Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

-ilm11 -J. IAT Y WZ','Tr "I).…

Advertising

NEWYDDION CYMBEIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMBEIG. CYMANFA Y TREFNYDDION CALFINALDD YN Y DREF i HON-—Rhoddasom hanes byr am y gymanfa lion yr wythnos ddiweddaf. Ymgyfarfu yr aelodau bore Llun 'y Salgwyn yn yr Amphitheatre, nc yr oedd yr adeiiad eaug yn odawn. Llywyddai y Parch. H. Pee-, y cymedrolwr. Darllenwyd yr ndroddiadau gan yr ysgriCenydd Mr. S. Jones. Oddiwrtho yr ydym yn casglu y pethau canlyaol:—C^sgliadau cyhoeddus o Mawrth 31, 185G, hyd Ebrill 1, 1857: at y Feibl Mawrth 31, 14s 9?c; yGymdeit.has Geahadol Gymdeithas' £ 3!>3 14s Oic; y Gyn-ideitlias Genhadol Gartrofol £ 220 12s 9|c; tmmor eto X210 2s 11 Jc y drefol eto X75 12s I c; Cymdeithas y Tracthothu Ci-efyddol i669 4s Ole; athrofa y Bala £72 Os 2c Ysgolion Prince Edwin St. = £ 97 17s Je; Ysgolion Sabbothol £31 7s 2tc; y clafdy a'r meddygdai £ 43 :js qq: tlolion yr eglwysi .£2;1:) 19s aic; y Gym. (teitbas I-) "lirwestol X7 7s ble; dyledion yr addoldai k-. £211 6s lie; i'r Francod mewn cyfyogder o lierwydd gorlifiad 12s 9 jc; casgliad chwarterol at yr achcs yn gyffredinol £ 127 0s (ije at y llyfrfeydd £ 23 Os llc. Cyfauswm y casgliadtn cyboeddus i £ l,8P'^l2s C jc. Casgliadau eglwysig am yr un amser, e^#/daeth y weinidogaeth &e., £ 100U, £ « lie; swper yr Arglwydd £06 10s 7c y ^ymdeith- --i(ld X45 13s IOlc; aelodau eglwysig tlodion aer £22 188; cyfanswm 17s Qc 11 gasgliadau eglwysig a c tc. 'RMfedi y oyunwyr yw ? '?  ymgeisw) am aelcdaeth eglwysig 103; ier «ctyaj yn dyfod i'r cyfar??fH eglwysig heb eu d. "y? yn aelodau 7yflawo, 92; 1 m;t yr eglwyh byniwyd i'r eglwys 61; aelodau pe?y dderbyniw?? i'r eglwysi 88; gwrthgiInT dychw^l'd' X\) j plant a fedvddiwyd 88; e dde?y?wydigymundeb 65; aelodau a fuobt 1 geia ddiarddelwyd, 20; deiliaid yr ysgolion bothol 2,432; heblaw y cyfrif hwn yr oedd dan o'r capeli heb anfon eu cyfrifon, y rhai a dybir sydd yn cynwys o 380 i 400 o ysgolorion. Cynygiodd y Parch. R. Humphreys, Dyffryn, ar fod i'r adroddiad gael ei fabwysiadu. Anorchwyd y cyfarfod wedi hyny ar y mater—Gogoniant yr eglwys yn mha beth y mae yn gynwysedig ai mewn rbifedi, cyfoeth a gwybodaeth ei haelodau ? Symiwyd y pwnc i fyny ganddynt oil trwy gadarnhau fod ei gogoniant yn gynwysedig yn santeiddrwydd ei haelodau. Fel or- ferol yr oedd Iluaws mawr o aolodau yr en wad o Ogledd a Deheudir Cymru, y rhai a gymerasant y cyfleusdra hwn i ymweJed a'u cyfeillion yn Liver- pool. Cynaliwyd cyfarfodydd terfynol y gymanfa nos Lun y Sulwyn, pan y pregethwyd yn y gwahanol gapeli, ac y gwnaed casgliadau at drysorfeydd yr en wad. GOGLEDD. RHO STRYFAN.-Traddodwvd darlith yn y lIe hwn nos Wener Mai 29ain, gan y Parch. Owen Jones, Manchester, ar ran Cyngrair y Deyrnas Gyfunol er rhoi atalfa trwy gyfraith ar y fasnach feddwol." Caw- som ddarlith rymus a chynwysfawr. Rhoddai y dar- lithydd fras hanes am yr ysgogiad o'r dechreuad yn Nhalaeth Maine, trwy lafur ac ymdrech Mr. Neal Dow, o ddinas Portland, yn y Dalaeth hono, a'r effeithiau daionus a ddilynodd y gyfraith yno, yn nghyda'r gwrthwynebiadau a'r rhwystrau a gyfarfu cyfeillion vr achos yno. Dywedai i hen foneddwr parchus a duwiol ger Manchester dderbyn newydd- iadur yn cynwys hanes effeithiau daionus y gyfraith yn Nhalaeth Maine. Cynhyrfodl hyny ei feddwl gyda'r amcan o gael yr un peth i weithrediad yn y wlad hon, a'r canlyniad fu sefydlu y cyngrair. Nid oes hanes, meddai, am un symudiad wedi llwyddo cymaint mewn amser mor fyr. Pedair