Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
%11 OFFEIRIAD PABAIDD versus…
%11 OFFEIRIAD PABAIDD versus JOHN LLOYD t Dymunem gydnabod gyda diolchgarwch dderbyn- I iad y symiau canlynol tuag at gost y gyfraith uchod: I Cydnabyddwyd o'r blaen £10 18 11 Parch. Michael Jones, Bagillt 0 10 0 Parch. John Evans, Llansantffraid 0 5 0 William Eligq, 0 10 0 Hugh Jones, argraffydd 010 I
-AT EIN GOHEBWYR. I
AT EIN GOHEBWYR. I ø- Derbyniwyd gohebiaethau T. Edeyrn, Rhodwr, T. Edmund, ac amryw eraill. IIir Bydd ail lythyr "Evan Lloyd" ar 11 Grogi oewn atebiad i M yn ein nesaf. fjp" Yr ydym yn ddiweddar wedi cau allan rai hys- bysiadau mewn trefn i roddi lie i fwy o ne- wyddion yn yr Amserau," heb gyhoeddi attod iad, gan y deallwn fod hyny yn fwy boddhaol gan ein derbynwyr yn gyffredinol. lw Daeth yr ohebiaeth yn nghylch Museum Bangor i law pan oeddym yn myned i'r wasg.
--YB WYTHNOS. -I
YB WYTHNOS. I Myned trwy gymaint o waith ag sydd yn an- hebgorol angenrheidiol, i gael dycbwelyd adref mor gynar ag y byd io bosibl, ymddengys, ydyw fwnc mawr y Senedd. Dan yr amgylchiadau hyn, ychydig o groesaw, feddyliem, fydd i araeth Sadiaeth o fewn muriau St. Stephen o fewn y derufis dyfodol. Caniateir llonyddwch cyffredin 01 i'r llyfrau gleision, ni thorir nemawr ar hedd- weh nag adroddiadau nag ystadegau, ac ni chaiff J ysgyfaint na chom gwynt achos i gwyno Ilawer o erwydd gorymarfehad. Daqenym weled, ar vr un pryd, fod Arglwydd Palmerston wedi pender- fynu gwneyd ymdrech i roddi Bil rhyddbad yr Iuddew i'r wlad fel math o bedd-aberth dros Balmerstoniaeth cyn gorphen y tymor, er mor fyr ydyw. Gydag ymddiheurad parchus i Ar- glwydd John Russell-lhiant naturiol y mesur- am ei gymeryd i'w ofal a'i gadwraeth ei hun, a chyd- aabyddiaeth anrhydeddus o lafur a ffyddlondeb yr arglwydd anrhydeddus yn ei fagu a'i feithrin am gynifer o flynyddoedd, cymerodd Arglwydd PtlintnUin ganiatad y Ty, nos Woner, i ddwyn y nesor i fewn. Hyderwn mai ei gymeryd a wnaeth gyda llwyr benderfyniad i'w basio, ac nid i'w too. Gwell genym ni, rhaid addef, fuasai gweled Arglwydd John, yr hwn a wnaeth gymaiut yn ystod ei oes gyhoeddus dros ddiwygiad, yn dwyn y mater i benderfyniad llwyddianus; ond sicr y(lyw, gan fod y pwnc i gael ei ddwyn yn mlaen yn y tymor preseno], mai y llywodraeth yw y cymhwysaf i'w gymeryd mewn Haw; yn y modd hwn y llwyddif i gael y mwyafrif Iluosocaf o'i blaid yn Nhy y Cyffredin; ae, er nad yn y Ty hwnw y mae brwydr y mater i gael ei hymladd, eto Y mae o bwys cael y mwyafrif yno y fath fel na fydd y Ty uchaf yn meiddio ei gymeryd yn JSgafn; ac efallai nad oes neb cymhwysach ar y pryd presenol i ddylanwadu ar fodau tymhorol Ac ysprydol" y Ty hwnw na'r hwn sydd wrth lyw y llywodraeth. Nid ydym yn amheu nad yw ei I arglwyddiaeth y-n deall byn, ae mai nid dan ei ddwylaw o barth i ansawdd teimlad v Ty hwnw yr ymgymerodd efe ar gorchwyl Da" os gall efe, yn awr yn niwedd ei yrfa, goroni ei einioes ag un mesur rbyddfrydig; a pha beth bynag ydyw yr amean mewn golwg, da os gellir rywfodd symud ymai.t'n y gwrthuni hwn o fysg deddfau ein gwlad. Mae y cwestiwn wedi cael ei ddadleu drosodd a throsodd lawer gwaith, a'r rbesymau dros ac yn erbyn, wedi cael eu llwyr ddihysbyddu er ys blyn- yddau, fel nad oes dim newydd, ar y nail] ochr na'r llall, i'w ddisgwyl mwyach ar y pwnc. Man- teisiodd Arglwydd Palmerston ar y dadleuon a gymerseaut le fel ag i tfurfio ei fesur yn y dull Otwyaf tebyg i basio, pa beth bynag a ddyweder yn erbyn yr egwyddor. O'n rhan ein hunain, twell fuasai genym ni i bob math o lw gael ei odiddymu: ar gymeriad y swydd hon yn gystal a b b l) swydd arall; ie, yn wir, fod yr hen gyfun. drefn o gymeryd llwon o gwbl, ar unrhyw achos, yn cael ei llwyr ysgubo ymaith. Dichon yr ys- tyria rhai yr athrawiaeth hon yn rhy "eitbafol" —yn rhy Radicalaidd; ond nid yw hyny ond o ycbydig bwys os ceir fod ysgrytbyr yn gystal a rheswm o'i phlaid. I ddyn o egwyddor ddrwg nid ydyw tori llw yn fwy na thori gorchymyn neu ymnvymiad arall ac mae dyn o egwyddor ddayn ystyried pob gair sydd yn dyfod dros ei wefusau mor gadarn a sefydlog a phe byddaijw, ac yn dal ei hun yn rhwymedig i wneud yr hyn sydd ddy- ledus arno heb lw yn gystal ag wedi ei gymeryd. ■ I ba beth, gan hyny, y defnyddir y fath seremoni, yr hon nid yw yn effeithio i atal y drwg nac i tfadarnhau y da, ond yn bytrach i ddiraddio cre- fydd a meithrin ofergoeledd. Mynych y bu ein calonau yn brawychu wrth weled y modd y trinid enw a llyfr Duw yn ein llysoedd cyfreithiol, a hyn mewn ystyr, trwy orfodaeth y gyfraitb. Ond tra byddom yn disgwyl am yr oil, rhaid i ni ymfoddloni, er yn mhell o fod yn foddlawn, ar gyfraxi. Un llw a ddarbodir yn mesur Arglwydd Palmerston i'w gymeryd gan aelodau seneddol, ac yr ydys wedi gadael allan o hwnw bob peth ag nas gall yr Iuddew yn gystal a'r Pabydd ei gy- meryd. Rhoddai Arglwydd John Russell ei gy- jaeradwyaeth iddo, gan ddatgan ar yr un pryd ei foddlonrwydd i'r llywodraeth ei gymeryd dan ei IOfal a hyderwn nafyddiDyyrArglwyddibrofi ei hun mor henafol a boff o droi yn nghylch geiriau, ffurfiau a thraddodiadau ag i sarhau y cyfansoddiad a'r enw Prydeinig, trwy daflu allan eto fesur ag sydd mor unol ag egwyddor synwyr eyffrodin. Dymunol, ar yr un pryd, fyddai i'r etholwyr adgofio eu cynrychiolwyr o'u dyledswydd yn y pwnc. Cafodd Mr. Locke King ganiatad i ddwyn fnesur i mewn er diddymu y rhan hono o'r ddeddf ag sydd yn gofyn fod un yn feddianol ar swm penodol o ddaear cyn y byddo yn gymhwys i gyn- rychioh dynion yn y senedd. Cangen ydyw hwn o fesur diwygiadol: ac efallai mai ymddiried yn ugair Arglwydd Palmerston a thaflu yr adran bou heibio a wna y Ty; ond pa fodd bynag y bydd ty*y, y mae Mr. King yn haeddu parch y wlad x yli gynygion, ac ymddengys ei fod yn fedd- ianol ar lawer o gymhwysder at y gwaith ag y mae wedi ei gymeryd mewn 11 aw. Y mae Syr John Trelawny wedi ymgymeryd & bil Øyr William Clay o barth diddymiad y Dreth Eglwys; end hyderwn na fydd yr hen farwnig yn hir cyn cael ei ddychwelyd, fel y gallo gymeryd y gwaith mewn llaw ei hun. Yn niffyg unrhyw hysbysiad pender- fýuol oddiwrth y llywodraeth yn mhellach na bod y mater dan sylw, ac y gobeithid gallu penderfynu ar fesor a roddai foddlonrwydd i'r gwahanol bleidiau, penderfynodd Syr John ddwyn mesur cyfystyr eiddo Syr William Clay i fewn mor fuan ag y bydd yn bosibL Bydd yn anmhosibl i Mr. Spooner, wrth gwn, adael llonyddwch i Maynooth y tymhor hwn a deallwn fod yn mwriad Mr. Scholefield gynyg fel gwelliant, fod holl achos gwaddoliadau crefyddol yn y Werddon i gael ei gymeryd dan ystyriaeth. PWDC Miall; ond ofnwn y teimlir ei absenoldeb yn vr ymdriniaeth ag ef Y mae dau fesur arall wedi eu dwyn i fewn, y naill gan Arglwydd Campbell, yn Nhy yr Arglwyddi, er diwygio cyfraith athrod, a'r Hall yn Nhy y Cy. fllidin, gan Mr. Dillwyn, o Abertawy, er diwygio OTfraith eosbedigaeth ar wyr am guro eu gwragedd. Y prif bwnc yn mesur y Prif Ynad ydyw, rhoddi rhyddid i newyddiaduron gyhoeddi adroddiadau o fttorion ag a fyddant yn athrodus heb i'r cyhoedd- wr na'r argraffydd ddyfod trwy hyny yn agored i gosbedigaeth. Fel y saif y gyfraith yp awr, neu o leiaf, fel y saif esponiadau y Barnwyr ami, mae yr hwn a gyhoeddo neu a adroddo eiriau athrodus, er nad efe oedd y cyntaf i'w traethu, ac er na fyddo ganddo uarhyw fwriad i niweidio cymeriad y nab y byddo y eyfryw eiriau yn perthyn iddo, yn agored i gosb y gyfraith. Y mae Arglwydd Campbell yn (mruu yu wauauoi, ac yn ei iesur presenol cynygia osod y gyfraith mewn ffurf ag y bydd yn anmhosibl rhoddi yr esboniad hwn arni. Prin yr ydym yn jbddlon i ddarbodaeth Mr. Dillwyn gyda goIwg ar goebedigaeth gwyr am guro eu gwragedd. Diau °fod Dawer iawn o hyn yn cymeryd lie yn y dosbarth isaf gymdoithas-mwy efaliai nag a ddychmygai pobl eg ydynt yn arferol o droi mewn cylchoedd uweh. Bicrha rhai mai dyma y rbeol, ac yn edryoh arno fel peth wrth gwrs. Ood nid ydym yn meddwl fod y nifer yn JIuosocach ar ol pasio eyfraith 1^52, a bod hyny yn arwydd sicr fod y gyfraith hono wedi methu. Addefwn fod y nifer a ddygir o flaen yr awdurdodau ar ol pasio y gyfraith dan sylw yn amlach; ond efallai mai prawf ydyw hyny o'i heffeithioldeb, ac nid o'i han- effeithioldeb, trwy ei bud yn foddi n i ddwyn i'r amlwg yr hyn oedd o'r blaen yn guddiedig. Dar- hodaeth nodweddiadol mesur Mr. Dillwyn ydyw, fod y troseddwyr yn cael eu chwipio, yn ych- wanegol at eu carcharu. Offeryn dysgyblaetb yr anifail ydyw y chwip; ac efallai foJ cymaint o anifeil- oild-dre, neu gythreuligrwydd yn bytrach, yn y weithred farbaraidd o i wr guro fi wraig, fel y gellir dweyd llawer yn ffafr rhoddi iddo fesur o driniaeth yr anifaH. Ond dylid bod Y,1 ofalus fod y me ur yn seiliedig ar egwyddor. Dvwedai Argl. Palmerston y dydd o'r blaen, wrth ddadlea f d yn anmhosibl i senedd Brydain ddyfod yn Iudilewaidd, mai yn mlaen ac nid yn ol y mae rhedfa y meddwl dynol- i'r Testament Newydd ddyfod ar ol yr Hen, ond na ddaw yi Hen byth ar ol y Newydd." Gadawn i'n Prif We:nidog gysoni ei athrawiaeth a'r eiddo y Pregethwr Hebraig, yr hwn a ddywedai, mai y peth a fu a fydd, a'r peth a wneir;" ond y mae gwirionedd, yn ddiau, yn athrawiaeth y ddau; a da fyddai i Sen- edd Brydain ystyried yn ddyfal, a phwyso ffeithiau ac egwyddorion yn fanwl, cyn rhoddi y cam hwn yn ol tua barbareidd-dra. Anifail yw yr anifail er pob peth a fedr y chwip ei wneyd; ac anifail, os nad mwy anifsilig nag o'r blaen, fydd dyn er holl rym y fflang. ell. Diffyg mawr, ond angeIlrheldl011 fesur, feallai, yn nghosbedigaethau cyfreithiau dynol ydyw, eu bod yn apelio can lleied at ranau uchelaf dyn. Nid oes nemawr o newvddion tramor o bwys wedi dyfod drosodd yr wythnos ddiweddaf. Da genym ddeall, er fod mater Canolbarth America beb ei Iwyr benderfynu, fod y teimladau mwyaf eyfeillgar yn uynu rhwng y wlad hon a'r Unol Daleithiau. Y r.ewvddion o Persia ydynt fod y nr dciw,yyr (wrth wrs) wedi enill buddugoliaeth yn Mohammorah, ac wedi cymeryd y lie, gydag yspail fawr; a bod y cytnn. deb heddwcb a luniwyd yn Paris wedi cyrhaeddyd y Shah, yr hwn, yn nghyda'i weinidogion, a'u derbyn- ient gyda byfrydwch. Pa effeithiau a ga y newydd am fuddugoliaeth ddiweddaf y Brydeinwyr nis gwyddom ond hyderwn y ceir bellach derfyn buan ar yr ysgarmesoedd gwaedlyd hyn.
