Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

t - - A-j—'" ., - I. - ^rflCEB-IXET…

AT ET ji&LfyYR SWYDD GAERFYRDPIN.…

« EVAN LLOYD AR GROGI."I

j AT WRAGEDD AMAETHWYR CYMRY.

I ''Y TUGEL.

News
Cite
Share

I Y TUGEL. Arwydd yr hwn y dywedir yn ei orbyn" gan ryw fath o ddynio, y yw pob diwvgiad yr ameenir ato, ac nid ydyw yfugel yn eithriad i hyn. Ein gorch wyl heddyw fÿdd gofyn a cheisio ateb pedwar gofyn- iad mewn perthynas iddo Pwy sydd yn dywedyd yn ei erbyn ? Paham y dywedir yn ei erbyn ? Pa beth a ddywedir yn ei erbyn ? Pa beth a ellir ddywedyd o'i blaid ? Pwy sydd yn dywedyd yn ei erbyn ? Wrth reswm gellir disgwyl fod y rhai hyny f), osodir yn y Senedd trwy lwgr-wobrwyaeth, neu u •• v godi ofn ar ddyn- ion, neu trwy unrhyw ddylan .v.il annheg arall, yn llefaru yn groch yn ei crbyn. Y mae y rhai hyny sydd a'u bywiolaethau yn seiliedig ar drais a gor thrwm, mewn byd ac eglwys, yn u-liei eu lief yn ei gondemoio. Y mae y rhai a L/(.¡i' am bleidio an. nhegwch, ac amddiffyn gormes, yn ysgrifenu ac yn llefaru pethau ehwerwoo yn ei erbyn. Y mae y rhai sydd wedi diofrydu eu hunain rnegys trwy Iw i sefyll bob amser, yn mhob man, a thi wy bob moddion, yn erbyn pob diwygiad, o ha natur bynag y bo, yn unig am ei fod yn ddiwygiad, yu sefyll yn ystyfnig ar ei ffordd. Y mae unwybo iusion a rhai diofal yn nghylch cyflwr y wlad, y rhai a gymerant eu harwain yn ddeillion gan y blaid hono i ba un y maentwedi ymwerthu, yn sefyll yn y fyddin wrthwynebol iddo. Y mae y rhai yr halogwyd en dwylaw a llwgr- wobrwyen, a'r rhai na ofifant ddim am etholiad ond yn unig beth fydd i'w gael i'w fwyta ac i'w yfed ar y pryd, y rhai a godent gerig i labyddio y neb y pleid- leisiant ao y crocblefant o'i blaid, ond iddynt gael rhywnn a roddai iddynt fwy o gwrw am hyny, YI1 sefyll yn dlryf Yll ei erbvn. Y mae rhifoli gwrth. wynebwyr y Tugel yn lluosog fel y gwelir, ac yn grytion f. 1 y ceir teimlo IWlfwy o byd fel y byddo y frwydr yn poethi. Nid achos diga ondid yn yr yrn. gyreb ddylai uyn fod, ond rheswin cryf dros ymwroli, canys y mae pob diwygiad a gafwyd crilled wedi ei gael 0 waethaf yr un dospeirth, y rhai, erms.inteu cytrwysder, er cryfed eu nerth, er poethed en cyn- d laredd, to er iddynt oil ymgyngreirio yn erbyn y diwygiadau hyny. eto a orchfygwyd. Pabam y dywedir yn ei erbyn ? Gan fod cymaint o leisi<tu yn erbyn y Tu.;eI, ai nid oes rbywb"th ynddo yn galw am y fath wrtilwynebiad ? Ga iawo-r i ni edrych arno o bob pwynt, a clirattu yn funwl bi nid oes rhyw reswm mawr i'w gael, digonol i gyf iawnhau y fath wrthwynebiad cryt. Gwrthwyneba dynion betbau weithiau am nad ydynt yn eu deall; ni cbymeradwyant hwynt am foP. tywyllwch a dir- gelwch ynddyut tu draw i'w hamgytlredion hwynt. Y mae hyn yn deg, oblegid pa fodd y gellir disgwyl i ddynion gymeradwyo unrhyw beth cyn gwybod pa beth ydyw ? (Ie yn wir cyn deall peth nid yw yn rhesymol ei wrthwynebu ychwaith. X)nd atolwg, a oes rhyw both yn dywyll yn nghylch y Tugel? Nac oes—ni chynygiwyd meddyginiaeth