Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

NEWYDDION CYMREIG. I

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. I TAEERNACL, GREAT CROSSHATX STREET, LIVERTOOL. —Areithiwyd gan y Parch. Elijah Jacob, Abertawe, ar y Maine Law yn y lie uchod nos hu, y 18fed o'r mis hwn. Drwg genym na buasai ychwaneg wedi ymgynull yn ngbyd i wrando ar fater mor ganmolad- wy ei amcanion, ac mor bwysig i'n gwlaLl yn cael ei egluro. Mae Mr Jacob yn ddyn cryf ei ymddangos- iad, ae iach ^rolwg, or ei fod yn llwyryojataliwr er ys 25 mlynedd (os nad ydym yn camgymeryd), ac yn wir pa ryfedd? Ac ymaeyn ymddangos fel unymrodd. edig a phendcrfynol i sobri y byd. Portreadodd yn eglur iawn yr echryslonderau ofoadwy sydd yn deill- iaw oddiwrth y fasnach feddwol yn ei holl gysylltiad- au ac o ganlyniad fod angen mawr am y fath gyf- raith. Ac nid yn unig fod angen, ond fod genym fel deiliaid Prydain Fawr berffaith hawl i ofyn i'n senedll roddi ei zel wrthi. Er nad ydym yn cymer- adwy yr oil a ddywedodd, eto, ar y cyfan, y mae Mr. Jacob yn deilwng o'r gwrandawiad a'r sylw manylaf. A dywedwn wrtho o galon bur, rhwyddineb iddo i ddarparu i'r Arglwydd bobl bar o cl. Horace Wyn. CYMANFA MANCHESTER.—Cynaliodd yr Annibynwyr Cymreig yn Gartside street, eu 'cymanfa flynyddol eleni ar y 12fed, 13eg, 14eg, a'r 15fed,.o Mehefin. Nos Wener pregethodd y Parchn. W Edwards, Aber- dare, ac E Jacobs, Abertawe. Nos Sadwrn, pregeth- odd y Parchn. M Ellis, Mynyddislwyn, a D Morgan, Llanfyllin. Bore Sabfcoth pregethodd y Parchn. M Ellis, Mynyddislwyn, a T Rees, Cendl; am ddau o'r gloch, y l'archn. D Phillips, Maesteg (T.C.), a D Morgan; ac am haner awr wedi chwech, y Parchn. T Rees, a M Ellis. Nos Lun am saith o'r gloch y Parchn. M Ellis a T Rees. Dechrenwyd y gwahanol pedfaon gan y Parchn. M Ellis, T Rees, R Evans, 0 Jones, T.C., a Mr E Ellis, Mostyn. Cawsom gyfar- fod da a hin gysurus.-R. GOGLEDD. CAERGYBI.—Daeth tair o agerlongau yn rhwym o Liverpool i Alexandria i mewn i'r porthladd yma ddydd Sadwrn. Tybid fod peiriapt un o honynt allan o drefn, a phenderfynwyd troi i mewn yma i'w hadgyweirio. Pan ar drosglwyddo y penderfyniad yma o'r naill i'r llall, rhedodd y Garbieh a'r Fayoum ar draws eu gilydd, a niweidiwyd y ddwy lestr yn fawr fel y dechreuasant lenwi & dwfr yn ddioed. Cymaint ydoedd rhuthr y dwfr i'r Garbieh fel y di- ffoddwyd ei than yn y fan, ae ofnid y buasai i'r ddwy suddo, ond llwyddwyd eu cael i mewn i'r portbladd. Pertbyna y llongau hyn i gwmpeini o fasnachwyr Groegaidd, a bwriedir hwy i gludo yd a nwyddau ereill i lawr yr afon Nile. CAERGYBI.