Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Y LLYWODRAETH A'R WLAD.

[No title]

ARDAL GLANYMOR.

!LLYFR MORMON. --

News
Cite
Share

LLYFR MORMON. L P ARHAD. J Yn awr, dyfynwn ychydig mewn perthynas i Air Duw :— "Ac mi a glywais lais oddiwrth y Tad yn dywedyd, I le, geiriau fy anwylyd ydynt gywir a ffyddlawn. Y neb a barhao hyd y diwedd a fydd cadwedig.' Ac yn awr, fy anwyl frodyr, mi a wn, wrth hyn, os na pharha dyn hyd y diwedd i ddilyn esiampl Mab y Duw byw, ni ellir ei achub; am hyny, gwnewch y pethau a ddywedais wrthych i mi eu gweled, y byddai i'ch Arglwydd a'ch Gwaredwr eu gwneuthur, oblegyd i'r dyben hwn y dangoswyd hwynt i mi, fel yr adnabyddech chwi y porth y dylech fyned trwyddo. Canys y porth trwy ba un y mae i chwi fyned yw edifeirweh a bedydd trwy ddwfr; ac yna y mae yn dyfod faddeu- ant o'ch pechodau trwy dan, a thrwy yr Ysbryd Glan. Ac yna yr ydych yn y ffordd gul a chyfyng sydd yn awr i fywyd tra- gywyddol: yr ydych wedi gwneuthur yn ol gorchymynion y Tad a'r Mab; ac yr ydych wedi derbyn yr Ysbryd Glan, yr hwn sydd yn tystiolaethu am y Tad a'r Mab, hyd at gyflawni yr addewidion a wnaeth, os elech i mewn trwy y ffordd, y derbyniasech. 11 Ac yn awr, fy anwyl frodyr, ar ol i chwi gael o hyd i'r llwybr cul a chyfyng hwn, mi a ofynwn i chwi os yw pob peth wedi ei wneuthur ? Wele, meddaf i chwi, nac ydyw, canys nid ydych wedi dyfod mor bell a hyn, oddieitbr trwy air Crist, gyda ffydd ddiysgog ynddo, gan ymorphwys yn hollol ar haeddiant yr hwn sydd yn alluog i achub am hyny, rhaid i chwi ymwthio yn mlaen yn ddiysgog yn Nghrist, gan feddu perffaith ddysgleirdeb gobaith, a chariad tuag at Dduw a phob dyn. Am hyny, os ymwthiwch yn mlaen, gan wledda ar air Crist, a pharhau hyd y diwedd, wele, fel hyn y dyvred y Tad, chwi a gewch fywyd tragywyddol. 11 Ac yn awr, wele, fy anwyl frodyr, hoit yw y ffordd, ac nid oes ffordd nac enw arall wedi ei roddi dan y nef trwy y rhai y gall dyn gael ei achub yn nheyrnas Dduw. Ac yn awr, wele, dyma athrawiaeth Crist, ac unig wir athrawiaeth y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan, y rhai ydynt un Duw, heb ddiwedd. Amen" (Llyfr Mormon, tud. 95, 96). Nid wyf yn meddwl fod achos esbonio ac ymhelaethu ar y dyfyniad uchod er dangos ei gydgordiad a'r Testament Newydd neu'r Hen; y mae yn hunan-eglur i bob meddwl diduedd a diragfarn ag sydd yn myfyrio ei Feibl, Etc yn gwrthbrofi gosodiad loan i'r man eithaf. Ond dichon fod loan" yn meddwl, wrth y Gair," y Beibl, ac fod Llyfr Mormon yn bychanu y Beibl; os felly, nid oes achos ond dyfynu o'r llyfr i wrthbrofi hyn eto. EZROM. (I'w barhau). J1ZROM.

ICLYWEDION O'R TUMBLE. i__

ETHOLIAD Y CYNGHOR TREFOL.