Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
JOHN LUXTON. Principal Bill Poster, jgTATION T) OAD, L LANELLY. ZtiSSEE OF 4S POSTING STATIONS IN TOWN AND COUNTRY. TERMS MODERATE. PERSONAL ATTENTION GIVEN TO ALL WORK. THE SOUTH WALES BILL POSTING CO., LIMITED. Permanent Hoardings 14 all the leading Thoroughfares of Town and Country IBEJUS MODERATE, PUBLICITY GUARANTEED. Special Attention given to Tradesmen's Announcements SECRIETARY ™ DAVID, Auctioneer, 14, Vaughan Street, Llanelly. AARON STONE, TJCTIONEERP v ALUER, &C., GREENFIELDS, LLANELLY. J. DA VIES, Of LLWYDCOED, LLANNON, Registrar of Births and Deaths FOR THE SUB-DISTRICT OF LLANNON, And of MARRIAGES for the DISTRICT OF LLANELLY. %Plcp :— COWELL HOUSE (OPPOSITE POST OFFICE), LLANELLY. SPECIAL SURGICAL APPLIANCES. IGUNIAL HERNIA TRUSSES. FEMORAL HERNIA TRUSSES SCROTAL HERNIA TRUSSES. UMBILICAL HERNIA TRUSSES. MOC MAIN TRUSSES. ELASTIC STOCKINGS, KNEE CAPS, NOMINAL BELTS. CHEST EXPANDERS INGRAMS, PATENT ENEMAS, &c. 8 ti) BY J. WADE, Chemist, Llanelly. Delicious, Nutritive, & Digestible. k FOOD j For INFANTS, | INVALIDS, and The ACED. F »j The following letter is published by A ? special permission of the Russian ? \j CoM?— V I # I ? lateral Ss?il?  ? ?GOTLAND, <\ ? ?f& Sep?em&er, 1896. j\ J ?1? J ? Please forward to Balmoral X ? Castle one dozen 2/6 Tins of i ? Benger's Food for H.I.M. The i ? Empress of Russia, addressed 7 ? to Miss Coster. We have ? received the box ordered from 4 ? Pete1"hoff. ¡ | Yours truly,  ?   jj ? /??1  | Messrs. F. B. Benger & Co., Ltd., |j ? \t M„. essrs. F. B. Benger & Co., Ltd.,  B"ger's Food Is soM in Tins at 1/6, 2/6, '(? ? ?"?5/-by Chemists, &0., everywhere. r V\ 0 1897. DIAMOND JUBILEE YEAR SHOW AT London House, Llanelly. RANDELL & SONS Beg respectfully to announce their return from the London Markets with a well assorted Stock of FRENCH & ENGLISH NOVELTIES FOR THE SPRING SEASON, INCLUDING Mantles, Jackets, Capes, Blouses, Skirts, Corsets, etc. W LADIES SHIRTS in Lawn, Fancy Cambric and Silk. French and English Millinery. FLOWERS, FEATHERS, ORNAMENTS, OSPREYS, JET SPRAYS, etc., etc. Ribbons for Millinery in all Newest Shades. SAILORS IN GREAT VARIETY. t DRESS DEPARTMENT. « All Wool Covert Cycling Cloths in Dark and Light Greys and Fawns. A Good Assortment of Fancy Black Materials, Plain and Figured Lustres, etc. Dressmaking & Millinery Departments UNDER THE MANAGEMENT OF THOROUGHLY EXPERIENCED HANDS. IIIIUII- -A.- Show Thursday Next j AND THROUGHOUT THE SEASON. THE FAVOUR OF AN EARLY VISIT IS SOLICITED. NOTE.—Throughout the year 1897 (Diamond Jubilee Year) we are determined to mark all Goods at such prices that must prove beneficial to all who purchase. COMPARE PRICES. RANDELL & SONS, London House, i & 3, Thomas Street, LLANELLY.
I PRYDAIN A'R IWERDDON.
