Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

YR OFFETEIAD PABAIDD versus…

AT EIN GOHEBWYR. !

YR WYTHNOS. I

PABYDDIAETH YN Y SENEDD AC…

Y DRETH ;EGLWTS.____I

 NEWYDDIONCYMREIG.j ]

News
Cite
Share

 NEWYDDION CYMREIG. j CYHANFA FLYNYDDOL t TREFNYDDION CALFXNAIDD YN Y DBEF HON.—Cynaliwyd y gymanfa hon fel arfer- ol ar wyliau y Sulgwyn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol:—y Parchn. O. Thomas, E. Williams, T. Hughes, Daniel Davies, D. Jones, G. Hughes, Thomas Phillips, R. Humphreys, E. Mor- gan, L. Edwards, D. D., J. Jones, S. Lewis, E. Mathews, Roger Edwards, W. Williams, J. Phillips, Joseph Thomas, D. Howells. Yr ydym yn deall fod ymdrecbion y Parchn. Dr. Edwards ac E. Morgan i gael trysorfa berthynol i Atbrofa Ogleddol yr enwad, yn cael ei dderbyn gan yr eglwysi a'r cynulleidfaoodd gyda gwresowrwydi mawr, fel y dengys rhestr y tan- ysgrifwyr. Tybiwn nas gall amean mor ddaionus mewn dwylaw mor alluog droi allan yn fethiaut. GOGLEDD. I LLANIDLOES.—Ei chledrffordd.- Yr hyn sydd yn tynu gryn lawer o sylw trigolion y dref a'i chymydog- aeth y dyddiau hyn yw, y gledrffordd sydd rhwng y dref bon a'r Drefnewydd. Y mae y cwmni hnrr. yn prysuro gyda'r gwaith y dyddiau hyn. Y maent a'u holl egni yn parotoi at adeiladu y pontydd, y rhai ydynt y rhao iwyaf costfawr o'r linell. Y maent wedi prynu y rails yn barod, a chan fod y rhan fwyaf o'r ground work wedi ei orphen, bydd y rails yn cael eu gosod i lawr yn ddioad, a gicrheir y bvdd yn cael ei hagor mis Hydref nesaf, Mae yr amodwr (con tractor), sef Mr. David Davies, Gwernerin, I/audin- am, (yr hwn na wnaeth gamgymeriad erioed mewn masnach), wedi gwneyd cynygiad i ddyfod yn lessee y llinell ar y telerau o E5 y cant ar yr oll o'r costau yr eir iddo, cyhyd ag y terfyna yn y Drefnewydd; ac y bydd iddo godi Xl y cant bob blwyddyu nes y cyr- haed la £10 y cant, pan y bydd wedi ei hagor i Groes. oswallt. A chan nad ydvw y cwrnni yn gweled yn ddoeth agor y llinell yn Hydref nesaf ond at Pen- strywed (oddeutll 4 milldir yn fyr o'r Drefnewydd) y mae Mr. Davies yn cynyg rhoddi jEt y cant. Yr ydym yn deall fod y cyfarwyddwyr oil wedi cytuno a'r telerau uchod o'u rhan eu liunain, a hyderir y bydd i'r shareholders gytnno hefyd; ond ceir sicrwydd cyn pen nemawr ddyddiau, am fod bwriad gan y cyfar. wyddwyr i alw cyfarfod o'r shareholder* i'r perwyl hynv. Gallwn sicrhau y bydd llawenydd nid bychan yn ein sir pan yr agorir y llinell hon, am y bydd yn vsgafnhau yebydig ar ei baich trwm, oherwydd gwyr y dywysogaeth yn dda. nad oes yr un sir yn cael ei maroliogaeth yn drymach gan orthrwm a thrais tori- aeth.-Albionydd. CIIWARELAT; LI.ECHAU Di-, ORIN IG.-I)amtvain ang euol.-Boreu dydd Sadwrn y 2:iain cyfisol, fel ag yr oedd dyn ieuanc o'r enw Richard Rowland Jones, Ebene/er, yn dilyn ei alwedigacth mewn dosbarth o'r chwarelait uchod a elwir Garret, daeth darn anferth o'r graig i lawr ar ei gefn, fel y bu farw yn y fan. Wele eto unwaith rybudd difrifol i'r cUwarelwyr i fod yn wyliadwras, pan yn dilyn.1 galwedigaeth mewn Jleocdd mor boryglus, ac i ymbarotoi i gyfarfod a'u Barriwr.— O'r Wig. WYPDGRUG. — Derbyniodd y Parch. W. Evans, gweinidog y Bedyddwyr dJau aelod yn ychwanegol at ei ddiadell fechau-un wraig trwy drochilJd, ac un hen wr trwy dienallia(I-felly rrwelwn foci Mr. Evans am wneyd ei hun yn bob peth i bawb fel yr enillo rai. Peth newydd eto, beth fydd nesaf tybod ? WYDDGRra.