NODIADAU CREFYDDOL.
NODIADAU CREFYDDOL. Ffaith ag y mae amryw o gyfarfodydd Mai y flwyddyn hon wedi ei hamlygu ydyw, fod parod.. rwydd a dymuniad i gydweithredu yn y gorchwyl mawr o efengyleiddio y byd ar gynydd yn mysg gwahanol enwadau crefyddol y deyrnas a hyfryd- weh fydd genym weled a chofnodi pob arwydd a welwn o'r teimlad gwir Gristionogol bwn. An- meddwl am ddim a fu yn fwy fe- ngylna'r cam ddeongliad a rodciwj j ■ ion a'i hysbryd yn ngwaith y rhai a'i ymryson, yn gwarthruddo, ac yn gwrthwejthioeu gilydd. A pha beth, mewn gwirionedd, ydyw yr ychydig wahaniaeth barn sydd rbwng Cristionogion Bndain i'w gymharu am foment a byd o'u hamgylch ar bob llaw yn gorwedd dan farn Duw Ai tybed, mewn gwir- ionedd, y bydd ychydig o wahaniaeth barn yn nghylch dull a deiliaid bedydd, am yr hyn y mae y Beibl mor ymddifad o unrhyw orchymyn nag esiampl bendant, am helaethrwydd yr lawn, yr hwn nid oes na dyn nac angel a fedr ei fesur, a ffurf-lywodraeth eglwysig, a'r cyffelyb-ai tybed yr ymddengys y pethau hyn yn nisgleirdeb goleu- ni y dydd a ddaw yn ddigonol i gyfiawnhau Crist- ionogion Brydain yn en gwaith yn gwastraffu y nerth a roddwyd iddynt i gydweithio yn ngwinllan eu Harglwydd i ymladd a'u gilydd? Prin yr ydym yn meddwl yr anrhydeddir opiniwn pen a'r wobr ag sydd yn perthyn i aberth enaid a chalon. I hunan aberthiad y mae y wobr o fyd wedi ei ddychwelyd at Dduw yn addawedig. Ac nid llai angenrheidiol tuag at sicrhau y wobr hon ydyw hunan-offrymiad y rhai a broffesant Gristionog- aeth cag aberth iawnol y Person anfeidrol a'i sefydlodJ. Gwobr tywallt yr enaid, ie, i farwol- aeth, gan y saint yn gystal a chan eu Blaenor, ydyw cael meddiant o'r cenhedloedd a diau mai dyma ddiffyg mawr y byd crefyddol, a'r prif achos o aflwyddiant yr efengyl-diffyg aberth yn y rhai a'i proffesant. Nid rhyfedd genym weled yr ar. wyddion mwyaf amlwg o'r undeb a chydweithred- iad a ddylai ffynu rhwng Cristionogion i'w canfod ar blatfform y Feibl Gymdeithas. Y mae yma eto ddigonedd o le i ymhelaethu cyn bod yn ogyfled ag egwyddorion godidog y Llyfr hwn. Yna nid oes cymaint a chysgod o'r ffiniau dinystriol a gyn- lluniwyd gan ddiafol, ac a adeiladwyd mewn ty- wyllwch gan ddynion. A hyderwn fod yr amser yn prysur agosau pryd y bydd dynion gonest a difrifol, heb wneuthur cyfrif o'r rhai hyn, yn ym- uno mewn yspryd a chalon yn y gwaith mawr- ie, mawr annisgrifiadwy-sydd i'w gyflawni yn y byd. Da genym weled, nid yn unig larll Shaftes- bury. yr hwn y dydd o'r blaen a eisteddai yn gadeirydd cyfarfod cenbadol y Bedyddwyr, oud hefyd esgob Llundain a rhai o brif urddasolion yr esglwys Sefvdledig, yn sefyll ar yr un esgynlawr ag aelodau cymdeithas Dadgysylltiad Crefydd oddiden nawdd a llywyddiaeth y Llywodraeth. Buan y symuder ymaith yr hyn sydd yn atal eg- lwyswyr" difrifol, fel y sylwai esgob Llundain, i ymgymysgu yn fwy ami a'u brodyr o enwadau eraill, ac i gydweithredu yn yr byn sydd dda; a chynydd mawr fyddo yn nifer y rhai hyny, fel Deon Carlisle, y rhai a fedrent barchu ac an- rhydeddu yr annibyniaeth meddwl, y cydwybtfd olrwydd, a'r onestrwydd a arweiniai y cyfryw a Baptist Noel i ymwadu a'r pethau hyny yn yr eglwys ag y mae dynion gweiniaid a diannibyn- iaeth yn eu caru, trwy ymadael o honi." Yn ngwyneb y llygredigaeth a'r anffyddiaeth ymarferol sydd yn ffynu y dyddiau byn mor fawr yn mysg y dosbarthiadau uchaf o gymdeithas yn I Mrydain, er eu holl stwr am addysg a dygiad i fyny, a holl ger y gyfandrefn fydol o wareiddo y byd, hyfryd oedd genym ddarllen y ffeithiau pryd- ferth a adroddid gan y Parch. Baptist Noel, yn nghyfarfod y Genhadaeth yn Ninas Llundain. Y dydd o'r blaen, dywedai y gwr anrhydeddus, daethai i gyfarfyddiad a thri dyn mewn cysylltiud lied ddieithr, a chyda gwaith tra anarferol i'r cyf- ryw fod wrtho. Un ydoedd ddyn ieuanc, etifedd i ardalydd, wrth y gorchwyl o ddysgu dosbarth mewn ysgol Sabbotbol mewn penticf gwledig; un arall oedd fab ac etifedd i arglwydd cyfoethog, yr hwn hefyd oedd wrth yr un gorchwyl; y trydydd oedd farwnig, canol oed, o berchen eiddo nid ychydig, yr hwn yn fynych a adawai ei sedd yn y Parliament ddydd Sadwrn, a gymerai y gerbydres ac a ddychwelai i'w dyei hun yn y wlad, er mwyn astudio ei wersi gogyfer a'r ysgol Sabbothol dranoeth. Adnabyddai hefyd iarll cyfoethog yr hwn y bu agos i gerbyd fyned drosto ar yr heol yn Llundain pan wrth y gwaith o ranu traethodau, ac wedi hyny a gymerwyd i fyny yn y Tuileries, yn Paris, am ranu traethodau crefyddol yn mysg rhai o swyddogion y palaa ymerodrol; ond nid rhaid ychwanegu iddo gael ei ryddhau o afaelion i y swyddogion mor fuan ag y deallwyd pwy ydoedd. Y mae eto weddill o'r dosbarth hwn, y rhai ni feddianwyd gan y rhedegfeydd, yr hap-chwareuon, a'r chwareudai. Mynegai adroddiad y Feibl Gymdeithas y ffaith gysurus o ychwanegiad o XIO,000 at ei chyllid y flwyddyn ddiweddaf. Cafodd sefyllfa China a gweithrediadau y gymdeithas yno le helaeth yn y cvtarfod cyhoeddus. Mynegid, yn mysg pethau eraill, fod 80,000 o gopiau allan o'r miliwn o Destamentau, eisioes wedi eu dosbarthu. Y mae hyn o'i ystyried yn ddyladwy. yn swm dirfawr; a hawdd genym ddirnad ei fod yn llawn oymaint ag yr oedd yn bosibl i'r dwylaw sydd yn ngwasan- aeth y genhadaeth yno ei gyflawni. Gwnaed sylw ar sefyllfa bresenol y wlad bono yn nghyfarfod Cymdeithas Genhadol yr Eglwys hefyd. Yn wir, y fath ydyw mawredd ac amlygrwydd ei helyntion diweddar fel y mae yn ymddyrchu i sylw y byd crefyddol o ba olygfan bynag y dymuna edrych ar y ddaear. Ni fedrwn lai na chwbl annghymerad- wyo ton gyffredinol yr holl ymdriniaeth a fu a'r achos yn y cyfarfod hwn, ac yn enwedig y pen- derfyniad a basiwyd, yn nghydag araith an- nghristionogol Esgob Victoria. Nid oedd yr holl belynt yn Canton, i lygad duwiol-frydig y Bu- gail" hwn, ond prawf fod Rhagluniaeth dyner a daionus y nefoedd yn rhoddi gorfodaeth ar Fry- dain i blanu hadau gwareiddiad a gwirionedd yr efengyl yn y Dwyrain." Da fyddai genym weled mwy o arwyddion fod yr athrawiaeth gyfeiliornus ac andwyol hon yn colli tir yn yr eglwys Gristion- ogol-yr athrawiaeth o agor i efengyl Mab Duw a min y cleddyf! Rhy hir o lawer y mae wedi cael ei phregethu, a thoreithiog, ysywaeth, ydyw y ffrwythau gwenwynig y mae wedi eu cynyrchu yn ngwahanol barthau y ddaear. Nid ydym yn amheu am foment nad ydyw yn bosibl i Dduw oruch-lywdoraethu drygau, a dwyn i ben ei amcanion daionus ei hun trwy foddion a amcan- wyd i ddybenion gwahanol; y mae hyny wedi cael ei wneyd, a diau y gwneir hyny eto mewn amgylchiadau aneirif; ond nid amcanion, cithr yn hytrach gorchymynion Duw ydyw rhecl ym ddygiad dyn. Cyfmtch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear ydyw meddyliau Duw uwchlaw ein meddyliau ni, ac eithafion hyfdra ac uchelfrydedd calon dyn ydyw ceisio esgyn y goruchel rodfeydd hyn, y rhai a gadwodd y Goruchaf yn gysegr iddo ei hun ond y mae y gorchymyn wedi ei roddi yn bendant ac eglur, a dymayllwybr—yruniglwybr —a dorwyd allan i ddyn i rodio vnddo. Pa le bynag ni chanfyddir llewyrch llusern y gorchym. yn, nid oes gan ddyn un hawl na chaniatad i osod ei nodiadau arno. Ac am yr athrawiaeth o agor y ffordd i wirioneddau yr efengyl ag arfau rhyfel, rhaid i ni addef mai yn ofer y