Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y CYNGHORAU PLWYFOL AI! THREFOL.

News
Cite
Share

Y CYNGHORAU PLWYFOL A I! THREFOL. MR. GOL.Caniatewch i mi gael gofod feclian olch newyddiadur clodwiw. Nid wyf yn gyfarwydd ag ysgrifenu llawer; ond y mae hon yn adeg bwysig, felly caniatewch i mi roddi fy marn ar bethau sydd o bwys i'r wlad, ie, i'r dref hefyd. Y mae adeg etholiad y cynghorwyr plwyfol wedi myned heibio, a darfa cynghorwyr plwyf Llanelli fod yn ddoeth i arbed etholiad, tra ar un olwg nad ydyw yn foddhaol gan bawb; ae, yn wir, wrth edrych dros yroll o'r maenorau, cawn eu bod yn ddangoseg o anghysondeb. Yn Maenor Hengoed, os mai Cynghor Plwyfol ydyw, pa reswm fod yr oil yn byw yn mhen- tref Felinfoel fel dyrnaid, neu gwch gwenyn ? Ond, U fJt! taw son, pentref yglowyr ydyw— maent yn lluosog, am hyny, y nhw pia hi, ac wedi gwneud pen arni am flwyddyn. Y mae y frwydr yn agoshau gyda gwyr y dref. Yr wyf yn cael ar ddeall y bydd yn Hed boeth hefyd. Yn awr, anwyl gydgenedl, byddwch yn ddoeth gwnewch edrych ar y list yn y papyrau yr wythnos o'r blaen er gweled pwy fu fwyaf ffyddlon i fynychu yr oil o gyfarfodydd y Bwrdd a gwneweh ddwyn i gof pwy oedd bob amser ar y Bwrdd, yn gweled o'i flaen, ac yn bleidiol at gynilo, ac arbed codi y trethi; ie, pwy oedd a'i lais yn erbyn gormesu y tylawd, a'i lais bob am- ser yn erbyn eiddo Bwrdeisdref dan draed anfoesoldeb-neb llai na'r Cymro, Mr. John Griffiths, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn is- gadeirydd y Bwrdd. Byddai yn warth ar y Rhanbarth mae yn gynrychioli ei daflu allan. Yn un peth, am mai Cymro ydyw, wedi ei fagu yn Llanelli-am iddo fod yn ffyddlon- ach na neb arall, ac am ei fod yn ddigon o ddyn i ddweyd, "Mind your own busÙ¡ess," pan fyddo angen. Y mae nhw yn dweyd mai Saeson sydd am lanw y swyddi braidd o'r bron, a rhyw Sais mawr a'i lygad am y gadair Ond gan fod Mr. Griffiths mor agos i'r gadair, byddai yn sarhad ar synwyr cyff- redin ei ddisodlu, gan ei fod wedi llanw yr is-gadair mor ardderchog. Terfynaf, gan hyderu y gwnewch osod Mr. Griffiths ar dop y poll.-Yr eiddoch, &c., TRETHDALWR.

CAPEL ANNIBYNOL LLOYD ! '-STREET,LLANELLI.…

TUMBLE. I

YR ETHOLIADAU LLEOL. i

CROSSHANDS A'R CYLCHOEDD

CADWEN ODLEDIG -

.....j "FY NHADCU:"

♦ I ANERCHIADi

I CYFLWYNEDIG

Advertising