Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

YSGREPAN GWILYM MOBLAIS. j

News
Cite
Share

YSGREPAN GWILYM MOBLAIS. j Yr wyf yn cael ar ddeall fod Mr. William Lewis, gynt o Felinfoel, wedi cael galwad un- frydol i Ffynonhenry. Bu y Parch. T. Idwal Jones, Bethel, yn ughyd a'r Parch. \Y. A. Jones, Sion, Merth- yr, yn sefydlu achos newydd i'r Bedyddwyr yn Llanbedr dydd Mawrth diweddaf. Nid peth bychan yw anturio fel hyn i dir cysegr- edig Eglwys Loegr yn Nghymru. Yr oedd y Parch. B. Humphreys, Felin- foel, yn pregethu yn Lerpwl dydd Gwener a'r Sul diweddaf, yn Nghymanfa Flynyddol Bedyddwyr y ddinas. Cymerwyd ei le yn Adulam gan Mr. B. Elliott, Gorseinon. Y raie'n dda genyf gael ar ddeall fod y nodiadau a wnaethpwyd yn y golofn hon yr wythnos ddiweddaf o berthynas i'r Gymraeg wedi peri cyffro nid bychan yn mhlith aelod- au Cymdeithas y Cymmrodorion. A fydd iddo ddiweddu mewn mwg, tybed, neu a oes digon o wroldeb yn aelodau y Bwrdd Ysgcl yn gwneuthuv eu dyledswyddau yn y cyfeiriad hwn, ac yn roddi ei safle briodol i'r Gymraeg yn ein hysgolion dyddiol. Cawn welpd. Nid wyf yn gwybod a yw y Parch. T. Johns yn golygu derbyn y gwahoddiad a roddais iddo yr wythnos ddiweddaf i brofi fod Bwrdd Ysgol Llanelli yn rhoddi pob apwyntiad sydd ganddynt i'r athrawon sydd yn Fedyddwyr, am fod pedwar Bedyddiwr yn aelodau or Bwrdd. Hyderaf y gwna hyny. Y mae o dan Fwrdd Ysgol Llanelli tua 36 obrif athrawon, ac o ran golygiadau crefydd- Dl safant fel ycanlyn:—Eglwyswyr, 13; Bedyddwyr, 13; Annibynwyr, 8; Method- istiaid, 2. Eto i gyd, yn iigwyneb y ffeithiau anwadadwy hyn, teera Mr. Johns fod y Bed- yddwyr yn cymeryd mantais ar eu nifer ar y Bwrdd i osod Bedyddwyr yn brif athrawon yn yr holl ysgolion. Nid yw, oddiwrth yr uchod, yn ymddangos felly. Heblaw hyn, y mae dau o'r tri attendance officers yn Anni. bynwyr, a'r llall yn Eglwyswr, a'r clerk yn Fedyddiwr. Yn mhrif ysgolion y Bwrdd, sef yr Higher Grade a'r Pupil Teachers' i Central Classes, y mae tri o'r prif athrawon yn Eglwyswyr; a'r Hall yn Annibynwr. Rhaid yw na roddodd Mr. Johns fawr o ystyriaeth i'r ffeithiau hyn cyn ysgrifenu ei lith parthed yr etholiadau. Dylasai dyn cvf- rifol fel Mr. Johns fod yn dra gofalus pa beth a ysgrifena, Yn awr, y cwestiwn yw, A yw yr Annibyn- wyr wedi bod mor ddiduedd yn y materion hyn pan y maent yn y mwyafnf ar unrhyw Fwrdd ? Cymerwn y Cynghor Trefol er enghraifft. Yn yr etholiad dd wy flynedcl yn ol yr oedd ar y Cynghor Trefol dau Fed- yddiwr a dau Annibynwr. Y swyddog cyntaf gawsant ethol oedd caretaker i'r neuadd dref- 01 newydd. Pwy gafodd yr apwyntiad Wm. Jenkins, aelod o Gapel Als. Yr apwyntiad nesaf oedd clerk, a phwy etholwyd ond Mr. Spowart, yr hwn sydd wrandawr os nid aelod o Eglwys y Park-. Dau Annibynwr. Heblaw hyn, a fedr Mr. Johns wadu nad oedd ganddo fys uniongyrchcl yn y ddau ap- wyntiad ] A fedr efe wadu na fu efe ei hun yn canvassio dros y ddau am yr unig reswm eu bod yn Annibvnwyr. Os gwna bydd yn bleser genyf roddi chapter and verse am y gosodiad hwn. Mwy na hyny, gallaf brofi fod yr Annibynwyr ar y Cynghor wedi rhed- eg Mr. Peregrine Thomas am ei fod yn Anni- bynwr, ond eu bod wedi ei roddi i fyny yn flafr Mr. Spowart ar y fynyd olaf. Nid wyf am foment am ddweyd nad yw Mri. Spowart a Jenkins yn ddynion rhagorol, ac yn cyf- lawni eu gwaith i foddlonrwydd, ond fy am- can yw profi nad yw Mr. Johns mor anen- wado! ag y carai efe i ni gredu ei fod. Gweithio dros AnniLynia o dan gochl y mae Mr. Johns wedi gwneuthur ar hyd y blyn- yddau. Bu Mr. Johns yn gryf dros Mr. David i gael ei ethol am ei fod yn ddirwest- wr selog, ond pan ddeallodd fod Mr. Pere- grine Thomas ar y maes ymgollodd ei ddir- westiaeth yn llwyr yn ei enwadaeth, a meth- odd a gweled drwy y spectol enwadol na daioni na chymhwysder yn neb ond Annibyn- wyr.

. TABERNACL, LLWYNHENDY.

CLYWEDION O'R TUMBLE. 1

Y DWYLAW CROESION.

HERMON, PENBRE. 'I

TUMBLE. j - i

JAMES RYAN, MAESCANNER ROW,…

— ANERCHIAD BARDD

I CWYD DY BEN.I

IY SEREN.I

I CAN HIRAETHLON i

Advertising

FELINFOEL.