— IV hen dreth elo,- Yr oeddym wedi tybied ein bod wedi cael gwat-eligaetli oddiwrth gorph y farwolaeth hon; ond yr ydym wedi cael allan fod yr vspryd eto yn gweithio yn mhiant yr hen eglwys. Dydd Sadwrn y 2:tain galwyd festri i'r dyben 0 osod treth o geiniog yn y buot; T. W. Eyton, Ysw., yn y i gadair. Wedi i'r ysgrifenydd hysbysu dyben y cyf. jarfbd, cyfododd yr hen wron, Mr. P^rry, coroner, gati bybysu ei fod yn gwrthcystio yn gwbl ac yn hollol i'r on dreth hyd ne* y byddai i'r hen gyfrifon gael edrych i mewn iddynt, gan ei fod yn cwbl gredu yn < barhaus fod gweddill lawer o arian yn meddiant y wardeniaid. Gwrthwynebwyd ef i hyny ar y tir fod yr hen gyfrifon wedi eu pasio, ao 0 ganlyniad nad odd dim hawl gan neb i ofyn hynyelf) Dadlenai Mr. Lloyd, yr Ilafod, yn dra gwrachiaid 1 o blaid v dretli, san honi fel y prif reswm mai eglwys y dyn tlawd oedd eglwys y plvvf-mai er mwyn y tlawd yr oedd y gloch yn canu, a'r hen gloc yn taro, a'r hen glochydd yn dweyd Amen, a chrogi neb wyr faint o ragorfreintiau oedd yn (leilliiw i'r dyn tlawd oddiwrth yr hen eglwys, ac ei fod ef yn ofni yn ei galon os nachydsyniem i roi troth mai y diwedd fyddai i'r clerigwvr feddianu yr eglwys, ac yna byddai y dyn tlawd heb yr un. Draan o hono. Mae yn syn genym glywed masnachvdd enwog a chall yn ei genhedlaeth, fel Mr. Lloyd, yn rhyw fyhwman ac yn cael ei lyw- odraethu ag awel dysgeidiaeth o'r fath hyn. Wedi hyn oynygiai Mr. Parry, ac eiliwyd gan Mr. E. P. Jones, fod y festri i gael ei gohirio am flwyddyn, fel y coid amser digonol i chwilio y cyfrifon. Edrychai y cadeirydcl a'r wardeniaid mor synedig a geifr ar daranau," heb wybod beth yn y byd i wneyd. Wedi cael tipyn o anadl gofynai y cadeirydd a oedd gan neb yr un gwelliant i'w gynyg. Ar hyn eyfodai Edmund Eyton i gynyg fod treth wirfoddol o dair ceiniog y bunt, yr hyn a barai chwerthiniad mawr a gofyniad, pa fodd y byddai yn wirfoddol, ac ar yr un pryd yn penu swm; felly o dditfyg cefnogiad syrth- iodd y cvnygiad hwn fel ei feistr i'r gwellt. Yr oedd y lie erbyn hyn yn lied gynhyrfus, ac er mwyn dwyn y cyfarfod i derfyniad, cynygiai Mr. Jones (Glan Alun) fod y cyfarfod hwn yn condemnio y dreth, ac ya penderfynu ei gwrthwynebu yn mhob dull a modd, a hyny oddiar egwyddorion, ond y cynygiai roddi pob cymhorth i'r wardeniaid i gasglu y swm o X.50 tuag at y draul angenrheidiol am eleni yn unig. Eiliwyd a chefnogwyd ef gan Mr. Catheral a'r Parch. R. Edwards, yr hwn a sylwai ei fod yn gwneyd hyn er mwyn heddweh a thangnefedd; rhoddwyd y gwell iant gerbron 'a chariwyd ef yn ddieithriad, ac yn groes iawn i feddwl ein cyfaill Mr. Parry. Gwnaed rhai sylwadau gan J. Eaton ar y dull annheg a gwas- traffus yr oedd ar;-ti y plwyf yn cael eu gwano; ac y dylai swyddau, fel v gloshyddiaeth a phob adgyweir- iMlau, gael eu goaod i'r rhai a'u gwnant rataf, a phc buasai y wardeniaid wedi mabwysiadu y dull hwn yn yr adgyweiriad diweddaf, yr arbedasid haner y draul -vn lie hynv yr oedd crefftwyr dieithr o Loegr yn gweithio wrth y dydd am gyflogau nfawrion, a llawer o'n crefftwyr cartrefol yn methu cael dim i'w wneyd yn gofyn elusen y plwyf. Cyn terfynu sylwai Mr. Parry ei fod yn lieth syn iawn ganddo ef feddwl y gall- ai y wardeniaid wneyd gyda cheiniog o dreth, ac wedi bod yn casglu ale am flynyddoedd yn flaenorol, fod hyn yn ei gadarnhau ef yn fwyfwy fod arian law- er yn ngweddill yn rhywle. Atebodd un o'r warden- iaid y gallai Mr. Parry gael ei swydd ef a chroesaw, Atebodd yr hen gyfaill fod gobaith ,\1' elw bron wedi myned ymaith, ac felly yr oeddynt am roi eu swydd au i fyny, yr hyn a barai chwerthiniad mawr. Wedi diolch i'r cadeirydd ymadawsom, gan fod yn lied hyderus na elwir mo honom mwy i'r hen ystafell ar y fath achlvsur.