I PRYDAIN A'R IWERDDON. GORMESWR yw John Bull, ond ni fyn efe addef hyny. Y mae y gwledydd wedi ei adnabod-wedi colli eu hymddiried ynddo. Honir fod y deyrnas hon y deyrnas oraf o dan haul, one pa le y mae y profion o'r rhyddid a'r chwareu-teg 1 Dyledswydd Llywodraeth yw amddiffyn y deiliaid, ond nid felly y mae yn Mhrydain heddyw. Tra y dylai y deiliaid gael yr ystyriaeth flaenaf, nid ydynt yn cael ystyriaeth o gwbl, ond mor bell ag y mae hyny yn ateb y dyben o osod mwy o feichiau arnynt. Y mae Llywodraeth Prydain heddyw yn deddfu ar gyfer y dosbarthiadau, ac nid ar gyfer y miliynau. Y mae yr arglwyddi tirol a'r clerigwyr yn cael yn haelionus, ond y mae yr oil a gant yn dyfod o logellau y werin-yn cael ei dynu oddiyno o'u hanfodd, neu o'u hanwybod. Yr oedd yr hen feddygon yn ceisio gwella pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobloedd trwy ollwng eu gwaed—tori gv-ythien, a gadael i'r gwaed redeg hyd nes y byddai perygl i'w adael yn hwy. Yr oedd gollwng y gwaed yn gwneud y cleifion yn rhy wan i deimlo eu poenau, beth bynag. Y mae y meddygon gwleidyddol yn y deyrnas hon I wedi bod yn honi gwella y werin trwy ollwng eu gwaed. Onid dyna wnaed pan basiwyd Mesur Trethiad y Tiroedd? Onid yr un peth wnaethpwyd drachefn yn mhasiad y Mesur Addysg, neu, yn hytrach, y Mesur Gwrth-addysgol ? A dyna sydd wedi cael ei wneud trwy y canrifoedd. Y mae yn llawn bryd i'r meddygon gwleidyddol gael ar ddeall nad yw gollwng gwaed y werin i gael ei ganiatau yn hwy. Y mae yr Iwerddon, o bosibl, wedi goddef mwy nag unrhyw ran arall o'r deyrnas yn yr ystyr o'i gwanychu a'i llethu. Tua haner can mlynedd yn ol, yr oedd poblogaeth yr Iwerddon dros naw miliwn, tra nad yw y boblogaeth heddyw ond tua haner hyny. Rhwng 1841 a 1891, y mae y boblogaeth yn yr Iwerddon wedi lleihau tua 42 y cant, a'r boblogaeth weithfaol wedi lleihau 61 y cant. Dyma ganlyniadau yr ormes a'r trais y mae Prydain yn eu gosod ar y trigolion. Nid yw tywallt gwaed y werin yn foddion i'w gwella. Y mae Seneddwyr Toriaidd Prydain yn ym- wybodol mai angen yr Iwerddon yw Ymreolaeth, ond ni fyddai hyny yn cydfyned a'u buddiant hwy, fel dosbarth, ac am hyny y maent yn penderfynu lladd yr Home Rule trwy ddifa yr Home Rulers. Y mae cynydd mawr y boblogaeth yn Nghymru a Lloegr yn enfawr, a thrwy hyny y mae y beichiau yn dod yn ysgafnach; ond am yr Iwerddon, y mae baieh y trethoedd yn mwyhau fel ag y mae y boblogaeth yn lleihau. Nid oes dim yn fwy o waradwydd i'r deyrnas hon na'r ffaith mai y dosbarthiadau tylotaf sydd yn goifod cario y beichiau trymaf, ac y mae hyn yn cael ei brofi yn amlwg yn hanes yr Iwerddon. Rhwng 1851 a 1885, ychwanegwyd y swm o < £ 2;500,000 at drethoedd y wlad orthrymus hono, er fod y boblogaeth wedi lleihau yn aruthr. Er y flwyddvn 1850, y mae y trethoedd wedi lleihau yn Mhrydain tua