—Mae nifer fawr o chwarelwyr wedi cael eu troi allan o weithydd y Porthladd newydd yr wyth- nos ddiweddaf. Gofynir gan y llywodraeth eleni y swm o chwech ugain mil o bunau tuag at y gweith- ydd hyn; a chynelir cyfarfod yn swyddfa, y prif beir- ianydd, Mr. Hawkshaw, ddydd Mercher nesaf i ben- derfynu yn mha le, ac ar ba gynllun y gwneir pier eyfaddas i lanio teithwyr ac i ddadlwytho llongau. Bu Syr S. Morton Peto ac eraill o gyfarwyddwyr y rheilffordd yma wythnos yn ol ar yr achlysur, ac yr ydym yn deall fod sicrwydd y bydd i'r Great Eastern gymeryd ei chychwynfa oddiyma ar ei mordaith gynt- af i Canada. CAERGYBI.—Dywed y Daily Express," un o new- yddiaduron Dublin, fod tebygolrwydd y cymer ethol- iad le dros y Queen's County, yn tuan; ac enwir John Jacob, Ysw., Scotchrath, pcrchenog Llanfawr, yn agos i'r dref hon yn un o'r ymgeiswyr. Yr oedd Mr. Jacob yn uchelsirydd dros sir Fon y lIynedd. Mae yn Brotestanftrwyadl ac o egwyddorion rhyddfrydig, a byddai ei etholiad i'r senedd yn achos o lawenydd i baffb a'i hadwaenant yn yr ardal hon.-Llwyddiant iddo. CAERGYBI.—Dydd Mercher diweildaf, fel yr oedd bachgenyn yn glanhau ffenestr Ilofft ty yn Stanley Crescent, collodd ei afael, a syrthiodd i lawr, gan dori ei goes yn y codwm. Mac yn arferiad rhy gyffredin gan weinidogion fyned oddiallan i ffenestri uchel fel hyn heb ysgol, a dylai perchenogion tai roddi terfyn ar y fath waith peryglus. CAERGYBI.—Ar ol gwlawogydd trymion yr wythnos a aeth heibio mae yr hin wedi troi yn dyrttherus, ac yn liynod o ffafriol i dyfiant pob petb. Mae y cnydau yn edrycu yn iachus a thoreitaiog. LLANIDLOE-, -Cynaliodd _y Wesleyaid eu cyfar- fod tnleithiol yn y lie hwn yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Traddodwyd pregethau Cymreig a Seisnig gan y Parchn. J. Roberts, B. Roberts, J. Rees, E. Jenkins, T. Jones, J. Jones, E. Walker, D. Evans, J. Lloyd, R. Evans, R. Rees, W. Powell, L. Williams, 0. Owens. Bernir fod oddeutu 7000 o wrandawyr yn yr oedfaon a gyn- aliwyd yn yr awyr agored. Y DREINEWYDD.—Ymddengys fod y drcf hon a fu unwaith mor flodcuoo, yn masnach y gwlaneni, yn pry sur ddirywio, ac yn debyg o fod yn mhen amser yr hyn ydyw Trefaldwyn yn awr, a'r hyn a fu tref flodeuog Llanidloes unwaith. DI-TORWIC.- Cyt-ialiivyd cvfarfod Ilenyddol yn y lIe uchod ddydd Sadwrfi diweddaf. Dechreuwyd y cyf- arfod cyntaf am ddau o'r gloch. Llywyddid gan y Parch. J. Jones, Sardis. Wedi i'r llywydd agor y cyfarfod, galwodd ar y cor, dan arweiniad Mr. Ellis Jones, i ganu ton, yr hyn a wnaethpwyd yn gampus. Yna darlleuodd y Parch. J. Jones ei feirniadaeth ar y traetliodaii ar "Ruth a Doaz." Yr^petlc^wedi ]1,7 ybwich; ail, G. Thomas, Terfyn trydydd, R. Thomas, Terfyn. Darllenodd Mr. Wm. Rowlands, Ebenezer, eifeirma.daethary traethodau ar "lawn