Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

-ilm11 -J. IAT Y WZ','Tr "I).…

Advertising

NEWYDDION CYMBEIG.

YR AGERDDLONor "GREAT EASTERN"…

News
Cite
Share

YR AGERDDLONor "GREAT EASTERN" I GYCHWYN 0 BORTHLADD NEWYDD CAER- GYBI. Dydd Sadwrn diweddaf darfu i Ddirprwyaeth arolygu y portbladd newydd yn Nghaergybi, yr hwn a gyn- wysai Syr C. Rowney, prif lywodraothwr Rheilffordd fawr Trunk yn Canada, Mr. Yates, cadeirydd a llyw- odraethwr y cwmni agerdd-fordwyol dwyreiniol, Cadben Harrison, llywydd y Great Eastern, yn nghyda Mr. Binger, Mr. Mansell, a'r Cadben Hirste o gwmni rheilffordd Caerlleon a Chaergybi a chwmni yr agerlongau, i'r dyben o sicrhau yn ym- arferol a chelfyddydol yr hwylusdod o wneuthur y porthladd yn gychwynfa ac yn ddychwelfa y llestr aruthrol hon o uwchlaw 21.00D tunejl o lwyth. Y mae cwmni Rheilffordd fawr y Trunk Canada yn bwriadu pwrcasu yr orchest hon sydd yn tueddu i greu prifnoJ newydd yn masnach Mor y Werydd, ac yn adeiladwaith forawl gyffredinol drwy y byd; a'r hwn a fydd yn brif ddolen yn y cyfuniad trwyadl a fwriedir rhwng canolbarth Ewrop a chanolbarth America, trwy Great Grimsby, Hotyhead, Portland (Gogledd America) ae oddiyno gydi llinell y Grand Trunk trwy Canada Uchaf, i'r dwyrain o'r Unol Daleithiau. Derbyniodd y Dirprwywyr hysbysrwydd tra defn- yddiol gan Cadben McGreggor Skinner, R.N., Meistr y Porthladd, a Mr. G. C. Dobson, peirisnydd trigianol y Llywadraeth yn ngweithfeydd y Porthladd, a'u bwriad ydyw ymgynghori ar unwaith a phrif beirian- ydd y Forlywiaeth, Mr. Ilawkshaw, mewn perthynas i'r posiblrwydd o ddarparu cyfleustnl tymhorol erbyn diwedd y flwyddyn hon, i ddigoni gofynion yr agerdd- long ddirfawr hon, yr hon a gluda 4,000 o deithwyr, a llwyth o nwyddau masnachol rhwng saith ac wyth mil o dunelli. Rhaid ei fod yn foddhad hyfryd i drigolion tref Caergybi ddeall fod Mri. Rigby, y cytuuwyr am weith- feydd y porthladd newydd, (a chanddynt olwg neill- duol ar leshad y dref ) wedi rhoddi pob hwylusdod ac egluro pob amgylchiad tebygol o dueddu i ddiogelu yr amcan hwn, a chanlyniadllwyddianus yr ymchwil- iad celfyddydol ac ymarferol. Cyfrifir y bydd i'r drafnidiaeth helaetlf hon rhwng Gogledd Cymru a'r America ddwyn yn flynyddol ddim iloi na rhwng tri ugain a thriugain a deg o filoedd o deithwyr i dret Caergybi. Wedi ysgrifenu yr hyn sydd uchod yr ydym yn cael fod un o'r Dirprwywyr (y inordwywr profiadol, Llywydd Harrison) trwy gyfrwng y Times wedi hys- bysu y farn a ffurfiwyd yn yr ymchwiliad-fod porth. ladd newydd Caergybi y porthladd mwyaf cyfaddas i'r dybenion a ofyna y Great Easter:) a'r Cwroni Agerdd-fordwyol Dwyreiniol yn mater y gorchwyl hwn. Mown galiebiaeth ddylynol gyfeiriedig at Mr. Reitheimer, cynrychiolydd y cytunwyr, g vneir cry- bwylliad hefyd am yr hwylusderau a'r dyfalwcdi a roddwyd gan y Mri. Rigby i ddirprwyaeth yr arolyg- iad, penderfyiiiad yr hwn sydd wedi arwaiu i bender. fyniad mor ffifriol mewn perthynas i dref a phorth- ladd Caergybi.

nGYNYGIAD AM GYNADLEDD GYFFREDINOL…

[No title]

I CYNRYCHIOLAETH SIR GAERFYRDDIN.…

- - - - - - - - - AT J. ROBERTS,…

Y PEDAIR SCRIW.

DYFYNION O'R "LIBERATOR."

I HUNANLADDIAD YN NGHONWY.

AMRYW IAETH A U.