mwy syml erioed ag oedd ar yr nn pryd mor effdithiol i symud ymaith ddrwg mawr, ag ydyw y Tugel. Y mae svmledd pethau yn fynych ia, n yn cael ei ddefnyddio yn wrthcidadl yn eu herbyn; fel Naaman y Svriud, yr hwn a wrthwvnebai ar y cyntaf gym..i-.Id ei lanhau o'i wahanglwyf ffiaidd am fod v moddion a gynygid i'r dyLen yn rhai mor syml. Gwrthwyuebir petbau ereili am y tvbir eu bod yn aualluadwy am fud y moddion a gvDy.ir yn cynwysrbyw orchwyl anhawdd iawn, cytfelyb i esgyn i'r nefoedd neu ddisgyn i'r dyfnder. Ond nid oes dim anhawdd yn y Tugel; 13, y mae pleidleisio yn ol trefn y Tucel yn llawer iawn haws nag yn 01 y diem bresenol. Bryd arall fe wrthwynebir cynvgion am eu bod yn go ;ttawr iawn y mae yn gofyn aberth mawr ar ran y llyw- odraeth, a tbretniadau trymioa ar y deiliuid, i'w dvyn oddiamgylch. Ond nis gellir dwyn yr wrth- udadl hon yn eibyu y Tugel, nid yn unig y mae mnr all, ond v mae yn annrhaetbol ratio i na'r drero bresenol, yr hon sydd yn costio yn ddrud iawn yn fynych i'r cthohvr ac i'r neb a etliolir j costiodd gan noedd o filoedd o butiau i ymgeiswyr, a chostiodd i lawer etholwr ei fywioliaeth; aibeda y Tugel Y costau anghyfiawn hyn yr nnig gost gyda'r Tugel fydd, y cyst i lawer un sydd heddyw yn Senedd Prydain fawr aros gartref gyda'i feirch a'i gwn hela, yn He myued i fynu i fradychu ac i warthruddo yr etholwriaeth a'i hanfonodil yno, yr hyn fydd vn ileihad mawr ar dreullt iati blynvddol y dyn ei hun, oblegid y mae llawer o honynt, dan y drefn bresen ol, trwy orfod byw ran fawr o'r fiwyddyn yn Unà. dain, a chymdeithasu a phendefigion, yn suJdo i ddmystr yu eu han:g>'lchiadau tymhorol, gan dynu lluaws gyda hwy. Uwyrach y gofynir yn mhellach, pa un a oes ganddynt rywbeth yn erbyn y Tugel ynddo ei hun, obieg d er v gall ei fod yn ddigon a galiuadwy, a rhadlawn, a'r boll b"thau hyn.eto gall fod yn v pdh ei ii-tini-yw ddrwg, a bod rhyw egw-iet,,)or d,t yii dyoddef trwyddo. Y macnt hwy yn dywedyd fod rhywtcth felly yu y Tugel ynddo ei I hun, ftJ y cawn gyiie i sylvri eto ond beth by Lag I ydyw eu heejus lJwy dror: ei wrthwynebu, nid dyna ydyw yr achos, nid o herwydd hynfl. y safant yn ei erbyn, ac nid oes neb a wyr hyny yn well na hwy eu hunain. Nid peth newydd ydyw y Tugel, y nvie yn beth sydd wedi ei ddefnyddio er evn cof, aj yn cael ei ddefnyddio yn awr yn mhob muth o gymdeithast.u —yn eglwysi Duw yn fynych dewisir swyddogion trwy dugel, ac yn mnob math o sefydiiadau def nyddir yr un drefn, ie, hyd yn nod yn nghlybiau ein Seaaddwyr eu hunain, ac ni chlywyd neb erioed, ar. a wyddoin ni, yn yngan gair yn ei erbyn, ne3 iddo gael ei gynyg yn un o reolau y gymdeithas dymhorol fwyaf a phwysicaf ar y ddaear, teyrnas Victoria, pan y cyfodwyd crochwaedd yn ei erbyn fel un o'r pethau mwyaf peryglus a gynygiwyd erioed i sylw teyrnas. Os ydyw yn dda gan ddynion gael amddiffyniad y Tugel mewn un amgylchiad, paham y dyrchafant eu llefyn ei erbyn mewn amgylchiad arall, lie y mae mil mwy o angen am dano ? Y mae y rheswm paham y llefarant yn ei erbyn yn rhy amlwg i'w gwneyd yn angenrheidiol hysbysu beth ydyw; ni raid ond ystyried pwy ydynt i weled beth ydyw y gwir achos o'u gwrthwynebiad. Tardda eu gwrth. wyneHad i'r Tugel o'r un ffynhonell ag y tardd eu gwrthwjynebibob diwygiad arall. Gwrthwyneb- antiy Tugel am ofnant ei ganlyniadau. -1 .