blynedd yn ol nid oedd nifer aelodau y cyngrair yn fwy na 120, tra maent yn awr o 70,000 i 75,000. Calonogir cyf- eillion y symndiad" gan y seiliau cedyrn i ddisgwyl llwyddiant a ddilyna ymddangosiad traethawd budd- ugol Dr. Lees; y fath alwad oedd, ac y sydd, am dano-tri argraffiad wedi ymddangos eisioes. Nodai luaws o enwau urddasol oedd wedi derbyn y llyfr ryw fodd neu gilydd, ac wedi ei ddarllen yn ystyriol, megys Due Argyll, Iarll Clarendon, Bliss Nightingale, a'i Mawrhydi y Frenhines, &e. Nid oeddid yn edr- ych ar Lyn yu beth dibwys. Ystyrid et yn rhan bwysig o'r gwaith mawr y mae cyfeillion yr ysgogiad yn ei gylch yr adeg bresenol, sef addfedu meddyliau y llywodraethwyr a'r deiliaid i fabwysiadu a derbyn y gyfraith. Egwyddor y cyngrair ydyw, nad yw ddoeth, ac nad yw gyfiawn i'r llywodraetli noddi unrhyw fasnach fyddo yn niweidio moesau, gwastraffu medd. iapau, anmhara iechyd, a dinystrio bywydau y deil- iaid. Y mae y fasnach fcddwol yn niweidiol i foesau y genedl. Nodni y troseddwyr mwyaf ysgeler ac anfad fel engreifftiau o hyn,megys Palmer,ac ereill, y rhai yr oedd yn rhaid iddynt gael cymorth y diodydd meddwol i galedu hyd yn nod eu calonau haiarnaidd hwy i gyllawui eu troseddau echryslon. Dywedai fod y fasnach feddwol yn gwastraffu meddianau trwy luaws o ilyrdd; trwy achosi i weithwyr golli eu gwaith, &e. Cyfrifir fod y fasnach yn costio i'r wlad hon, a chymeryd pob peth i'r cyfrif, X203,000,000 yn y flwyddyn. Dinystrir defnydd ymbgrth i wneyd yr hyn a elwir diod, ond diod sydd yn troi yn jitlinystr i iechyd a bywydau miloedd. Desgrifiai lane o Gymro yn dyfod i Fanchester, yn iach a heinif, ond yn mlien yebydig amser yn syrthio i'r bedd yn anamserol, yn aberth i ddylanwad niweidiol y ddiod y proflesa rhai fod y fath rinweddau ynddi. Nid unwaith na dwy- waith y galwyd ef yn ystod y 13 blynedd er pan y mae yn Manchester at welyau y cyfryw rai yn ea cyfyngder olaf, i ddarllen y Beibl a gweddio gyda hwy. Y mae y iasnach feddwol yn difa swm mawr o gapital y deyrnas. Sylwai ar y fantais a ddeilliai o roi yr arian a werir ar y fasnach ar ryw fasnach arall Effeithia y fasnach hefyd ar grefydd y wlad. Cy- mharai Ogledd a Deheudir Cymru a Cornwall o ran manteision crefyddol, ac o ran cylieusderau y fasnach feddwol, y mae Cornwall yn rhagori o ran anamledd y tafarnau-Cymru 1 dafriii i 11)0 o'r boblogaeth, Cornwall 1 dafarn i 300 o'r bohlogaeth. Y canlyniad ydyw fod y troseddau yn Nghymru yn 4 am bob 3 yn N-liornwall, yn ol cyfau ledd y boblogaeth. Rhoddwyd pleidlais o gymer<lwvaeth i'r Cyngrair ar dditvedd y ddarlith, ac ymrestiodd dros 12u yn aelodau. FFLINT.—Nos Lun, Mehefin laf, traddodwyd dar- lith ar "Ieuan Gwynedd," amddiffynwr cymeriad merched Cvmrn, yn y Town Hall yn y lie hwn, gan y Parch. T. Roberts, gwenidog yr Annibynwyr yn New Market; yr elw oddiwrth y cyfarfod at dalu dyled capel yr Annibynwyr vn Fflint. Llywyddwyd y eyfarfod gan Mr. Eli Willi^ns. Penododd y cyf- eilhon ar amser pitr. anfantsisiol; nid llawer oedd yn bresenol. LLKNRWST, TnEirRm, B LITT ij.lED, CAPEL CURIG, A Jlyu rhlol yr Undeb Dir. toestoZ.