyddol yn ei law. Yuo cawn dros fyth ei foli Am y goncwest fawr a gaed, Yno eawl gydganu'r anthem Gyfansoddwyd am y gwaed Rhodio beunydd lwybrau euraidd Yu y Tragwyddolfyd mawr, j 0 am sicrwydd dyogelwch Yn y ddyogelfa 'nawr. I Bryn. HUGH. A. JONES.
ITELYNEGI
I TELYNEG I Edna Blodwen, merch Mr. a Mrs. Ivor J. Davies, Board School, Dafen, ar ei pheii blvvydd cyntaf. Cyfododd seren uewydd Yti nghanol nen 0 gyleh ei phei Tywynai gwawl llawenydd. Pan enir seren newydd, Ein holiad yw, A fydd hi fyw I gynal ein Daweaydd ? Fe enir llawer seren Ynnghread Duw, Nad j "iit yn byw Yn hir, yn mro y wybren. Pan allwyd Edua Blodwen, Ein pryder fu, A ddeuai hi I hardduein ffurfafen Ond testyn gwir lawenydd Ar derfyn blwydd, Fod awel llwydd Yn chwareu ar ei ddwyrudd. Gallwn ddysgwyl bellach, I'r seren wen Harrldu y nen, Fel y daw yn henach. -+- EURWEDD. I
I ODLAU HIRAETH;
I ODLAU HIRAETH Ar ol o diweddar Mrs. Davies, anwyl briod Mr. B. Davies, coal merchant. Blin oedd genym am y golled Gafodd eiu mwyu gyfaill cu, Er ymdrechu'n erbyn augeu, Nos a (lyda i,w cha(lw hi Dagrau heilltioll aradegodd Gwyneb gynt a gaed yn lion, Ond pa ryfedd, medd adgofiou, Ni fu gwraig yn well na hon. Byth ni welwyd dau mwy hapus, Yu cydrodio'r heol gaeth, Ni arferent eu holl gyrfa Ond pereiddiaf eiria'n iaith A'r gwir effaith sydd i'w gaufod Heddyw yn eu plant dinam, Gwel'd eu tad heb ei ymgetedd. Hwythau hefyd mwy heb fam Ond er dued ydyw'r cwmwl Sefydliedig sydd uwchben, Ni ddaeth acw am rhyw enyd, Cliric'n fuan gwna y nen Anhawdd deall ffyrdd rhagluniaeth. Pan fo angeu yn y ty, Rhaid yw puro ein calonau Cyn gawn cipdrem fyoy fry. Do, ti gollaist gyfaill hawddgar. Gwraig, a mam rhiiiweddol gus, A'i rhinweddau mwy lewyrcha, Er mewn beddrod y mae hi; Do, ti gollaist wraig o'r iawnryw, Gwraig fn'n siampl iddei rhyw, Rhodiai'r anial yn ddiragrith, Rhodiai beunydd wrth bodd Duw Cristionoges difrycheulyd, Ei chymeriad drwy ei hoes, Perlau nefol oedd ei geiriau, Yn egniol gariai'r groes Gorchest gamp ei bywyd yma Ydoedd gwylio ar ei 'stor, A fu'n darpar drwy ei heinioes I argymhell bodd ei Hior. Nid y beddrod yw ei cliartref, Na, rhan angeu sy'n y bedd, Mae ei henaid 'nawr yn adlef- Gwisgwyd ni yn ngwlad yr hedd Ymbyfryda yn y cwmni A'i hamgylcba yn y nef, Gan yrauno i glodfori Am ei iawnol gariad Ef. Hoffet blwyddi lawer eto, O'i chymdeithas is y rhod, Ond rhagorach yw ei burddas, Byth i fyw dan wenau'r Bod Bydded i ti a d'amddifaid, Sydd yn wylo yn eich du, Dremu fwy i'r nef drwy'ch hiraetb, Er gwel'd llonder yr un gu. Hof t. gael ei gwen gariadlawn, G> vt mwy tra, yma'n byw, Beth w'r wen a'th wnaet yn foddlon, I'r wen wisgwyd hi gan Dduw ? Aros genyt mae'r adgofion, A'i hesiamplau dysglaer da, f Fel llu mynegfysedd gwynion | Pwyntiant i'w thrag'wyddol ha'. HANKOK. J,
Advertising
