Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Y PARCH. T. JOHNS AC ENWADAETH.

YSGREPAN GWILYM MORLAIS.

News
Cite
Share

YSGREPAN GWILYM MORLAIS. Cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol Caer- salem y Sul a nos Lun diweddaf. Pregeth- wyd gan y Parchn. W. J. Lewis, Llannon, a D. Collier, Hirwain. Cafwyd cyfarfodydd ardderchog. Cynelir cyfarfodydd blynydclol Moriah, Llanelli, a Tabernacl, Llwynhendy, dydd Sul a nos Lun nesaf. Yn Moriah bydd y Parchn. W. P. Williams, Gland wr, a J. Williams, Aberteifi, yn traethu'r genadwri; ac yn y Tabernacl bydd y Parchn. Dan Davies, Forth, a W. Saunders, Rhymni. Ceir cyfar- fodydd da yn y ddau le, tebyg iawn. Cyflwynwyd pleidlais o ddiolchgarwch1 gwresog i Mr. Edward Roberts, cadeirydd y Cynghor Plwyfol am y flwyddyn ddiweddaf, am ei egni a'i lafur di-ildio, a'i anmhleidgar- wch diwyrni yn ystod tymhor ei swyddog- aeth. Ethalwyd Mr. Dl. Davies, Ffynon- ymenyn, yn gadeirydd am y flwyddyn nesaf. Dymunaf iddo bob llwydd i gario'r gweith- rediadau yn mlaen. Teimlodd aelodau y Cynghor Trefol ei bod yn ddyledfcwydd arnynt i gyflwyno diolch- garwch y Cynghor i Mr. D. W. Rees, y cadeirydd, ar ei ymadawiad a'r gadair dydd Linn diweddaf am ei wasanaeth gwerthfawr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; ond yn eu hawydd neillduol i gario allan benderfyniad- all y clique- fu yn eistedd yn gyfrinachol i osod Mr. Ernest Trubshaw yn y gadair, anghof iwyd yn hollol fod Mr. John Griffiths, yr aelod ffyddlonaf ar y Cynghor, wedi bod yn llenwi yr is-gadair, ac am hyny cafodd fyned heb eu diolch, pe bai yn rhyw lawer g\vaeth o hyny. Rhyfedd y gwahaniaeth sydd yn aelodau y Cynghor pan y maent yn gofyn am ein pleidleisiau, a phan y maent yn ethol cadeir- ydd. Y maent yn yr etholiadaif yn Arwyr Rhyddid ac yn Radicaliaid i'r asgwrn cefn, ond mor fuan ag yr etholir hwy, y peth cyn- taf a wnant yw ethol Tori o'r Toriaid, neu mewn geiriau ereill, Arch-Dori Llanelli, yn gadeirydd ar y Cynghor. Credaf fod pethau fel hyn yn warth arosol ar Radicaliaeth yr aelodau, ac yn slap yn ngwyneb yr ethol- wyr yn gyffredinol. Os oedd Mr. John Griffiths yn deilwng i lenwi is-gadair y Cynghor, sicr yw ei fod yn deilwng i lanw yr uwch-gadair, ac yn llawer mwy felly na gosod Sais uniaith nad oes ganddo na chyd- ymdeimlad na ph arch gwirioneddol i Gymru na Chymro, ac yn enwedig felly os bydd yn dygwydd bod yn un o breswylwyr Llanelli. Nid wyf yn amheu galluoedd Mr. Trub- shaw fel masnachwr alcan. Tebyg iawn y medr ddal ei dir ei hun yn dda yn y cvfeiriad hwnw, ond nid yw hyn yn profl nad oes ereill ar y Cynghor a allasent lenwi y gadair cystal, os nid yn well, nag ef; ond y mae'n rhaid cydnabod ei hawliau am ei fod yn Sais, ac y mae'n rhaid cael Cyfrin-gynghor i weithio y peth allan yn dawel, heb yn wybod braidd i neb, fel y bydd yn ymddangos yn fwy gogoneddus pan wel oleuni dydd fod y bleid- lais yn unfrydol. Y mae'n llawn bryd i gael gwared o'r glicyddiaeth sydd ar y Cynghor y dyddiau hyn. Bob tro y mae Mr. Trubshaw wedi cael cyfle i wthio Sais i swydd yn Llanelli, y mae wedi defnyddio ei ddylanwad a'i bleidlais dros hyny. Y mae j yn llawn bryd i ni gael dyn i lanw un o brif swyddi y dref, sydd a chalon all guro mewn cydymdeimlad a ni fel Cymry, a dyn fydd yn barod i gydnabod fod rhyw faint o allu a Inedrllsnvydd mewn Cymro.

1 ! LLITH CROMWELL.I ji

-. I ! URDD ANNIBYNOL Y TEML-I…

ITUMBLE. I -

Y DWYLAW CROESION.I

iI ¡CYFRINFA RIIOSYN GLAN-…

ANERCHIAD1

ITELYNEGI

I ODLAU HIRAETH;

Advertising