thri swllt y pen, ond yn yr un cyfnod y mae wedi cynyddu lis. lie. y pen yn yr Iwerddon. Y mae y gwastraff sydd o gylch yr orsedd, a lluosogrwydd y segur-swyddwyr, yn sicr o fod yn foddion i agor llygaid y werin, a pha bryd bynag yr agorir eu llygaid, y maent yn sicr o osod pethau mewn gwell trefn. Y werin yw y gallu llywodraethol yn y deyrnas, ac ni ddaw pethau i'w lie, hyd nes y caiff pob cenedl lywodraethu ei hachos ei hun. Yr ydym yn foddion i'r Gwyddel gael Ymreol- aeth, ond y mae yn rhaid i'r Cymro ei gael hefyd. ♦ —————
[No title]
Y mae y Pwerau, yn en honiadaeth, am roddi ar feddwl y teyrnasoedd mai cariad at heddwch, rhyddid, a dynoliaeth, sydd yn eu hanog i ymyraeth rhwng Groeg a'r Cretiaidfl Ond er eu hymgais i osod gwedd ddeniadol ar eu gweithredoedd, y mae llygaid y werin a'r miloedd yn gallu gweled trwy yr honiadaeth a'r rhagrith. Paham y teimla y galluoedd mor ddwys -.r ran y Tyrciaid yn Crete, tra nad ydynt yn teimlo dim dros yr Armeniaid 1 Y mae yn wir i'r Llywodraethau, trwy y Llysgenoadon, anfon at y Sultan yn nghylch yr erchylldra ofnadwy yn Tokat, ac iddo yntau ddweyd ei bod yn ofidus ganddo am y peth, ac yr oedd hyny yn derfyn ar a cyfan. Tr, y mae y Sultan yn cael cigyddio y Cristionogion yn Armenia, ni anfonir ond llythyr ato, ac os bydd iddo ragrithio galar a'i ddagrau fel dagrau crocodile, y mae yn cael lloriydd er fod hyny yn cael profi yn fradwriaeth drwy y blynyddoedd. Ond mor fuan ag y mae y Cristionogion yn Crete yn codi i ofyn am gyfiawnder a rhyddid, y mae Lloegr Gristionogol yn anfon ei llongau rhyfel yno i'w tan-beleni. Y mae llongau rhyfel Lloegr a llongau y Twrc oclir yn ochr yn ymosod ar y Cristion- ogion Cretaidd, a milwyr Prydain ac eiddo y Sultan gyda'u gilydd yn gwrthwynebu i'r ynyswyr eu rhyddid. Y mae Arglwydd Salisbury wedi cilio rhag iddo gael eiboeni gan ddeisebau a dirprwy- aethau oddiwrth y bobl. Ond er cilio oddi- wrth y bobl, ni fedr gilio oddiwrtho ei hun a'i gydwybod, os oedd ganddo gydwybod ar ddihun. Y mae y peryglyn y Dwyrain yn, fawr, mor fawr fel nas gall y cwmwl fyned yn IIawer mwy bygythiol heb iddo ymdori. Ni fyddai yn un syndod genym pe byddai Groeg wedi cyhoeddi rhyfel cyn y bydd y llinellau hyn yn ymddangos, os na ddaw rhyw ymwared rhyfeddol ar unwaitli o rywle. Y mae sefyllfa pethau yn y Transvaal yn ddigon tywyll ac annymunol hefyd. Y mae yr ymchwiliad i achos Dr. Jameson yn sicr o gynyrchu firwythau gwenwynig a niweidiol 1 iawn i'r wlad hon. Yr unig reswm a ddygir yn mlaen yn ffafr y cynllun oedd gan Cecil Rhodes, ac a geis- iwyd ei gario allan gan Dr. Jameson yw' Buddianau Prydeinig." Ond er cael y buddianau" yr oedd yn ofynol aberthu cyf- iawnder, rhyddid, gwirionedd, a dynoliaeth. Ond nid yw trafodiaeth y Transvaal ond ar- ddangosiad o ysbryd a chalon John Bull. Pob peth er mwyn buddianau."
