Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. I

CYHOEDDIAD Y BHYFEL. I

[No title]

IRHOSYN EURAIDD Y PAB.

-BYR NODION.I

I NODION 0 PENRHIWGOCH.I

BETHANIA, LLANON.

CLYWEDION 0 GWM LLETYFEDACH.

"GAIR BACH" O'R TUMBLE.

LLYFR MORMON.

News
Cite
Share

LLYFR MORMON. [PARHAD.] Y mae yr adnodau nesaf o'r benod hon (Esaiah 29) yn portreadu rhai o'r dinystriadau, yn nghyd a'r tywyllwch ysbrydol, oedd i ddyfod ar y cenedloedd hyn, y rhai fuont offeryiiau i ddwyn y dinystriadau rhagddywededig ar Ariel. Gan ddechreu gyda'r seithfed adnod, efe a ddywed Yna y bydd tyrfa yr holl genedloedd, y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oil a ymladdantyn ei herbyn hi a'i amddiffynfa, ac a warchaeant ami. le, bydd megys newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta a phan ddeffro, gwag fydd ei enaid: ac megys y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed a phan ddeffto, wele ef yn ddiffygiol, a'i enaid yn chwemych diod felly y bydd tyrfa yr' holl genedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Sion. Arefwch, a rhyfeddweh; bloeddiwch a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn. Oanys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trwmgwsg, ac a gauodd eich llygaid chwi: eich proifwydi, a'ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe," Y cenedloedd a ryfelent yn erbyn Ariel yw y rhai y sonir am danynt yn y fan hon. ac yr oeddynt i fod fel breuddwyd gweledigaeth nos," neLI "megys newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta, a phan ddeffro," y mae eto yn newynu, ac wedi ei fawr siomi, ond nid hyn yn unig, eithr y maent hefyd wedi meddwi a phenfeddwi, a hyny nid trwy effaith gwin na diod gadarn. Mae eu llygaid hefyd wedi eu cau, fel nad ydynt yn deall nac yn gallu amgyffred y gwirionedd, canys eu proffwydi, eu penoethiaid, a'u gweledyddion ydynt wedi eu gorchuddio, ac y maent hwythau wedi eu gadael i ymbalfalu mewn tywyllwch (pwy bynag fyddo yn gywrain i wybod ar beth y maent wedi meddwi, darllened Dadguddiad xvii. 1-6). Os edrychir i hanes yr eglwys Gristionogol o'r ganrif gyntaf, neu yr ail, i waered drwy y can- lynol, ceir gweled fod y geiriau hyn wedi eu cyflawni yn llytllyrenol, ac erbyn heddyw, y mae yr oesoedd hyn yn cael eu hadnabod fel yr oesoedd tywyll." Nid oedd y Beibl yn cael ei ddarllerx i'r bob!, na'i gynwysiad yn cael ef ddysgu iddynt, ac yn wir, yn hytrach na hyny, dywedwyd wrthynt nad oedd y Beibl iddynt hwy i'w ddarllen, am nas gallent eu ddeall, ac mai eu dyledswydd hwy oedd dilyn cynghor ac athrawiaeth eu harweinyddion ysbrydol, ac felly y gvvaethent, gan gredu eu bod yn gwneuthur yn iawn, ac fod eu hatkrawon yn eu dysgu a digymysg a phur Air Duw. Breu- ddwydiasant eu bod yn bwyta," ond pan ddygwyd y Beibl o'i gell, ac y cyfreithiwyd ef, a'i roddi yn nwylaw y bobl, canfyddasant eu bod wedi bod yn cael eu porthi ag usion yn hytrach nag a bara y bywyd," ac a gwin ptiteitidra "nag a "dwfr y bywyd." Meddwyd hwynt, do, meddwasant a phenfeddwasant," ac eto yr oeddynt yn newynog ac yn sychedig, Oanys nid oedd ganddynt na phroffwyd, na phenaeth, na gweledydd anfonedig gan Dduw y rhai a ddysgent iddynt bur Air Duw, fel y porthid ac y disychedid hwynt. Cauwyd eu llygaid hefyd, fel na welent. Yr un ffuuud i'r bobl ac i'r offeiria,i(I "-yr oil yn yr un sefyllfa o dywyllwch traddodiadol caddugawl. Rhydd Archesgob Oaergaint ddesgrifiad o'r sefyllfa erchyll hon yn yr ail Homili." Dywedir fod lleygion ac offeiriaid, dysgedig ac annysgedig, gwyr, gwragedd, a phlant o bob oedran, rhyw, a gradd, o'r holl fyd Cristionogol, a gladdwyd unwaith yn yr eilun-addoliaeth mwyaf Siaidd (y peth mwyaf ofnadwy i'w feddwl,) am hyny am ysbaid wyth can mlynedd neu ragor." O! mor llythyrenol y cyllawnwyd geiriau Esaiah Pa broffvvydoliaeth allai gael cyflawniad mwy llythyrenol ? Ond O mor resynol y meddwl fod yr holl fyd wedi ei orchuddio a'r fath dywyllwch ysbrydol! Beth, ynte ? Ai dJ'ma'r sefyllfa y mae y byd i fod ynddi mwy ? O na y mae gwell addewidion ar ein rhan am hyny. Trown ein golygon oddiar y sefylla erchyll hon codwn, awn, ac edrychwn beth ddywed yr Arglwydd. Yn yr adnodau canlynol, y mae y geiriau dyddanol a ganlyn i'w gweled. Gan ddechreu yn yr lleg, efe a ddywed:— A gweledigaeth pob un o honynt sydd i chwi fel geiriau Uyfr seliedig, yr hwn, cs rhodd- ant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg:' yna y dywed, 'Ni allaf, canys seliwyd ef.' Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr. Er fod y geiriau, A gweledigaeth pob un o honynt sydd i chwi, cl geiriau llyfr seliedig," yn dangos dallineb y bobl mewn perthynas i'r Ysgrythyrau a gynwysant ddadguddiadau yr Arglwydd i'r proifwydi cyntefig, y mae y rhan a ddywed am y Ilyfr seliedig, yr hwn, os rhoddant ef," &c., wedi ei chyflawni yn llythyrenol pan ddaeth Llyfr Mormon allan. Wedi iddo fod yn gudd- iedig yn y ddaear am ganrifoedd, cymerwyd ef otldiyno gan wr ieuanc annysgedig, yr hwn, trwy allu Duw, a'i cyfieithodd hefyd, adysgrif- enodd rai o'r geiriau, y rhai, gyda'i gyfieithad ef o honynt, a gyflwynwyd gan un Martin Harris i'r gwr enwog, Proffeswr Anthony, o Gaerefrog Newydd. (I'w barhau). (Fw barhau ) EZROM.

ICLYWEDION 0 CROSSHANDS.