-I IE ys gryn ysbaid o tunser yn ol yr oedd dirwest wedi myned yn dra isel ri pilen mewn rhai o'r ardaloedd uchod, ac annghyaiedroMeb fel cad- farch ffromwyllt yn mathru dan ei garnau luaws mawr o ieuenctyd talent >g ein cymydogaethau, yn nghyda phob dosbarth o ddvnion yn ddiwahaniaeth ac wrth weled y galanasdra ofnadwy hwn yn cael ei gyflawm "yn ngwyneb haul a llvgad goleuni," ar- wyddodd rhai o garedigion dyngarweh a chrefydd yn yr ardaloedd uchod, ddymutiiad angerddo' am gael allan ryw foddion i ddyrchafu pen dirwest, ac i arafu rbwysg annghymedroldeb. Yn ganlynol cyfarfu nifer o'r cyfryw mewn pwyllgor i n Bettwsycoed, i ys- tyried y cynllun goreu i ddwyn yr amean i ben. Ac yno penderfynasant ar fod i'r ardaloedd uchod ym: ifurfio yn Undeb Dirwestol, a bod yr undeI) hwnw i amlygu cyd weithrediad grymus a phenderfynol mewn trefn i gael Cymanfa Ddirwestol bob blwyddyn ar gylch trwy holl ardaloedd yr undeb, a bod y pwyllgor i ofalu am gael areithwyr teilwng i ddwyn y gymanfa yn mlaen yn effdithiol a llwyddianus. Yn ganlynol, ar ddymuniad dirwestwyr Dolyddelen, pen- derfynwyd bod y gymanfa gyntaf i gael ei chvnal yn y lie hwnw ar ddydd Llun y Sulgwyn. Dygwyd y penderfyniad i weithrediad, ac yn awr y mae genym i roddi hanes y gymanfa. Am 8 o'r gloch boreu Llun y Sulwyn, cyfarfu cynrychielwyr cymdeithasau dir westol gwahanol ardaloedd yr undeb i drefnu gweith. rediadau y dydd, yn nghyda rhai achesion craill. Am 10 dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio, ac ar- eithiodd y Parchedigion John Owen, Pentir, a Rich- ard Jones, Manchester, y naill ar ddirwest a'r llall ar y Maine Law. Am 2 aroithiodd y Parchedigion Robert Roberts, Llanrwst, a W. Roberts, Penybont- fawr, y ddau ar ddirwest. Am 0 pregethodd y Parch- edigion R. Roberts, Llanrwst, a li. Jones, Manchester. Catwyd gwasanaeth cor rhagorol Bettwsycoed dan arweiniad y conductor campus," (fel y dywedai Mr. Jones, Manchester), sef Mr. Thomas Williams, Munau, yn yr boll gyfarfodydd, y rhai a amlygasant raddau helaeth iawn o fedrusrwydd vn y gelfyddyd o gerddoriaath (Mr. Jonts eto). Y nefoedd a baro fod effeithiau daionus yn dilyn yr areithiau grymus a draddodwyd, y beroriaeth swynol a ddatganwvd, a'r gweddiau taerion a olfrymwyd ar ran dirwest a chre fydd yn y gymanfa ardderchog bon.-Robert Owen, Ysgrifenydd y Gymanfa.—O.Y.—Ni buasem yn ys grifenu adroddiad mor faith am y gweithrediadau blaenorol i r gymanfa, pe na buasem am awgrymu y cynllun i eraill o gyfeillion dirwest. RIIUABON.— n Park Street, Rhuabon, preswylir un o'r ,tai gan Mr. W. Dawson yn ddiweddar aeth e £ a i briod oddicartref i ymweled a rhai o'u cyfeill- ion, gan gloi y drws a gadael agoriad y drws blaenaf gyda'i fit, Mrs. Morris, y Talbot Inn. Tua chano! dydd dranooth gwelwyd mwg gan rai o'r cvmydogion YI) allan o un o'r siinneiau. Yn gwybod fod tculu Dawson oddicartref er y dydd o'r blaen. hvs- bysasant Mrs. Morris o'r amgylchiad. Aeth t itlian yn ddioed i gael gwybod yr achos,.pan, er ei syndof mawr wedi iddi fynod i mewn i un o'r ystafelloedd, y gwelai eneth ieuanc o'r pentref, oddcutu 13 mlwy Id oed, yn y weithred o barotoi ciniaw sylweddol iddi ei hunan, yn y dull goraf, wedi gosod v I IA-aji, Arc., mewn trefn dda; yr oedd o'r blaen wedi chwilio y ty, dvfod o hyd i ham, l'r hon y torai yn rhwvdd, potel o win, ilestnaid c ffrwythau cyffeithiedig (preserves), &o. Wedi gwneuthur vmholiad siorhawyd lod y liadrones leuanc y prydnawn o'r blapn wedi myned i'r ty trwy un o'r ffenestri cefn, ac wedi cyfranogi o swper yn galonog, gorweddodd i lawr yn gysurus yn ngwely Mr. a Mrs. Dawson drwy y nos, ac iddi yn y boreu gymeryd boreufwyd helaeth, gan ares yn y tv a chwil io a gwjedda hyd un o'r gloch ddydd Mercher, pan y rhoddwyd hi yn nghadwraeth yr heddgeidwad Stant, yr hwn yn ddioed clodd i fyny yn ngharohar y pretref. DINAS MAWDDWy.