ALLTWEN.I
ALLTWEN. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Ysgoldy Tanygraig, y lie uchod, dydd Sadwrn, Mawrth 2Tain, o dan nawdd canghen o Ysgol Sabbathol yr Alltwen. Llywyddwyd y cyfarfod yn ddeheuig gan Mr. William E. Morgan, Alltwen. Cafwyd cyfarfod lluosog, ac ni welwyd y fath ddystawrwydd mewn cyfarfod o'r fath yn y gorpbenol-lieddweh yn teyrnasu rh wng y naill gystadleuwr a'r llall. Gobeitliiaf fod hyn yn ddechreuad diwygiad yn y maes cystadleuol. Clorianwyd y cerddorion gan Mr. John Main waring, A.C., Ystalyfera, a'r amrywiaeth gan Mr. David Jenkins (Urbanus), Alltwen, a'r prize bags gan Mrs. M. Bale, Miss E. Nathaniel, a Miss L. Davies, Alltwen. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Miss Thomas, Dyffryn Road. Agorwyd y cyfarfod drwy ch wareu ar y crwth gan y beirniad, ac yna awd yn mlaen a rhaglen y cyfarfod. Ni wnaf ond enwi y cystadleuwyr buddugol :—Unawd alto, <c Yr Hogyn Drwg," goreu, Mr. Howell Lewis, Craig Llanguicke unawd soprano, Bwthyn yr Amddifad, rhanu rhwng Miss Mary Davies a Miss Mary Jones, Alltwen; unawd tenor, Bradwriaeth y Don," Mr. John C. Jones, Alltwen; unawd bass, Y Cymro Dewr," Mr. Jenkin Thomas, Alltwen; unawd ar y crwth, "Im Volkston," Mr. John Jones, Alltwen; triawd, Y Bugeiliaid Mwyn," Mr. David C. Jones a'i gyfeillion; y prize bag goreu, Mrs. Margaret Jones, Ynysymond; ail oreu, Miss Maggie Thomas, Dyffryn Road; adroddiad, "Y Bont ar Dan," rhanu rhwng Mr. Einon Bowen, Rhos, a Mr. Tom Davies, Ty Llwyd, Neath Abbey; llythyr caru, wyth yn cynyg, Mr. Thomas Rees, Ystalyfera; y pedwar penill goreu ar "Dal dy dafod," naw yn cynyg, Mr. John Walters, Pontardawe; am y dadansoddiad goreu o englyn, Yr lawn," un anturiodd i'r maes, Mr. David J. Lewis, Rhos, a dyfarnwyd ef yn deilwng o'r wobr; cystadleuaeth i barti.o fechgyn, Awn i ben y Wyddfa fawr," gwobr, 20s., dau barti yn cynyg, un o'r Allt, a'r llall o Lwyn y Bedw, yr olaf yn fuddugol, o dan arweiniad Mr. David Owen, Birchgrove; cystadleuaeth i barti o leisiau cymysg, Ffo rhag y cwpan, gwobr, 25s., a 5s. i arweinydd y cor buddugol, un yn dod i'r maes, parti o'r Allt, o dan arweiniad Mr. David C. Jones, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Yna ymadawodd pawb am eu cartrefi, wedi mwyahau y prydnawn yn fawr. "Meltis, moes eto, ar raddfa eangach," yw llais y bobl. Gobeithiaf y eymer dynion blaenllaw yr ardal hyn i ystyriaeth. UN OEDD YNO.