Ymddygiad ar y Sabboth." Yr oedd deuddeg o draethodau wedi dyfod i law ar y testyn hwn, i y gorau o ba rai ydoedd O. Parry, Ty'n-y-fawnog; ail, Copernicus (anhysbys) trydydd, J. D. Jones, Penybwlch. Galwyd ar fechgyn a genethod dan 151 oed, i ymgystadlu mewn darllen a thra bu y beirn- iaid yn penderfynu pwy oedd y goreu, canodd y cor. i goreu ydoedd M. Parry, Cae'rfoel; yr ail, Jane Davies, Tauelidr; trydydd O. Hughes, Foel-gron. Darllenodd y Parch. J. Jones ei feirniadaeth ar y traethodau ar Pa fodd y dylid dyfod i, ac ymddwyn mewn, lie o addoliad." Yr oedd naw o ymgeiswyr ar y testyn hwn, y goreu O. Parry, Ty'n-y-fawnog; ail E. Foulkes, Penybwlch, trydydd, Jane Williams, Ty. newydd. Darllenwyd beirniadaeth Gwilym Padarn ar y Gan i'r Cloddfeydd Llecliau." Yr oedd naw wedi cyfansoddi; y goren ydoedd J. Jones, Minffordd; ail, Wm. Morris, Bronyfucbes trydydd, W. Morris, Bronyfuches. Yna darllenodd Mr. Danes, Deiniolen British School, ei feirniadaeth ar y cyfieithia lau gan fechgyn o dan 15 oed. Y goreu ydoedd Wm. Morris, ieu., Bronyfucbes ail, John Roberts (wvr i Mr. Roberts, meddyg) trydydd, C. Williams, Ty'n- y.clwt. Yna darllenodd Mr. Evans, Dolbadarn, ei feirniadaeth ar y cyfieithiadau ag oedd i'r ardal yn gyffredinol. Y goreu oedd E. Hughes, Foelgron; ail, H. E. Williams, Tyddewi; trydydd, E. Foulkes, Penybwlch. Yna cafwyd anerchiad byr gan y Parch, R. Ellis, Ysgoldy; ac ar ol i'r cor ganu ton, terfvn- odd goruehwylion y cyfarfod prydnawnol, ac aeth pawb i'w fan. Ar ol diwallu ein hunain ag angen- rheidiau natur, aed i'r capel drachefn at y cyfarfod hwvrol. Ar ol i'r cor ganu ton, darllenwyd beirniad- aeth Mr Roberts, Glan y Bala, ar y Llawysgrifau." Y goreu ydoedd J. Jones, Gwaredog ail, C. Williams, Ty'nyclwt; trydydd, R. Roberts, Graigyfachwen. Yna darllenwyd beirniadaeth y Parch. R. Ellis ar y traethodau ar y Pwys a'r angenrheidrwydd i benau teuluoecld i roddi esiampl dda i'w plant." Daeth deg o draethodau i law ar y testyn hwn. Y goreu ydoedd C. Jones, Chwarelfawr; ail, Wm. David, ieu., Tan- elidr; tiydydd, Didymus (anhyspys). Yna galwyd ar feibion a merched o bob oed i ddarllen cyfran o 1 Cor. xv.; a thra y bu y beirniaid yn penderfynu pwy oedd y goreu, canodd y cor. Y goreu ydoed R. Jones, Bryngwynt; ail E. Foulkes, Penybwlch; trydydd H. E. Williams, Ty Ddewi. Ynajdarllenodd M. J. Williams, Llanberis, ei feirniadaeth ar a Ton- au Cynulleidfaol." Yr oedd deunaw o ymgeiswyr ar y testyn hwn. Rhan wyd y wobr gyntaf a'r ail rhwng C. Jones, Ohwarel fawr, a T. Morgan, Foel gron. Ni ddaeth y trydydd yn mlaen. Yna darllenwyd beirn- iadaeth Eben Fardd ar y Marwnadau i'r diweddar Barch. J. Williams, Llecheiddior." Yr un