— Wm. Clay. PIE-;Trp-Tra tdo lwyd (I irlith yn ylle hwn Mai 26 ar y Maine Law gan y rarcn Uwen Jones, Manchester. Cafodd y darlithydd talentog foddhad mawr i'w fedd- wl wrth weled fod yn agos i 200 o enwau wedi eu seinio o blaid Ilwyr ddiddymiad ar y fasnach feddwol fel diodydd cyffredinol; sefydlwyd yma gangen o'r gymdeithas, a disgwylir y bydd iddi weithio yn egni- ot yn ol Haw. Mae yn dda genym ddeall fod yr ys gogiad yn myned yn mlaen yn llwyddianus, a bod genym hyder cryf i obeithio y cyrhaedda ei hamcan. Gwrandawr. PENTIR.—Cynaliwyd y gylchwyl flynyddol yn y lie hwn eleni eto ar ddydd lau Dyrchafael. Gwasan aethodd yn y cyfarfod y gweinidogion canlynol :-y Parchn. D. Jones, Caernarfon, J. Hughes, Borth, a W. Hughes, L'apengan. Cafwyd cyfarfod da a hyd erir y bydd effeithiau daionus yn ei ddylyn.-Ar- dalydd. BRYN COCH, LLANYKAWDDWY.—Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y Bryn Coch nos Lun y lRfed o Fai; cymerwyd y gadair am 7 gan y Parch. E. Williams, gweinidog yr Annibynwyr. Ar ol iddo egluro amcan y cyfarfod, galwodd ar y bairdd i anerch y cyfarfod. C>flawnwyd y ddefod annghyfnewidiol hon gan R. Davies (Tydecbo), Cilwern, ac E. Evans (Moelfryn), Ty coch. Wedi hyn daeth dan o dan 15 oed i ddar- llen dernyn yn fyrfyfyr; y ddan yn gyfartal, sef John Morris, Dunantfach, a Richard Williams, Maesmawr. Yn ddilynot adroddwyd y Byddar a'r Mud," (Caled- fryn)gantydeebo. Yn nesafyfeirniadletbarEnglyn. ion y Ddaiar; y buddugol o 13 oedd Thomas Evans, Perthyfelin. Dyma yr englyn, ond nid E[ englyn: Brod deg dra sywdeg drwsiadawl—i ddyn 0 ddoniau cynyrchiawl; Ar lydan wybr leuadawl, A'i chylch hi yn gweini gwawl. Yna y feirniadaeth ar y traethawd ar lawn ymddyg iad mewn addoliad dwyfol; y eoreu Dim Amser, atebwyd i'r enw gan Robert Evans, Perthyfelin. Traethawd maith ac o deilyngdod uchel-mae yn fri i'w awdwr. Pwy? Wedi hyny ton gan v cor, os oeddynt yn werth eu galw yn gor. Annghofiais ddweyd iddynt floeddio rhywbeth yn y dechreu hefyd. Yn ddilynol y feirniadaeth ar y Pryddestau ar dvmorau y flwyddyn; yr oreu o ddigon oedd eiddo A*enydd; ni atebodd neb i'r ffugenw. Daeth dan leidr arall yn mlaen i gondemnio eu hun. ain trwy ddwyh yr un peth eu dau! Yn nesaf dar. lien byrfyfyr, daeth 4 i ymgystadlu; y goreu, Evan Evans, Cerdditu Wedi hyn y feirniadaeth ar trat-th- odau ar Ddyledswyddau penau teuluoedd ac athraw. on at yr ysgol Sabbothol; y goreu Evan Evans, Ty coch. Yna adroddodd Eos Wyn y dam ar Ddymun- oldeb heddweh, o bryddest fuddugol Mynyddog yn eisteddfod Llanfaircaereinion, Nadolig, 1856. Ar ol hyn y feirniadaeth ar Gan y boreu, y buddugwr oedd William Davies, yr Aber; yna ton gan y cor, a ther- fynwyd trwy weddi. Beirniaid y traethodau, y Parch. R. Whillington a Mr. R. Jones, Dunant; y farddon. iaeth, Mr. Richard Davie, (Risiard Tafolog), Glan. yrafon, Tafolog; y darllen, Mr. Hugh Lewis, Dinas Mawddwy. Mae yn dda genym weled y cyfarfodydd hyn yn gweithio eu ffordd i sylw, er pob rhwystr a esyd vr anwybodus a'rrhagfarnllyd er eu hatal. Nid yw Mawddwy yn ail i un ardal yn Ngbymru am gref- yddoldeb. Prysured i fod felly mewn llenyddiaeth.— Tafologw r. DINAS Miwonwr.—Cynaliodd y Wesleyaid en cyf- arfod blynyddol yn y lie hwn ddydd yr 21ain eyfisol, pryd y cawsom gyfarfod lluosog a phregethau budd- iol, a disgwylir y ceir gweled eu hot yn yr amser dyfodol yn dwyn ffrwyth.