Hide Articles List

9 articles on this Page

I - -ATYCYHOEDD. I

Advertising

[No title]

CYSTADLEUAETH GERDDOROL CYFARFOD…

News
Cite
Share

CYSTADLEUAETH GERDDOROL CYFARFOD LLENYDDOL ABERTEIFI. LLUN SULGWYN, 1857. lIEUAN GWYI.LT wrtho ei hun, newydd agor bwrnel o bapyrau a ddaethai gyda'r post, ac yn dar. Hen y nodyn cyfdnachol a gawsai ynddo. GOJIER LLWYD a HUGH MOEGAN yn dyfod i fewn, ac ar ol hyny yr ymgom ganlynol. ] Gomcr.—Music eto byth a hefyd, leuan a ydych chwi ddim yn meddwl rhoi'r canu yma i gadw yn fuan bellach? Fe allwn i feddwl eich bod wedi treulio amser a gwario arian yn o lew ar y gwaith yna. ae heb gael fawr o ddim i fewn, yn dal am eich trafferth. letiait.-Digon gwir fod cryn lawer o fy amser a fy arian i wedi myned ar Gerddoriaeth, ond nid yn hollol ddidal i'm mynwes, pa beth bynag am fy llogell. Tal i'r galon yw'r tal goren; a phrin iawn y byddaf fi yn foddlon i'r bobl hyny a ymdrechant dynu pob peth i lawr i lefel pounds, shillings, and pence, fel pe na byddai dim yn werth ymorol am dano a'i gyrhaedd ond arian. Ond er fod Cerddor- iaeth wedi cael cyfran go helaeth o fy amser, ni bu iddi erioed fy meistroli i'r fath raddau fel ag i ladrata y cwbl. Y mae iddi hi ei Ile-ei rhan; ond er ei bod yn fynych yn crafangu yn arswydus am ychwan- eg, ac yn bygwth oymeryd y cwbl trwy orthrech, myfi, yn y cyffredin, sydd feistr. Am ei rhoddi i fynu, y mae hyny mor bell-yn mhellach, yn wir- oddiwrth fy meddwl ag erioed. Nid tra yn y fuchedd hon, wrth bob tebyg, y bydd i hyny gymeryd lie; a hyderaf, er yn wan, na raid i ni ganu yn iach i'n gilydd pan yn croesi oddiyma i'r byd dieithr a di- derfyn sydd on blaen. Gomer.—Dyna beth ag y byddai yn dda iawn, debygwn i, i lawer dalu mwy o sylw iddo-rhoddi ei lie, a dim ond hyny, i gerddoriaeth. Yn lie hyny, y mae llawer iawn o lanciau a genethod ag nad ydynt yn meddwl am ddim ar y ddaear las braidd ond canu a cblebran gwagedd. Yn lie bod y bechgyn yn defnyddio eu bamser hamddenol i ddysgu darllen ac ysgrifenu Cymraeg a Saesoneg yn dda, ac ystorio eu meddyliau a gwybodaeth fuddiol, a'r merched yr un modd i ddarllen ac ysgrifenu, a dysga cadwty, cog- inio, gwnio, nyddu, a gwau, a'r holl bethau angen- rheidiol tuag at wneyd gwraig dda a mam ofalus- canu, canu, rhedeg i'r cwrdd canu, a rhywbeth felly, sydd yn eu penau ddydd a nos. Ieuan.