-beth a ddywedRGtYu ei erbyn ? Nid yr hyn a fedcfyliant am di"ÐO a ddywedant, ond yr byn sydd j 1 deloycaf o ateb y* dy ben i luddias ei ddygiad oddi- ^ylch; tt "it ea galluoedd dychymygawl i unio ffug-re,,y,nra J'-i eu-erbyn. Un o'r rhesymau hynaf a rlygwyd yn erby-n y Tugel ydyw ei fod yn s:;t;j-vmgaldd. Beth syd yn Seisnigaidd cyn i'r S ei fabwvsiadu ? A ydyw y drvgau y byddai Tugel yn sicr o'u dileu yn Seisnigaidd? Ai pethau Seisnigaidd ydyw llwgr-wobrwyaeth, brawychu dyn- ion trwy fygythion, meddwi dynion, ac arfer pob twyll i'w cael i bleidleisio yn groes i'w meddyliau ? Os yw y pethau yna yn Seisnigaidd, yna y mae yn Hawn bryd cael rhyw drefn an-Seisnigaidd i weith- rediad, ac y mae an-Seiinigeiddrwydd y Tugel yn dyfod yn rheswm cryf o'i blaid. Os ydyw y Tugel yn an Seisnigaidd, paham y defnyddiant hwy ef eu hunain yn eu clybiau, fel y svlwyd yn barod ? Mab- wysiedir ef hefyd yn y Hysoedd milwrol (courts martial), lie- nad oes ond dynion a vstyrir yn an- rhydeddus yn llywodraethu. PJeidleisiant yn ddir- gelaidd er mwyn gichel yr anghyfleusdra o'i bod yn wybyddus iddynf daflu sarhad ysgafn ar gymeriad dyn a allentei gyfarfod (irano tb; ac eto gwrthwyn- ebant ddwyn i arferiad mewn etholiadau seneddolyr egwyddor a gydnabyddant hwy eu vunain mewn pethau ereill. Gwrthwynebid y llys^rdoll geiniog ar ei gynygiad cyntaf yn y Quarterly Review, fel peth an Seisnigaidd a thramor, ac y mae darogan Sydney Smith mewn perthynas i'r Tugel, a'r eiddo Mr. Coner o berthynas i lythyrnodau ceiniog. o'r un gy. meriad yn gwbl. Yn lioll etboliadau Prif-athrofa Rhydychain, ffynhonell dysg ein pendefigion a'n hesgobion, mabwysiedir trefniant y Tugel. Gallwn edrycb yn mlaen at ddiwrnod pan y bydd ein teyrnas yn y fath sefyllfa ddedwydd pan na bydd y Tugel yn angenrheidiol, pan y gall pawb bleidleisio heb ofn, pan y bydd dynion yn cytuno i wabaniaethu, ac yn goddef eu gilydd mewn cariad; ond gan nad yw yr amser da hwnw wedi dyfod, er mwyn pob peth gad. awer i ni gael y Tugel. Yn ol yr byn a olyga ein gwrthddadleuwyr wrth fod yn Seisnigaidd, y mae nacau rhoddi y Tugel i ni yn an-Seisnigaidd, ac yn ang-hyson i'r eithaf. Peth arall a ddywedir yn erbyn y Tugel ydyw, gan nad oes ond un o bob chwech o ddynic yn meddu bawl i bleidleisio, y dylid pleid- leisio yn gyhoeddus, gan yr ystyrid ypleidleisiwrfel math o ymddiriedolwr i'r hwn sydd heb bleidlais. Dyna un o resymau Argl. J. Russell yn erbyu y Tugel. Yn ol yr ymresymiad yna y mae pob ethol- wr yn rhoi ei bleidlais dros bump o ddynion, ac fe ddylai y pump gael gwybod pa fodd y mae yn eu cynrychioli yn yr etholiad. A chario vr ymresymiad ychydig yn mhellach, fe honai aelodau Seneddol hawl i bleidleisio