-CynahQ'd frair yn y lie uchod fel arferol ar yr nil ddydd o'r mis hwn. Geilir dweyd fod yr anifeiliaid corniog a thuedd i ddyfod i lawr fwy nag i'r ochr arall. Y ceffylau yn gwerthu yn uchel. Nid oedd yma fawr o honynt mewn cydmnr iaeth i'r Eifer a welsom yma. Hef3d un peth a dynodd ein sylw penaf oedd. gweled tri o heddgeid- waid yn y Dinas, ac o gaulyniad bu yma heddwch da. Un peth arall a dynodd ein sylw oedd, gweled y | Ün pcth arall 1\ dyDOdd cin ,;ylw oedd, gwelcd y) merched a'r meibion ieuainc yn ei swagro yn bur ddiseremoni i'r tai, Heyr oed lent, yn mynod dim end gofyn, a IIawer heb hyny. <T:tsyn en bod yr "n fath vn myned mor ddigvwylidd ar y ffeiriau; cich henwi ivi),gf y tro nosaf.-Uit O.dd yno. ESGOB LI>AXELWV.—Dydd Gwener wythnos i'r di- weddaf, cyilwynodd yr Anrh. T. E. M. Ll. Mostyn ddeiseb yn Nhy y Cyffredin oddiwrth drigolion y Wyddgrug, yn cwyno oherwydd analluogrwydd esgob presenol Llanelwy i siarad y Gymracg, ac yn erfyn fir i'w arglwyddiaeth gael ei symud o'r esgobaeth hono. Y DREFNEWYDD.—7 "Dial.Dydd Mawrth yr2il o'r mis hwn, ymwelodd y Parch. D. Thomas, golyg- ydd yr Homilist, a'r lie hwn, ac esboniodd natur a dybenion Cynghrair y Newvddiadur Cenedlaethol (Terfynol)," yn y Mechanic's Instittue. Liywyddodd y Parch. D. Evans, gweinidog y Bodyddwyr. Ar ddiwedd y cyfarfod jynygiodd y Parch. C. H. Derby, a chefnogodd Mr. R. Griffith, "Fod y cyfarfod hwn wedi elywed esboniad ar egwyddorion ac amcanion Cyngbrair y Newyddiadur Cenedlaethol (Terfynol), jrfl calonog gvmeradwyo yr unrhyw, ac yn ei rwymo ei hnT' lw gynorthwyo hyd eitbaf ei allu." Cariwyd y pendetfyoiad vn frwdfrydig. Deallwn fod oddeutu nysgrifio yn barod yn y dref hon, ac "dde itn ugai. ymrestru fel cyfran-ddalwyr.  ylir i er<'? jMl ?u cofrestru. MBitJONYDD.—Cynaliodd yr Annibynwyr f He hwn e' ov?r?d biynyddol ddydd Mercher ) ?.ddaf. N.)s F -rth, traddododd y Parch. J. ?Ml<, Ca! .elloowydd Emiyn, ddarlith ar Ddyn, Jk j greadigaeth." Dydd Mercher am 10, 6, traddodwyd pregethau gan y Parchn. T. ate, Llanfair-clydogau, J. Williams, Castell. rtrydd-Emlyn, a D. Evans, Penarth. Yr oedd y Oregethu yn nodedig o effeithiol, a'r cynulleidfaoedd ja astud a difrifol. Terfynwydy gwasanaeth hwyrol .yn gynar, er mwyn i'r rhai a ddaethent o bell allu cyrhaedd eu cartrefleoedd yn gynar; y mae hyn yn dra theilwng o efelychiad y rhai a reolant bob cyf- arfod o'r fath, gan fod anfanteision a drygau yn deilliaw o gyfarfodydd a derfynant yn hwyr iawn. TOWYN.—Lhoynog yn y mor.—Ychydig amser yn ol fel yr oedd un o afon-fadau Aberdyfi yn myned i'r Dderwen Las, canfyddai cadben bad bychan rywbeth anarferol yn nofio yn y dwfr. Yn mhen ychydig amser darganfyddodd mai llwynog ydoedd. Rhodd- odd y eweh bach i lawr a rhwyfodd am dano, ac wedi erlyn am beth amser daliodd Reynard druan, a Hadd- odd ef. Tybir ei fod wedi ei yru yn galed ar ochr swydd Ceredigion i'r afon, ac aeth i'r dwfr, gan dyb- ied fod pobl sir Feirionydd yn fwy caredig. Y mae er ben wedi ei hoelio i fyny yn agos i Gogarth, rhwng Aberdyfi a Machynlletb. CAERGYBI.—Llun Sulgwyn.—Cedwid y dydd hwn yn wyl gyffredinol drwy y dref a'r gymydogaeth. Cynaliodd yr Odyddion eu cylchwyl flynyddol yma fel arferol. Yn y boreu ymgynullcdd aelodau y gyf. rinfr. yn y farchnad ngwydd, ac aethant mewn gor- ymdaith i eglwys St. Seiriol, yn mhale y traddodwyd pregeth ar yr achlysur gan y Parch. C. Williams. Ar ol y gwasanaeth aethant drachefn mewn gorymdaith drwy brif heolydd y dref, yn cael eu blaenori gan seindorf; a chiniawodd C3 o'r brodyr yn ystafell y farchnad. