Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Y LLYWODRAETH A'R WLAD.

News
Cite
Share

Y LLYWODRAETH A'R WLAD. Nid yw y Llywodraeth bresenol yn cadw ei hun yn ffafr barn y wlad, ond y mae i'r gwrthwyneb, wedi creu teimladau gwrth- wynebol, ac achosi i'r wlad ffurfio barn hynod o anffafriol am dani. Y mae ymddygiad gormesol Mr. Balfour yn gwneud y fath gamddefnydd eithafol o'r cloadur yn nglyn a phasiad y Mesur Addysg, neu yn hytrach o lawer y Mesur Gwrthaddysgol, wedi cyfFroi dygasedd pob dyn sydd yn yn caru ch wareu- teg yn ei erbyn. Y mae Mr. Balfour, nid yn unig yn ormeswr eithafol ar un llaw, ond ar y Haw arall y mae yn methu cadw trefn ar ei dymerau. Y mae yr ysbryd afreolus a'r nwydau tanllyd sydd ynddo yn ei lwyr orchfygu, ac y mae y dyn na fedr lyw- odraethu ei hun ynprofiei anghymwvsder i lywodraethu ereill, ac yn dangos, er ei dalent a'i fedr, ei fod yn annheilwng o'i honiadaeth fel athronydd. Y mae Arglwydd Salisbury, hefyd, yn yr argyfwng presenol, wedi profi yn ddigon eglur ei anghymwysder fel Prif- weinidog, a diau nad oes neb yn fwy ym- wybodol o'i anghymwysder nag Arglwydd Salisbury ei hun. Y mae Syr William Harcourt wedi rhoddi prawf clirach o'i addas- rwydd i arweinyddiaeth y blaid Ryddfrydol, yn ddiweddar, nag a roddodd yn ystod ei holl fywyd blaenorol. Y mae ei araeth gondemn- iol yn ddinystriol i'r cydgord ac i weithred- iadau llipa camwrus ac anynol y Llywodraeth. Y mae Syr William Harcourt wedi tram- gwyddo arweinydd Ty y Cyffredin yn aruthr, a phan oedd ei araeth yn agoryd Hygaid y deillion gwleidyddol, ac yn cyfFroi y wlad i ddigofaint yn erbyn y Llywodraeth, y mae Arglwydd Kimberley yn tywallt olew i'r tan nes yr aeth y wlad yn un fflam yn erbyn y rhan y mae Prydain yn gymeryd yn y "cydgord" sydd rhwng y galluoedd. Er i Arglwydd Salisbury gyffroi a galw Arglwydd Kimberley i gyfrif am godi y lleni a dynoethu y twyll ni wellhaodd hyny ddim ar y mater, ond ei waethygu. Amcan blaenaf y Llywodraeth yw cario allan dyheuiadau y bobl, a phasio mesurau i ddyrchafu a dedwyddoli y werin, ond nid yw y Lilywodraeth brer.enol yn ceisio gwneud y naill na'r Hall, ac y mae y wlad wedi dod i weled a theimlo hyny. Y mae y wlad yn ddyledus i Syr William Harcourt ac Arglwydd Kimberley am fynegu yn eofn yr hyn oedd y tu hwnt i'r lIen." Y mae y gwasanaeth a wnaethant yn gyfryw nasgellir gwybod ei werth, ac y maent wedi profi yn derfynol mai gan y Rhyddfrydwyr y mae yr arweinydd ion, ond yn y Senedd bresenol gan j Toriaid y mae y gynffon. Gweithredoedd I cynffon yw yr oil y mae y Llywodraeth wedi 'I eu gwneuc,ac y mae y deyrnas a'r byd yn gor- fod teimlo oddiwrth hyny.

[No title]

ARDAL GLANYMOR.

!LLYFR MORMON. --

ICLYWEDION O'R TUMBLE. i__

ETHOLIAD Y CYNGHOR TREFOL.