Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

Y GALLUOEDD YN DYFOD I'W SYNWYRAU.

[No title]

TABERNACL, PENBRE. I

HYNODION 0 GWM LLETY-FEDACH.

,EIN DYLED I'R YSGOL SUL.…

CWMMAWR, CROSSHANDS. I .,…

! PEDAIR HEOL.

News
Cite
Share

PEDAIR HEOL. Anfynych y gwelir hanes y lie uchod ar dudalenau y MERCURY. Pa beth sydd i gyfrif am hyn, tybed *? Ai dystawrydd y trigolion, yntau diffyg ysgrifenyddion yw'r achos ? 0 dan yr amgylchiadau, efallai y maddeuwch i mi am gymeryd yr eofndra o osod ychydig frawddegau at eu gilydd parthed yr hyn sydd yn dygwydd, ac yn (Idyddorol i ni, fel preswyl- wyr y He hwn. Efallai nad ydyw yn wybodua i'r byd i gyd fod genym gor ardderchog yn y Pedair Heol. Y mae yr arweinydd yn ddyn talentog a deallus fel cerddor, ac y mae y cor, felly, yn dwyn nodweddion yr arweinydd. Bassers first class; tenors sydd yn canu fel eos- iaid, sopranos Pattiaidd, ond am y contraltos, nid ydynt, meddir, yn un peth na'r lIall, a hyny am nad ydynt yn cydleisio, ond credaf y gwellir y diffyg hwn yn fuan, o herwydd mae gwyr y dis- cords yn myned i gael y cold shoulder, ac ereill yn cael eu gwahodel yn eu lleoedd. Wedihyny, bydd y cor yn ddiguro, a bendith y mamau fyddo yn dawnsio ar eu penau. Cawsant wobr ychydig amser yn ol, ac y mae llu yn eu haros yn y dyfodol. Dymunwn i'r cor bob llwydd. Y DDAU GYFAILL. Yr wyf yn cael ar ddeall fod rhai o brif ddynion y lie yn bwriadu helaethu y capel. Y maeyjplan wedi ei dynu er's rhyw ddau ns, ond y maent yn methu cydweled a'u gilydd yn nghylch y sliding-door. Yr oeddent, un noson, yn dod allan yn gywir fel pe baent wedi gorphen y gwaith, ond y mae wedi myned yn dra distaw eto, am fod rhai o'r arweinwyr yn bwriadu ymadael a'r lie. Dywedodd hen gadno wrthyf, y dydd o'r biaen, ei fod, un noson, yn myned i chwilio am fwyd, a thra yn myned heibio i dalcen rhyw dy neillduol, ei fod wedi cael ofn dirfawr, am fod yno fab a merch ieuanc yn pwyso yn erbyn y talcen, er ei bod yn rbyw dri o'r gloch y boreu. Credai y cadno eu bod yn lied gysurus, drwy fod ynddynt ddigon o dan cariad o'r tufewn, a than naturiol o'r tuallan. Er hyny, cilio wnaeth yr hen frawd. GOHEBYDD.

LLYFR MORMON.

ICROSSHANDS.