-Wel, feallai fod rhai, a llawer o ran hyny, yn rhedeg i eithafion y ffordd yna; ond dylid cofio hefyd fod eithafion ar y ddwy ochr-fod yn bosibl talu rhy fyeban o sylw i gerddoriaeth yn gystal a gormod. Nid oes un amheuaeth nad oes llawer iawn o amser gwerthfawr ieuenctyd yn cael ei dreulio mewn oferedd; ond y mae'n gwestiwn wedi'r cwbl a ydyw y rhai a elwir yn gantorion" yn Ilawer mwy beius nag ereill yn y pwnc hwn. Y mae wedi myned yn ffasiwn gan rai pobl i redeg cantorion i lawr bob amser; ond efallai pe mantolid y pwnc yn deg a diduedd, mewn gwaed oer, y ceid fod y rhai a olwir "y cantorion," fel dosbarth, at eu gilydd, yn llawn cystal, os nad gwell, na'r rhai sydd heb fod felly. Hyd ag yr wyf fi wedi sylwi-ac yr wyf wedi craffu ac ymofyn ar y pwnc er ys amrai flynyddoedd bellaeh -yr wyf yn cael fod y cantorion, lawer o honynt o leiaf, yn mysg y rhai blaenaf yn mhob symudiad daionus a fyddo mewn tref neu gymydogaeth. Gwn fod ganddynt hwy fel eraill lawer o le i well a ac ni byddai dim yn fwy hoff gan fy enaid, fel canwr yn gystal ag fel gwladgarwr, na gweled y cantorion, yn ferched ac yn feibion, yn dyfod y mwyaf blaenllaw mewn sobrwydd, diwydrwydd, gwybodaeth, a phob rhinwedd arall ag sydd yn gosod gogoniant ar ddyn. Gonier.-Beth yw'r sypyn yna sydd o'ch blaen heddyw? leiian.-Cyfansoddiadau gogyfer a'r gystadleuaeth gerddorol yn Aberteifi-Ton GynuHeidfaol ar y mesur 7au, 4 llinell; a'r gorchwyl yr oeddwn i wedi ei dori i mi fy hun yr awr hon oedd ysgrifenu tipyn o feirniadaeth arnyn' nhw. Gadewch i ni fyned ati gyda'n gilydd 'nawr. Haw.-Gydalngilyddyn wir? Pwy'n gosododd i a Gomer yn feirniaid ? Fe fyddai'n ohwith gan rai ag y mae eu cyfansoddiadau yn y pentwr yma feddwl fod rhyw grots'* fel ni yn eistedd i farnu eu gwaitb. Ieuaii.-Na ofelwch am hyny, cymoraf fi y cyfrif- oldeb. Gosodwch y basgedi yna mewn trefn, Gomer, a marciweh nhw—Basg. 1, basg. 2, a basg. 3. Rhaid i ni fod yn lied ysgafn-law, mae'n debyg,.ar yr un pryd, o herwydd mae lie i feddwl mai ieuainc ydyw y rhan fwyaf o'r cyfansoddwyr. Dowch Huw; pwy ydyw'r cyntaf ? Huw.—" Carodin." TrU/in HigAn iotyg mm en) cyfaill hwn dreio ei law ar gyfansoddi. vie y ddwy adran gyntaf wedi en cam-acenu, ?'" tfwallau cyng- haneddol yn rhy luosog i arpynt bob yn un. Na ddigaloned er hynv leflwch ei alaw i ffurf arall ar gefn y ddalen noddwch lddo isalaw a thrysawd i lenwi i fy,r"* gynghanedd a gosodwch y don yn basg. i f Pe allai mai yn basg. 1 y bydd y tro nesaf. uuw.—Y nesaf yw Bachgonin." Ieuan.-Amean glew iawn. Alaw rwydd, gym- hesurol, a melodus. Y gwall cyntaf yw tlodi yr ail gord yn y -Sydd ban, a hwnw yn arwain i wall arall, mwy anoddefadwy, yn y ban nesaf, sef cymeryd yr Alto uwcblaw y Soprano yn y cord diweddol o'r ad- ran. Ceir yr amryfusedd hwn yn ciel ei fynychu yn y cord diweddaf hefyd. Fe gofia Bach^enin" nad oes gymaint a thrwydded i beth fel hyn mewn cyng. hanedd syml. Afrosgo yw symudiad y Tenor yn y 5ed ban, heblaw ei fod yn arwain i dlodi yn y cord cyntaf yn y ban nesaf. Yr Alto ddylasai gymeryd yr 8fed, fel y gallai y Tenor gael y 3ydd, a disgvn dracbefn i 3ydd y cord nesaf, a thrwy hyny adferyd y 4ydd. Mwy destlus hefyd fuasai i'r Alto ddisgyn trwy gord y 7fed i Oydd y cord cyffredin yn niwedd yr adran hon. 8fedau dylynol rlr.vn? y Bass a'r Tenor, yn banau 8, 9, a 10, a rbwng y T. vss a'r Soprano yn ban 13, yn nghyd a 5edau dylyuul i hwng y Bass a'r Alto yn ban 11. Gomer.