EINDYLEDI'RYSGOLSUL.I EIN…
EIN DYLED I'R YSGOL SUL. EIN DYLED I'R YSGOL SUL. (Cystadleuol yn Eisteddfod Salem, Llangen- nech, Mawrth 6ed, 1897). Yn mhlith y Ilu o sefydliadau gogoneddus a fFurfiwyd gan ddynion mewn gwahanol oesau, nid ydym ni mor ddyledus i'r un o honynt ag i'r Y sgol Sul. Saif hon ar ei phen ei hun yn ei rhadlonrwydd ac arucheledd ei hamcanion. Gyda phriodoldeb y gellir dweyd ei bod yn codi'r t'lawd o'r llwch, a'r angenus o'r domen." Cofleidia bawb yn ddiwahaniaeth i dderbyn o'i breintiau. Y mee ei hamcanion a digon o werth I i'r cyfoethocaf gymeryd gafael ynddynt. Geill y tylawd a'r anuyagedig gael ei ddysgu yn y penaf peth, sef doethineb, a'r dysgedig awch- lymu ei feddwl yn egwyddorion uwchaf y byd. Fel y dywed un dysgawdwr- Thoughts delivered are the more possessed Teaching, we learn; and giving, we retain The births of intellect. Dysga hon i ni ddarllen C- air Duw yn hen iaith ein tadau, ac y mae pob Cymro ieithgarol a'i fynwes yn gynes yn barod i'w chofleidio am hyn. Ond dylem ei chofleidio yn fwy wrth gyferbynu yr oes hon a'r oesau a fu. Bu ein gw lad megys o dan len o dywyllwch-anwybodaeth am iachawdwriaeth enaid anfarwol yn gordui v tir l-cenadau gau yn gwasgar eu mympwyon ac ofergoeliaeth disail i glustiau'r werin, a 1 hwythau, fel corsenau ir, yn gorfod plygu gan bob awel o ddysgeidiaeth." Ond yn awr, drwy yr Ysgol Snl, y mae y cymyl dudew wedi eu hymlid i ffwrdd o flaen haul mawr yr Ysg-ol Sul —ysbrydion ofergoeliaeth wedi eu gyru o'r wlad, a phawb yn cael mautais i ddrachtio o'r ftyiiou eu hunain. Y mae y gwaith a wnawd ac a wneir yn bresenol ganddi yn dyrchafu ein hysbrydoedd, fel milwyr mewn byddin orchfygol, i fyned yn mlaen a'r gwaith nes dwyn pawb ag sydd yn rhodio mewn tywyllwch i weled goleuni mawr fel ninau. Y mae yr holl freintiau yr ydym m wedi eu mwynhau oddi- wrth hon yn dweyd yn uchel am eiu dyled fawr tuag ati, a ni a sylwn yn gyntaf ar ein dyled fel bodau cymdeithasol. Y mae yn hen wirionedd, bellach, nad oes neb yn byw iddo ei hun. Yr ydym oil yn ym- ddibynu y naill ar y Hall am ein cynhaliaeth, ac y mae y gwirionedd hwn yn fwy Ilaehar, felly, yn gyiiicleltl-iasol-y mae cymeriad pob un yn argrai: 11 yn helaeth ar y cylch y byddo yn troi ynddo, ac y mae cymeriad y cylch hwuw yn gadael ei argraff ar ei gymeriad yntau. Dysga yr Ysgol Sul ddynoliaeth yn egwydderion pur yr efengyl, ac wrth hyny pura gymdeithas, cylyma hi yn dynach yn nghadwyn arianaidd birawdgarwch. ac felly yn ei nerthu a'i chadarn- hau, gan arllwys lefain tangnefedd i weithio drwy'r cyfan. Gofynwyd i'w Mawrhydi y Frenines Victoria beth oedd dirgelwch mawredd Prydain, ac atebodd bithau, Y Beibl," hyny yw, darlleuiad helaeth o hono, a pha, fwyaf a ddarllenir ar y Beibl, mwyaf i gyd fydd llwyddiant y deyrnas. Y nitereyfleuscierati dirwystr a rydd i'r perwyl hyny yn amlwg. Y mae mwy o ddarllen y Beibl trwyddo heddyw nag erioed, a chynor- thwya i ddeall yr egwyddorion hyny sydd yn anhebgorol i lwyddiant cvmdeithas. Yr ydym yn ddyledus i hon am y cymhorth a rydd i ni arfer ein meddwl i efrydu. Rhoddodd y Creawdwr doeth feddwl i ddyn i'w ddefnyddio, ond y mae miloedd wedi bod, ac y mae Uawer eto, nad ydynt wedi ei arfer erioed. Y maent fel pe "yn cysgu pan ar ddihun," yn feddvliol. Nid ydynt yn gwneud fawr defnydd o'r gallu hwnw sydd yn eu codi uwchlaw yr anifeiliaid, ond y mae r Ysgol bul yn dihuno'r cyfryw o'u cysgadrwydd, ac egyr eu deall; mewn gair, gwna hwy yn ddYlllon teihng-yn addurn i gymdeithas. Blodau cymdeithas yw ffyddlon- iaid yr Ysgol Sul; ond er cymaint yw ein dyled i hon fel bod au cymdeithasol, y mae yn fwy fyth fel boilau Gristionogol. (I'w barhau).
