Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

-HANES : RHYDDERCH PRYDDERCH,…

I -Y GWRTHRYFEL YN INDIA.…

News
Cite
Share

I Y GWRTHRYFEL YN INDIA. i Nid oes (medd y Bombay Times) ddim yn debyg yn holl haoes ein cysylltiadau ag India yn ystod y can mlynedd diweddaf, a'r hyn y mae y llythyr. god presenol yn ei gario i Loegr. 0 Calcutta i Lahore y mae milwyr llywodraeth Bengal naill ai mewn gwrthryfel agored neu yn ymylu ar hyny, ac yn Meerut Dellir a Ferozepore y ma?nt yn fradychus wedi taflu ymaith bob iau, ac wedi cyflawni y trychineb mwyaf ofnadwy ar yr Ewrobeaid sydd wedi disgyn i'w dwylaw. Yn ddigon hynod, fe dorodd y peth allan yn Meerut, yr hon a warchodir gan gorph cryf o Ewrobeaid yn gystal a milwyr brodorol. Dydd Gwener y j 15fed o Fai, derbyniodd y llywodraeth yr hysb' vs- rwydd cynliyTfus fod Delhi, prif ddinas India, yn nwylaw y gwrthryfelwyr: eu bod wedi cyhoeddi brenin yu mberson mab yr Ymherawdwr Mogul- aidd diweddar, a bod lie i ofni fod pob Ewropead ag oedd yn y lie wedi eu llofrllddio, Fe gofia ein darllenwyr fod ein hysbysydd di- weddaf yn hysbysu fod uifer o'r trydydd meirch- filwyr yn Meerut, ar ol cael eugorchymyn i lenwi a thanio gyda cartridges o barotoad y llywodraeth o dan s'crbad penodol, nad oedd dim yn eu cyfansoddiad agaofnai y dynion, na ddarfu i ond 90 o honynt ufnddhan. Gorchymynwyd yr 85 a om eddasant flurfio yn yllinellau, a gwisiwyd Ilys mil- wrol i'wprofi,a chondemniwyd i garchariadyn gwa- Jhania^thu o busap i ddeng mlynedd. Dydd Sadwrn y 9fed, casglwyd milwyr yn nghyd, a gosodwyd y carcharorioa mewn Uyfetheiriau ar y tir yingasglu yn mhresenoldeb y lleill, ac aethpwyd a hwynt i'r carchar. Ni ddychymygwyd am foment y buasid yn ceisio eu cael o ddwylaw yr awduriodau, ond tua hwyr y Sabbath y lOfed, cododd y gatrawd yn sydvn, ac ymiiisvvd a hwynt (trwy ragbarotoad diamheuol) bobt y dref ar farchnadfa, a'r ddwy gatrawd irodorol yr lleg a'r, 20fed. Rbyddasant eu cydfilwyr yn y carchar ar unwaitb, a mil dau cant o garcharorion eraill ac ynft y dechreuasant ar eu gwaith ofnadwy. Y mae Meerut yh un o'r satleoedd mwyaf yn India, a chyn y galiwyd casglu rhan Ewrobeaidd o'r milwyr, yr oedd haner y safle ar dau, ac yr oedd gwragedd a phlant ein milwyr dychrynedig yn nwylaw y dynion creulon a digofus, a lladdasant hwy o dan amgylchiadau o farbaieiddara digyffel- yb. Pob swyddog ag a redodd i alw y dynion yn I ol at eu dyledswydd, fe'i saethwyd i lawr, a cbyn y gallasai yr Ewrobeaid gyrhaedd eu llinellau, yr oedd y gwaith gwaedlyd wedi ei gyflawni. Ar ail daniad y ROfed gitrawd, Ifodd y gwrthryfelwyr, ond rhywfodd poidiwyd a'u dilyn, ac i hyn N-i- ydym yn priodoli ail gyflawniad yn Delhi y trychineb ofnadwy a gyflawnwvd yn Meerut. Cyrhaeddodd y gwrthryfelwyr y ddiii,is hono yn gyn boren Llun, ao ymunodd y tair catrawd brodorfel sydd J yno & hwynt yn ddi?ed, y 48ain, y 