-Beth fyddwch chwi'n fed I wl wrth 8fedau dylynol ?" leuan.-Edrychweli yma 'nawr—ban 10. Dyma y Bass ar F, a'i Alto ar F, ac yn ffurfio Sfod i'w gilydi 5 disgyna y Bass o F i C, disgyna yr Alto hefyd i C, ac felly ffurfiant 8fed eto; dyna ddau 8fed dylynol," yr hyn, yn ol rheolau cynghanedd, nid ydyw oddef- adwy. Rhoddwch y don hon, Gomer—chwi yw ceidwad y basgedi-yn Basg. 2. Hitic.-Il Idwall" yw y nesaf. Ieuan.—Amcan glew at amrywiaeth yn yr alaw, ond rhy ymddifad o felodedd. Carpiog iawn yw gwisg gynghaneddol hon hithaH :-5edau dylynol rhwng y Bass a'r Tenor yn banau 2 a 3, a rhwng y Bass a'r Alto yn banau 4 a 5; 8fedau dylynol rhwng y Bass a'r Soprano yi banau 4 a 5, rhwng y Bass a'r Tenor yn banau 7, 13, 14, a 15, a rhwng y Bass a'r Alto yn banau 9, 10,11, &c. Hitio.-Dyma 8fedau dylynol hefyd rhwng y Bass t'r Tenor yn banau 1 a 2, onide ? leuati.-Sid ydynt nemawr gwell na hyny mewn gwirionedd; ond caniateir trwydded i'w harter yn y ffnrf yna yn achlysurol, ond goreu pa fwyaf anaml. Mao y Bass a'r Tenor yn y ban laf, fel yr yd>ch yn sylwi, ar D, ac yn ffurfio 8fed i'w gilydd; mae y ddau yn y cord nesaf ar G, trwy fod y Tenor.wedi disgyn 5ed, a'r Bass wedi esgyn 4ydd; ond nid ydynt yn awr o fewn 8fed i'w gilydd, eithr yn unsain mewn gwrth symudiad caniateir 15fed ac 8fed, neu 8fed ac unsain, i ddilyn eu gilydd, a'r un modd gyda golwg ar Hfed a 5ed. Pa le i osod y don hon nid wyfyngwybod yn gywir; feallai, ar y cyfan, mai cymhwysach iddi ydyw Basg. 2 na Basg. 3. Huw.—" Brithon" yw y nesaf. leuan.-Alaw ragorol, yn sicr ddiamheu. Os ydyw y gynghanedd yn cyfateb, bydd hon yn rliywle tua phen uchaf y rhestr, os nad oes yma rai campus iawn. Gadewch weled, Cynghaneddir yr adran gyntaf yn bur dda, oddigerth un peth ag y cawn sylwi arno eto; gwell fuasai i'r Alto gymeryd y 3ydd, yn lie dyblu yr 8fed, yn y cord cyntaf oil. Dyna ddau 5ed perffaith dylynol rhwng yr Alto a'r Soprano yn b i nai-i 2 a 3; un arall rhwng y Bass a'r Tenor yn ban 7; ao un eto rhwng y Tenor a'r Soprano yu y Tenor a'r Soprano yii banau 11 a 12, Huw.—Dacw 5edau dylynol, dri o honynt, rhwng y Bass a'r Tenor, yn banau 4 a 5. lettati.