Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. I

CYHOEDDIAD Y BHYFEL. I

[No title]

IRHOSYN EURAIDD Y PAB.

News
Cite
Share

I RHOSYN EURAIDD Y PAB. Y mae yr adran efengylaidd a Phrotestan- aidd o'r Eglwys Wladol wedi cael ei chyffroi yn arnthr wedi cael ar ddeall fod y Pab o Rufain yn bwriadu cyflwyno i'r Frenines y Rhosyn Euraidd ar ddathliad y dri-ugeinfed flwyddyn o'i theyrnasiad. Y mae yr ofn sydd wedi meddianu yr adran a nodwyd yn codi o'r ffaith fod melldith a dinystr bob amser yn dilyn derbyniad y Rhosyn Euraidd o law y Pab. Anfynych y mae yn cael ei roddi, ond bob tro y rhoddwyd ef i deulu breninol, yr oedd dinystr yn ei ddilyn. Rhoddwyd ef i Frenin Naples, a chyn pen blwyddyn yr oedd y brenin wedi colli ei goron. Cafodd Ymerawdwr Austria ef, a chollodd Venice yr un fl wyddyn. Derbyniodd y Frenines Isabella o'r Yspaen ef, ac mewn llai na blwyddyn yr oedd wedi cael ei halltudio. Cyflwynwyd ef i'r Ymerodres Eugenie, a dilynwyd ei dderbyniad gan gwymp Napoleon III. Saethwyd Maximilian, Ymerawd wr Mexico, yn fuan ar ol i'w wraig dderbyn y Rhosyn gan y Pab. Y mae y rhestr uchod yn awgrymiadol iawn, ac yn ddigon i effeithio yn drwm ar feddyliau ofer- goelus, a'u llanw gan ofn a braw Ond, a gadael allan bob perygl allanol, y mae yn sicr na ddylai cenedl Brotestanaidd dalu gwarogaeth i'r Babaeth. Y mae derbyn y rhodd o law y Pab yn berygl a chabledd. Y mae derbyn unrhyw beth o law y Pab yn warthrudd ac yn beryglus, ac edrych arno o safbwynt ein Protestaniaeth.

-BYR NODION.I

I NODION 0 PENRHIWGOCH.I

BETHANIA, LLANON.

CLYWEDION 0 GWM LLETYFEDACH.

"GAIR BACH" O'R TUMBLE.

LLYFR MORMON.

ICLYWEDION 0 CROSSHANDS.