Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

Y GALLUOEDD YN DYFOD I'W SYNWYRAU.

[No title]

TABERNACL, PENBRE. I

HYNODION 0 GWM LLETY-FEDACH.

News
Cite
Share

HYNODION 0 GWM LLETY- FEDACH. Mr. GOL.Yehydig ofod, os gwelwch fod yn dda, i draethu fy lien am y rhai sydd yn pro- fresn bod yn aelodau o'r Gymdeithas Ddirwestol sydd yn agos i'r Owm. Os dirwestwr, dirwestwr, ac nid proffesu bod felly, ond yn mynychu synagogau Satan i yfed ginger brandy a port loine. Y mae y rhai hyn fel had wedi syrthio ar y creigleoedd. Yr wyf wedi gweled rhai o'r proff'eswyr dirwestol yn fwy meddw na'r rhai a elwir yn sots yn y gymydogaeth hon. Os yw y Gymdeithas yn gwybod hyn, ac heb eu diarddel, buasai yn well iddi gyfnewid ei henw o fod yn Good l'emplars i Good Tiplers. Dywedaf hyn am fod un o honynt yn aehwyn yn eich rhifyn diweddaf fod rhai yn eu bychanu ac yn dweyd pob drygair am danynt am eu bod wedi gweled ei bod yn well iddynt bleidio dirwest. Os mai dyma beth yw dirwest, sef cael bws bob nos Sadwrn ar ginger brandy, a port wine, byddai yn well, ac yn iachach i ni o lawer wrth yr hen enw, sef Cymedrolwr. Credaf, syr, mai nid y medd- won a'r cymedrolwyr sydd yn eu difenwi, ond eu boliau ea hunain. Os yw proffesu bod yn ddirwestwyr yn llesol, yn sicr y mae bod felly yn rhwym o fod yn llesol. Felly, bydded i'r rhai sydd yn proffesu dirwest i fyw i fyny i'r hyn a brofiesant, yna ni fedr neb bwyntio bys ar eu holau, Yr wyf yn bwriadu myned am dro drwy y Tumble y Sabbath nesaf, ar fyffordd i Bethania. Prin wyf o gredu fod yr oil a ddywedir am y gwragedd yn wir, ond caf weled droswyf fy hun y Sul nesaf. Hyd hyny bydd- weh wych. SOLOMON.

,EIN DYLED I'R YSGOL SUL.…

CWMMAWR, CROSSHANDS. I .,…

! PEDAIR HEOL.

LLYFR MORMON.

ICROSSHANDS.