-le; a gwell fuasai heb y tri fel yna- gwell, o ran peroriaeth a chyngbanodd, fuasai i'r Tenor, yn ban 5, gymeryd y (jfed; ond y maent yn oddefol ar yr un pryd, yn gymaint a bod y cyntaf yn 5ed perffaith, yr ail yn anmherffaith, a'r trydydd yn berffuith draohefn-õedau o'r un ansawdd syddyn wahnrddedig; end goreu pa leiaf o neb o honynt fyddont yn dilyn eu gilydd. Ceir yma hefyd ddwy engraifft o'r hyn a elwir twyll-berthynas mown cyng hanedd. Gomer.—Yr wyf wedi clywed y gair yna genych rywdro o'r blaen, ond nid wyf yn sicr fy mod yn deall beth a olygir wrtho. let(ait.-Wel, dyna fo, rhwng y B;tss.a'r Soprano yn y don hon, yn banau 2 a 13. Cymerwn baa 13. Dywedir nad yw y ddau gord yn y ban yna yn per. thyn i'r un py.voiniod, fel hyn cyweirnod gwreidd- iol y don yw E leddf. Os golygir y B leddf yn y Bass yn y lie hwn fel yn perthyn i E, y nesaf a ddis- gwylir yn naturiol ydyw cord y tonydd, neu ei gyw- eirnod JIeddf perthynasol, ac nid yr islywydd; felly, dylasai Bass y cord nesaf fod ar E, G, B naturiol, neu C, ac nid ar A leddf fel y mae. Pe golygid dra- chefn fod y cord cyntaf yn perthyn i B leddf fel cy. weirnod ei hun, ac nid fel liywydd E, yna disgwylid fod A y cord nesaf yn naturiol ac nid yn lleddf, a'r cord a gymerai felly fyddai y 5 6, ac nid y cyffredin. Yn mhellach, pe cymerid yr A loddf fel cyweirnod ei hun, ac nid islywydd E, byddai y B leddf fel ei eilfed yn gofyn y cord 3 4 6, y 3ydd yn lleiaf trwy leddfu y D-nid yn fwyaf fel y mao yma—ac yn cael ei adferyd trwy ddisgyn i C, ac nid esgyn i E Jeddf; a byddai y cord dylynol hefyd yn ofreolaidd. Yr wyfyngwybod fod rhai o'r cylryngau a llurfiant dwyll-berthynas y TEIR ION yn cael eu defnyddio yn uchJysurol-yn amlach yn y cywnir lleiaf na'r mwyaf;—end yllpiaf arferedig o honynt oil ydyw Lwa. Nid wyf yn cot10 yn awr am un esiampl o hono mevrn cynghaHcdd I syml gan awdwr clasurol. Er fod yn y don hon yeh. ydig feiau lied ddibwys, ac y gallesid gwellbau rhai pethau ynddi, y mao yn gyfansoddiad gwir dda. 1 Rhoddwch bi yn Basg. 1. Huw.—Y mae golwg lied dda ar hon "Iorthyn" yw y ffugenw. ¡ leuan.-Un dda ydyw hefyd, Huw. Adranau rhagorol ydyw y gyntaf, y 3edd, a'r olaf y mae tipyn o annghymesuredd yn yr 2il, yn y ddau fan cyntaf o honi. Cynghanedd bur ramadegol, heb ynddi un gwall o bwys .mawr, na dim ond dau a ddeuant dan yr enw o gwbl —annghydseiniaid yr ail gord yn y 5ed ban heb eu parotoi na'u hadferyd, ao 8fedau dylynol rhwng y Bass a'r Soprano yn y banau 8 a 9. Rhoddwch hona eto yn y Basged Rhif. 1. Huw.—Dyma dair wedi dyfod oddidan yr un Haw, fe allwn i feddwl, ae yn ymddangos braidd yn dlawd. leuan.