iTEIMSAEAN.
TEIMSAEAN. SY.R,-Caniatewch i mi ofod fechan o'ch newyddiadur clodwiw i gofnodi y gorchwyl pradd am farwolaeth Mrs. Eleanor Eynon, priod anwyl Mr. Arthur Eynon, Waunhir, yr hon a hunodd yn yr angau dydd Iau, Mawrth lleg, yn 52 mlwydd oed. Yr oedd i'w gweled yn gwanychu er's misoedd, ond ni chyfyngwyd hi i'w gwely hyd at ychydig ddiwrnodau cyn ei marwolaeth, pryd y dyoddef- :1 "t 1 0(1(1 ooenau c-alect yn dawel ac amyneddgar. Ganwyd iddi ddeuddeg o blant, pa rai sydd oil yn fyw. Nid yn ami y gwelir teulu mor Iluosog wedi en magu i fyny nad yw angeu wedi bod a'i saeth farwol yn eu mysg, ond dyma y tro cyntaf iddo ddod i'r teulu hwn gan gymeryd y fam dyner i ffwrdd. Dymunodd lawer am gael maarw o flaen neb o'r teulu, a chafodd ei dymun- rad. Ei hoff lyfr oedd y Beibl. Darllenailawer- arno, a phan y byddai yr hen babell o glai yn cael ei lethu gan wendid, ac yn ei hatal i fyn'd i foddion gras, cymerai yr hen Gyfrol Sauctaidd i'w ddarllen am oriau lawer. Yr oedd yn flin ganddi, bob amser. nad allasai fod yn fwy mynyoh yn y cyfarfodydd, a llawer nos Sad- wrn y dywedodd, Yr wyf yn myn'd i'r cwrdd yfory os byw fyddaf," ond erbyn y boreu, y eyfansoddiad yn rhy wan i deithio'r ffordd. Ymdrechai bob amser i osod ei serch ar y pethau sydd uchod. Iesu, y pur a'r santaidd, oedd prif nodwedd ei bywyd. Bydd ei lie yn wag yn y teulu i'w weled a'i deimlo yn fawr iawn, yn enwedig gan y rhai ieoengaf. Myuych y galwai y plant o'i hamgylch wrth y tan yn y nos, ac yn y fan hyny y ceisiai eu dysgu a'u hyfforddi, gan ddymuno am iddynt dyfu i fyny yn blant ufudd, sobr, a dnwiol. Yr oedd wedi bod yn arddel orefydd Mab Duw am yn agos i bum mlynedd ar hugain, ac yr oedd yn y dydd- iau olaf y bu ar y ddaear fel pe buasai wedi addfedu am y byd tragwyddol. Yr oedd yn teimlo fel Paul, Chwant ymddatod a bod gyda. h.• 1. n j 1 'JUU. Mmiya xiawoL lnwii gweii yw, ac arciayua Mawrth cyn ei marwolaeth, dywedodd nad oedd am wella, ond am i'r Arglwydd wneud fel y byddai dda yn ei olwg. Yr oedd yn teimlo ei bod wedi cael digon o fyw yn yr anialwch, ac yn teimlo rhyw hiraeth am feddianu'r Ganaan nefol yr ochr draw, a'i llygaid megys yn gweled yr hyfryd iachawdwriaeth, ac a hwyliodd, ni a. hyderwn, i mewn i'r porthladd dymunol Dydd Linn canlynol, ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd i dalu iddi y gymwynas olaf, trwy heb- rwng ei gweddillionmarwol i fynwent Rheoboth, lie yr oedd yn aelod. Yr oedd wedi dewis testyn i bregethu yn ei hangladd, ac emyn i ganu cyn cychvvyn oddiwrth y ty. Gwasanaeth- wyd yu y ty ac yn y capel gan y Parch. J. Ll. Hughes, ei gweinidog. Cysured yr Arglwydd ei phriod sydd ar ol, a'r plant, a'r perthynasau i gyd yn eu hiraeth trwm, a dyged hwy oil i ddilyn esiampl yr hon a gymerwyd oddiw-rthynt. l CYFAILL.