—Eos Glan Dufi. LLANBEKIS.—Nos Fercher, Mai 27ain, yn nghapel Jerusalem, oherwydd ei sefyllfa gyfleus i'r ardalwyr, traddododd y Parch. O. Jones, Manchester, ddarlith wir ragorol ar y Maine Law, Mr. R. Roberts, Glan. bala. yn y gadair. Dywedai y darlithydd gan fod yr srdal wedi clywed yn helaeth o'r blaen o amryw en. euau am natur ac egwyddorion y symudiad, y cy- fyngai efe ei sylwadau y tro hwn ar hanes y gyfraith yn America, a beth oedd cynllun gweithrediadau y Cyngrair am y dyfodol yn Lloegr. Teimlem wrth iddo olrhain ei chamrau, ei bod o'r cyntaf yn cyfeirio yn deg at fuddngoliaeth, ac yr oedd rhesymoldeb y oynlluniau am y dyfodol yn ddangosiad eglur o ddoethineb a rhagwelediad dygwyr yn mlaen y symadiad hwn. Braidd na chymharem ei sefyllfa i'r adegau pwysig hyny yn hanesiaeth Groeg a Rhufain: yr oedd genym gadfridogion medrus i gynllunio a threfnu y brwydrau, ao uwohlaw y cwbl, areithwyr cyffelyb i Demosthenes a Cicero yn gallu cyrhaedd teimladau y bobl, a'u cynhyrfu i weithgarwoh o'u plaid. Da genym allu dweyd fod yr ardal hon wedi blaenori yn ganmoladwy gyda'r Maine Law. Sefydl- wyd cangen gymdeithas yma oddeutu dwy flyne id yn ol, ac o hyny hyd yn awr, y mae wedi bod yn gangen yn dwyn ffrwyth. Cyfrauwyd yn hael o nwyddau at Bazaar y Cyngrair, tansgrifiwyd at y Berkeley De. fence Fund, ymrwymir tansgrifio swm blynyddol i'r Fam gymdeithas, a rhestrwyd 9 o enwau noson y drlarlith hon, at nifer ei phleidwyr blaenorol. Wedi talu diolchgarwch gwresog y cyfarfod i'r darlithydll parchedig, ymadawyd wedi cael argraff ddwys, a gobeithio parhaol ar ein meddyliau am gyfreithlon- deb Cytraith Maine.—D. Vvans. CERRIG Y DRUIDION. Cyngherdd. Cynaliwyd cyngberdd yn yr ysgoldy yn y lie hwn ar nos 1::1.U Dyrchafael, Mai 21ain, 1857, canwyd amrywiol an themau, &c., ttan gor Bettwsycoed. Ddarllenydd, y mae dechreu ar bob petb, a dyma y cyngherdd cyntaf erioed yn y pentref hwn ac os cawn ymffrostio ych- ydig, dywedwn air bychan yn dy glust, er nad ydym yn gerddorion enwog, nag un tebygolrwydd y byddwn felly am hir amser bellach, eto gallwn fesur a phwyso p,-tbau trymach na nyni ein hunain, a'n barn yn dJirodres a chydwybodol ydyw fod cantorion Bettws. ycoed wedi canu rhai darnau yn gampus iawn, er fod ambell i ddarn bychan heb ryglyddu Urhel ganmol. iaeth, eto yr ydym yn synu yn fawr eu bod mor fedr- us, ac ystvried yr amser byr sydd er pan y dechreu. asunt ar y gorchwyl canmoladwy hwn. Er mwyn gwneyd ychydig sylwadau ar y naill a'r Hall, dech- reuwn yn y dechren, a diweddwn gyda'r Amen — 1. Bendithion yr Hwn (R. Mills) yr ydym yn barnu y gallesid canu hwn yn well. Mae teimladau calon v weddwyn ddieithr iddynt. 2. Permission (tl.Mills), swynol iawn. 3. Anthem N idolig, gan Kay. Yr I ;wvnol i awn. 3. Anthem N i d o l i?, gan Kay. Yr oedd hon allan 0 amser, ?cn?t?aet/t Crist ar nos Iau Dyrchafael, eto yr oedd yn dda. 4. In Judah is God known (IvayJ; gweddol dda. 5. Molwch yr Arglwydd (J. A. Lloyd), campus iawn. G. Duw sydd noddfa (LI. Mills), hob fod yn llawn cystal ag y disgwyliem. 7. Rhosyu Saron (R. Mills) rhagorol iawn— gwefr- eiddiwyd bob mynwes nes peri i waeddi, eto, eto, a'r eto hwn yn sig!o mwy fyth na'r cyntaf. 