Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

R U M N I.

--DYFFRYN LLA.NRWST. I

CYFARFOD LLENYDDOL ABERTEIFI.…

[No title]

OLIVER CROMWELL.

[No title]

GOHEBIAETHAU.

[No title]

CYSTADLEUAETH GERDDOROL CYFARFOD…

[No title]

J. LLOYD DA VIES, YSWAIN.

News
Cite
Share

J. LLOYD DA VIES, YSWAIN. I At Olyyydd yr "Amierau." I SYR,—Gwelais erthygl yn eich rhifyn diweddaf ar Gyurychiolaeth Sir Gaerfvrddin, gan un Gwilym a chan fod ynddi gamddarluniad o fleitbiau eglur, hyderaf y caniatewch i mi le yn eich newyddiadur i amddiffyn y gwir. Ni fuaswn yn meddwl cymaint am hyny ar gyfrif yr ysgrif dan sylw, yr hon a wnaed gan laslanc dibrofiad, fel yr ymddengys oddiwrth ei wallau gramadegol; ond y mae yr un pethau we ii cael eu dywedyd gan eraill am na wyddent yn well. Dywei Gwitym fod Mr. Lloyd Davies wedi cael ei droi allan o'r senedd fel un annghymwys ac an nheilwng i gynrychioli bwrdeisdrefi Sir Aberteifi." Ond nid ei droi aH?M a gafodd, eithr encilio a wnaeth I "? ? 0 e?hun, yn cymeryd y drafferth i gynhyrfu *?n trwy etholiad; ae er fod gan Mr. ugh lawer o gyfeillion, y mae yn amhens -it bwjf* yn eu hamcan pe daethai LNf r. LI. :'r,tol-' h -Han i'w gwrthsefyll. A chyda golwg ar i(4«r Mr. Lloyd Davies, nid oesnebyn mhlith v "enedd ediweddaf, nac yn mysg darllen wyr w vt adrmdiadau seneddol trwy y deyrnas, fynyd ei gymhwysder a'i deilyngdod *1 jMewr trwirionedd, addefir gan jKhl^ dlatk Dy, pa beth bynag yw eu golygiadau politic ifdd, na ba neb cymhwysach na Mr. Lloyd Ðlmés erioed yn cynrychioli y Cymry. Pan y oodai .of 4ft ei draed, byddai yn ddystawrwydd trwy yr holl JJj i wrandaw arno; ac yr oedd yr hyn a ddywedai Pyn cael ei werthfawrogi gan aelodau y Ty uwchaf, ie, gan uchel swyddogion y Goron. Ac, yn wir, fel yr addefodd rhai oi wrthwynebwyr yn yr ardaloedd hyn, gurmod o gymhwysder a medrusrwydd seneddol oedd ynddo, yr hyn a barai iddynt ofni ei ddylanwad yn y Ty. Ac y mae fod Gwilya yn ameu talent ac athrylith Mr. Lloyd Davies, ac yn son am foneddwr arall fel un o dalentau gorddysglaer," yn brawf nad yw ef yn adnabod yr un o'r ddau. Yn nesaf dywed Gwilym fod Mr. Lloyd Davies wedi twyllo Ymneillduwyr Sir Aberteifi, trwy dori yr addewid a roddodd i ddyddimu y dreth eglwys." Wrth bwy, ac yn mha le, y gwnaeth efe yr addewid hon ? Gwelais lawer gwaith yn yr Amierau, ac mewn cytioeddiadau eraill, fod Mr. Davies wedi addaw yn llys Aberteifi, os etbolid ef i'r Senedd, y byddai iddo bleidio unrhyw ysgrif i DDYDDIMU y dteth hon." Ond y gwirionedd yw, na addawodd ef erioed y fath beth, ac na feddyliodd am ei addaw. Yr oeddwn yn bresenol yn Aberteifi ar y pryd, ac yn sylwi yn fanwl ar bob gair a ddywedwyd yno gan y ddwy blaid, a'r hyn a ddywedodd Mr. Dav es yno gyda golwg ar y dreth hon, yw yr hyn ag y clywsom ef yn ei ddywedyd amrai weithiaa o'r blaen yn ei dy ei hun, ac mewn festri blwyfol, sef, ei fod yn dymuno yn fawr weled cyfnewidiad ar y dreth hon er esmwythåu ar gydwybodau yr Ymneillduwyr; ac os na fyddai i neb arall gynyg mesur er peri cyfnewidiad ynddi, y cynygiai efe hyny ei hun." Yn awr nid oes yma un gair am ei dyddimu hi, ond am ei chyfnewid y mae ef o'i ffurf bresenol. A thrwy ystod ei gynrycbiol- aeth efe a ymddygodd, a ysgrifenodd, ac a siaradodd yn gyson a'r addewid hon a phan nad oedd neb arall yn cynyg ar hyny, efe a ddygodd ysgrif ei hun o fiaen y Ty, yn yr hon yr amcanai ei newid mor bell fel ag i ryddhau yr Ymneillduwyr gwirioneddol oddiwrth orfodaeth i'w thalu. Er maint y cahIll sydd ar y boneddwr teilwng hwn, yr wyf yn sicrhau, a gwna cannoedd hyny heblaw fi, mai dyna y cwbl a addawodd, yr hyn yr ymdrechodd hefyd i'w gyflawni. Pe buasai Mr. Davies yn edrych ar ei fantais ei hun, buasai o les annhraethol iddo ef bleidio ysgrif Syr W. Clay i ddyddimu y dreth, am y cawsai felly, fel perchenog ugeiniau o'r ffermydd goraf yn y wlad, chwanegu swm y dreth hon mewn amrai blwyfi at ei rent; ond gan wybod mai eiddo yr eglwys yw hon, nid allai o gydwybod bleidio Syr W. Clay i'w dy. ddimu hi, er yr ewyllysiai newid ei ffurf bresenol er boddhau yr Ymneillduwyr cydwybodol. Gellid meddwl oddiwrth ysgrif Gwilym fod Mr. Pugh yn rhagori yn fawr ar Mr. Lloyd Davies. Ond yn mha beth ? Nid mewn politics, canys y maent o'r un lliwiau. Nid fel cymydog haelionus, bydd i dyIoiion yr ardaloedd, a'r holl weithwyr trwy y broydd, brofi yn amgen. Nid fel ynad doeth a cbyfiawn, bydded i ynadon a gwerin siroedd Ceredig on a Chaerfyrddin fed yn farnwyr. Nid fel meistr tir, y mae ei holl denantiaid yn barod i sefyll i fyny fel un gwr i'w amddiffyn. Nid fel pleidiwr crefydd, edrycher ar yr eglwysi a adeiladodd ac a adgyweiriodd, ac ar y capeli perthynol i bob plaid a godwyd ar ei feddianau. Nid fel gwladgarwr, sylwer ar v ffyrdd, y pontydd, a'r rheilffyrdd ag y bu ef yn brif offeryn i'w gwneuthur. Mewn gair, ni fy Id i neb ag sydd yn adnabod Mr. Lloyd Davies ei ddiystyru ar y eyC. rifon hyn. Ni ddymunwn ddywedyd dim yn an. tnharchus am Mr. Pugh na Mr. Price; ond y mae dynoliaetb, gwirionedd, a chrefydd yn galw arnoin i ddyfod i'r maes i amddiffyn cymeriad boneddwr teilwng fel Mr. Lloyd Davies. I CARDI. I

ICYFRIFIADAU A THWYLLIADAU…

ETHOLIAD SWYDD CAERFYRDDIN.I