chwiliasom am dani yn y Testament Newydd; ac nid yn unig hyny, ond ei bod yn gwbl groes i holl ddysgeidiaeth ac yspryd y grefydd Gristionogol. Ai cadlywydd yn arwain ei fyddinoedd i faes y frwydr yn erbyn yr luddewon oedd loan Fedydd- iwr, rhagredegydd ei sylfaenwr ? Ai trwy dywallt gwaod yr oedd efe yn parotoi i'r Arglwydd bobl barod ?" Ac a welwyd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun rywbryd yn galw am gymorth y liywodraetb wladol i ddwyn yn mlaen* ei deyrnas, neu erioed yn dysgu y dymnnoldeb o wneuthur hyny ? Onid ei eiriau pendant ar y mater oeddynt, ac ydynt yn parhau—" Fy nheyrnas i nid yw o'r byd hwn ?" Ac am y gwledydd hyny i ba rai y bu y cleddyf yn ragredegydd yr efengyl, prin na ddywedem fod presenoldeb y cleddyf wedi bod yn fwy o ddrwg, mewn gwirionedd, nag o dda. Unwaith yr ym- ddangoso byddm Frydeinig mewn gwlad bagan- aidd neu eiiun-addolgar, fel pe byddai boll dywyllwcb, ofergoeledd, a llygredigaeth cyntefig ybrodorion yn rby fychan i genbadon yr efengyl i weitbredu yn eu herbyn, ychwanegir haen o'r ys- pryd rhyfelgar, uchelfrydig a didduw hwnw ag sydd mor nodweddiadol i'r byddinoedd a'u holl gyfundrefn fiiwrol, a buan y caiff y cenhadon fod y crystyn hwn a ffurfiwyd trwy bresenoldeb a gweithrediad Prydeinwyr annghristionogol yn fwy anhawdd i'w symud ymaith na'r holl haenau cyntefig a orweddent ar galon y Pagan. Nid yr un peth ydyw anfon Prydeinwyr i wlad estronol ag anfon crefydd yno ac mae yn bosibl dwyn gwlad i raddau pell dan ddylanwad Prydeinig, ae eto fod y dylanwad hwnw yn groes i yepryd gwir grefydd, ac yn fwy o rwystr yn ffordd ei llwyddiant na dim arall. Oddiar yr ystyriaethau hyn, y rhai nid oes genym ofod i wneuthur ond prin eu crybwyll yn y lie hwn, gan adael i'n darllenwyr eu hystyried yn bwyllog a difrif -1, nis gallwn lai na dvmuno ill chiywom byth mwy yr athrawiaeth 0 gymhwys- der ac efloithiolrwydd arfau rhvfel fel off.'rytiau i a.or y llordl i wirioiiedil N-r yu cael ei datgan yn ein cyfarfodydd cyhoeddus.
AMAETHYDDIAETH.I
AMAETHYDDIAETH. I Gierteithiau neilldiiol. Mae pob llysiau yn gofyn ymborth mwnol, yr hwn a adnabyddir yn ffurf lludw pan losger y llysieuyn. Mae rhanau ansoddol y lludw hwnw yn amry wio cryn l twor; ceir rhai llysiau yn cynyrchu, drwy eu llosgi, ddefnyddiau neu sylweddau penodol ag y mae y Ileill yn hollol ddiffygiol o honynt; ac un o brif ddybenion pob gwrteitbiau ydyw adgyflenwi yr lialenau mwnol a dynir o'r tir trwy y cnydau a godir o bono. Wrth wrteithiau neillduol yr ydym yn deall y cyfryw ag na chynvrchir ar y ffarm ei hun, a gellir ei dosbarthu i ddau ddosbarth, sef tramor a chelfyddydol. O'r cyntaf y mae guano, oil cake, rape dust, £ c., ac o'r olaf y ma3 esgyrn mewn gwahanol flurfiau, superphos phates, yn nghyda lluaws o gymysgedd ercill a ddefn. yddir fel gwrtaith. Er mwyn bod yn llwyddianus yn ngwneuthuriad a chymwysiad gwrteithian neill- duol, y prif beth ydy w gwybodaeth o angenrheidiau y cnwd y bwriedir ei goiii ac nis gellir cael hyn ond trwy adnahvddinpth o ansoddau ei ymborth mwnol. Pe llosgid y iljsi. nyn i gael gwybod pa sylweddau fydd yn cyfansoddi ei ludw, yr amcan i'w gyrhaedd yn ngwneuthuriad y gwrtaith fyddai ei wneyd mor debyg ag y byddo modd, o ran math a mesur ei ddefn- yddiau i ddefnyddiau lludw y llysieuyn y bwriedir y gwrtaith iddo. Gan] y bwriadwn draethu feallai yn lied heJaeth ar y gwrteitbiau hyn a'u defnyddioldeb, ac er nad ydym yn bwriadu bod yn rhyw gelfyddydol iawn, feallai mai nid anfuddiol fyddai rhoddi yma restr o'r sylweddau mwnol, neu anmheirianol a geir mewn llysiau, sef y rhanau hyny o'r llysieuyn a fydd yn aros yn sylwedd teimladwy a gweledig ar ol ei losgi, sef yn ffurf Iludw, pa rai ydynt y canlynol:— Bases. Silica. Alumnia. Calch. I Magnesia. I Potash. Soda. Ox i d,s of Iron. O.rt?so/'ManMM?. I Acids. Sulpheric acid. Phosphoric acid. Chlorine. Fluorin;. Iodine ) ?? -Mewnmor- B?omtKe ) lysiau yn unig. Pe buasem yn rhoddi enwau Cymreig ar y syiw- eddau, tebyg y buasai raid i'r Cymro droi i'w Eiriadur i gael eu henwau Seisonig drachefn cyn eu deall, yn debyg ag y buom yn gorfod gwneyd ein hunain gyda chyfieithiad Dr. Pugh o Coll Gwynfa Milton, sef troi at y Sais i gael ystyr geiriau a brawddegau y Cymro. Mae yr holl sylweddau a gynwys y rhestr uchod, oddieithr y ddau olaf, yn elfenau anhebgorol angen- rheidiol i bob gwrtaith y proffesir ei fod yn gymwys i bob cnwd a'r rhai hyny mewn cyfartaledd neilldu- ol i natur neillduol y cnwd y cymhwysir y gwrtaith iddo. Ond, ar yr un pryd, gall y bydd y tir yn cy- nwys ynddo ei hun ddigonedd o ryw un neu ychwan- eg o'r elfenau angenrheidiol i'r cnwd y bwriedir ei godi, tra y byddo ei anffrwythlondeb i'w briodoli i'r diffyg o ryw elfen neu elfenau ereill mor angenrheid- iol i dyfiant ac addfedrwydd y cnwd, ac felly nid ydyw bob amser yn angenrheidiol rhoddi yn y gwrtaith yr hyn sydd eisioes yn y tir ei hun. Er engraifft, gall tir tywodlyd fod yn ddiffygiol o maqnesia ac yn yr amgylchiad hwnw, mae ychwanegiad y sylwedd hwnw yn anhebgorol angenrheidiol i ffrwythlondeb, tra ar yr un pryd y byddai ychwanegu hwnw yn wastraff mewn gwrtaith a gymhwysid at dir a fyddo yn gor. phwys ar graig galch o natur fagnesiaidd. Mae ad- nabyddiaeth o ansoddiu a chymeriad y tir yn gystal ag adnabyddiaeth o ymborth mwnol y gwahanol lys- iau, yn angenrheidiol i gymhwysiad priodol a diwas- traff o wrteithiau. Syniad tra chyfeiliornus a niweid- iol ag sydd yn meddianu y rhan fwyaf, feallai, o flfermwyr Cymru ydyw, os bydd rhyw ddefnydd nen ddefnyddian yn wrtaith o gwbl, fod y peth hwnw yn wrtaith i bob math o gnwd, ac i bob math ar dir, fel eu gilydd. Gall y bydd un peth yn feddyginiaeth effeithiol i un afiechyd, ond fe addef pawb mai ynfyd. rwydd fyddai cymhwyso hwnw at bob afiechyd, ac i bob cyfansoddiad. Yr un mor ynfyd fyddai cymhwyso gwrtaith ag sydd yn effeithiol i un math o gnwd, ae i un math o dir, at bob math o gnydau a thiroedd, gan ddisgwyl iddo gario yr un effeithiau yn mhob amgylcbiad. Er ys llawer blwyddyn yn ol, mewn anhwyldeb y gwddf, a elwid goitre, y feddyginiaeth effeithiol rhag- ddo gan y meddygon ydoedd lludw yspwng llosgedig, a llawer iawn o hwn a ddefnyddid i'r dyben hwnw. Ond pe byddal i ryw feddyg y dyddiau hyn ddefnydd- io yr un feddyginiaeth annghelfydd fe'i hwtid. Yr elfen effeithiol yn yr yspwng llosgedig ydoedd iodine, ac ychydig ronynau o'r ddarpar.aeth o'r sylwedd hwn a ddefnyddir yn bresenol yn yr anhwyldeb, yn lie gorlodi yr olaf i lyncu yr holl sylweddau callestraidd a gwrtlisiraidd, pa rai oedd yn gynwysedig yn yr yspwng, a'r rhai oeddynt hefyd yn niweidiol i weithrediad yr iodine fel meddyginiaeth. Mae ffilrmwyr y dyddiau hyn, i fesur, yn yr un sefyllfa mewn perthynas i wrteithiau ag oedd y meddygon gynt o barth i gyfferi. Rhy fynych yn anwybodus am ansoddau penodol gwrtaith, i ba rai y gellir priodoli ei effeithiolrwydd. Cynwys- ant ddeg neu ragor o sylweddau eraill, mewn trefn i'r Ilysieuyn gael dewis yr un peaodol sydd arno fwy. af o'i eisiau. Rhaid, gan hyny, i wneuthurwr gwr- taith celfyddydol fod yn berffaith gydnabyddus âg I egwyddorion fferylliaeth, ac os heb y gydnabyddiaeth hono nis gall ddarparu gwrtaith llwyddianus a diwas- traff. (l'w barhau.)
