Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

Y GALLUOEDD YN DYFOD I'W SYNWYRAU.

[No title]

TABERNACL, PENBRE. I

News
Cite
Share

TABERNACL, PENBRE. I Nos Fercher, Ebrill 7fed, cynaliwyd cyfarfod cystadleuol perthynol i obeithlu y capel uchod, o dan lywyddiaeth y Parch. W. E. Watkins, ein gweinidog llafurus. Beirniadwyd y canu gan Mr. D. Owen, arweinydd y cor, a'r darllen a'r adroddiadau gan Mr. D. Williams, stationmaster. Cafwyd cwrdd ardderchog, ar y cyfan. Yr oedd y cystadleuaethau fel y canlyn :—Am ganu yr Emyn 1,060, D. John Davies a George Jenkins, a gwisgwyd hwy a medals gan Mrs. Watkins, y rhai a roddwyd' gan fechgyn ieuainc y gobeithlu; canu yr Emyn 1,055, pump yn cystadlu, R. H. Hughes (goreu) a (Sophia Aubrey (ail-oreu), a rhoddwyd medal i bob un adroddiad rhagorol gan Tom Thomas; adrodd Salm 1, Luther Howells (goreu) a May Ditvies (ail-oreu), a rhoddwyd medal i'r ddau fach adroddiad campus, John Henry Davies; anerch- iad eynhes, Mr. W. D. Williams, y beirniad; adrodd Emyn 346, pump yn cystadlu, Lizzie Ann Howells (goreu), Sophia Aubrey (ail- oreu), a John John (trydydd-oreu), ond cafodd yr oil medals. Yna adroddodd Mary Rees ddernyn rhagorol. Canwyd yn ystod y cyfarfod amryw weithiau gan gor y gobeithlu, o dan arweiniad Mr. Harry Phillips. Cafwyd ewrdd ardderchog drwyddo oil, cynulleidfa ragorol, a chasgliad mwy na'n dysgwyliad at drysorfa y gobeithlu. Bwriedir rhoi treat i'r plant ddechreu yr haf gyda'r tren i rywle atdyniadol. Gwnaeth pawb eu gwaith yn rhagorol, a theimlad pawb oedd, Melus, moes eto." Cynelir cyfarfodydd blynyddol yr eglwys nos Iau, Gwener y Groglith, a Sul y Pasc, pryd y pregethir gan y Parchedigion J. Williams (Aberteifi), A. Williams (Nebo, Ystrad), a R. Owen (Pwll).

HYNODION 0 GWM LLETY-FEDACH.

,EIN DYLED I'R YSGOL SUL.…

CWMMAWR, CROSSHANDS. I .,…

! PEDAIR HEOL.

LLYFR MORMON.

ICROSSHANDS.