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Charles Williams aelod mygelawl o'rgyfrinfa, gwasanaethodd yr uwch lywydd T. Bugbird fel is-gadeirydd. Tra- ddodwyd amryw areithiau dyddorol ar ddefnyddiol- deb a llwyddiant y gymdeithas, a threuliwyd y dydd mewn Uawenydd a difyrweh.-Hefyd ymgynullodd aelodau Cymdeithas Gyfeillgar Caergybi i gynal eu cylchwyl flynyddol; ac ar ol bod mewn addoliad dwyfol yn eglwys y plwyf ciniawasant yn y farebnadfa. Yr oedd tua 150 yn bresenol, ac aethant yn orymdaith hardd trwy y dref gyda banerau a seindorf o'u blaen. -Cynaliodd y Rechabiaid eu gwyl flynyddol yn y George Temperance Hotel, ac eisteddodd tua 150 o'r aelodau wrth giniaw rhagorol, a ddarparwyd iddynt gan Mr. John Thomas. Ffurfiasant hwythau orymdaith harddwych trwy y prif heolydd, yn cael eu harwain gan seindorf perthynol iddynt eu hunain, y rhai a berorent alawon swynol a phriodol, er mawr ddifyrwch a llawenydd i drigolion y di-ef.-Da genym hysbysu fod sefyllfa arianol y gwahanol gym- deithasau hyn yn llwyddianus, a'r aelodau ar gynydd. Yr ydoedd eu hymddygiad gweddai Id a mojsol yn ystod y dydd yn teilyngu pob canmoliaeth; ac er fod y dref yn orl nwn o bobl, yr ydoedd tawelwch a gweddeidd-dra yn brif nodweddiadau yr wyl. CAERGYBI.—Mae lie cryf i ddisgwyl y bydd i'r Parch. C. II. Spurgeon dalu ymweliad a'r dref hon ya ystod yr hat' ar ei ffordd drwodd i'r Iwerddon, pryd y rhoddir cyfleu^'r trigolion i gael clywed' hy- awdledd y pregethwr poblogaidd hwn. Deallwn fod ymdrechion Mr. Lewis, London House, i'w gael yma wedi llwyddo. CAERGYBI.—Arwerthwyd gweddillion y Hong Sea King a ddrylliwyd ar greigiau Rhosneigyr ychydig amser yn ol, ddydd Mawrth a dydd Mercher diwedd. af. Fel arferol, y prif brynwyr oeddynt y deugain a welir bob amser yn gor-faelu mewn llongddrylliad- au, ac yspail glanau y mor. BODEDEYRN.—Dydd Mawrth y Sulgwyn- eynaliwvd ffair gyflogi yn y pentref hwn, a drwg genym hysbysu ddarfod i ddau o fechgyn gael eu hanafu yn dost trwy gael eu cicio gan geffyl. Bu un o honynt yn hollol ddideimlad am amser maith, ac oni buasai i Doctor Price o Gaergybi fod yn bresenol i roddi meddygin- iaeth uniongyrchol iddo gallasai, yn ol pob tebygol. rwydd, i'r amgylchiad fod yn angeuol. Nid oes dim mwy afrosymol na goddef i'r meirch gael eu gwylltio ar hyd ein heolydd mewn dull aflywodraethus yn ein ffeiriau a'n marchnadoedd yn mysg canoedd o bob!. Oni ddylai ein heddgeidwaid edrych ar ol pethau fel hyn ? WYDDGRUG.—Nos Iau diweddaf, yn ystafell y Market Hall, cafodd trigolion y dref hon eu difyru a'u haddysgu yn hanesiaeth yr Israel aid, yn eu taith o'r Aipbt i Ganaan, gan y Parch. H. W. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, capel Stanhope-street, Liverpool. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Thos. Jones, (Glan Alun). Eglurwyd y daith yn fanwl gyda mapiau, diagrams, &c., y rhai a dynwyd gan law gywrain a chelfydd y darlithiwr talcntog. Ni ddylai neb sy'n hoffi hanesiaeth Ys-grythyrol fod heb glywed Mr. Hughes, a gweled y mapiau, &c. CAERNARFON.—Ymddeugys i ryw leidr neu ladrcn dori i fasnachdy Mr. Toleman, oriorydd, Heol y Llyn, a lladrata oddeutu ugain o oriorau, y rhai oeddynt eiddo gwahanol bersonau, nos Fawrth neu boreu ddydd Mercher diweddaf. Cymerwyd i fynu ddau neu dri o bersonau ar amheuaeth. Y DIAL" YN Y BAEA.