Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

YSGREPAN GWILYM AIORLAIS.),

PENBEE. I

Y DWYLAW CROESION. I

-PONTYENTS. -1

I-PUMP -HEOL. !

ILLITH Y LODGER.

PONTYBEREM. I

News
Cite
Share

PONTYBEREM. I Prydnawn Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod neillduol gan Fedyddwyr y lie, yn Ysgoldy'r Bwrdd, i'r dyben o gorffoli yr ychydig Fedyddwyr sydd yn Mhontyberem yn eglwys. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion T. Idwal Jones, Bethel, Llanelli, a B. Humphreys, Adulam, Felinfoel, a gweinyddwyd y cymundeb gan y Parch. 0. John, Horeb, Pump Heol. Pregethwyd gan y Parch. Idwal Jones ar nerth, godidogrwydd, prydferthwch, a pherarogl Sion yn effeithiol a derbyniol iawn, a chan y Parch. B. Humphreys yu ddidderbynwyneb ac yn ddiargyhoedd ar y geiriau, "Yr hyn a dderbyniais a draddodais i chwi, fod i Grist farw, a'i gladdu, acadgyfodi, yn olyr Ysgrythyrau." Wedi hyny, aeth y Parch. B. Humphreys at y gorchwyl o gorffoli yr eglwys fechaa i lesu Grist. Deunaw yw nifer yr aolodau yn bresenol, ond er mai bychan yw mewn nifer, ac efallai mewn doniau, os ydym wedi ein cysylltu a Phen mawr yr eglwys, ac yn gallghen o'r wir winwydden, ac wedi ein goruch-adeiladu ar sail yr apostolion, a'r Graig dra- gywyddol, bydd y "fechan cyn hir yn fil, a'r wael yn gywyddol, '? Ar ol gorphen y corffoli, gweinyddwyd y Swper Sanctaidd gan y Parch. O. John. Ar ol y cymundeb, canwyd a therfvnwvd trwy weddi. Credwn fod y cyfarfod wrth fodd y nefoedd. I. J.

ARADR -HYNOD.-I

♦————— ODLAU SERCH.I

I-BLODEUYNI

Advertising