8. Graslawn a thrugarog yw'r Arglwydd (David Roberts), aed trwyddo yn bur dd. 9. Y Bobloedd gynt. 10. Funeral (J. Williams), y ddwy yn rliagorol dda. 1L. Great is the Lord, yn nerthol iawn. 12. Mortals Awake (John Newton) yn dda odiaeth, eto yr oBdd ambell un yn sisial wrthym heblaw 11 mai nid hapus iawn fyddai cael ein galw i ddeffro o freichiau Mr. Cwsg yn yr un dllJlwèlld-yn yr un modd. Ond y mae yn rhaid cofio byrdra rhag blino amynedd v golygydd; gan hyny rhoddwn y gweddill yn yr un sypyn, ac un !ziir yn ysgrifenedig arnynt oil. 1:5. -Alavk,l n'th erys di (J. A. Lioýd) 14. Beyond the Glittering (John Newton); 15. Ccmwch j'r Arglwyrld (Owen Duvies) 16. Lift up your htiads (Ilandet) 17. Teymasoedd y ddaear (J. A. Llovd) 18. Darfu am y cyfiawn (Owen Davies); 19. Handel's Water piece; 20. Hallelujah Chorus (Handel); 21. God save the Queen. Uchel ganmoliaeth. Fel yna y terfynodd y llith hon, yn hynod o fiasus. Dymunem lawr lwyddiant iddynt i goethi ei hunain mewn cerddoriaeth foesol a chrefydd d. Gofidus genym hysbysu mai ychydig a ddaeth yn nghyd i'w gwrando. Hyderwa pan y cawn gyngherdd ganddynt eto y bydd v cynulliad yn llawei mwy. Nid ydym yn deall gwerth rhyw gyfarfodydd fel hyn. 0 y gwyneb hir. llaes, Uwyd, a welid ar gorph ambeil i amaetbwr pan ] ddywedem wrthynt fod chwecheiniot7 am fynediad i elVn. Nid canmoladwy ychwaith ydoedd ymddyg- ( iad bands Llandrillo ar y pryd yn chwareu eu hoffer- I ynau cer 11 mewn lie cyfagos i'r ysgoldy i'r dyben o enill y bobl ieuanc i'r ddawns. Disgwyliem bethau gwell oddiwrthynt ar y pryd o Lan mu LLO yr oedd yma y prvd hwnw wvm o lliyno.— ffumphrc Daft/dd. CAERGVBI.—Un o'r gweithrediadau mwyaf nerthol a llwyddianus er hollti creigiau y clywsom am dano oedd yr un a gymerodd le yn Nghaergybi yr wythnos cyn y ddiweddaf ond un—cant a i an er o filood d, o dunelli o graig yn cael eu symud o'u Ile. Yr oedd y dref mor orlawn o ddieithriaid yn dysgwyl am yr amgylchiad fel y gorfyddid anfon gyda'r gwefrhys- bvsai ar hyd v llinell nad oedd gwely i'w gael yn y dref. Yr oeddid wedi gosod y pylor mewn gwahanol ystafelloedd yn y graig, a pkan ddaeth yr adeg gwel- id y mynydd yn hollti, ac yn cael ei falurio yn fit o ddarnau. Gallasai dyn edrych un foment ar graig tawreddog, ac wedi troi ei ben draw am ychydig fy- nydau ac edrych yn ol, nid oedd dim i'w ganfod ond y cwbl yn garnedd drlinystredlg, LLANGOLLEN. Priodas fer. Taflwyd trillion y dr f hon i tVaw a syndod prydnawndydd Gwener di- weddaf, trwy farwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy Sarah, priod Mr. Samuel Paghi Eagles Inn, r dref hon. Yr hyn a achosodd ei marwolsetti ydoedd y Brain Fever; ei hoed ydoedd 27. Ar y 5ed dvdd o Fai y priodwyd hwy, a chsfod- I chladdd (Meh. 2il), sef mis i'r un ?y?? ypriodwyn Mae teimlad cyaTredinol trwy y dref y priodwya b,, oedd dros Mr. PU"D yn ei brofedigaethi?., eraf y bydd i ni gymeryd rbybudd oddiwr^j. yn i wneyd ein gortm ar ein cael ganddo ef mewn taws;- nefedd; oblegyd yn ngbanol ein bywyd yr ydym mewn angei-i.-T. E. GANLLWYD, SIR FEIRIONYOD.—Cynaliwvd cyfarfod pregethu yn y lie uchod ddvdd Mercher Mai 20fed, ar yr achlvsur o agoriad capel newydd perthynol i'r Anni bynwyr,pryd y pregethwyd yn rymus ac efFeithiol gan y Pnrelm. J. Thomas, Towyn, Roberts, Penybont, Thomas. Llanfair, Jones, Cemaes, Jones, Abermaw, a Griffiths, Bethel. Y mae y capel newydd hwn yn addurn i ardal y Ganllwyd, ac yn anrhydedd i'r adeil- adwyr.— Ghn Mawddach. LLANKLLTYD, GER DOLGELLAU.—Williams o'r Cas- tellnewjxdd yn y Gogledd.