I-LLYFR MORMON.
I LLYFR MORMON. I [PHAD.J A myfi, Nephi, a welaig fod y cenedloedd a aethant allan o gaethiwed wedi eu gwaredu trwy allu Duw allan o ddwylaw yr holl genedl- oedd ereill. A bu i mi, Nephi, weled eu bod yn llwyddo yn y tir, ac mi a welais lyfr, ac yr oedd yn cael ei gario allan yn eu plith hwynt. A'r angel a ddywedodd wrthyf, A wyddost ti arwyddocad y llyfr ? A mi a ddywedais wrtho, Na wn i.' Ac efe a ddywedodd,' Wele, y mae yn dyfod allan o enau Iuddew:' a myfi, Nephi, a'i gwelais ef; ac efe a ddywedodd wrthyf, Y llyfr a welaist yw ooflyfr yr Iuddew, yr hwn sydd yn cynwys cyfamodau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe a thy Israel; ac y mae hefyd ya cynwys llawer o broffwydoliaethau y proffwydi sanctaidd; ac y mae yn goflyfr tebyg i'r cerfiadau sydd ar y llafnau pres, ond nad oes dim cymaint; er hyny, y mae yn cynwys cyfamodau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe a thy Israel; am hyny, y maent o werth mawr i'r cenedloedd.' Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, I Yr wyt ti wedi gweled y llyfr yn dyfod allan o enau Iuddew; a phan y daeth allan o enau Iuddew, yr oedd yn cynwys symlrwydd efengyl yr yr oedd yn eyiinrys 2 Arglwydd, am yr hwn y dygwyd tystiolaeth gan y deuddeg apostol; a hwy a ddygasant dyst- iolaeth yn unol a'r gwirionedd ag sydd yn Oen Duw am hyny, y mae y pethau hyn yn myned allan oddiwrth yr Iuddewon mewn purdeb, yn unol a'r gwirionedd ag sydd yn Nuw; ac ar 01 iddynt fyned allan trwy ddwylaw deuddeg apostol yr Oen, oddiwrth yr Iuddewon, at y cenedloedd, A bu i mi weled gweddill had fy mrodyr, a hefyd lyfr Oen Duw, yr hwn a ddaeth allan o enau yr Iuddew, ac iddo ddod oddiwrth y cenedloedd, at weddill had fy mrodyr, ac ar ol iddo ddod allan atynt hwy, mi a welais lyfrau ereill, y rhai a ddaethant allan. trwy allu yr Oen, oddiwrth y cenedloedd, atynt hwy, hyd at argyhoeddiad y cenedloedd, a- gweddill had fy mrodyr, a hefyd yr luddewon, y rhai oeddynt wedi eu gwasgaru ar hyd holl wyneb y ddaear, fod coflyfrau y proffwydi a deuddeg apostol yr Oen yn wir. A'r angel a lefarodd wrthyf, gan dd3'we<'ydr Y coflyfrau diweddaf hyn a welaist yn mhlith y cenedloedd a gant gadarnhau gwirionedd y rhai cyntaf, y rhai ydynt eiddo deuddeg apostol yr Oen, a gwneud yn hysbys y pethau goleu a gwerthfawr a gymerwyd ymaith oddi- wrfchynt: a chant wneud yn hysbys i bob