—Peidiwch rhoddi gormod o bwys ar yr olwg allanol, Huw; "nid aur yw pob peth melyn," cofiwch. Ond chware teg i chwi befyd, yr ydych yn "gesio'"n o dda, ys dywed Jonathan. Rhaid i ni adael y tair yma heb ddim ond cyfeirio yr awdwyr at ein marciau mewn pensil, a'u hanog i ymroddi i lafur os ydynt yn amcann dyfod yn gyfansoddwvr da. Aroswch, betb yw'r ffug-enwau 0 ie,— Gyldas," Johannes," a "Iago." Rhaid rhoddi'r tair yn y 3edd fasged. Beth yw'r ffugenw wrth hona, Huw? Htiw. Ieiian Bach." leuaiz.-Gadewch weled a oes yma ryw argoel am Ieuan Mawr ryw ddydd. Nid drwg. Melodedd, amrywiaeth, a ohymhesuriant boddhaus iawn trwy yr holl alaw. Cynghanedd yr adran gyntaf yn ddi- wall, ac nid oes eisiau gwell; buasai yr ail adran yr un modd oni bai yr 8fedau dylynolyna rhwng y Bass a'r Tenor yn y Ofed ban; afrosgo ydyw cynghanedd y 3edd adran; ond y mae yr olaf yn dda a diwallau. Da iawn, "leuan Bach." Rhoddwch hi yn Basg. 1. Huw.—Gallwn i feddwl mai un "bach" yw hwn eto; "Sachans',y mae yn galwei hun. Ieuan.—T mae cyfatebiaeth rhagorol rhwng y ddwy adran olaf O'r alaw; rhy dlawd yw y gyntaf, a'r haner fiaenaf o'r ail. Cynghanedd ymddifad iawn o wallau-.yr unig beth tebyg i wall yw y 6fed ar yr islywydd yn y 9fed ban-ond rhy donyddol drwyddi-rhy yehydig o amrywiaeth. Lie hon eto ydyw Basg. Rhit. 1. Hum.—"Anwjbodus" y galwa y nesaf ei hun. leuan.-Felly; beth yw tystiolaeth ei waith ? Prin ei wybodaeth medd hwnw hefyd, mi welaf. Cy- ffredin, iawn, a rhy ymddifad o felodedd i roddi bywyd ynddi, yw yr holl alaw. Tlawd, a gwallus ydyw y gynghanedd hefyd. Llenwch i fynu rai o'r cordiau yna, Gomer, mewn pensil ar y copi, a nod- weh y 5edau dylynol sydd rhwng y Bass a'r Alto yn y 6ed ban, a'r 8fedau dylynol sydd rhwng y Bass a'r Soprano a'r Alto yn banau 14 a 15. Gwell fuasai terfynu y 3edd adran yn nghyweirnod G; lied ddi- chwaeth yw cynghanedd yr adran yna i gyd. Efallai mai i'r 2il fasged y syrthia hon yn fwyaf naturiol. (I'w barhau.) I BEERNIADAETH Y TRAETHODAU. I Daeth wyth o draethodau i law, pump ar y testyn cyntaf, sef Cymeriad Da," a thri ar yr ail destyn, sef Prif Ragoriaethau merch." Fel cynyrchion y cyfarfodydd Uenyddol yn gyffredin, mae rhai o hon- ynt yn wael a rhai yn wych. Mae rhai o'r traeth- odau ar y testyn cyntaf yn gynyrchion teilwng a gwertbfawr. Yn bresenol sylwn yn frysiog ar y pump traethawd ar y testyn cyntaf a'r blaenaf a ddaw dan ein sylw yw eiddo yr hwn a ffngenwa ei hun Trigarog." Mae traetbawd yr awdwr hwn yn wallus iawn, wedi ei sill. ebu yn bur ddrwg, ac wedi ei eirio cynddrwg a hyny —hyd yn nod ei ddyfyniadau o'r Ysgrythyr sydd yn annghywir, o ran sillebu a llythyrenu; mae ganddo brif lythyrenau yn ami yn nghanol y llinelIau, heb fod yn decbreu enwau priodol, nac yn nesaf ar ol diweddnodau. Mae hyd yn nod eiffugeniv wedi ei gamsillebu Trigarog" yn lie Tritgarog," nid yw yn deilwng o'r wobr. Giraldus Cambrensis" yw y nesaf. Mae digon o hyd yn