-Dyd(i Sul v 24ain o Fai ymwelwyd a'r lie hwn gan y Parch. John Williams, Castellnewydd Etnlyn, i'r dyben o bregethu. Yr oedd cymaint o bobl wedi ymgynnll fel y methodd ngeiniau fyned i mewn i'r capel. Pan ddaeth Mr. j Williams i'r lie a gweled y fath gynulliad o bobl, er fyniodd am gael pregethn yn yr awyr agored, yr hyn a wnaeth yn rymus. Ni welsom y fath gynulliad o bobl ar unrhyw achlysur yn y lie hwn o'r blaen.— Glan Mawddach. Bwriedir cynal Cymdeithasfa flynyddol y Method- istiaid Calfinaidd yn Nghonwy ar y dydd laf a'r 2il 0 Orphenaf, pryd y disgwylir amryw weinidogion enw- og yno i bregethu. Y mae railway Llandudno wedi ei dechreu, ac yn debyg o gael ei dwyn yn mlaen yn brysur. Y mae y gai- ar led hefyd fod rheilffordd yn sicr o fyned yn mlaen yn fuan o Gonwy i Lanrwst, yr hon yn ol pob tebyg, y bernir y bydd iddi dalu yn dda. Proffwyd- wyd y byddai i'r rheilffordd, pan y byddai iddi gael ei gwneyd trwy Gonwy, ei drygu yn fawr, ac y byddai iddi andwyo ein seiri llongau, yn anad neb ond i'r gwrthwyneb i hyny y bu canys ni bu cymaint o adeil- adu tai heirdd, a llougau ardderchog yn ein hoes ac a welir yn Nghonwy y dyddiau hyn Carwr Cynydd. MALLWYD.—Cynaliwyd cyfarfod tra. dyddorol yma nos Lun y 25ain o'r mis hwn, i'r dyben o ddarllen beirniadaeth Eos Llechyd ar y tonau cynulleidfaol; d.ywyddwyd y cyfarfod yn hynod ddeheuig gan R. Thomas, Yswain, Tanybwlch, Dinas. Wedi darllen rhan o'rYsgrythyr a gweddio, canwyd yr Hen Ganfed. Yna galwyd ar Mr. Evan Jones, Pontarisgen, i anereh1 y gynulleidfa, yr hyn a wnaeth yn fyr ac i'r pwrpas. Wedi hyn (yn absenoldeb y beirniai) darllenodd y Parchedig Mr. Evans, Cemmes, y feirniadaeth. Yr oedd 41 o gyfansoddiadau wedi dyfod i'r gystadleu- aeth, a barnwyd dau yn gydfuddngol, sef eiddo Mr. David Jones (Dewi Wyllt), Mallwyd. ac eiddo Mr. Robert D. Roberts (Asaph Llechyd), Carneddi, Beth- esda, swydd Gaernarfoti ar ol i hyn fyned drosodd, canwyd y tonau buddugol i'r organ gan Dewi WyIlt yn nghyda'r cor; yna cododd y Parch. Mr. Evans ar ei draed, a darlithiodd yn hyawdl a gallnog ar Ddy- ledswyddau arweinvddion canu i ymarferyd tonau cymwys ar y gwahanol benillion a arferid ganddynt, yn nghyda bod yn chwaethus yp newisiad eu tonau, dewis tonau rhwydd, cryfion, parhaus 0 waith awd- wyr da, &c., yu nghyda, ymari er pob moddion effeith- iol ereill tuag at gael y cynulleidfaoedd yn gyffred- inol i uno yn y mawl; adangosoddragoroldeby canu mawl oddiar bob rhan arail o.'r gwasanaeth Dwyfol. Arol i hyn fyned heibio, diweddwyd y cyf- arfod trwy i'r organ a'r gynulleidfi yn gyffredinol ganu ton, ae wedi tala diolehgarwch i'r llywydd a'r Parch. Mr. Evans, ymadawodd pawb wedi cael eu bodd, oni.- Uit fu yno. DEHETTDIR. CAPEL EVAN.-Arholiad yr Ysgol Frytanaidd yn nghyd a darlith.—Dechreuwyd yr arholiad am haner awr wedi 1, trwy i'r plant ganu ton, ac yna dosbarth y blant ieuangaf yn codi i ddarllen a sillebu geiriau unsill, yn nghyd a rhoddi ystyr eu gwersi yn y Gymraeg a'r Saesoneg. Yn ganlynol holwyd y ddau ddosbarth blaenaf, yn cynwys 30 o nifer, ar ban"s Prydain Fawr o'r fl. iJ5 C.C., hyd 1066 O.C., gan y Parch. W. Williams, gweinidog y lie; a hohvyd hwynt mewn hanesiaeth ysgrythyrol, gan Mr. Thomas (T C.), ac yr oedd ol llafur neillduol ar eu batebion. Holwyd hwynt yn gaulynol ar Ddaearyddiaeth yn gyffredinol-Ewrop yn fwy manwl, a Llúegr a Chymru yn neillduol-Mr. Price yr athraw oedd yr holiedydd ar y gangen hon o wybodaeth. Yn nesaf holwyd hwynt mewn Rhifyddiaeth, ond yn benaf Rhifyddiaeth Feddyliol, gan Mr. Davies, Tresaes ,n. Ac yn olaf holwyd y dosbarth blaenaf, mewn Daear. fesuriaeth (Geometary Euclid 1. B.). Ac i derfynu y cyfarfod adroddwyd