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. DTDD LLUN,-Mai 11. Cyfarfu y Ty am bump o'r gloch. Gwerthiad gwenwyn a chghoeddiadau niweidiol. Arg. Campbell a ofynai, a oedd y llywodraeth yn bwriadu dwyn i mewn fesur er rheoleiddio gwerthiad gwenwyn. Yr oedd yn dda ganddo ddeall fod yr Ysgrifenydd Cartrefol yu brysur casglu hysbysrwydd ar y mater, a hyderai y dygai fesur i mewn mewn canlyniad. Yr oedd yn ddyledswydd arnynt hefyd ymwneyd 4 gwerthiad gwenwyn mwy niweidiol na strychnine neu arsenic. Yr oedd yn cyfeirio at gyhoeddiadau niweidiol a gwenwynig. Yr oedd yn deall oddiwrth yr hyn a gymerasai le mewn llys barn y dydd Sadwrn blaenorol, fod cyhoeddiadau yn cael eu gwerthu o'r natur mwyaf ffiaidd ac anfoesol, ac nid oedd yn petruso aweyd, mai dyled swydd y llywodraeth oedd dyfeisio rhyw foddion i roddi atalfa ar eu gwerthiad. Yr Arglwydd Ganghellydd a sylwai, nad oedd eisiau gwneyd deddf newydd i roddi atalfa ar y eyhoeddiadau gwenwynig hyn, ac a chymeryd yn ganiataol fod hyspysrwydd ei gyfaill urddasol yn gywir, addawai alw sylw y Cyfreithiwr Cyffredinol at y mater. Yr oedd rheithsgrif gyda golwg ar werthiad gwenwyn wedi ei darparu, a dygid hi i mewn i'r Ty arall yn mhen ychydig o ddyddiau. Rheithsgrif Ysgariaelh a Phriodas, a Rheithsgrif Giveinyddiad a Phrofiad Llythyrau Cymun. Yr Arglwydd Ganghellydd a osodasai ar fwrdd y Ty reithsgrif i wella y gyfraith mewn perthynas i weinyddiad a phrofiad llythyrau cymun. Gosodai hefyd reithsgrif i wella y gyfraith mewn perthynas i briodas ac ysgariad. Arglwydd Campbell a ddywedai, os oedd y rheithsgrif flaenaf yn cynwys penran (fel yr oedd yr un flaenorol) yn ol pa un y galai y testamentwr adael ei deulu yn nghanol cynghaws yn llys y Canghellydd, yr oedd efe yn teimlo o dan rwymau i'w wrthwynebu. Ac os oedd y rheithsgrif olaf yn cynwys penran yn rhoddi hawl i wr a gwraig ymysgaru unrhyw ddydd y gwrthwynebai efe hi. Hysbysai yr Arglwydd Ganghellydd fod y penran. au gwrthwynebol wedi eutynu allan o'r rheithsgrifau presenol, a darllenwyd hwy y waith gyntaf. Gohiriai y Ty am chwarter i chwech o'r glocb. DYDD MAWKTH,—Mai 12. Tiriogaethau y carcharorion Chineaidd yn Hono KOllg. larll Carnarvon a alwai sylw at hysbysiad a ymddangosodd yn y China Mail am y 5ed o Chwef., mewn perthyiAs i greulondeb a arferid gan yr awdurdodau Prydeinig tuag at y Chineaid. Dywedid fod 42 o bersonau wedi eu gwasu i dwll 16 o droedfeddi wrth 13, hEl, ond twll bychan i ollwng awyr i mewn, a'u bod wedi bod yno am 20 diwrnod. Ac nid troseddwyr oedd y dynion hyn, nid oedd y cyhuddiad lleiaf yn eu herbyn. Galwai sylw hefyd at hysbysiad yn yr un papur, i'r perwyl fod nifer o bersonau wedi eu dal a'u gosod mewn lie yr oeddent yn agored i wres yr haul yn y dydd, ac i'r gwlith yn y nos heb ddim i orwedd arno, a'u bod wedi bod yno am 28 o oriau heb ymborth, hyd nes y dychrynwyd y cymydogion gan eu dolefain, ac nad oedd un cyhuddiad yn cael ei roddi yn erbyn y dynion hyn. Os dyna oedd y modd yr oedd cyfiawndjr yn cael ei weinyddu gan yr awdurdodau Prydeinig mewn trefedigaethau pell, nid rhyfedd fod y bobl yn codi yn mhob man yn eu herbyn. Cynygiai am yr holl bapurau a ellid eu ciel mewn perthjnas i brawf Allum, yr hwn a gyhuddid o wenwyno yn Hong Kong, a chyn eistedd i lawr galwai at iaith hynod a arferid gan y Cyfreithiwr Cyffredinol sefapelio at y rheithwyr y niwed a'r pery<,l a ddeilliai oddiwrth rhyddhad y carcharor. Yr oedd wedi ymddwyn yn y fath fodd fel ag i beri i un o'r rheithwyr gwyno o herwydd ei yirddygiad. Yr oedd yn ymddangos iddo yn un o'r acbosion mwyaf gwrthun a glywsai son am dano erioed. larll Harrowby a ddywed, nad oedd o'r blaen wedi clywed am araeth y Cyfreithiwr Cyffredinol yn Hong Kong, ac o ganlyniad nas gallai fyned i mewn i'r oweatiwn hwnw. Yr oedd prawf teg a llawn wedi ei roddi i'r personau cyhuddedig, ac yn lie credu fod gweinyddiad cynawnder yn y trefedigaethau y fR.th fel ag i gyfiawnhau defnyddiad yr iaith grefa arferai ei gyfaill anrhyjeddus, credai efe i'r gwrthwyneb I fod y gyfraith Seisnig yn cael ei gweiuyddu gyda phwyllacarafwchagoeddyndestyn syndodi ddieithr- iaid. Dymunai alw sylw at adroddiad a wnaed gan y heddgeidwaid, yn ol pa uu yr oedd yn ymddan. gos fod y carcharorion wedi eu gosod mewn ystafell ar y Hawr, 15 troedfedd ysgwar, fod yno gyfleusder- au digonol, nad oedd un o honynt yn afiach, a bod yr ymborth arferol wedi cael ei roddi iddynt. Yr oedd y llywodraeth wedi danfon am wybodaeth pellach ar y mater, ac yn y cyfamser ceid y papurau it ofvriil am danynt. I {rll ItImei;;nry a dybiai fo 1 y cyhuddi-idau wedi eu dwyn yn mlaen mewn geiriau cymhcdrol iawn; ac nid oedd dim wedi cael ei ddweyd ag a allasai beri neb dybied ei fod ef ei hun yn credu yr hanes. Nid oedd ond am gael allan y gwirionedd, a'i ddyledswydd fel aelod olr Ty hwnw, oedd ym. ddwyn yn y modd y gwnaeth. Hyderai efe y gwnai y llywodraeth wneyd ymchwiliad bona fide i'r holl fater. Dylai y ihai ag oedd yn eu cynrychioli yn mhell ddeall fod braich y Senedd ya un gref ac yn cyrhaedd yn mhell? a pha oediad bynag a gymerai le, y byddai y gosp yn sicr o ddisgyn ar y troseddwr. larll Ellenborough a hyderai y gwelai y llywodr. aeth yn dda i chwilio i ymddygiad y Cyfreithiwr Cyffredinol. Cydsyniwyd a'r cynygiad, a gohiriai y Ty yn fuan wedi chwech o'r gloch. DYDD IAU.-Mai 14fed. Y Fasnach mewn Opium. larll Shaftesbury a ofynai, a oedd yr Arglwydd Ganghellydd wedi gwneyd rhywbeth taag at gael penderfyniad y cwestiwn, a oedd y fasnach mewn opium, yr hon oedd yn cael ei chario yn mlaen gan Gwmpeini India'r Dwyrain, yn gyfreithlon ai nad oedd. Yr Arglwydd Ganghellydd a atebai fod Llywydd y Bwrdd Control wedi tynu allan y cwestiwn i'w osod ger bron Swyddogion Cyfreithiol y Goron. Yr oedd hwnw wedi ei osod o flaen llys Cyfarwyddwyr Cwmpeini India'r Dwywin i edrych a oedd y des- grifiad o'r achos yn gywir, ac yn mhen ychydig o ddyddiau fe'i gosodid o flaen Swyddogion Cyf- reithiol y Goron. Ardalydd Clanricarde a gynygiai am gael hysbys- iaeth mewn perthynas i benodiad un Mr. Thomas yn y gwasanath gwladwriaethol yn Nghwmpeini India'r Dwyrain, ac am ryw ohebiaeth rhwng Mr. Thomas a'r awJurdodau yn Madras, mewn perthyn. as i weithred o greulondeb tuag at un boneddwr brodorol. Dywedai nad oedd hyn ond esiampl o weinyddiad gwarthus cyfiawnder gan yr awdurdod- au Prydeinig. Iarll Granville a ddywedai, nad oedd y llywodr- aeth wedi derbyn hysbysiaeth mor ddiweddar ag yr oedd yn ymddangos oedd yn meddiant yr ardalydd urddasol. Hyd nes y ceid hyny barnai mai gwell oedd tynu y cynygiad yn ol. Arg. Campbell a haerai fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn y llysoedd uchaf yn India mewn modd anrhydeddus, ond yr oedd yn angenrheidiol cael diwygiad yn ngweinyddiaeth y cyfreithiau yn y taleithiau. Tynwyd y cynygiad yn ol, a gohiriai y Ty tua phum mynyd i chwech. DYDD GWENEH.—Mai 15fed. Cyfarfu y Ty am bump o'r gloch. larll Malmesbnry a ofynai i'r llywodraeth, beth oedd amcan a pha beth fyddai cost y gwaith sydd yn awr yn myned yn mlaen yn Pare St. James, hefyd a oedd Syr B. Hall wedi derbyn cydsyniad y Senedd i wneyd y costau angenrheidiol. larll Granville a ddywedai fod cwynion wedi cyrhaedd y llywodraeth mewn perthynas i sefyllfa y dwr yn Pare St. James, ac o ganlyniad, yr oedd yn angenrheidiol defnyddio mesurau i symud y drwg o gamyniad, yr oedd wedi cael ei dybyabyddu; a mesurau yn cael eu defnyddio i gael digonedd o ddwfr pur. Nid oedd yr amcangyfrifon wedi eu gosod o flaen Ty y Cyffredin, oblegid yr oedd y gwaith o angenrheidrwydd wedi ei ddechreu pan oedd y Senedd yn eistedd. Gyda golwg ar gostau y cyfnewidiadau, byddant yn llai na Xll,5, 0, swm heb fod yn rhy fawr pan ystyrid mai yr amcan ydoedd pleser ac iechyd y brif-ddinas. Ar ol rhai sylwadau gan larll Hardwicke, Iarll Ellenborough, ac Arglwydd Monteagle, ar yr afreol- eidd-dra o fod symiau a bleidleisid yn Nhy y Cyffredin at un pwrpas yn cael eu defnyddio at un arall, ac aneffeithioldeb y gyfundrefn bresenol o AHrvp.h drna v fwfrifnn. irAflAwvri v mfttpr- "J" J "J- O-J-"¡ Due Somerset a gyfeiriai at y portreadau presenol am Senedd-dai, a dywedai os cerid hwynt allan y costient rhwng pum a ehwe miliwn o bunau, ac y costiai y tir yn unig filiwn a haner. Gofynai pa fesurau oeddent yn cael eu defnyddio i amddiffyn y wlad rhag y fath gostau anferth. larll Granville a ddywedai, fod pwyllgor neillduol wedi cyhoeddi adroddiad mai dymunol fyddai cryn- hoi hoU swydd-dai y llywodraeth, ond nad oedd y llywodraeth wedi eu rhwymo at unrhyw gynllun. larll ELlenborough a ofynai, a oedd yn angenrheid. iol anhebgorol i fyned yn mlaen gyda'r gweithydd cyhoeddus hyn o gwbl, oblegid cymerent i fyny yr holl dreth ar incwm o saith geiniog y bunt. Cyng- horai efe Pare St. James i gael ei ddefnyddio i swyddfeydd cyhoeddus, ac yn neillduol y Swvddfa Dramor. Paham nas gellid defnyddio Ty Marlbor- ough yn swyddfeydd cyhoeddus, oblegid yr oedd yn hollol anghymwys i fod yn gyfaneddle Tywysog Cymru heb dreulio arno gan mil o bunau. Yr oedd yn rhaid arfer cynildeb yn y materion hyn, ac os nad oedd Ty y Cyffredin yn gwneyd ei ddyledswydd yn y mater hwn, dylai Ty yr Arglwyddi adael i'r wlad wybod fod ganddi un Ty o'r Senedd a edrychai ar olcyllidau y wlad. Wedi ychydig o ymddiddan pellach, gohiriai y Jy tua phum mynyd wedi saith.