yn ddirgelaidd, fel na chaffai y rhai a'u hetholasant wybod pa fodd yr oeddynt yn eu cynrychioli, ar yr un tir ag yr honai un dyn o bob chwech goel pleidleisio yn ddirgelaidd, fel na chaffai y gweddill wybod pa fodd yr oedd yn pleidleisio drostynt. Ond nid yn y goleuni vna yr edrycbir ar etholwyr; nid fel rhai yn amlygu barnau eraill, ond eu barn bersonol eu hunain, oblegid mewn gwlad He y mae cymaint o wahanol farnau gwladyddol, byddai yn anmhosibl i ddyn bleidleisio heb gael gwybod dros ba bcrsonau uoillduol y mae yn pleidleisio, ac heb wybod barn y rhai hyny. Yn awr, os oes gan y rhai hyny sydd heb bleidlais allu i beri i etholwr bleidleisio, yna y inne yr etholwr wedi ei ddifreinio, ac nid oes ganddo allu i bleidleisio yu ol ei argy- lioeddiad ei hun. Y mae ei etholfraint, i'r gwrth- wyneb, yn beth a berthyn iddo ef ei hun, a chanddo hawl i'w defnyddio fel y barno yn oreu, ac fe ddylai gael ei ddiogelu rhag achoa ofni oddilawr yn gystal ag oddifynu, oblegid tra y bydd rhyw ddylanwad an. nheg oddiwrth ei isradd neu ei uwchradd vn ei dueddu y naill ffordd neu v llall, nid yw yn bleidleis- iwr rhydd. Dywedir hefyd fod y Tugel wedi troi allan yn ffaeliad lie y mae wedi ei fabwysiadu, a nodir Ffrainc ae America fel ensrreifftinu. Yn awr, os ydyw y Ffrancod wedi dewis ymerawdwr o gy. meriad unbenaethol a gormesql Louis Napoleon, onid oedd ganddynt gyflawn hawl i wneuthur hyi y ? Ond os dywedir mai rhag ofn y gallu milwraidd y dewiswyd ef, rhaid i ni edrych ar yr amgylchiad fel un neilldnol, rhag yr hwn nis gall y Tugel ei hunan ddiogelu dynion. Yn yr America nid oes ofn y Tugel ar neb ond pleidwyr caeth fasnach. Pa beth a ellir ddywedvd o'i blaid ? Yn un peth gellir dywedyd ynddibetrus, nad ydyw, yn ol y drefn bresenol, y pleidleisiwr ei hun yn cael ei prynrychioli. Dadleuir y dylai yr etholfraiot gael ei helaetbu, ac mai nifer fechan iawn o'r deiliaid sydd yn meddu llais yn yr etholiadau yn bresenol; y mae hyn y yn ddigon gwir, ond y mae mor wir a hyny nad yw yr yebydig hyny oil yn cael lhoddi eu lleisiau eu hun- ain yn yr etholiadau; nid ydynt ond offerynau yn nwylaw eu huwehafinid, y rhai a fedrant beri iddynt wneuthur y swn a ewyllysiant hwy. Os digwydd i ambell un tra gwrol a pbenderfynol bleidleisio yn ol ei egwyddorion, gan fod yn ddiystyr o'r canlyniadau, bydd yn ddyn wedi ei nodi allan gan y blaid wrth- wynebol fel un i'w ochelyd, ac i ddefnyddio tuag ato bob cyfle a gynygio ei hun i beri iddo deimlo nerth y blaid y meiddiodd bleidleisio yn groes iddi. Peth arall a ellir ddywedyd ydyw—heb y Tugel byddai helaethiad yr etholfraint i raddau mawr yn ofer. Y mae lie i feddwl y bwriada y llywodraeth helaetbu yr etholfraint, ond pa les a wna hyny beb ddingel- weh i'r etholwr ? Ac wedi yr helaetbiad a addewir, bydd yr etholfraint yn estynedig i ddosbarth mwy dibynol ar eu huchafiaid na'r dosbeirth sydd yn awr yn ei mheddu, ac o ganlyniad byddai yn haws eu llwgr.wobrwyo a'u dychrynu. Gwnelai yr helaeth iad i lawer etholwiiaeth sydd yn