y penodau blaenaf o 1 Samuel yn ddarluniadol iawn. Rhoddodd y cyfarfod drwyddo oil foddlonrwydd nid bychan i rieni a pherthynasau yr ysgolheigion, ac ewyllyswyr da y gwaith yn gyff- edinol-a'i ffrwyth oedd ganmoliaeth uchaf i lafur yr athraw. Yn ganlynol ymwasgarodd y gynulleidfa; a'r plant oil a gawsant eu digoni a the blasus, yr hwn a barotowyd ar draul gwragedd parchus y gymydog- aeth. Ac wedi ychydig seibiant, ymgasglodd tyrfa luosog iawn i wrando ar Mr. Williams yn traddodi ei ddarlith ragorol ar "Ddyn yn arglwydd y greadig- aeth." Dechreuwyd v cyfarfod am 7 trwy ddarllen a gweddio gan fyfyriwr ieuanc ac wedi cynyg a chef- nogi i'r Parch. D. Jones (B), Rehoboth, i gymeryd y gadair, yr hwn mewn ychydig eiriau a agorodd y cyfarfod, a alwodd ar y darlithydd parchedig i ddechreu ar waith y cyfarfod, yr hwn a gyflawnodd mewn awr a haner, er boddlonrwydd cyffre iinol i'r gynulleidfa luosog oedd wedi dyfod yn nghyd. Yr oedd y mynedtad i mewn trwy docynau 6c yr un, a'r elw i fyned at brynu Ilyfrau at wasanaeth yr ysgol. C ifyi-yd cynulleidfa dda, darlith dda, gwrandawiad da, a chasgliad da, a hyny i ddyben gwir dda. Y mae ymddygiad yr eglwys a'r gymydogaeth hon uwchlaw canmoliaeth, yn eu hymdrech gydag addysg Sabbathol a dyddiol y genedl ieuainc.—Jonathan. LLANGADOG.—Cyngherdd.—Cafod 1 trigolion y lie hwn eu hanrbegu a chyfarfod cerddorol gan gor Llandeilo nos Fawrth Mai 20ain. Yr oedd disgwyliad mawr am danynt er pan y gwnaethid eu dyfodiad yn hysbys. Yn gynar yn y prydnawn wele hwy yn arrivio gyda'r Buss. ac yn disgyn wrth gapel y Trefnyddion Calfinaidd. Am 7 o'r gloch aed i mewn, canwyd ton, a dewiswyd Mr. P. J. Cefalters, Llangadog, i'r gadair. Ac ar ol agor y cyfarfod mewn arueth bwrpasol i'r amgylcbiadau, gaiwo ld ar y cor i ganu Awn yn Ilon. Canwyd yn ganlynol "Celebration," Anthem fuddugol Manchester, Their sound is gone out, Molwch yr Arglwydd, Worthy is the Lamb, The little hills, Mawl i Dduw, Behold the L"mb of God, ac yn olaf y Grand Hallelnjrth Chorus; yn yr intervals, adroddid areith. iau byrion ar ganu gan y Parch. Mr. Bevan (A), a Mr T. J. Divies, Llandilo, a'r cadeirydd. Ar ol myned trwy y seremoniau arferol o dalu diolchgarwch, can. wyd y National Anthem ar y geiriau "0 tyred Argl. wydd mawr," &0-, yn nerthol a soniarus, ac ymadaw- odd pawb wedi eu llwyr foddloni.gan farnu y canuyn dda iawn, a'r areithiau yn bwrpasol,.a'r cwbl yn cael eu dwyn yn mlaen mewn modd nad oedd yn un gwarth i grefydd fod y fatli gyfarfod wedi hod mewn ty a Idoliad.—Un ag oedd yno. MAESTEG.—Jubili Tabor.—Dyd&Mawrth a Merch- er, y 20ain a'r 27ain o'r mis diweddaf, daeth yr ad'eilad ardderchog hwn yn rhydd o'i ddyled. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1840, a chostiodd yn agog i 1,200 o bunoedd. Gwybydd;r ya dda fed llawer o gyfnewidiadau yn ystod y 17 o Rynyddoedd, a gallwn sicrhau fod cyfran helatth o honynt wedi disgyn ar y Maesteg. Eto i gyd, yr oedd ragluniaeth yn tref iu, ac yn agor calonau i gyfranu yn ddidor at ddvled y capel uchod, fel nad oed(i yn aros yn nechreu y flwyddyn hon ond £ 102 5s 3tc. Dechreu- wyd siarad am eu cwbl dalu, yn ddisymwth, wele lythyr oddiwrth fasnachwr cyfritol o'r lie a phum punt ynddo, yn acogatymgymeryd a'r gorchwyl. Yn y fan, aeth yr awgrym yn dan gwyUt tlwy'r eglwys, a'r gynulleidfa pawb, fel un gwr ati; nodwyd ar mis Mai fel tymhorgoltyngdod ùc ar y dyddian a nod wyd cafwyd y Parchedigion canlynol i bregethu:—R. a D. Saunders, Aberdare, D. Howells, Abertawe, J. James, Penybont, J. Walters, Ystradgyrilais. Erhyn diwedd y cvfarfo yr oeid y ddyled wedi ei ddileu, ac E-29 4s 3jc dros ben. Y mae iaith yn rhv wan i gyflwvno y diobhgarwch a deimlir i r gynulleidfa, a'r ardal am eu liaelioni. Yr Arglwydd yn unig sydd yn llywodraethu cabnau, "o'r Arglwydd y daeth hyn, a rhi/fedd yw yn ei.) golwg ni." — Cynwyd. YSTAI-YFERA.