llwyth, iaith, a phobl mai Oen Duw yw Mab y Tad tragywyddol, ac laehawdwr y byd a bod yn rhaid i bawb ddod ato ef, neu ni ellir eu hachub a rhaid iddynt ddyfod yn ol y geiriau a gadarnheir trwy enau yr Oen: a geiriau yr Oen a wneir yn hysbys yn] nghoflyfrau dy had di, yn ogystal P-g yn nghoflyfrau deuddeg apostol yr Oen am hyny, hwy a sefydlir yn un canys un Duw sydd, ac un Bugail dros yr holl ddaear; ac yr mae yr amser yn dyfod pan yr amlyga efe ei hun i bob cenedl, i'r luddewon, a hefyd i'r cenedloedd; ac ar ol iddo arolygu ei hun i'r Iuddewon, a hefyd i'r cenedloedd, yna, efe a amlyga ei hun i'r cenedloedd, a hefyd i'r Iuddewon, a'r olaf a fyddant flaenaf, a'r blaenaf. a fyddant olaf. H A bu i'r angel lefaru wrthyf, gan ddywedyd. Edrveha A mi a edrychais, ac a welais ddyn, ac yr oedd wedi yruwisgo mewn gwisg wen a'r angel addy wedodd wrthvf,4 Wele un o ddeuddeg apostol yr Oen Wele, efe a gaiff weled ac ysgrifenu y gweddill o'r pethau hyn; ie, a llawer o bethau ag ydynt wedi bod ac efe hefyd a gaiff ysgrifenu yn nghylch diwedd y byd am hyny, y mae y pethau a ysgrifena yn gyiiavv 11 a chywir ac wele, y maent yn ysgrif- enedig yn y llyfr a welaist yw dyfod allan o enau yr Iuddew; ac ynyr amser y deuent allan o enau yr Iuddew, neu yn yr amser y daeth v llyfr allan o enauyr Iuddew, yr oedd y pethau V? ? 0-dCt y pethall ysgrifenedig yn eglura phur, ac yn dra gwerth- fawr, ac yn rhwydd i amgytfrediad pob dyn. Ac wele. y pethau a ysgrifena yr apostol hwn a eiddo y Oen ydynt lawer o betkau ag yr ychvyt An cvvaIpH • PI -main v ,"1:- j VV CViVllil (1¡ gäl \lJ. weled: ond y pethau a gai di weled ar ol hyn ni chei ysgrifenu canys y mae yr Arglwydd Dduw wedi arfaetlm apostol yr Oen i'w hysgrifenu hwynt. A hefyd i ereill ag ydynt A i liely(i I er  ill ag ydynt wedi bod y mae efe wedi ckmgos pob peth, ac y maent hwy wedi eu hysgrifenu ac y maent wedi eu selio i fyny i ddyfod allan yn eu purdeb, yn ol y gwirionedd yr hwn sydd yn yr Oen, yn amser cyfaddas yr Arglwydd, i dy Israel.' A myfi, Nephi, a glywais, ac yr wyf yn dwyn tystiolaeth, mai euw apostol yr Oen yw loan, yn ol gair yr angel" (Llyfr Mormon, tud 21-25). Y mae y dyfynfcdau uchod yn profi fod y Beibl yn cynwys Gair DGW, ac focl yr athraw- | iaethau a'r proffwydoliaethau sydd ynddo yn bur ac yn dra gwerthfawr pan y daethant allan oddiwrth yr Iuddewon at y cenedloedd, ac fed