—Nos Wener diweddaf ymwelwyd a'r dref hon gan y Parch. D. Thomas, Stockwell, i'r dyben o osod y cynllnn er sefydlu papur newydd cenedlaethol ar egwyddorion cyfiawn- der a chrefydd. Cymerwyd y gadair gan y Parch. L. Edwards, D.D. Gwnaed rhai sylwadau gan y cadeir- ydd ar ddiffygion y wasg Saesoneg, a dymunoldeb cynlluri o'r fath ag oedd yn cael ei osod ger eu bron er ei diwygio. Yna galwodd ar y Parch. D. Thomas i egluro y mater, yr hyn a wnaeth i'n tyb yn hynod effeithiol. Geilir gweled y prif faterion yn y cyn- gynllun (prospectus) a anfonwyd allan gan y cyngrair yr hwn a ellir ei gael os ydym yn deall yn iawn o'ch swyddfa chwi Mr. Gol. Gwnaed rhai sylwadau gan Mr. Minshall, Croesoswallt, ac areithiodd Mr. Simon Jones, yn ol ei hyawdledd arferol. Ac yn olaf galwyd ar y Parch. J. Parry; cymerodd Mr. Parry olwg arno fel yr oedd yn debygol o fod yn foddion i ddwyn Prydain, ac felly y byd, i gydnabod egwyddorion mawriou sydd yn llywodraethu ein byd ni yn hytrach na thalu yr holl sylw i ryw fan bythcuach nad ydynt ynddynt eu hunain o nemawr bwys. Yna mabw}siadwyd penderfyniad o gymeradwyaeth i'r cynllun yr hwn a gariwyd yn unfrydol, a chymerwyd tuag ugain o gyfranau (shares) yn yr antur- netb. Mae y lfaitb o fod prif ddynion Cymru yn wresog iawn dros y cynllun Ïn tyb ni yn ddigon o sicrwydd dros i bawb all fod yn edrych ar y lath an. turiaeth erfawr gyda graddau o amheuaeth ail ystyried. Nis gall dim ar ei gychwyniad ymddangos yn fwy gobeithiol, ac hyderwn y bydd i'r Cymry yn y gogledd, fel y mae ein cenedl yn y de, ymgymeryd a'r cynllun ar unwtutli, ac a gawn ni Mr. Gol., genych chwi drwy gyfrwng yr Amscrau roddi pob gwybodaeth sydd yn gyrhaeddadwy i chwi yn eu gylch.-Goii. BALA.—Dydd Mercher diweddaf cynaliodd Rechab- iaid y Dala eu gwyl flynyddol. Ymgynullodd y raeibion a'r merched am haner awr wedi tri i ysgoldy y Methodistiaid i gydtwynb ui y cwpan sydd yn lloni ond nid yn meddwi. Ar ol te caed cyfarfodi areithio galwyd ar Mr. J. Price i'r gadair. Wedi darl]en ad- roddiadnu clwb y meibion a'r merched, anerchwyd y cyfarfod gan Mr. G. Jones, a'r Parch. Stephen Lewis. Soniodd Mr. Lewis lawer am ynfydrwydd plant dyn- ion gyda'r diodydd meddwol, ac nad oes eisiau ond i ae nad oes eisiau ond i ddyn roddi ei synwyr ar waith na welai v peth ar unwaith. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Simon Jones, y Parch. J. Parry, a'r Parch. Dr. L Edwards, Canwyd umryw donau, ac ymadawodd pawb yn barod i dystio mai un o'r cyfarfodydd goreu a gaed erioed ydoedd, ac y luao yn ddiamheu y bydd pryder mawr am fwynbau cyfarfod cyffelyb yn fuan eto.-GoR. BETHESDA, GER BANSOR.—Dydd Sadwrn, v 6ed cylisol, cymerodd damwain hynod o'r disvmwth le yn ehwarel Cae Bnich Cafn Fel yr oedd Mr. William Thomas Rowlands, Bethesda, (Nantygraen gynt) yn j cysgu mown cwt tuag 8 Ineii 9 yn y boreu, cafodd ei gymeryd gan tht, a bu farw o honi yn y fan. Ei oed oedd 46. Yr oedd yn aelod parchus gyda'r T. C. yn Jerusalem, pg yn nelod J n'y gymdeithas ganu ers rha-ror nng u-uin inlvnedd. Ychydig yn ol bu farw ei fab Daniel yn 22 oed. Yr oedd yntsu yn aelod parchus iawn yn y ddwy gymdeithas uchod, ac yr oedd yn un o'r c mtorion goreu yn y fro hoa. I)y- munwn i'r Cyfaill o'r Hen Wlad » a'r Drych a'r Gwyliedydd" godi yr hanesyn yma, ar y cyfrif fol auivyw o frodyr a chwiorydd, yn nghyda lluaws o'u perthynasau yu yr America. Yr oedd Mr. W. Tnomas yn frawd i Mr. Daniel Thomas, pregethwr gyda'r Trefnvddion Calfinaiddyn Wi?consin.—Gohebydd. BRYNDU, MON.