Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

I PRYDAIN A'R IWERDDON.

[No title]

ALLTWEN.I

EINDYLEDI'RYSGOLSUL.I EIN…

News
Cite
Share

EIN DYLED I'R YSGOL SUL. EIN DYLED I'R YSGOL SUL. (Cystadleuol yn Eisteddfod Salem, Llangen- nech, Mawrth 6ed, 1897). Yn mhlith y Ilu o sefydliadau gogoneddus a fFurfiwyd gan ddynion mewn gwahanol oesau, nid ydym ni mor ddyledus i'r un o honynt ag i'r Y sgol Sul. Saif hon ar ei phen ei hun yn ei rhadlonrwydd ac arucheledd ei hamcanion. Gyda phriodoldeb y gellir dweyd ei bod yn codi'r t'lawd o'r llwch, a'r angenus o'r domen." Cofleidia bawb yn ddiwahaniaeth i dderbyn o'i breintiau. Y mee ei hamcanion a digon o werth I i'r cyfoethocaf gymeryd gafael ynddynt. Geill y tylawd a'r anuyagedig gael ei ddysgu yn y penaf peth, sef doethineb, a'r dysgedig awch- lymu ei feddwl yn egwyddorion uwchaf y byd. Fel y dywed un dysgawdwr- Thoughts delivered are the more possessed Teaching, we learn; and giving, we retain The births of intellect. Dysga hon i ni ddarllen C- air Duw yn hen iaith ein tadau, ac y mae pob Cymro ieithgarol a'i fynwes yn gynes yn barod i'w chofleidio am hyn. Ond dylem ei chofleidio yn fwy wrth gyferbynu yr oes hon a'r oesau a fu. Bu ein gw lad megys o dan len o dywyllwch-anwybodaeth am iachawdwriaeth enaid anfarwol yn gordui v tir l-cenadau gau yn gwasgar eu mympwyon ac ofergoeliaeth disail i glustiau'r werin, a 1 hwythau, fel corsenau ir, yn gorfod plygu gan bob awel o ddysgeidiaeth." Ond yn awr, drwy yr Ysgol Snl, y mae y cymyl dudew wedi eu hymlid i ffwrdd o flaen haul mawr yr Ysg-ol Sul —ysbrydion ofergoeliaeth wedi eu gyru o'r wlad, a phawb yn cael mautais i ddrachtio o'r ftyiiou eu hunain. Y mae y gwaith a wnawd ac a wneir yn bresenol ganddi yn dyrchafu ein hysbrydoedd, fel milwyr mewn byddin orchfygol, i fyned yn mlaen a'r gwaith nes dwyn pawb ag sydd yn rhodio mewn tywyllwch i weled goleuni mawr fel ninau. Y mae yr holl freintiau yr ydym m wedi eu mwynhau oddi- wrth hon yn dweyd yn uchel am eiu dyled fawr tuag ati, a ni a sylwn yn gyntaf ar ein dyled fel bodau cymdeithasol. Y mae yn hen wirionedd, bellach, nad oes neb yn byw iddo ei hun. Yr ydym oil yn ym- ddibynu y naill ar y Hall am ein cynhaliaeth, ac y mae y gwirionedd hwn yn fwy Ilaehar, felly, yn gyiiicleltl-iasol-y mae cymeriad pob un yn argrai: 11 yn helaeth ar y cylch y byddo yn troi ynddo, ac y mae cymeriad y cylch hwuw yn gadael ei argraff ar ei gymeriad yntau. Dysga yr Ysgol Sul ddynoliaeth yn egwydderion pur yr efengyl, ac wrth hyny pura gymdeithas, cylyma hi yn dynach yn nghadwyn arianaidd birawdgarwch. ac felly yn ei nerthu a'i chadarn- hau, gan arllwys lefain tangnefedd i weithio drwy'r cyfan. Gofynwyd i'w Mawrhydi y Frenines Victoria beth oedd dirgelwch mawredd Prydain, ac atebodd bithau, Y Beibl," hyny yw, darlleuiad helaeth o hono, a pha, fwyaf a ddarllenir ar y Beibl, mwyaf i gyd fydd llwyddiant y deyrnas. Y nitereyfleuscierati dirwystr a rydd i'r perwyl hyny yn amlwg. Y mae mwy o ddarllen y Beibl trwyddo heddyw nag erioed, a chynor- thwya i ddeall yr egwyddorion hyny sydd yn anhebgorol i lwyddiant cvmdeithas. Yr ydym yn ddyledus i hon am y cymhorth a rydd i ni arfer ein meddwl i efrydu. Rhoddodd y Creawdwr doeth feddwl i ddyn i'w ddefnyddio, ond y mae miloedd wedi bod, ac y mae Uawer eto, nad ydynt wedi ei arfer erioed. Y maent fel pe "yn cysgu pan ar ddihun," yn feddvliol. Nid ydynt yn gwneud fawr defnydd o'r gallu hwnw sydd yn eu codi uwchlaw yr anifeiliaid, ond y mae r Ysgol bul yn dihuno'r cyfryw o'u cysgadrwydd, ac egyr eu deall; mewn gair, gwna hwy yn ddYlllon teihng-yn addurn i gymdeithas. Blodau cymdeithas yw ffyddlon- iaid yr Ysgol Sul; ond er cymaint yw ein dyled i hon fel bod au cymdeithasol, y mae yn fwy fyth fel boilau Gristionogol. (I'w barhau).

iTEIMSAEAN.

I-LLYFR MORMON.