ITY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. DYDD LLUN,—Mai 11. Cyfarfu y Ty am bedwar o'r gloch. Mr. Scholfield a roddai rybudd, pan ddeuai cynyg- iad Mr. Spooner i ddadwaddoli Maynooth o flaen y Ty, y cynygiai efe fel gwelliant, mai doeth oedd tynu yn ol pob rhodd arianol at achos crefydd yn yr Iwerddon. Y Dreth Eglwys. Mewn atebiad i Syr J. Trelawney, dywedai Arglwydd Palmerston, nas gallai roddi ond yr un ateb mewn perthynas i fwriadau y llywodraeth ar bwnc y dreth eglwys, ag a roddes ar achlysur blaen- orol, sef bod y mater dan sylw llywodraeth ei Mawrhydi, ac nad oeddent yn ddiobaitb y gallent ddwyn mesur i mewn fyddai yn foddaol. Syr J. Trelawney, Yna yr wyf fi yn rhoddi rhybudd, os na chaf ateb mwy boddaol, y teimlaf yn ddyledswydd arnaf ddwyn y mater o flaen y Ty yn ystod y mis nesaf. Ariandai Cynilo. Canghellydd y Drysorfa a gynygiai y penderfyniad can]ynol Mai doetb yw gwella y gyfraith gyda golwg ar Ariandai Cynilo, ac i ddarparu ar gyfer sefydlu ariandai synilo gyda dyogelwch y llywodr. aeth." Amcan y penderfyniad oedd i barotoi y Ty i dderbyn rheithsgrif ar y mater. Yr oedd efe yn y rheithrsgrit flaenorol wedi cyfyngu y deibyniadau oddiwrth un person i gan punt, yn lie dau cant o bunau fel y mae yn bresenol, ond yn y rheithsgrif hon, yr oedd y penran hwnw wedi ei adael allan. Ar gyfer y dyogelwch hwn gan y llywodraeth, yr oeddent yn gofyn yn ol math o arolygiaeth ar yr ariandai cynilo i ragflaenu pob aflwydd. Syr H. Willoughby a fawr gondemniai waith Canghellwyr y Drysorfa yn defnyddio arian yr ariandai cynilo at wasanaeth y llywodraeth. Barnai hefyd y dylasai cyfreithiau mewn perthynas i'r ariandai hyn gael eu crynhoi, yn lie ychwanegu un atynt a'u gwneyd yn fwy dyrys. Mr. Henry Herbert a gymeradwyai fesur y llyw- odraeth. Yr oedd ariandy cynilo wedi methu yn 1844, a chafodd y cyfranwyr golled dirfawr. Dyma'r pryd y deallasant gyntaf er eu gofid nad oedd y llywodraeth yn atebol am yr arian. Mr. Escott wrth olygu, mai er mantais y dyn tlawd yr oedd yr ariandai cynilo wedi eu sefydlu, a ofidiai nad oedd y penran yn cyfyngu y cyfraniadau i gan punt. 03 oedd y llywodraeth i fod yn atebol am yr holl syrriau a ddodid yn yr ariandai hyn, nid oedd ond iawn iddynt feddu awdurdod ar bob llyfr perthynol iddynt, pan allent ddangos rheswm digonol am gymeryd meddiant o honynt. Wedi ychydig o siarad pellach, cariwyd y pender. fyniad. Rheithsgrif AHludiaeth. I Syr George Grey a gynygiai ail adariieniaa y rheithsgrifbon. Yn ol deddf 1853, yr oedd alltudiaeth am dymhorau o dan 14 mlynedd wedi ei diddymu, a gwasanaeth cospawl am dymhor byrach wedi ei osod 'yn ei le uwchlaw 14 mlynedd yr oedd y barnwr at ei ryddid i ddewis gwasanaeth cospawl. Yn ol rheith- sgrif bresenol yr oedd alltudiaeth yn cael ei ddileu, a dedfrydiau o fwy na 14 o flynyddau yn cael eu gosod ar yr un tir yn hollol a rhai o dan 14 mlynedd. Ond wrtb gynyg dyddimu alltudiaeth, yr oedd yn cynyg danfon allan droseddwyr wedi iddynt wasanaethu rhan o'u tymhor. Yr oedd hefyd am wneyd y gwasanaeth cospawl yn ogyhyd a thymor yr alltud- iaeth. Ond y peth mwyafpwysig o gwbl yn y rheith- sgrif oedd, fod gallii i ddanfon collfarnedigion i unrhyw drefedigaeth, os byddai trigolion y lie yn foddlawn i'w derbyn. O'r flwyddyn 1843 hyd 1852 yr oedd 31,012 o garcharorion weji eu dedfrydu i alltudiaeth, o ba nifer yr oedd 2 :¿,322 wedi eu halltudio mewn gwirionedd, tra yr oedd 8,698 wedi eu oadw yn y wlad hon. Gyda golwg ar gyfundrefn y tocynau rhyddid, yr hon nad oedd y rheithsgrif bresenol yn ei newid, dywedai nad oedd yn awr ond ychydig o gondemnedigion 1853 ar ba rai y gweith- redai, ae yna y dywedai ei fod ef yn dymuno datgan ei gydsyniad o'r egwyddor o leihau y gosp i'r rhai hynv, yr oedd eu hymddygiad da yn ei haeddu, Mr. Iteutick a wrthwynebai y gyfundrefn o alltui- iaeth yn hollol. Credai mai tuedd alltudiaeth oedd gwneyd y troseddwr yn waeth, ac yr oedd yn moddwl hefyd fod y gyfundrefn o ailtudiaeth yn llawer mwy costns na chosbedigaethau gartref. Carai efe weled gorsafoedd cospawl o fown pedwar mor Prydain, a barnai y gellid gwneyd. iddynt dalu eu costau eu hunain. Cynygiai weliiant fod y rheithsgrif i gael ei darllen yn mhen chwe mis. Ond gan na chododd neb i gefnogi y gwelliant syrthiodd i'r Ilawr. Mr. Roebuck a ddywedai, mai yr anhawsder ydoedd, pa beth i wneyd a'r carcharorion wedi i'w tymhor ddyfod i ben. Pe gallesid cael gwaith iddynt byddai eu difer yn lleihau, ond yr oedd gwrthwynebiad mawr i gymeryd gwasanaeth gan ben droseddwr o'r carchar. Barnai efe, os danfonid dyn allan o'r wlad, na ddylai ddychwelyd ond ei ddanfon i rai o Ynys- oedd Mor y De, yn rhy bell oddiwrth unrhyw gyfan- dir i'w alluogi i ddianc. Cynygiai anfon yne yr un nifer o feibion ao o ferched, fel ag i'w gwneyd yn sylfaeni ymerodraethsu mawrion. Syr J. Pakington a ddywedai, mai prif achos troseddau oedd anwybodaeth a meddwdod, ac nid diffyg gwaith. Barnai mai myned yn ol at yr hen amseroedd fyddai alltudio pawb, ac nid oedd yn meddwl y ceid ynys ar ba un y gellid yn ddyogel gfngln y fath nifer. Kr y carai efe weled ychydig o 1 gyfnewidiadau yn y rheithsgrif, eto yroedd ar y cyfan Y?p?nderfynuciphle'dio. Mr. Drummond a farnai, os edrychai yr aelodauar y map y ceid rail o leoedd i ba rai y gellid danfon y coademnedigion. Yr oedd cyfundrefn y tocynau rhyddhad wedi gwneyd rbyfeddodau, yr oedl wedi dychrynu rhai hen wyr a hen wragedd o'u synwyrau (chwerthiniad). Nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd a diwygio troseddwyr, eu hamcan oedd amddiffyn cymdeithas. Mr. Newdegate a ofidiai nad oedd un gobaith oddiwrth y rheithsgrif y byddai dyogelwch i'w personau a'u teuluoedd i'w gael rhag dynion, nad oedd dim gobaith y gallesid eu diwygio, a barnai efe y dylasai fod genym ryw le i alltudio y cyfryw rai iddo. Wedi i luaws o aelodau draethu eu syniadau, dy- wedai Arglwydd Stanley, mai nid y cwestiwn ydoedd, a oedd yn ddymunol ai peidio, ond a oedd yn beth posibl ai peidio. Yr oedd wedi darllen pab adrodd- iad ar y mater, a barnai mai yn siomedigje?h y?rcal pob Ile allan y ceisid danfon troseddwyr idct?-J Newidiodd Van Diemens Land ei barn, a throes 11 erbyn derhyn alltudiaid yn bur sydyn, a Gorllewinbarth Awstralia wneyd yr un peth. Er cymaint o wrthwynebu fu ar y gyfundrefn o ganiatau tocynau ihyddhad, barnai efe nad oedd wedi cael prawf teg. Wedi i ychydig o sylwadau pellach darllenwyd y rheitbsgrif yr ail waith. Darllenwyd rheithsgrif mewn perthynas i ysgolion divvydrwydd hefyd yr ail waith, ac ar ol cyflawni rhai gorchwylion eraill gohiriai y Ty yn fuan wedi un o'r gloch. DYDD MA WRTH.—Mai 12. Cyfarfu y Ty am ddeng munyd i bedwar o'r gloch. Rhoddai Syr J. Trelawney rybudd y byddai iddo ar y 26ain o'r mis hwn ofyn am ganiatad i ddwyn rheithsgrif i mewn i lwyr ddileu y dreth eglwys. Arglwydd Palmerston a roddai rybudd y byddai iddo ddydd Gwener gynyg fod y Ty yn ymffurfio yn bwyllgor ar Iwon aelodau seneddol. -I- Ymosodiadau creulon. Mr. JJmwyn a gynygiai am gael caniatad i ddwyn 1 rheithsgrif* i ddileu deddf 10 a 17 Vie. p. 30, ac i wneyd gwell darpariaeth er atal a chospi ymoscdiad. au creulon ar wragedd a phlant, ac i atal oediad a thraul yn ngweinyddiad rhai rhanau ,o'r gyfraith. Wrth ymosodiadau creulon, nid oedd yn golygu gwaith dyn yn taro plentyn neu ddynes —er fod hyny yn beth digon drwg-ond yr hyn a olygai oedd pan darawai dyn ferch i lawr, y ciciai efe hi, ac y sathrai arni, ac felly yn y blaen; ac am blant golygai greu- londeb parhaus tuag atynt, oblegyd nid oedd yn meddwl fod deddf 1853 yn cyfarfod yr amgylchiadau. Darllenai adroddiadau o'r newyddiaduron i ddangos ei feddwl. Cynygiai efe, gan hyny, leihau tymhor y gc ibedigaeth, a dwyn i mewn fflangelliad yn lie hyny. Barnai yr ataliai hyny yr ymosodiadau ciaidd hyn. Os methai hyn byddai yn dda ganddo arfer ryw fodd. ion ereill. Syr George Grey a ddywedai nad oedd am wrth- wynebu dygiad y mesur i mewn, er nad oedd ganddo ond ffydd egwan iawn yn ei effeithioldeb. Hyderai na wnai y Ty fabwysiadu y gosb ofnadwy a gynygid, heb fod yn argyhoeddedig fod y cyfryw gosb yn ang- enrheidiol. Rhoddwyd caniatad i ddwyn y mesur i mewn, a darllenwyd ef y waith gyntaf. Giverth-i-ad Cwrw. I Mr. Hardy mewn pwyllgor o'r holl Dy a gynygiai am ganiatad i ddwyn rheithsgrif i mewn i osod holl dai cwrw o hyn allan o dan drwydded yr ynadon, fel tarfarndai, a hefyd i roddi tai coffi (lie y gwyddid oeddent yn gwerthu gwirod) o dan ofal yr heddgeid- waid. Mr. K. Seymour a wrthwynebai y mesur, gan ei fod yn myned yn erbyn adreddiad y pwyllgor fa yn eistedd ar y mater, a hefyd am ei fod yn myned o dan wraidd egwyddorion rhyddfasnach. Syr J. Pakington a farnai y dylasai y llywodraeth ddwyn Iheithsgrif i mewn ar y mater. 