a farnwyd yn oreu ydoedd eiddo Robyn Wyn o Eifion. Daeth yn mlaen i dderbyn ei wobr, sef tri gini a phwrs. Yna darllenodd y Paich. D Griffiths, ieu., Bethel, ei feirniadaeth ar y traethodau ar Hyfrydwch a man- teision gwybodaeth." Ni dderbyniodd ond chwech ar y testyn hwn, a'r hwn a farnodd yn oreu ydoedd eiddo J Jones, Tÿ newydd ail, 0 Parry, Ty'nyfawn. og. Barnwyd H. E. Williams, Tÿ Ddewi,a j D Jones, Tanybwlch, yn gyfartal, a rhanwyd y drydydd wobr rhyngddynt. Yna darllenwyd beirniadaeth y Parch. H. Hughes, Felinheli, ar y traethodau ar "Hanes ardal Dinorwic." Daeth pedwar i law nr y testyn hwn. Y goreu ydoedd E. Hughes, Foel-gron; ail, G. Ellis, Hafodty; a rhanwyd y drydydd wobr rhwng H. Morris, Fronheulog, a T Roberts, Brynllus. Ar ol ychydig anerchiadau byrion gan Robyn Wyn, y Parch. T Edwards, Ebenezer, ac eraill, canodd y cor a therfynodd y cyfarfod, ac yr oedd agwedd pawb yn I dangos iddynt gaci eu llwyr foddloni.-Gomu Glan Peris. CAERGYBI.—Cyfarfu Mr Hawkshaw, prif beirian- ydd y porthladd newydd, a nifer o foneddigion i ym- gynghori yn ngbylch ffurfiad pier cyfaddas i lanio teithwyr a nwyddau yn y porthladd hwn. Cyflwyn. odd ei gynllun i'w sylw yn ei swyddfa yn Llundain ddydJ Mercher diweddaf, yr hwn a gymeradwywyd gan Idynt yn unfrydol, a chan Arglwyddi y Morlys. Yr ydym yn deall yn ol y cynl!uti hwn y bydd i'r morgl;u?dd uwyveiniol {East breakwater) gael ei gario yn mlaen ar greigiau y platters, tic i'r pier redeg allan oddiwrtbo tua'r dwyiain, fel ag i ffurfio dau borth- ladd, gyda chyfleusderau i agerlongau o bob maint- ioli i gael eu dadlwvtbo a'n cyfienwi i glo ac angeo- rheidiau eraill. Sonir hefyd am wneyd morglawdd gyferbyn a'r un presenol, o ocbr L'anrhyddlad neu Lbnfathly, ond ni wnaed eto unrhyw benderfyniad ar hyn. Pe cynierai Ityiiy L>, byddai y porthladd hwn yn un o'r rhai mwyaf eung ac I ardderchog yn y byd Mae piroloadau i gael eu gwneyd yma i dderbyu y Great Eastern o hyn i'r dydd cyntafo lonawr. CAERGYBI.—Mae y cynhauaf gwair wedi dechreu gyda bywiogrwydd yn gymydogaeth yma. Mao y tywydd yn ffafÚol, a'r cnydau yn doroithiog. IJNDEB CAEHGYBI.—Cynaliwyd cyfarfod y Gwar- cheidwaid dydd Mawrth y 9fed o'r mis hwn, yn y alley Hotel; Mr W Williams yn y gadair. Nifcr y torlion yn derbyn cynorthwy plwyfol ydoedd 2,3,12. Yr oedd Mr Doyle, arolygydd cyfraith y tlodion, yn brescrioJ, a chv.'yuai o herwydd y nifer fawr o ym- geiswyr am gynorthwy a ymddangosai ar lyfrau y swyddogion cynorthwyol, ond ni amlygodd i'r gwar- cbeidwaid unrhyw Iwybr i'w lleihau. Da pe medrai Mr D'.iylt a' gydai olygwyr, y rhai a dderbvnin'ri gyt. mor f.iv/r odliwrth y llywodraeth, wneyd rhyw I weiliaut er budd i'r trethdalwyr; ond