1897. DIAMOND JUBILEE YEAR SHOW AT London House, Llanelly. RANDELL & SONS Beg respectfully to announce their return from the London Markets with a well assorted Stock of FRENCH & ENGLISH NOVELTIES FOR THE SPRING SEASON, INCLUDING Mantles, Jackets, Capes, Blouses, Skirts, Corsets, etc. 19" LADIES SHIRTS in Lawn, Fancy Cambric and Silk. French and English Millinery. FLOWERS, FEATHERS, ORNAMENTS, OSPREYS, JET SPRAYS, etc., etc. Ribbons for Millinery in all Newest Shades. SAILORS IN GREAT YARIETY. DRESS DEPARTMENT. All Wool Covert Cycling Cloths in Dark and Light Greys and Fawns. A Good Assortment of Fancy Black Materials, Plain and Figured Lustres, etc. Dressmaking & Millinery Departments UNDER THE MANAGEMENT OF THOROUGHLY EXPERIENCED HANDS. Show Thursday Next AND THROUGHOUT THE SEASON. THE FAVOUR OF AN EARLY VISIT IS SOLICITED. NOTE.—Throughout the year 1897 (Diamond J'ubilee Year) we are determined to mark all Goods at such prices that must prove beneficial to all who purchase. COMPARE PRICES. RANDELL & SONS, London House, 1 & 3, Thomas Street, LLANELLY. j NOTICE TO FARMERS & CATTLE FEEDERS. MAIZE At 8s. 6d. per sack of 240 lbs, W. KNOYLE, COWELL STREET. LATE STEPNEY STREET. MYNYDD MAWR COAL DEIIOT. ANTHRACITE. LARGE (Big Vein) 12s 6d per ton LARGE NUTS 13s 6d „ SECOND QUALITY NUTS 10s 6d „ HAULAGE EXTRA. Attention is requested to our ANTHRACITES NUTS, from Great Mountain Colliery, produced by the breakage of selected Large Coal by machinery. They are of uniform size, from two to three inches' and are screened perfectly free of dust. Orders to JOHN WADDELL ,& SONS, Mynydd Mawr Offices, Llanelly. Explosions! Explosions!! SAFETY 'BBL TO BE YAIIYE Sfc For preventing HAD ONLY Explosions JJBgpgf in Domestic and other Bath AT Boilers. |- jj^ T. PUGH JONES', Builders' Merchant & Ironmonger 48, STATION ROAD, AND LLANGATHEN YARD LLANELLY, Builders and Contractors promptly supplied with every requisite. FOR EVERY DESCRIPTION OF PRINTING, GO TO THE Mercury" Offices, UPPER PARK STREET, LLANELLY CARMARTHEN United Breweries, LIMITED. + ALES AND STOUT OF THE FINEST QUALITY. ♦- Read what the Trade Papers say of theit Exhibits at the Brewers' Exhibitionj 1893: BRE, TVING TRADE REVIEW," bec. 1st The Carmarthen United Breweries, Limited.-AleS of splendid quality and rich, full-flavoured Stout. The COUNTRY BREWERS' GAZETTE, Nov. 19th The Carmarthen United Breweries, Limited, were represented by Pale and Best Ales of splendid quality and also by "SSS" stout, which was rich and full flavoured. THE BREWERS JOURNALNov. 15th. Passing to the products of other districts, we have nothing but praise for the Pale and Mild Ales brewed by the CARMARTHEN UNITED BREWERIES, Ltd., whilst the SSS stout from the last-named was particularly rich and full flavoured. The above Ales and Stout supplied at the following Prices:- IN CASKS. 18 Gallons] 9 Gallons ,g Gallons I P A (Bitter Ale) 27s. 13s. 6cl. 7s A K (Light Dinner Ale) 20s. 10s. 5s1 X X X X (Mild Ale) 24s. 12s. 65. SSS (Invalid Stout) 24s 12s. lis. Highly Recommended IX EOTTLTrl, Pints. Half-Pints, I P A :15. (3d. Is. 9d A K (Dinner Ale) 2s. 6d. Is. 4d S S (Invalid Stout) 2s. Gd, Is. Bottles charged Is. per dozen. Full price nJlowed when returned. -OllDER5J TROMPTIV ATTENDED TO- Printed and Published by the LLANELLY MFRCV331 PRINTING COMPANY, LIMITED, at their Offices. Upper Paric Street, Llanelly, in the County of C3o1" marthen, April 29th, 1897.