0. £'1 r"'f- p- -1 -18 oji VJT. ucey aiarnai na wnai y rnennsgrii symua y drwg oedd mewn golwg, ac wrth ystyriod yr arian mawr oedd allan yn y fasnach hon, barnai y dylid ymwneyd a hi yn bur ofalus. Dygwyd y rheithsgrif i mewn a darllenwyd hi y waith gyntaf. Cymhwysder tirol i aelodaeth Seneddol. Mr. Locke King a gynygiai am gael caniatad i ddwyn rheithsgrif i mewn i ddyddimu y cymhwysder tirol oedd yn angenrheidiol i aelodaeth seneddol. Y cymhwysder i siroedd oedd X600 yn y flwyddyn, ac i fvvrdeisdrefi £800. Yn Ysgotland nid oedd y fath gymhwysder yn ofynol, ac nid oedd aelodau dros y Prif Ysgolion, na meibion henaf pendefigion, ac ael- odau seneddol sirol, yn gofyn y fath gymhwysder. Nid oedd yn meddwl fod y gyfraith bresenol yn sicr- hau gradd uwch o seneddwyr, ac yr oedd efe yn cynyg dileu y ddeddf yn llwyr. Arglwydd Palmerston a dybiai mai y ddealltwriaeth gyffredinol ydoedd, fod pob cwestiwn gyda golwg ar gynrychiolaeth y wlad yn y Ty i gael ei oedi hyd y senedd-dymhor nesaf. Ar yr un pryd nid oedd efe am wrthwynebu dygiad y rheithsgrif i mewn, os oedd ar y boneddwr anrhydeddus awydd i draethu ei ftyn. iadau ar y mater. Nid oedd Mr. Locke King wedi nodi unrhyw resyman dros y mesur, ac felly nid oedd efe (Arg. Palmerston) am ddechreu unrhyw ddadl- euaeth ar y mater yn bresenol. Yr oedd efe yn meddwl fod Mr. King wedi oydsynio gydag ereill i oedi ystyriaeth cwestiynau o'r natur yna. Dygwyd y rheithsgrif i mewn a darllenwyd hi y waith gyntaf. Wedi myned trwy rai gorchwylion ereill gohiriai y Ty tua chwarter wedi chwech o'r gloch. DYDD MEBCHER.—Mai 13. Cymerodd y Llefarydd y gadair am haner dydd. Dadleuwyd cwestiwn rheithsgrif or estyn grym dyfarniadau mewn unrhyw lys yn Lloegr, Iwerddon, neu Ysgotland, i unryw barth o'r deyrnas gyfunol. Ar ol llawer o siarad cariwyd yr ail ddarlleniad trwy fwyafrif o 137 yn erbyn 99. Costau Etholiadol. Arglwydd R. Grosvenor a gynygiai am ganiatad i ddwyn rheithsgrif i mewn gyda golwg ar daliad clud- iad pleidleiswyr at yr etholfa, a chostau yr hustings gan yr ymgeiswyr. Cyfeiriai yr arglwydd urddasol at adroddiad pwyllgor neillduol 1834, 1& yn cyfiawn- hau yr egwyddor y dylid danfon aelodau i'r senedd yn ddigost. Nid oedd yn meddwl y dylai costau cario etholwyr i roddi eu pleidlais gael eu rhoddi ar yr ymgeiswyr mewn un modd, ac os oedd y Ty yn barnu fod dynion tlodion yn bod, y rhai nas gallent unwaith mewn pedair blynedd gerdded pedair milldir i roddi ei bleidlais, yna bydded iddo gael ei gario, ond nid ar gost yr ymgeisydd, ond ar gost y wlad. Mr. W. Williams a ddywedai nad oedd yn gwrth- wynebu egwyddor y mesur, ond os yr amcan ydoedd i daflu costau yr etholiad ar y siroedd a'r bwrdeisdrefi, nid oedd yn meddwl y byddai un dyben daionus yn cael ei ateb. Mr. H. Drummond a ddywedai os byddai y rheith- sgrif yn cael ei chymhwyso at siroedd, y ditreiniai yr holl etholwyr tlodion. Gofynai paham na fuasid yn ceisio cario allan yr egwyddor cyn yr etholiad di- weddaf, a dywedai fod Arglwydd Ebrington wedi gorfod talu X7000 i gario etholwyr Marylebone at yr etholfa (chwerthin). Rhanodd y Ty a chafwyd 0 blaid y rheithsgrif 151 Yn erbyn 58 M wysfrif oblaid 93 Darllenwyd y rheithsgrif y waith gyntat, a pnen odwyd yr ail ddarlleniad i gymeryd lie ar y lOfed o'r mis nesaf. Gohiriai y Ty tua phump o'r gloch. DYDD IAU.-Mai 14eg. Mr. Roebuck a roddai rybudd y byddai iddo yn mhen pymthefnos gynyg am gael pwyllgor neillduol i chwilio i mewn i'n cysylltiadau a Brazil. Syr G. Grey mewn atebiad i Mr. T. Duncombe a ddywedai, lod pardwn rhydd wedi ei roddi i William Cuffey, yn gystal a'r carcharorion politicaidd eraill yn Van Diemens Land. Mr. Lowe mewn atebiad i Arglwydd Naas a ddy- wedai fod Mr. Greenhow wedi gwneyd adroddiad mewn perthynas i'r haint yn mysg yr anifeiliaid, yr hwn a osodid ar fwrdd y Ty. Syr J. Pakington mewn atebiad i Mr. Slanpy a ddywedai na wnai y Senedd-dymhor yma ddwyn rheithsgrif ar addysg i mewn, ond yr ymfoddlonai ar gynyg penderfyniad ar y mater. Syr E. Perry a ofynai am ganiatad i ddwyn rheith- sgrif i mewn i wella y gyfraith mewn perthynas i eiddo mor bell ag yr oedd yn dwyn perthynas a gwragedd priod, a'u henillion priodol eu bunain. Cynygiai efe fabwysiadu egwyddor y gyfraith Rufeinig, trwy roddi i wyr a gwragedd hawl yn JU heiddo gwahanol cu hunain, ond pan oedd gweithred priodas arbenig yn darparu yn wahanol. Mr. Drumnoond a farnai, y dylai fod ysgariaeth yn beth haws i'w gyrhaedd, ac nad oedd yn meddwl y ceid meddyginiaeth briodol cyn hyny. Syr J. Packington, tra yn cyfaddef fod eisiau newid y gyfraith a gyngorai y boneddwr anrhydeddus i wella ei reithsgrif. Mr. Malius a gymeradwyai egwyddor gyffredinol y rheithsgrif, ond gwrthwynebai sefydlu meddiant gwahanol mewn eiddo ar ran y gwr a'r wraig tra yn byw gyda'u gilydd. Cydsyniwyd i'r cynygiad. Cadben Boldero a gynygiai fod pwyllgor neilluuol yn cael ei benodi i chwilio i mewn i'r dull presenol y mae y llywodraeth yn rhoddi gwaith allan. Cydsyniwyd i'r cynygiad. Arian Gweitiidogionj yn yr Iwerddon. Mr. Fagan a gynygiai am gael caniatad i ddwyn rheithsgrif i mewn i ddiddymu arian gweinidogion yn yr Iwerddon. Arg. Palmerston, mewn atebiad i Mr. Stafford a ddywedai, ei fod ef yn cymeradwyo egwyddor y rheithsgrif. Mr. Disraeli a ddywedai, os felly, ei fod of yn gwrtbdystio yn erbyn fod mesur o'r fath bwys yn cael ei adael yn uwylaw unigol. Yr oedd yn penderfynu gwrthwynebu y rheithsgrif yn y modd mwyaf egniol.' Syr Œ, Grey a farnai fod y rheithsgrif yn llawer mwy tebyg o gael ei ddadleu yn deg trwy gael ei gymeryd i fyny ar ddyddiau yr aelodau cyffredin, na phe cymerid hi i fyny gan y llywodraeth. Wedi ychydig sylwadau gan Mr. Horsman ac eraill cydsyaiwyd i'r cynygiad. Ar ol cyflawni rhai gorchwylion eraill, gohiriai y Ty tuag ugain mynyd i saith. DYDD GWENER,—Mai 1.5fed. Cyfarfu y Ty am chwarter i dri o'r ploch. Mewn atebiad i Mr. Conyngham, dywedai Y Cyfreithiwr Cyffredinol, ei fod am edrych drosyr holl bapurau mown perthynas i'r Royal British Banh, ac os gel lid yn unol a'r gyfraith, yr oodd yn pander fynil rhoddi cyfraith ary cyfarwyddwyr. Mr. Labouchere mewn atebiad i Aig. R. Cecil a ddywedai, fod yr byt oedd wedi cael ei ledaeov mewn perthynas i driniaeth greulon rhai Chin Hong Kong gan yr awdurdolau Prydeinig yn bolioianwir- eddus. Rheithsgrif Llwon Sene(ii Arg. Palmers">u a gynygiai am ganiatad i ddwyn rheithsgrif 1 mew 1 gyfnewid llwon Seneddol, a gwneyd I un Hw wneyd y tro yn eu lie. Gofynai am gael esgusawd am gymeryd y mater o ddwylaw Arg. John Russell, a dywedai ei fod wedi cael ei dueddu i wneyd hyny am fod lluaws o aelodau Seneddol yn sicrhau iddo y byddai. y rncithsgrif yn fwy tebyg o basio wrth gael ei ddwyn i mewn gan brif weinidog y Goron. Dywedai natl oedd yn bwriadu cyfnewid y llwon a gymerir gantyr aelodau Pabaidd, ond i rydd- Qristionogion oddiwrth gymeryd llwon ag oeddent > rs i'w teimladau, ac i adael allan rhan o un o'r yr hyn oedd y prif rwystr ar ffordd yr Iuddew- ? ymeryd eu lie yn y Senedd. ?edd yn cynyg $jliGftr y llwon 0 ffyddlondeb uchafiaeth, 80 ymwrth- i. d Y. gadw ond un llw yr hwn a gynwysai y llw ffyddlondeb a'r rhanau hyny o'r llwon eraill ag oedd yn angenrheidiol i'w cadw. Yr oedd am adael allan ar wir ffydd Cristion fel ag i ganiatau i'r Iuddew ddod i mewn, a hyderai y byddai y fath fwyafrif o blaid y mesur ag a ddiogelai ei basiad yn ddeddf. Syr F. Thesiger heb wrthwynebu dygiad y mesur i mewn, a ddywedai y rhoddai efe y gwrthwynebiad mwyaf penderfynol i'r mesur. Gan ei fod yn fesur o Ddiwygiad Seneddol, yr oedd yr Arglwydd anrhyd- eddus yn gyson ag ef ei hun, o dan rwymau i adael y mater i sefyll hyd y Senedd-dymor nesaf. Yr oedd yn penderfynu gwrthwynebu agoryd drws y Senedd i'r Iuddewon. Arg. J. Russell a bleidiai y mosur yn fyr ond yn bur galonog. Mr. Newdigate a ddywedai fod y gwrthwynebiad o ganiatau i'r Iuddewon ddyfodiad i'r Senedd, yn cael ei ddal yn lied gyffredinol a chydwybodol, ac yr oedd efe yn hyderu y byddai i'r ymgais yma erthylu fel y rhai blaenorol. Cydsyniwd i'r cynygiad. Pasiodd rheithsgrif alltudiaeth Syr George Grey trwy Bwyllgor y ty, a gohiriwyd tuag again mynyd wedi deuddeg o'r gloch.