am a gly^som ni hyd yma, y maent yn derbyn en cawoedd ptraaa —»» bob blwyddyn am ddim neu lai na dim lies a wnant i'r swyddogion lleol. t- RHEILFFORDD CAERGYBI A CiiAERLr.Eot;. Borqq- i. dydd Iau diweddaf rhedodd y gerbydres sydd yn cychwyn o Gaergybi chwarter cyn saith o'r gloch ar draws un David Hughes yn agos i oraaf Bodorgan, gan ei ladd yn y fan. Ba ar ei draed y noswaith ■ flaenorol oherwydd gwaeledd ei wraig, a thybir iddo syrthio i gwsg ar y ffordd wrth ddilyn ei alwedigaeth fel plate layer, ac felly gyfarfod ag angau yn ddi. rybudd. Cymerodd trengholiad ar ei gorph Ie y dydd canlynol o flaen W Jones, Yaw. CAERGYBI.—Dydd Mercher diweddaf fel yr oedd dyn o'r enw Thomas Hughes yn llwytho cerig yn ngweithydd y porthladd newydd, tarawyd ef yn ei ben & chareg a saethwyd o un o'r chwarelau yn agos iddo, a lladdwyd ef yn y fan. Darfu i'w gydweitbwyr ochelyd yr ergyd, ond rhywfodd ni chymerodd y, ( > trengedig sylw o'r arwydd a wneir cyn tanio, ac yri uniongyrchol gwelid ef yn farw. Daeth Dr W Jones i'r lie cyn pen ychydig fynudau ar ol y ddamwain, ond yn rhy ddiweddar i allu gwneyd unrhyw les. Cynaliwyd trengholiad ar y corph ddydd lau, pryd y dygwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." I DEHEUDIR. MORIAH MYNYBD CYNFFIG. CynaHodd y TMfn. v, yddion Calfinaidd eu cyfarfod blynyddol yn y capel uchod dydd Llun a dydd Mawrth y Sulgwyn, lie y cyhoeddwyd casgliadau y flwyddyn, pa rai sydd yn X90, a'r ddyled arosol sydd yn awr yn X280, er clirio pa rai y cynygiodd cyfaill £15, os cydunid i'w llwyr ddileu o fewn i'r flwyddyn hon, a thebyg yw mai cyf. arfod y Jubili fydd y nesaf. Yn ystod y cyfarfod cafwyd pregethau grymus a llewyrchus iawn gan y Parchn. D. Howells, W.Evans, D. Davies, E.Williams, J. James, a D. Roberts.—Un oedd yno. lJAPEL 1-FYNNON, SIR ABERTEIFI. Cynaliodd y Trefnyddion Calfinaidd eu cyfarfod misol yn y lie uchod, Mercher a Iau y lOfed er I Te'l:l Oi-mis hWIl. Am 12 dydd Mercher, cyfarfod pregethwyr a blaen. oriaid am 3 yr un dydd, cyfarfod eglwysig pryd y llefarwyd yn bwrpasol iawn oddiwrth Zecbariah viiii 16. Penderfynwyd fod y cyfarfod misol nesaf i fod yn Tabor ar y 25ain a'r 26ain o'r mis hwn. Am g, pregethodd y Parcbn. Edward Hughes, Aberystwyth, a William Jones, Bont. Dydd Iau, am 8, cyfarfod r r pregethwyr a blaenoriaid yn wahanedig; am 9 cy4- gyfarfyddodd y pregethwyr a'r blaeaoriaid, pryd yr "? ymdrinwyd A gwahanol beth au perthynol Pr achos yn ''r y sir. Am 10, pregethodd y Parchn., Johp Jpnes,. Llanbedr, a David Charles, Caerfyrddin; am 2, preg- ethodd y Parchn. Thomas Lewis, Pennant, a David Charles, Caerfyrddin; am 6, pregethodd y Parchn. Evan Morris, Pennant, a John