nhraethawd yr awdwr hwn, ond y mae ei Jawydgrifen yn hollol aneglur a didrefn-nid mor wallus a'i gyfaill Trigarog," a rhwng bod y llawys. grif yn ddrwg, a'r brawddegau yn dywyll ac annghy wir, mae yn annichonadwy i un dewin wybod meddwl yr awdwr mewn llawer o fanau; nodwn un esiampl allan o lawer: Perthynas ienengach i Gymeriad Da yw cydwybod dda." Beth a feddylia yr awdwr wrth frawddeg fel yna, a ddichon cymoriad da ban- fodi ar gydwybod ddrwg ? Neu a ydyw cymeriad da yn blaenori cydwybod dda ? Dyma athroniaeth foes- ol newydd i ni. Mae digon o ddefnyddiau yn ngwaith "Giraldns Cambrensis" i wneyd traethawd da, ond pwy a a i'r drafferth i'w daclu yn nghyd ? Er hyny, gall.'ef a'i gyfaill "Trigarog" ddyfod yn awdwyr ond iddynt ymarfer a dyfal bara; nid yw "Giraldus Cambrensis" yn deilwng o'r wobr. "Anilysgedig" yw y nesaf. Mae yr awdwr hwn yn rhagori ar ei flaenoriaid yn mhell. Ysgrifena yn llawer mwy rhwydd a chywir, ymddengys ei fod yn deall duwinyddiaeth yn dda; ond y mae yn myned yn rby bell oddiwrth ei destyn. Yn hytrach na chyfansoddi traethawd ar "Gymeriad Da," cyfan- soddodd draethawd ar grefydd dda; pe crefydd dda fuasai y testyn, cawsai yr awdwr hwn y wobr. Mae wedi sillebu allythyrenu yn wallus mewn llawer man, ond y mae ei lawysgrifen yn ddarllenadwv: nid j J" .JIvl" Uó Ui BUW. Elias" yw y nesaf. Traelhawd da yw eiddo -'Elias," wedi ei ysgrifenu yn gywirach nag un oli gydymgeisyddion. Mae yn gyfansoddiad destlus, rhwydd, a didrafferth, mae drwyddo yn ddernyn coethedig a blasus. Rhanodd ei destyn i ddau ben sef Hanfodion Cymeriad Da," a Llesoldeb Cymer- itsu uj, a ullyna ei laterion yn ddigwmpas. Y anffawd, ar prif ddiffyg yn y traethawd-liwn yw,nd roddodd yr awdwr o'r 10 tu dalen a ysgnfen?n yn dau cwta at ei osodiad diweddaf; heblaw f?.?) vr anurddo ei gynHun, y mae hefyd w^ein hanofe umg dir ag y gallasai gyfodi cymhellw/p; gSrryybowwyy?nf. i Qurno Cymeriad Da hob ind jZ™ ?   g Cynghorem Elias ac "öèdd, a gallent J 5d 0 mae y ddau yn ddynSno?r "?,? ? F ? -? Yw ddef?ydd mawr yn y b? ddefnydd mawr y//y Pe buasai genym ?«<! ???? ? Elias yn deilwn-  f wobr buasem yn e; ai?U "Meudwy"yn ? nesaf. Y mae traethawd Meu- 11 meudwy ?n, soddiad rhaorol iawn, ar lawer o gyfrifon, ?i.I. Cl ysgnfenu mewn Ihwysgrif brydferth a glan, e, Y mae yr awdwr, yn ddiaraeu, yn ddyn o feddwl reiddgar, yn fwy atbronyddol ac annibynol ei syniaxu nag un o. honynt; rhydd ystyr feirniadol fanv* a chywir i'r geiriau Caritor a chymeriad." O) neinia ystyr y cyntaf i'r Roeg, ac ystyr yr olaj a Drheinia i'w wreiddyn Cymreig. Pa fodd bynag syrthia yntau i wallau mewn sillebu a geiryddu. Hefyd, nid yw yn gywir pan y dywed fod dyn yn gweithio o reddf,y creadur