FFRAINC.
FFRAINC. Mae y newyddiaduron Ffrengig yn awr yn cadarn- hau yr hyn sydd eisioes wedi ei ddweyd y bydd i'r Uchel Dduc Constantine dalu ymweliad a Phrydain, ac y bydd iddo, ar ol ymweliad a'r Frenhines Victoria, ddychwelyd yn ol i Ffrainc. Dywed y Courrier de Paris, pan wahoddodd Arglwydd Cowley, ein cyn- rychiolydd ni yn Paris, yr Uchel Dduc, ei fod wedi ateb fod yn rhaid iddo yn gyntaf ymgynghori a'i frawd, yr ymerawdwr, a'i fod mewn canlyniad wedi danfon hysbysiad pellebrol i St. Petersburg, a'i fod wedi cael caniatad yr ymherawdwr ya ddioed. Dy- wedir na fydd yr ymweliad mewn un modd yn un swyddol, ac na fydd ond yn unig fel cydnabyddiaeth o barch i Victoria fel Brenhines a merch. Y mae ymadawiad y Tywysog Napoleon o Paris wedi achosi llawer iawn o ddyfalu, ac nid yw yr hys- pysiad pellebrol o Berlin fod y Tywysog wedi dyfod a llythyr oddiwrth yr Ymherawdwr Napoleon yn ei lawysgrifen ei hun, mewn perthynas i ddadl Neuf- chatel, wedi symud llawer ar y syndod yn yr achos. Bernir yn lied gyffredinol fod yr oerfelgarwch sydd yn bod rhwng y Tywysog Napoleon a't- Due Con. stantine yn achos o'r ymadawiad. Mae prawf y 14 o ddynion hyny a gyhuddid o ffurfio cymdeithas ddirgelaidd er dymchwelyd y llywodraeth Ffrengig wedi ei ddwyn i derfyniad. Mae tri o hon- ynt wedi eu cyhoeddi yn ddieuog. Condemniwyd Pelette, y penaf o'r troseddwyr, i bymtheg mis o gar- chariad, a dirwy o 1000 f.; y Ileill i ddirwyon a chosbedigaethau ilai. Mae y Moniteur Ffrengig yn cynwys yr hysbysiad canlynol:—" Y mae M. de Baron Gros wedi cael ei benodi gan ei Fawrhydi yr Ymherawdwr i fyned i China fel cenad neillduol. Mae Arglwydd Elgin wedi derbyn oddiwrth Frenhines Brydain genhadwr- iaeth gyffelyb, a bydd i'r ddau genad gynorthwyo eu gilydd yn yr ymdrafodaeth a ymddiriedwyd iddynt, Uwyddiant pa un yn ddiau a egyr ddrws newydd i wareiddiad Cristionogol, ac i fasnach yr holl gen- hedloedd." Dywed y Constitutionnel mai gorchwyl Baron Gros fydd gofyn gan y llywodraeth Chineaidd am feddyg- iniaeth i rai pethau sydd yn awr yn niweidiol i Ffrainc, ao yn neillduol am iawn am lofruddiaeth M. Chapdelame; y mae hefyd i ofyn am gytundebau newyddion, a bod unrhyw gydweithrediad rhwng y galluoedd Ffrengig a Seisnig yn dibynu ar ffrwyth cenadwriaeth Baron Gros. Y mae llyfr o dan y teitl Cristionogaeth yn China, Tartary a Thibet," wedi tynu sylw mawr yn Paris. Y mae yr awdwr yn barnu fod yr amser gerllaw i agor Ymherodraeth China i'r holl fyu gwareiddiedig, a barna y gwelir rhyfeloedd mewn perthynas i China yn bur fuan, nad oedd y rhyfel diweddaf a Rwsia yu ddim mewn cymhariaeth iddynt. Dywed gohebydd y Times fod atebiad Brenhin Prwsia i'r llythyr a ddanfonwyd ato gan yr Ymerawd- wr gyda'r Tywysog Napoleon yn ffafriol.
--,.-AWSTRIA.--
AWSTRIA. uywedir nad yw derbyniad yr Ymherawdwr a'r Ymherodres yn Pesth wedi bod mewn un modd yn un calonog. Mae pwyllgor wedi ei benodi i geisio cren ystwr yn ffafr yr Ymherawdwr, ond gan nas gall y boneddwyr hyn ddangos pa fantais fydd hyny i Itali, nid oes ond ychydig o aidd yn cael ei ddangos yn yr achos. Mae yr ymwelwyr Ymherodrol, pa fodd bynag, wedi penderfynu aros dri mis yn Hungary, ac y mae cyngor trefol Pesth wedi pleidleisio 600,000 f. i'w treulio i ddangos crosaw iddynt.
RW8IA. - - - -
RW8IA. Dydd LInn diweddaf ond un rhoddodd Ymherodres Rwsia enedigaeth i fab. Dywedir fod Rwsia am ddanfon nifer o longau i China, a bod cenad neilldu. ol o St. Petersburg i gael ei ddanfon i'r Ymherodraeth Nefol.
PERSIA.
PERSIA. Y mae yr bysbysiad peUebrol canlynol wedi ei dderbyn oddiwrth Syr James Outram, dyddiedig o flaen y wersyllfa ger Mahammorah :—Mawrth 28. Cymerwyd Mahammorah gan y Prydeiniaid ar y 26ain CoUodd y gelyn ddau cant o rai wedi eu lladd a'u clwyfo, heblaw 17 o ynau, a llawer iawn o ystorau rhyfel. Aeth y fyddin Persiaidd o dan Shah Zedah tuag Ahwaz a Shuster, mewn annhrefn mawr. Y mae y galluoedd Prydeinig wedi ymwersyllu gerllaw Mahammorah. Ein colled ni yw 10. Y mae y llwythau Arabftidd yn gyfeillgar ac yn danfon i mewn eu hymostyngiad. Derbyniwyd yr hysbysiad peUebrol pellach can- lynol oddiwrth Syr James Outram trwy Constan- tinople Dychwelodd y milwyr dihangol i Ahwaz yn ol i Mahammorah, ar y 4ydd o'r mis hwn (Ebrill), yn hollol lwyddianus Ciliodd y fyddin fawr Bersiaidd o'u sefyllfa a ffoesant tua Dezful o flaen dim ond 400 o filwyr Prydeinig. Cymerwyd un fagnel a lluaws mawr o offerynau eraill. Y mae yr hysbysrwydd cadarnhaol a ganlyn wedi ei dderbyn gyda'r llytliyrgod o'r dwyrain. Y mae cymeriad Mahammorah ar y 26ain o Fawrth gan General Outram gyda gallu o 4,500 o wyr, y rhai a adawsant Bushire ar y 19eg yn cael ei gadarnhau. Diangodd y Tywysog Khanlas Mizra gyda 13,000 o wyr, a chollodd 200 o wyr. Y mae y Cadfridog Stalker a'r Commodore Etheridge, y ddau, wedi saethu eu hunain mewn mynyd o wallgofrwydd. Ni adawyd un papur ar olyblaenaf, ond clywwyd ef yn cwyno nad oedd y 3ydd marchfilwyr wedi eu gadael iddo, ac yr oedd hefyd yn anesmwyth mewn perthynas i'r cyfrifoldeb o lochesu y milwyr Ewrobaidd yn ystod y tymhor poeth sydd yn agoshau. Y rheithfarn ar Com- modore Etheridge ydoedd ei fod wedi lladd ei hun mewn canlyniad i bryder ei feddwl am ei lywyddiaeth. Nis gall fod gobeithion y fyddin Brydeinig yn fawr, os yw y llywyddion fel hyn yu lladd eu hunain.
-Cymtriad - Mohumra.11
Cymtriad Mohumra. 11 Mae genym yn awr hanes swyadoi gan LIeU, General Outram, o gymeriad Mohumra Yr oedd y Persiaid wedi bod yn cryfhau eu hunain yn Mohumra am rai misoedd. Codwyd gwrthglodd- iau, ac arferwyd yr holl foddion arferol i atal yr ymosodiad—" Ar ol ystyriaeth ddwys (ebe General Outram) penderfynais ymosod ar amddifTynfeydd y gelyn gyda'r agerlestri rhyfel, ac mor fuan ag y byddai y tanio wedi ei ddistewi, i basio i fynu yn sydyn gyda'r milwyr mewn agerlestri bychain yn tynu cychod, glanio y milwyr tua dwy lilltir uwchlaw y PWYDt goglcddol, ac ymosod arnviit yn ddioed. Y mae genyf yn awr i hysbysu llwyddiant oyflawn y ddau beth cyntaf, am y trydydd, er gofid mawr y fyddin, fel llesteiriwyd trwy fad y gelyn wedi dianc. Erbyn haner awr wedi un o'r glo-,h, ar y 26ain o Fawrth, yr oedd y milwyr wedi glanio, ac aethant yn ddioed ar draws v wlad, nes cyrbaedd amCdifh-afa y gelyn, yr hwn heb ares am ein dyfod iad, a ddian#- odd, gan adael pob math o offer rhyfel ar ol. Gadawsant ystorau pylor lawer, a 17 o gyflegrau. Yr oedd diffyg marchfilwyr yn fy atnl rhag eu dilyn fel y dymunaswn. Cyfrifir fod y Persiaid wedi colli "00 o laddejLion. Y mae newyddiaduron trwy Constantinople yn dyweyd fod y llywydd Seisnig ar ol cymeriad Ma- hammorah, wedi clywed fod heddweh wedi cael ei wnend, ac wedi gorchymyn fod y rhyfel i g le-I ei ddwyn i derfyniad. Dywedir fod y Shah o Persia wedi derbyn y eytun- deb heddwch gyda boddhad mawr, ond er fod y rhyfel fel hyn wedi ei derfynu, y mae ein milwyr ni yn Bushire a Mohumra meddir, mewn cyflwr enbyd oddiwrth yr hinsawdd afiachus, ac ni ddjlid colli dim amser i'w symud ymaith. "NMI i Y mae odraeth firyu don Dallas yn ) 13% Washington ei aI w yn (Jl, er ymwneyd i'r "j net yn ei le.