Jones, Castellnewydd. Cawsom gyfarfod rhagorol, yr hin yn deg^y pregeth- ail yn nerthol, ac arwyddion amlwg fod Duw Israel yno gyda ni, a gobeithiwyf y bydd effeiihiati da yn canlyn ymweliad y cyfarfod misol a'r He hwn, trwy fod fel gwlith i Seion, ac fel cleddyi Hym yn llaw Yspryd Duw i'r annuwiol. Yr ydwyf yn caelfr nheimlad yn bresenol, yh yr olwg ar wedd pethtm yn- y sir hon, i weddio y penill hwnwr" I J. Bywyd y meirw, tyr'd i'n plith," &c. 1 AMtcus. ABJERDAR. tYt Q yr A. ssembly Rooms, nos Lnn a noS Fawrth, Mehefin 15fed a r 16eg, ca^ysom y.pleser ø" wrando dwy ddarlith ddoras, a. thra dhyflawn o "gy- mhorth i chwerthin''gan Geo. Grossmith. Ysw., o'f Middle Temple, ao un 0 Literary Staff y Times. Y laf oedd ddarlith ddigrifol iawn ar Ddarlithio, yn cynwys braslun gwreiddiol o sefydliadau, darlitboedd, darlithwyr, a cbynlhiniatx? adgofion digrifol o'r Esgynlawrg-an arddangos y darlithydd dysgedig, y coegddarlithydd, y darlithiwr ieuanq, .y digrifol, y poblogaidd, celfyddydol, Ysgotaidd, XJwyddelig, XiUl- keeaidd, &e. Gyda rhai adgofion o gymdeithaaaa Llundain a'r Taleithiau, sefydliadau rheilffyrdd, Ac., gan derfynu gyda Noswaith yn Swindon,N,ewy4.d/; Yr 2il ddarlith "Pigion o Pickwick," sef rhan o gyfree ar ysgrifeniadau Charles Dickens, sylw arweiniol ar yr awdwr a'i feirniaid, cj nll lullgw aith 11 y Pickwick Club," ymddangosiad cyntaf cpftyfr Mr. Pickwick,'amgylchiadau hynod yn mvwrd Mr. Alfred' Jingle, Craffder yr awdwr i sylwi ar bethau trog, cyhoedd, dirgelaidd, &c., yr etholiad dros fwrdeiadref Eatanswill, a dychweliad budduoliaethus yr Anrh; Sam. Slunkey, bywgraffiad Sam. Weller, tystiolaeth Sam ar brawf Bardwell v Pickwick, Mr. Pickwick ar garwriaeth, &c., Mr. Weller, hynaf, ei arwireddau a'i adfyfyrion, moesol, cymdeithaspl, ac athronyddol datguddiadau cerbydwr, sylwadal1 beirniadol ar deil- yngdod llenyddol llythyr caru Sam Weller. Yn absenoldeb Rees H. Rbys, Ysw., Llwyncoed House, llywyddid y nos gyntaf gan Mr. John Jones, druggist, &c.; yr ail nos, David Davies, Ysw., meddyg, Bryn Golwg, oedd y Ilywydd. Mae Mr. Grossmith yn sicr yn un o'r darlithwyr mwyaf celfydd, mwyaf cyflawn o arabedd, a mwyaf tarawiadol fel dynwaredwr a glyw- som erioed. Cadwai ei wrandawyr, y rhai nid oedd. ent luosog iawn, mae yn wir, mewn hyfryd hwyl am 2 awr o amser yn agos bob darlith.-G. CYNLLUN ADDYSG.—Yn nosbarth isaf Ceredigion mae cynllun wedi ei ffurfio i anfon 12 o ddyhion ieuainc i gole-g- Normalaidd Abertawe, a chasglu X"I20 i roi iilO i bob un o honynt. 