Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

I PRYDAIN A'R IWERDDON.

[No title]

News
Cite
Share

Y mae y Pwerau, yn en honiadaeth, am roddi ar feddwl y teyrnasoedd mai cariad at heddwch, rhyddid, a dynoliaeth, sydd yn eu hanog i ymyraeth rhwng Groeg a'r Cretiaidfl Ond er eu hymgais i osod gwedd ddeniadol ar eu gweithredoedd, y mae llygaid y werin a'r miloedd yn gallu gweled trwy yr honiadaeth a'r rhagrith. Paham y teimla y galluoedd mor ddwys -.r ran y Tyrciaid yn Crete, tra nad ydynt yn teimlo dim dros yr Armeniaid 1 Y mae yn wir i'r Llywodraethau, trwy y Llysgenoadon, anfon at y Sultan yn nghylch yr erchylldra ofnadwy yn Tokat, ac iddo yntau ddweyd ei bod yn ofidus ganddo am y peth, ac yr oedd hyny yn derfyn ar a cyfan. Tr, y mae y Sultan yn cael cigyddio y Cristionogion yn Armenia, ni anfonir ond llythyr ato, ac os bydd iddo ragrithio galar a'i ddagrau fel dagrau crocodile, y mae yn cael lloriydd er fod hyny yn cael profi yn fradwriaeth drwy y blynyddoedd. Ond mor fuan ag y mae y Cristionogion yn Crete yn codi i ofyn am gyfiawnder a rhyddid, y mae Lloegr Gristionogol yn anfon ei llongau rhyfel yno i'w tan-beleni. Y mae llongau rhyfel Lloegr a llongau y Twrc oclir yn ochr yn ymosod ar y Cristion- ogion Cretaidd, a milwyr Prydain ac eiddo y Sultan gyda'u gilydd yn gwrthwynebu i'r ynyswyr eu rhyddid. Y mae Arglwydd Salisbury wedi cilio rhag iddo gael eiboeni gan ddeisebau a dirprwy- aethau oddiwrth y bobl. Ond er cilio oddi- wrth y bobl, ni fedr gilio oddiwrtho ei hun a'i gydwybod, os oedd ganddo gydwybod ar ddihun. Y mae y peryglyn y Dwyrain yn, fawr, mor fawr fel nas gall y cwmwl fyned yn IIawer mwy bygythiol heb iddo ymdori. Ni fyddai yn un syndod genym pe byddai Groeg wedi cyhoeddi rhyfel cyn y bydd y llinellau hyn yn ymddangos, os na ddaw rhyw ymwared rhyfeddol ar unwaitli o rywle. Y mae sefyllfa pethau yn y Transvaal yn ddigon tywyll ac annymunol hefyd. Y mae yr ymchwiliad i achos Dr. Jameson yn sicr o gynyrchu firwythau gwenwynig a niweidiol 1 iawn i'r wlad hon. Yr unig reswm a ddygir yn mlaen yn ffafr y cynllun oedd gan Cecil Rhodes, ac a geis- iwyd ei gario allan gan Dr. Jameson yw' Buddianau Prydeinig." Ond er cael y buddianau" yr oedd yn ofynol aberthu cyf- iawnder, rhyddid, gwirionedd, a dynoliaeth. Ond nid yw trafodiaeth y Transvaal ond ar- ddangosiad o ysbryd a chalon John Bull. Pob peth er mwyn buddianau."

ALLTWEN.I

EINDYLEDI'RYSGOLSUL.I EIN…

iTEIMSAEAN.

I-LLYFR MORMON.