awr yn fechan, mewn cymhariaeth, gynwys 15,000 neu 20,000 o blsidleiswyr, a gellid dadleu na byddai yn werth llwgr-wobrwyo rhyw ugain neu ddeugain o blith nifer mor fawr; ond y gwir yw, byddai yn rhatach gwobr- wyo ac yn haws dychrynu cauoedd o'r cyfryw ethol- wyr, na'r un nifer o ugeiniau o'r etholwyr presenol. Os oes ar fasnachwyr, amaethwyr, ac fielodau y dos barth canol angeu am ddiogelwch y Tugel, pa faint mwy y gweithiwr tlawd, y gellir ei droi o'i waith heb ddiwrnod o rybudd ? Henffych i'r dydd yr helaethir yr etholfraint, ond bydded i'r un dydd helyd ddwyn y Tugel i etholwyr Prydain. Unwaith eto, y nia3 pob cyfraith a basiwyd hyd yma er atal llwgr- wobrwyaeth, a dwyn ofn ar ddynion yn. amser ethol- iadau, wedi bod yn aneffeithiol. Y mae vn wir fod v neb a lwgr-wobrwya yn agored i golli ei eisteddle yn y Senedd, ond y mae llawer ffordd i wneuthur hyny, a diau y gwneir hyuy mewn lluaws o amgvlchiadau yn bresenol, pan nad ydyw byth yn dyfod i'r amlwg. nall dytiir ol etholiad roi heibio me.Snicllll mewn siop, am i'r«siopwr bleidleisio yn groes iddo ef-y cw-hl a ofyna y gyfraith ydyw iddo beidio bygwth gwneyd hyny cyn yr etholiad. Gwyr pawb o hooom am achos y Person a'r Pobydd yn Rhuthyn y mae tystlw y Person, a phenderfyniad y Barn wyr, yn dangos mor hawdd ydyw vsgoi y gyfraith yn y fath amgylchiad. Pe byddai eisiau dywedyd rhagor o blaid y Tugel, gallem chwanegu y byddai nid yn unig etholwyr, ond befyd aelodau Seneddol eu hun. ain yn fwy annibyuol pe dygid ef i weithrediad, oblegid gallai aelod deimlo wrth eistedd yn y Sen- edd ei fod mewn gwirionedd yn cynrychiSli ethol. wriaeth, mai efe mewn gwirionedd ydyw dewisedig ddyn mwyafiaeth yr etholwyr, ei fod yno trwy eu pleidleisiad egwyddorol a rhydd, ac na arferwyd twyll na hoced i'w osod ef yn y Senedd-mai cynrychiol- ydd y bobl ydyw, ae nid cvnrychiolydd rhyw blaid fechan orthrymus a ddylanwadodd ar y bobl. Yn awr wrth derfynu, dymunwn alw sylw difrifol y wlad at y pwnc. Y mae y llywodraeth wedi addaw rhyw ddiwygiad y flwyddyn ne3af, ac v bydd i'r di- wygiad hwnw gynwys gwelliant yn y gynrychiolatth. Fe fydd diwygiad y flwyddyn nesaf y peth y dymu.ia y bobl iddo fod. Yn awr ydyw yr amser i ddetfroi. Y mae yr amser i cldadleu pwnc y Tugel drosodd er ys talm, amser i weithio yw hi yn awr. Os oes rhyw wlad a ddylai ddefIro, Cymru ydyw hono, oblegid nid oes un yn cael ei chynrychioli yn wSeth o dan y goron. Dy^edai Mr. Oobden mai yn awr ydyw yr amser i geisio y Tugel, oblegid y mae y clwyfau a gaed yn yr etholiad diweddaf yn awr yn tIres. gan hyny byddarwn ein Seneddwyr a deisebion, ac na adawn lonydd na dystawrwydd iddynt hyd oni chat- iatant v Tugel er amddiffyniad i etholwvr y devrnas. LLEWELYN GWYMJDD, I

CYFARFOD Y D D MAL I

IFFRWYDRIAD lEWN GWAITH GLO.

* DEFFROAD CREFYDDOL.

NEAL DOW YN NEUADD EXETER.

I . CYNGRAIR Y NEWYDDIADUR…

MR. DISRAELI A'R PRIF WEIN1DOG

CYFLEUSDRA 0 BWYS MAWR I AMAETHWYR…

' COBDEN AR EIN MASNACH A…

I AMRYWIAETHAU.

j BARDDONIAETH.

Family Notices