1 hyrwyddo yr ahican traddododd y Parch. J. Williams, Castellnewydd. Emlyn, ei ddarlith gampus ar «' Ddyn yn arglwydd y ""Afllii n'fletb YIl D!hflnp1 c JV; O,"n..J n";+;Q"l cymerwYQ Y gMalr gan Mr. DaVIes, Penmorfa. Dangosodd cor Penmorfa allu mawr yn y geifyddyd o ganu. Talwyd dlOlchgarwch y c,yfarfod i'r dar1iibydcT a r cadeirydd ar gynygaad y Parch. E. Hughes, Aber- ystwyth, a chefnogiad y Parch. D. Williams, Llwyn Dafydd. Cawsom ddarlith ragorol, cynulleidfa fawr, a llawer o arian at yr achos uchod. [Y mae yr amcan uchod yn dra chanmoladwy. Hyderwn y llwydda yr ymdrech a wneir, ac yr efelycbir hi gan leoedd ereill. -GOL ] CYMANFA Y BEDYDDWYR YN ABERYSTWYTH — Cynaliwyd y Gymanfa hon yr wythnos ddiweddaf Nos 1 awrth dechreuodd y Parch. Mr Griffiths, Llanfynydd, a phregethodd y Parchn. J. Williams, Llangendcyrn, J. Morris, Cwmifor, a T. Thomas, D. D., Pontypool. Dydd Mercher, am 6 yn y bore yn y capel gweddiodd y Parch. Nr. Jenkins, Goginau, a phregethodd y Parchedigion Davies, Caio, M. Evans, Llwynhendy, a J. D. Thomas, Felin-foel. Am 10 o flaen y capel gweddiodd y Parch. Mr. Pugh, Aberdyfi, a phregethodd y Parchn. J. Rhys Morgan (Lleu- rwg), Llanelli, D. Thorn as, Pon tfpool (Saesoneg). a D. Evans, Drefnewydd. Am 2 yn yt awyr agored gweddiodd y Parch. H Morgan, Dolgelley, C! a phregethodd y Parchn. W. Lewis, Llanyraddylri, :j W. Hughes, Llanelli, a J. Williams, Aberduar." Am 6 pregethodd y Parchn. H. Morgan, DoTgell- au, T. Evans, Llanidloes, a D. Evans, Drcfnew- ydd. Gan fod y tywydd mor ffafriol yr oedd y cynulicidfaoedd yn dra lluosog, ac yr oedd y pre- gethau yn dra hyawdl ac efieithiol. HWLFFOltDD-Digon cyffrous ydyw yma o hyd. Yr wythnos ddiweddaf eawsom gyfarfod cyhoeddus mawr yn nghylch y Tugel, dyben yr hwn oedd penderfynu anfon deiseb i'r senedd o blaid cynygiad Mr Berkeley am ei basio yn gyfraith. 0 bob cyfarfodydd a wel- som hyd yma yn y dref hon dyma y mwyaf 0 ddigon^ yr oedd y Town Hall yn llawn. Yr oedd tri siarad- wr wedi dyfod iddo dros gymdeithas y Tugel, sef Mr Whitehurst, Llundain, Isgadeirydd y gymeitbas, Mr L T Williams, New York, un o aelodau Senedd Am- erica, (os priodol y gellir galw senedd ar fFurfAm- erica), a Mr Jenking, golygydd y "Swansea Herald," Abertawe. Cafwyd darlithiau campus gan y bon- eddwyr uchod ac eraill ar y mater, a phenderfynwyd fod deiseb i gael ei hanfoa, ac yn bresenol y mae ar gael ei hanfon. Y mae mwy o enwau wrthi nag a fu wrth un ddeiseb a anfonwyd o'r dref bon erioed i'r senedd-yn cyfrif yn agos i wyth gant. Nis gwn beth ydyw yr achos o hyny os nad clwyfau yr ethol- iad sydd heb wellhau; diamheu i lawer y pryd hwnw gael ei argyhoeddi o'r angenrheidrwydd am dano, at' yn awr yn dyfod yn mlaen o'i blaid. Y mae i gael ei anfon drwy yr aelod seneddol dros y dref. 