54ain, a'r 74?in, a'r magnel lu, y rbai pa fodd bynag, a wna&thant hyny yn bur anfoddog. Yn ystod dydd Liun, y mae yn ymddangos fod boll Ewrobeaid y lie wedi eu lladd, oddigerth ychydig foneddwyr a bonedd- igesau, y rhai a ddiangasant am eu bywydau i safleoedd cymydogaethol, ond gan fod y lie yn parhau yn nwylaw y gwrthryfelwyr, yr ydym yn hyderu fod eraill, am dvnged y rhai nidtydym wedi clywed, wedi diane. Syrthiodd yr jstOrfa bylor i'w dwylaw. ond dywedirfod gwron ieuane o'renw Isrhaglaw G. D. Willoughby wedi gosod tan yn yr l-ystorfeydd pylor eraill, ac wedi treagu ei hunan trwy hyny. If Gosododd y gwrthryfelwyr frenin i fyny yn ddioed yn mherson mab y diweddar Ymherawdwr Mogulaidd, ond nid oes genym newyddion sicr am yr hyn a gymerodd le ar of hyny. Dadgorfforwya saith o gwmniau catrawd 34ain yn Barrackpore ar y 7fed, tra yr oedd y dynion yn dal i ymddwyn yn y modd mwyaf gwrthryfelgar a thrahaus. Fel hyn mewn ystod byr o un mis, y mae catrodau yn cynwys i gyd tuag 8,000 o filwyr naill ai wedi gwrthryfela neu wedi eu dadgorffori. Mor fuan ag y clywodd y Maharajah Sindia ieuanc o Gwalior am y codiad yn Delhi, brysiodd gyda phob dangosiad o gyfeillgarwch i osod yr holl o'i filwyr at wasanaeth llywydd cytfredinol Agra. Dywedir yn mhellach fod brenin Delhi wedi danfon dirprwyaeth at feirchfilwyr gwrthry- felgar Rajah Ihind, yn gofyn am ei wasanaeth yn erbyn y Saeson. Yr oedd y Rajah ar y tir ymgasglu gyda'i filwyr ar y pryd, a gorchymynodd i'w filwyr ladd bob un o'r cenhadon yn ddioed. Daeth Rajah Bhurtpoor yn mlaen hefyd ar unwaitb gyda chynygiad o'i gatrawd, ac nid oes un rheswm i amhcu y perffaith ffyddlondeb a pha un y mae y dynion hyn wedi gweithredu. Y mae Rajah Pulteeallah wedi cymeryd meddiant o, ac wedi danfon at ddirprwywr ei gymydogaeth luaws o lythyrau gwrthryfelgar, y rhai a gafwyd ar eu taith yn ei diriogaethau, ac mor bell ag y gallwn ni yn awr weled, nid oedd cymydogaethau y gorllewin ogledd yn dymuno nac yn barod i'r llwyddiant a gafodd y gwrthryfelwyr yn Delhi, ond edrychant ar eu gweithredoedd gwaedlyd gyda ffieiddiad: y gwir yw, y fyddin Bengalaidd yw canolbwynt y gwrthryfel. Mae y Llywodraeth Brydeinig wedi anfon nifer fawr o filwyr tua'r lie, yr hyn mae'n debyg, a fydd yn ddigon i roddi i lawr y cynhwrf, o Jeiaf ar y pryd presenol. Bu dychweliad cyfleus ein gallu oedd E wropeaidd o'r Gulf yn fanteisiol i ni ddanfon heb lanio y 64ain a'r 74ain catrawd i Calcutta ychydig o ddyddiau yn ol, a rhwng pob peth, y mae gallu o 4,000 wedi ei ddanfon i ochr Bengal yn ystod y deng niwrnod diweddaf. Y mae newyddion o Ferozepore wedi eu deibyn yn hysbysu fod y catrodau 57ain eto wedi gwrth ryfela. Safai y 10fed gyda'r Ewropeaid, ac yr oedd y 57ain yn dyfod i mewn ac yn rhoddi eu harfdu i fyny.

ISWYDDFA YMFUDOL GYMREIG.

Family Notices

Advertising

IAMRYWIAETHAU."I

Advertising

YR WYTHNOS.