—Cynaliodd Dirwestwyr Bfj-nrlu a Pengarnisiog eu Gwyi Ddirwestol Meheiln 1. Siar- adodd ac areithiodd y brodyr canlynol, v Parchn. R. Roberts ( U); R. Hughes (A); E. Hughes, Dinas. Am G, yn Bryndu, Mri. Thos. Owen, Hebron; O'ven Edwards, Soar; y Parchn. E. Hughes, (M), Dinas R. Hughes (A), Gwalchmai; ac R. Rotrerts(B), Bodedeyrn. Cymedrolwvd y cyfarfod gan y Parch. T. Rowlands, Pengarniaiog, gyda medrusrwydd a dehem wydd angbyffredin. i'yst'.a pawb o'r gwydd- fodolion fod Duw yn ddiau yn lie. Yr oedd rhy wbeth anarferol yn y gweddio; yr oedd addoli yn y canu, a! addoli yn y gwrando. Gwnaeth y cyfarfod ei ol ar ein ermydo.iA.eth; pob noswaith wyl ffaenorol byddai y dafarn gyfagos yn llawn o bolilieuanc ein cymydoj- aeth, yn p 'ehu Pe yfed ya ddifraw, heb feddwl am y byd a dda v. Ni welwyd and un baehgen y noswaith I hono yn feddw, a choelio yr ydym na buasai y gwi bach hwnw ddim wedi daroaiwng ei hun y waith hon oni bai focl y cwrw weai ei ostwn,, gn ei fdstres i geiniog yr lianer peint. Yr oedd gan ]u? s o fec?pyn ieuainc ora?ll geiuiog, o';? dyma yr unig fachgen a'u rlioeS am derm.—llhen Ffarm tor. DEHECDIR. GWTEEFAWR.—Agorwyd addoldy newydd yr Anni- bynwyr yn y lie hwn ar y 30ain a'r 31ain o Fai di. weddaf, sef nos Sadwrn a dydd Sul y Sulgwyn. Nos Sadwrn yn agos i 7 o'r gloch. dechreuwyd gan y Parch. T. Davies, Llandilo, trwy ddarllen, canu mawl, a gweddio, yna pregethwyd an y Parch. D. Wil- liams, Troedrhiwdalar. Dranoeth am 9 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch. T. Davies, Llandilo, a phregethodd y Parchn. J. Evans, Capel Sion, a D. Rees, Llanelli; y prydnawn am 2 o'r gloch, dechreu- wyd gan y Parch. E. Lewis, Carm el, a phregethodd y Parchn. T. Davies, Llandilo, a D. Williams, Troed- rhiwdalar am 6, dechreuwyd gan y Parch. T. Davies, Llandilo, a phregethodd y Parchn. J. Evans, Capel- Seion, a D. Rees, Llanelli, a David Williams, Troed- rhiwdalar. Cawsom yr hin yn hyfryd, a phob peth wrth ein bodd, a phob arwyddion fod Arglwydd y gweision allan gyda'i weision o'r dechreu i'r diwedd. Ysbryd yr Arglwydd fyddo yn aros yn y lie byth ac yn dragywydd, a chariad a brawdgarwch fyddo yn ffynu yn y lie tri, parhao careg ar gareg o'r capel newydd hardd a chyfleus yma yw fy nymuniad i a'r holl eglwys yma.—J. J. P. GORPHWYLLDY I DDEHEUDT.R ClnfRL-Y mae y swm o £30,000 i gael ei dreulio i adeiladu nawdd-dy i orphwylliaid siroedd Caerfvrddin, Aberteifi, a Phen- fro, yr hwn sydd i gael ei adeiladu yn ddioed yn nghymydogaeth Caerfyrddin. Y mae chwech a deu- gain o erwau o dir wedi eu prynu yn gyfagos i'r gof- golofn a gyfodwyd i'r Cadfridog Picton, a dywedir ei fod yn sefylla iachns i'r adeilad bwriadedig, yr hwn a fwriedir i gynwys 216 o orphwylliaid. ABERDAR.—Nos Fawrth, Mehefin yr 2il, yn yr Assembly Rooms, cafwyd cyngherdd gan Llew LIwyfo a Miss Wynne, yn cael eu cynorthwyo gan y Cor Dirwestol, a'r pianist celfydd, Mr. Baker, Castell- nedd. Cynaliwyd y cyfarfod fel y canlyn :-1. An- erchiad byr gan Llew Llwyfo, sef adroddiad darnau barddonol o amryw fathau, good, bad, and indiffer- ent," ys dywedid yn yr ysgol 's llawer dydd. 2. Mr. Baker yn chwareu "Llwynon" gyda variations, yn splendid meddai nhw, ylads cerddorol oedd yno. 3. Smiling Faces," gan Miss Wynne. 4. I've wan- dered in dreams." Deuawd gan Llew Llwyfo a Miss Wynne. 5. "Galatea, dry thy tears." Chorus, gan y cor dirwestol. 6. 0 dyro i mi, aderyn mwyn," gan y Llew. 7. "Where have you been, sweet sister Fay ?" Deuawd gan y Llew a Miss Wynne. 8. "The Chip Girl," gan Miss Wynne. 9. See the chariot at Hand." Glee, gan y cor dirwestol. 10. Speed on, speed on, my gallant Bark," gan y Liew. Deng mynud o orphwys. 11. "Britannia, regardless of traitors and foes," gan Llew Llwyfo. 12. I'm a merry laughing girl," gan Miss Wynne. 1.3. "ABC", Comic Duett, John Parry, gan y Llew a Miss Wynne. 