'c: HW-LFFORDD. Nos Fawrth wythnos i'r diweddaf" I penderfynodd y Toriaid gael gwJedd er coffadwriaeth am y fuddugoliaeth ogoneddus (ond amheus) o ddau a gawsant ar y Rhyddfrydwyr aryr etholiad diweddaf, a mawr y swn a gadwasant. Yr oedd yn drugaredd i y lawer o honynt fod Rhyddfrydwyr i'w cael y noswaith hono i arwain rhai o honynt hwy adref, onide nis gwyddys pa peth a ddeuai o honynt, a bu yr bedd- geidwaid hefyd yn drwm iawn wrth rai o honynt trwy eu troi i'r lock up, pan na cbafodd eraill well He i orwedd dros y nos na'r heolydd, a'r rhan fwyaf o'r goreuon yn cnocio yn galed wrth eu gilydd wrth fyned tu--tlu cartrefleoedd. Nis gwn pa fodd yr oedd y tu fewn yn y Market Hall (canys dyna lie yr oedd- ynt), orid clywais fod tua phump neu chwech o blant y gwaed"—yr aristocrats, yn eistedd ar yr un .f rhestr, ac iddynt yn mben ychydig fyned yn nghyd a chanu, ac i bob un o honynt ddechreu gwahanol don. Capita!, onide? A phwy a anturia ddywedyd nad oedd bvny yn bur respectable? Neb, rwy'n siwr; f' canys boneddigion oeddynt o waed uchel. ■ Hivr,FrOltDD.-Nogweitbi fin Merchr a laii traddod- wyd dwy ddarlith gan G Grossmith, Ysw., Middle Temple, Llundain y gyntaf oedd ddarlith ddigrifol, 'T ar Ddarlithio, a mawr oedd y digrifwch a gafwyd wrth ei waith yn dynwared gwahanol ddarlithwyr a'r llall oedd ar Bigion o Pickwick." Y mae pwy bYDag- a ddarlleno y llyfr hwnw yn gwybod rhywbeth am natur y ddarlith. Dyna i gyd yn awr am a wn i ') ABERAMAN, OER ABERDAR. — Cynaliwyd cyfarfod dirwestol yn ngbapo-1 Saron yn y Ile uchod ar nos Fawrth yr o'r mis hwn. Cydunwyd yn unfrydol i'r gadair gael ei chymeryd gan Mr Thomas Williams, siopwr, Heolyfeiiu. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen ponnod o'r Beibl a gweddio. Y cadeirydd yn gyntaf a areithiocld yn gynwyslawr a thra sobr, a chyboeddodd fod y dydd yn dyfod, os nad oedd y tafarnwyr yn credu hyny yn awr, yr eglurid iddynt yn eglur n:ai dirwestwyr yw eu cyfeillion goreu, ac y r- gwaeant eu tymhor am na wrandawsant ar ddirwest- r wyr yn eu dydd fel ag i ymadael a'u masnach bech- ndurus a cbolledig. Galwodd ar y personau a gan- ¡j lyn i anercb y cyfarfod, s?f Mri. David Evans, John Evans, Benjamin Lewis, a LW Lewis (Llew Llwyfo), yr hyn a wnaethant yn dra medrus a dylanwadol, a chafwyd 36 o aelodau ncwyddion dan faner dirwest. Yr oedd cor Heolyfolin yn bresenol a chanasant am. rai ddaruau rhwng y gwahanol areithiau yn ddy- c dorol a medrus iawn. Gofidus adrodd, gwnaeth gwoinidog y 13e ar ddiwedd y cylarfod ryw sylwadau eithaf anmhriodol er gosod plastar, debygai, ar Gvehollion y tafarnwyr ag oeddent wedi eu dryllio gau yr areitbwyr; ond methodd yn ei amcan, oblegid yr oedd teimlad yr holl dori wedi ei wyno yn hoUol gan yr Ilreithiau.-David John.