I '-BL ARW,--
I BL ARW,- MAI 15, yn Pentre Derwen, sir Ddiubych, y. disymwth, Mrs. Dorothy Williams, gw 4clw weddar Mr. Owen Williams, o'r lie uchod. -16, Cathrine, gwraip Mr. David Willi Ty Ddewi, Dinorwig; oed -0. Yr oedd yo ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd er ys llawer o flynyddau. Yr oedd yr v yn fam dyner, ac yn gym it,. Teimlir colled fawr ar ei hoi y inol, ond llawer mwy gan eiphr -is, ya Rhuddlan, W11 wedi bod yn 01 weiddiog a hynodrwyd oedd diniwei Yehydig o °1- Danteithiol Di G weUiant Rbi acre, ger Liverpo oh T a holl ar '1m M, lol. Richard Willoi awer o fly nyddod
MARCHNAD
MARCHNAD 1, FFAIRM UNAI. IUOSUK yu j i-air fawr hon dd), cynsol, a c tafodd gwasanaeth-ddyn,, fwy o feisf iaid nag a welwyd am lawer yn env 0 yn y rhan amaethyddol o lafar. 0 an laid yr oedd yr arddangosiad yn fwy nag erioed gwerthiad yn brysur am brisiau uohel, yn onwou- g yn y rhan foreuol o'r dydd. Yn ystod y prydnhawii yr oedd y cyflenwad wedi gorlenwi yr ymofyniad, ao aeth y gwerthiadau yu fwy araf, on- eto am brisiaa oedd yn tala yn dda. Yr oedd ymenya, oaws, wyan, ffrwythau, llysiau, nwyddau celyd, a phethau eraill op ddefnydd cytfredin, am y rhai y mae y ffair hon yn arfer bod yn farchnad dda, yn gwerthu er elw i'r gwerthydd. Yn y farchnad yd deallwn fod yno gyf- lawnder, ac yn wir orgyflawnder o bob grawn, ac o'r mathau goraf, ond yn cael eu cynyg am briaian a wnai y prynwyr braidd yn ofnus, ac felly gwnaed llai o fasnach nag a ddisgwylid. Yn marchnad Caernarfon, Mai 9, nid oedd ond ychydig nifer. Gwenith a haidd yn brin, yn tneddn i godi. Cyflenwad bach o geirch, heb newidiad yn y pris. Prisiau: gwenith o 62s i 64s; haidd o 396 i 42s; ceirch o 23s i 25s; blawd oeireh 84s y 240p; ymenyn ffresh o 14c i 151c y pwys; hallt sto, 13c i 14ic y pwys. CAERNARFON, Sadwrn, lr). Ni wnaed. dim masnach mewn yd, gan fod ffair ddiwrnod cyttt, BUS hefyd ffair y Borth heddyw. Ymenyn fires Is 2* i Is 3c y pwys; eto halites i Is lc; pytatws Is y pwys. BANGOR, Mai 8.-Nifer gymedrol yn y farchnad heddyw. Y cyflenwad o samplau o yd braidd yn brio. Prisiau yn sefydiog am bob math o yd. Gwenith cartref goraf, 62s i 64s; haidd 40s i 45; ceirch 23s i 25s; blawd ceirch 34s y 240p; cloron yn brin iawn, yn gwerthu am 5s 3c y can' pwys ymenyn o 16c i 17c y pwys. RITYL, Mai 12.-Yehydig yn y farehnad, ae nid llawer o drafnidiaoth. Gwenith 22s i 23s haidd Us i 15; ceirch 9s; meillion 8c i 9c. LLANRWST, Mai 12.—Ychydig yn y farchnad; prisiau fel y canlyn :—gwenith 20s i 24; haidd 15s i 56s; ceirch 8s i Os blawd ceirch 17s i 18s yr hob cig eidion 6c i 8c; cig dafad 7c i 9c cig llo 5c i 8c; ymenyn 13c i 14c y pwys. DINBYCH, Mai 13.—Nid yw y fasnach yn deilwng o sylw heddyw, gan fod ffair i fod ddydd Gwener, y 15fed. FFAIR LLANIDLOES.—Yr oedd y cyflenwad o. anifeiliaid yn y ffair ddydd Llun yn dra chymedrol, prin i fynu a'r ymofyniad, a chafwyd prisiau txthel yn mhob dosbarthiad. Yr oedd ceffylau a moch yn gwerthu yn nodedig o dda; y prisiau mewn amryw engreifftiau am geffylau tynu yn cyrhaedd rlntng £50 a £60. FFAIR TREFALDWYN.-Cynaliwyd y ffair hon ar yr 8fed; bychan oedd yr ymddangosiad o anifeil- iaid, a chyrhaeddasant brisiau uchel; nifer fawr iawn: o weision i gael eu cyflogi, a chyflogwyd llawer am gyflogau uchel iawn. Yr oedd yr ystrydoedd wedi eu gorlanwi a'r rhai a arferant ddyfod i fiair Galan- mai. AMWYTHIG.—Marchnad anifeiliaid.-Yr eidion goraf a thewaf yn cyrchu ddydd Mawrth 7o y pwys Po y gwaelaf oddeutu 51o; lloi tewion o 6c i 610; ani- feiliaid defnyddiol i'w cadw yn dra nchel, hefyd gwartheg a lloi; defaid tewion yn eu gwlan 9c y pwys; defaid cneifiedig yn 7c y pwys; cyplau o fam- ogiaid ao wyn o 25s i 50s; moah o bob desgrifiad yn gwerthu am brisiau uchel. FFAIR Y BALA, Mai 14.—Ychydig o anifeiliaid corniog oedd yma heddyw, llai o lawer nag a weIwyd amser yn ol. Gwerthai buchod parod am brisian is. Ychydig iawn o swynogydd da yn y farchnad er fod galw am danynt. Ychydig o ofyn am wenith, gwerth- ai am 34s y pwn o 252p.; blawd ceirch o 35a i 36s y pwn o 240p am beth cartrefol da; pytatwa () 9& i log yr hob. CORWEN, dydd Gwener, Mai 15.-Donpawy(I cryn nifer o samplau o wenith yma heddyw mewn cyflwr da; araf oedd y galw am wenith, y pris o 33lJ 6c i 31s; ychydig haidd yn cael ei ddangos; pytatws o 9s i 10s yr hob. BALA, Sadwrn, Mai III. Dim marehnad oher- wydd fod y ffair ddydd Iau. RHUTHIN, dydd Llun, Mai 18. — Y farchnad yd ychydig yn is, o 22s Go i 23s. Yehydig o yd da yn ymddangos heddyw.
I - -MARCHNAD LLUNDAIN
I MARCHNAD LLUNDAIN I nark Lane, Dydd Llun. Mai 18. x r oedd y dangosiad o samplau 0 Wpitb Oartrefol yn fychan, ac yr oedd llai o farweidddra vn y gwerth- iadau, y rhai oeddynt yn araf, a brs In ff*fr y- prynwr, mewn cymariaeth i ngedig yr wythnos ddiweddaf. Yd Tramor 1, • ittewidiad. Llai o ofyn am flawd Lloegr. Y mathau goraf o haidd yn farwaidd, prin yn cadw i fyny eu gwerth diwedd- ar; yr oedd yr ymofyniad am haidd at fain yn dda am lawn brisiau. Cyflenwad bychan o geirch, gofynid Hawn brisiau, ond ni roddid hwy gyda pharodrwydd. Cyflawnder o ffa yn gwerthu am is brisiau. Chrell- iant yn marcbnad y pys, y cyflenwad byr a'r risiaa isel wedi tynu sylw. Had meillion yn sefVfoloir. GWKNITH, Lloegr, gwyn, newydd 46 Ú 65 f» Lloegr, coch newydd .45 0 0 Tramor,CyfandirE wrop. 50 0 78 0 Hams, at Falu. 26 0 82 o CEIKCH, Lloegr 21 0 30 0 I Scotland.20 0 32 0 Iwerddon .19 0 29 0 FFA, Lloegr 33 0 44 0 Tramor 32 0 39 0 Pvs, Lloegr, gwynioa :.40 0 44 0 brychion .38 0 40 0 PKiLiJBD,goreu, y sach o 280 pwys..50 0 62 0 yr ail 40 0 45 0 America, heb suro, v baril..30 0 33 0
CANOLBKiSlAU YMHKKODKUb————
CANOLBKiSlAU YMHKKODKUb ———— AM WYTHNOS A DERFYNeDD. Mai 9. Gwenith. Haidd. Ceirch. Ffa. Pys. s. d. s. d. s. d. s. d. s. d. 54 10 43 5 23 3 41 5 39 9
LIVERPOOL WOOL MARKET, MAY…
LIVERPOOL WOOL MARKET, MAY s. d. 8. d. Laid Highland Wool, per 241bs 16 0 17 0 White Highland do. 19 6 20 0 Laid Crossed do. unwashed 18 0 20 6 Do. do. washed 20 0 31 6 Laid Cheviot do. unwashed 23 0 22 6 Do. do. washed 23 6 28 0 White Cheviot do. washed 32 0 40 0
I MARCHNAD YR YD LIVERPOOL.1.
MARCHNAD YR YD LIVERPOOL. 1. Dydd. Mawrth, Mai 19. 1 "'TO" 10" J initer gweaaoi yn y larcnnaa nedayw, a masnach dda mewn gwenith, am brisiau wythnos i heddyw. Y mynediad yn ol ddydd Gwener wedi ei lwyr adenill. Blawd yn gwertbu yn well nag yn y farchnad ddi- wedeaf, ymofyniad gweddol, heb newidiad prisian. Ymofyniad bychan am Geirch 'am brisiau blaenorol. Blawd Ceirch wedi adenill y mynediad yn ol ddydd Gwener. Dim cyfnewidiad yn yr Haidd. Ffa yn sefydiog. B. d, d. GWENITH, Lloegr, gwyn y 70 pwys 8 9 9 6 coch 8 0 9 0 Iwerddon 4 9 Tramor, Cyf. Ewrop 6 6 7 4 Unol Dal. a Canada 8 0 9 10 Haidd .ygrynog 44 0 48 0 Tramor 4 0 5 4 Ceirch. Lloegr oc.^ y 45 pwys.. 3 10 4 4 Itverddon. 3 6 4 0 Tramor, 0 0 0 0 Ffa Lloegr y Grynog Yiuher.. 41 0 45 0 Iwerddon a'r Alban 40 0 0 0 Tramor 38 6 41 0 Pys, i'v berwi, gwynion, 40 0 43 0 Tramor 44 0 0 a PEILLIED, goreu.y sach O 280 pwys.. 44 0 45 0 yr ail 42 9 43 0 Yspaenig „ 59 0 60 0 America .v baril o 196 pvtys.. 30 0 31 0
I .LONDON CATTLE MARKET.
LONDON CATTLE MARKET. uoM?<trarM? .t?cc? oj corresponding MMM %n 1836  1?57. Per Mbs. to sink the 0/??. Mai 10,1855. Mai 18, 1857. (I. d. s. d. s. d. s d. Coarse & inferior Deasts;1 2 to 3 6 2 10 to 3 0 Second quality, ditto 3 ti 3 10 3 2 3 6 Prime large Oxen 4 0 4 4*3 8 4 3 Prime Scots, &c 4 6 4 8 4 4 4 (I Coarse & inferior Sheep -t 0 4 2 4 2 4 fi Second quality, do. 4 4 4 « 4 s 4 10 Prime coarse,wooled, do. 4 J 0 5 4 5 0 5 i Prime Southdown, do.. 5 U 5 10 5 6 5 10 Lambs 5 4 6 4 5 15 6 4 Large coarse Calves 4 0 4 10 38 46 Prime small, do 5 0 .36 4 8 5 2 Large Hogs 3 4 4 2 3 8 4 2 Neat small Por kers 4 4 4 8 4 4 5 0 LIVERPOOL. Printed and Published by JOHN LLOYD, at his I residence, 11, St. Anne Street. Liverpool, Wed* | uesday, NIAY.20,1867,