14. Araeth 'sposo, ar Beirdd y Talcen Slip," sef ad- rodd strabwns rhyw bethau gwirion hyd y wlad yma, yn tybio eu bod hwy, druain, yn feirdd. 15." What shall we sing?" Catch, gan dri o fechgyn y cor. 16. "Jenny Jones," (in Welsh Costume), gan Miss Wynne. 17. Nos Sadwrn y gweithiwr," (Cawrdaf), gan y Llew. IS. Clychau Aberdyfi," gan Miss Wynne-eto yn ei gwisg Gymreig. 19. "Oh! tell me, gentle stranger." Deuawd gan y Llew a Miss Wynne. 20. Come, if you dare." Solo a chorus, gan y cor dirwestol, Mr. David Rosser yn canu y solo. Terfynwyd drwy fod pawb yn ymuno i ganu yr Anthem Genedlaethol. Os yw bod peth yn cael galw am dano eilwaith yn profi boddhad, sicr yw fod y cwbl a genid yma yn boddhau, o leiaf y cwbl o'r canu, oblegyd gorfodwyd ail ganu pob peth yn mron; ac fe aeth dwy awr dan fy nhrwyn i i rywle. Yr oedd Tomos y crydd yn dweyd fod Miss Wynne yn ei Gwisg Gymreig a'i chwrtsi bach byr, snug, yr un fath a Neli Jack Dafydd yn union. Yr unig beth a'm blinai i yn y cwrdd hwn oedd, fod nifer o bethau dwl ar yr oriel yn cadw swn a nadau, a chwibanu, nes fy mod yn teimlo dros fy nghenedl. Paham uad ellir cael llonydd mewn lie fel hyn i fwynhau ? Talu am y concert yr oeddwn i, a llawer heblaw fl, ie, pawb ond rhyw haner dwsin o benbvliaid, ac nid am 101 y rheiny. Gobeithio y cawn ni waredigaeth o'r giwed hyn o'n cyrddau, os na wnant hwy ddysgu gwell moesau.-Neb. ABERYSTWYTH. Yn ddiweddar daeth y newydd galarus i'r dref hon fod Mr. James Williai-ns, mab Mrs. Williams, Bridge street, wedi marw ar fwrdd y Ilong John and Edward, yn rhwym o Bordeaux i Liverpool. Ymddengys iddynt daro wrth long Ffrengig, i uu o'r swyddogion roi cyfarcbiad, yr hwn ni ddeallwyd. Daeth pelen gan ehwibanu ar fwrdd y Ilong. Daeth ail ergyd a thrydydd, ac wele James Williams, druan, yn syrthio i lawr yn farw. Y mae yr aelod anrhydeddus dros Geredigion, Cadben Pryse, wedi cymeryd y mater dan ei ystyriattb, a bydd i'r amgylchiad yn ol pob tebygolrwydd gael chwilio ddo. MERTHYR TYDFIL.-Gwyliau'r Sulgwyn. — Bydd Llun y Sulgwyn bob amser yn rhyw hanner gwyl yma; ond eleni cymerwyd efyn gyfan gan luaws. Ni agorwyd y siopau oddigerth ganddau o'r Drapers, pa rai a nacant gydsynio i beidio agor, pa bryd bynag y gofynir hyny ganddynt, er budd eu maelweinwyr. Aeth llawer tua Chrumlin, yn agos i Bontypool er gweled y bont auferth yr a y rheilffordd drosti yno. Ymddifyrai y rhai a arosasant gartref eu hunain mewn cydrodiana hyd y meusydd hyfryd cylchynol, ac yroweled a. Tea Party yr Annibyawyr Seisnig, lie y llonid hwy, yn nghvsylltiad a'r danteithion i'r corff, gan ddifyrion peroriaethol. Yn yr hwyr ym- welodd amrai ganoedd a'r Neuadd Ddirwestol, i wrando darlitil ddyddorol a draddodid gan Mr. L. W. Lewis (Llew Llwyfo), ar Fucbedd ac Athrylith Alun." Y diffyg a deimlem ni ynddi oedd, v rlioddid yr egluriadau allan o weithian y Bardd, mewn rhan drwy gyfrwng cystadleuaeth ddatganol ao adroddiad. ol, yn hytrach na ganddo ef ei hun, yr hyn, debygid, fuasai yn fwyaf effeithiol. Nos Fercher, eilwaith, cynelid cyngherdd yn yr un lie gan Llew Llwyfo a Miss Wynn, Treffynon, yn gynorthwyedig gan Mri. P. Davies, D. Davies, J. Jones, i, Ilrs. Davies, yn nghyd a'r brass band dirwestol. Nid oedd y cynull iad yn lluosog iawn, ond yr oedd yn un barchus, ac ymddaugosai, wrth yr adalwadau am yr un pethau, y boddlonid pawb ynddynt.

YR AGERDDLONor "GREAT EASTERN"…

nGYNYGIAD AM GYNADLEDD GYFFREDINOL…

[No title]

I CYNRYCHIOLAETH SIR GAERFYRDDIN.…

- - - - - - - - - AT J. ROBERTS,…

Y PEDAIR SCRIW.

DYFYNION O'R "LIBERATOR."

I HUNANLADDIAD YN NGHONWY.

AMRYW IAETH A U.