direswm sydd yn gweithio o "reddt," a dyn wrth reswm ac ewyllys. Buasai traethawd Meudwy yn well pe buasai wedi eangu tipyn ar rai o'i osodiadau-rhoddi mwy o ryddid i'w ysgrifeJl i chwareu—a bod yn dipyn yn fwy eglur gyda rhai o'i resymau, yn enwedig yn ei ragym- adrodd. Gydag eithro yr ychydig wallau yna, mae y traethawd hwn yn ardderchog. Dygodd yr awdwr fwy o ddefnyddiau nag un o'r lleill at ei waith, a gesyd hwy wrth eu gilydd mewn modd gwreiddiol a deheuig; ac yn ein barn ni y mae Meudwy" yn deilwng o'r wobr. Yr ail destyn, sef Prif Ragoriaethau Merch. Daeth tri o draethodau i law ar y testyn hwn, ac nid oes rhyw lawer o ragoriaethau jp perthyn i'r un o honynt. Y cyntaf a ddaw dan ein sylw yw yr hwn a ffngenwa ei hun yn Un o hen fechcin tanglwst." Mae yr awdwr hwn wedi dosbarthu ei draethawad yn weddol dda, ond y mae yn rhy wallus mewn sillebu a llythyrenu i feddwl rhoddi y wobr iddo. Rhydd brif lythyrenau braidd bob yn ail air. Mae y gair cyntaf a ysgrifenodd yn annghywir, "Treithawd" yn lie Traethawd," eto ei drydydd gair sydd yn an- nghywir, sef "am bryf ragoriaethau," &c., yn lie "ar Brif Ragoriaethau," &c. Hefyrl y mae yn anerch y merched fel pe buasai ganddo loned ei ystafell o bonynt pan yn cyfansoddi, megvs, "Ferched Bydd. wch Ddywairnid y w anerchiadau personol fel yna i'w cymeradwyo mewn traethawd. Dalied ati i lafur- io gall ddyfod yn awdwr. Nid yw Un o hen fechcin tanglwst yn deilwng o'r wobr. Mewn brys rhag cnu y drws" yw y nesaf. Medd- yliwn mai mewn brys anarferfol yr ysgrifenodd yr awdwr ei draethawd; beth bynag, nid yw yr awdwr hwn yn ddisynwyr; ysgrifena yn llawer cywirach na'i gyfaill blaencrol, ond a i eithafion ar rai prydiau. Pe buasai yr awdwr hwn wedi disgyblu ei feddwl gallasai wneyd traethawd da. Gormodiaith yw dweyd foil hnrddwch merch yn "ddigon i ddenu archangel i'w hanrhegu a. chusan." Hefyd, nid yw yn chwaetbus dweyd fod merched rhinweddol wedi gwneyd "exploit." Hefyd, mae ei lawysgrifen yn gwbl ddidrefn ac aneglur. Mae wedi is/inellu, ac lucchlinellu, a thi-awelinellu fel ag y mae yn nesaf peth i anmhosiblrwydd i wneyd allan ei feddyliau. Nid yw Mewn brys cyn cau y drws" yn deilwng o'r wobr. 1. ab loan yw y nesaf. Dechreua yr awdwr hwn ei draethawd yn fwy gwylaidd o lawer na'i gyf- aill blaenorol. Mae gan 1. ab loan" amcan da at gyfansoddi, ond nid yw yn rhydd oddiwrth wallau ieithyddol-er nad oes ynddo ddim hynod, eto mae yn gomvion sense work. Dyma y goreu o'r tri, ond pa un a ydyw yn deilwng o'r wobr, caiff y pwyllgor i farnu. Aúerteifi, Mai 29, 1857. ROBERT JONES.

BEIRNIADAETH EBEN FARDD AR…

IJ. LL. DAVIES, YSW., BfeNDYFFRYlI…

I TY YR ARGLWYDDI. 1

TY Y CYFFREDIN.-

I-,,AMRYWIAETHAU.