—Nos Sadwrn, 3d linor mis diweddaf cynaliodd y Trefnyddion Calfinaidd gyfarfod dirwestol vn vile hwn vn nghapel y Bedyddwyr, yn alilyvdju an Mr. James Rees, Forge Manager. Gwnaeth Mr. Rees ychydig sylwadau. a galwodd i anerch y gynulleidfa Mri. D. Morris, L. Pricf, Treforris, a D. Williams, Troedyrhiw. Cafvyct areitkiau sobr a difrifol, priodol ar fater sydd a chymaint o bwys yn ei ganlyniadau, eto gollyngwyd gan Mr. Rees ambell i air tra difyrus. Rhoddodd corau dirwestol y \Vernfawr a Chwmtwrch eu gwasanaeth, a dotganwyd ton gan Miss E. Rowlands (Eos Glyn-ne id), yn hynod dda. Mae'n brofedig- aeth i ganmol ieuenctyd y. corau am yr egni a ddangosasant er sobri ei.n gwiad, oad 'does dim lie Mr. Gol. -Hwy Id fyddo ar eu hymdrechiadau, a meddwdod a gwympo fel Dagon i'r llawr. Cleaw.,In- BLABNAI-Cynaliodd Bedyddwyr swydd Fynwy eu cymanfa flynyddol yn y Ill-) hwu Mai 2Giiu a'r 27ain. Cafwyd llawer o bregethwyr a phregethau da iawn. CKINEWYDD.—Nos Lun, Mai 25ain, yn yr ysgoldy Brytanaidd, traddododd Mr, E. Mills, Llanidldoes, ddarlith, neu yn hytracb, ryw ymgomiad o natur addysgol, ar" Ddaearyddiaeth a Daeareí" Tybiem mai Did at hyawdledd a threfnusrwydd yr amcanai j y gwr hwn ond yn hytrach at roddi ryw yshydig 0 gipolwg i'r ieuenctyd a'r anwybodus o rai o ryfedd- I odau anian mewn creadigaeth a rhagluni ieth. Cred- wn y siomir pwy bynag a ddisgwylio fwy. Nid ydym am Iwyr gondemnio y cyfarfol ar y tir hwuw, ych- waith: ond hyderwn y bydd yn otferynol i godi I awydd yn y wlad am fwy o wybodaeth 0 ryfeddodau y Perydd mawr yn y cread, fel i fod yn aHuog i wrthsefyll yn gwrthddadleuon anffyddwyr yn erbyn hanes ysgrythyrol o greadigaeth y byd, &c. Nos FAWRTH, Mai 20ain, yn Bethel, addoldy y Bedyddwyr, traddododd y Parch. J. Jones (Humitia), gWv-t!og Wesleyaidd yn iilandyssil, ddarlith ar China. Ni phetruswn ddweyd fod hon yn ddarlith dda, yn gwir ystyr y gair. Cawsom bob peth allasem ddisgwyl el gal ar China ynddi. Dim amgylchu mor a thir i edrych am y testyn ond China oedd-fel weo1 em I o flaen ein llygaid. Trueni fod can lleied yn f1 I gwrandaw mewn llo- roor boblog. Dichon mai y prif achosion dros hyny oedd, mynychdra 7 "cyfarfod ydd talu;" yn y He v dyeithrweh Mr. Jones, i'r I gymya"'vth !Jun. Nos FERCHER, Mai 27ain, cyn- aliw- I un o gyfarfodydd rhagbarotoawl y grWe &s s? ar gael ei sefydlu yn y lie hwn a" ysw'?o as 'J gau, fel y crybwyllasom o'r blaen er'8 8 1 seryn ol yn Yr Amserau. 'dangosy daw yn y yn jwddianus. l en- "IH\'Jd. Ilr gael '-V Jedd a phob peth igenrheidiol araii luag at ei ddwyn yn mlaen yn ddioed. Enwyd rhestr o gyfarwyddwyr (Directors) a swyddogion eraill. Bydd y symudiad hwn o lea annhraethol i'r dref yn gyfifredinol, yn enwedig .1 long fecldi anwyr, gan y cedwir y miloedd arian oedd I yn myned am yswiriaeth y llongau i leoedd eraill, yn y gymydogaeth ei hun.

PRWSIA. I

AWSTRIA. I

AMERICA.I

Y MOR COCH. I

CHINA. I

AMRYWIAETHATJ. I

[No title]

[No title]

MARCHNADOEDD A FFEIRIAU CYMRU.

___MARCHNAD LLUNDAIN-

CANOLBRISIAU YMHERODROI,

LIVERPOOL WOOL MARKET, MAY…

MARCHNAD YR YD LIVERPOOL,

LONDON CATTLE MARKET.