Hide Articles List

19 articles on this Page

[No title]

•.■»»1,—— I -GOHEBIAfiTHAU.

1AT BWYLLGOR CYMANFA DDTRWESTOL…

IATYCYMRY. 'j

'— I Y TRAETHODAU DIRWESTOL.

[No title]

BARA AR WYNEB Y DYFROEDD.

LLOFFION CELYN.I

!NOSWAITH GYNTAF Y SENEDD-DYMHOR.…

Y SENEDD EGLWYSIG. .j

-GOGLEDD. I

News
Cite
Share

GOGLEDD. I LLANIDLOES.—Ymqah at yspeilio Ty.—Dygwvdd- I odd i ryw un deimlo ar ei galon dreio ei Jaw at y gwaith'uchod, nos Lun, yr 2il; ty y person y ceisiwyd ei yspeilio oedd ty Mr. William Rees, gwerthwr bara. China Street. Y dull a pvmerodd i geisio cyrhaedd ei amc-LTi M.¡ tynu un o'r shutters ymaith oddiar > fiene^i: a tbynu un o'r panes gwydr allan. Yr hyn oed,. yn dygwydd bod yn nesaf at ei law oedd cosyn o gaws, a thrwy ei fod yn ormod o faint i allu ei ddwyn allan yn gyfan, cymerodd y lleidr gyjlell at gan feddwl ei dori yn ddarnau; ond pan yr o"dd ar y weithred o'i dori ag un law, ac yn ei dynu ato I a'r Haw arall, synbiodd potelaid o sweets oddiar ran I arall o'r ifenestr, a thorodd yn ddarnau, yr hyn a barodd gryn swn, a aeftrodd gwr y ty yn nghyda'r I gwas. Aeihant i lawr mor fuan ag y gallasent, ond nid digon buan i ddal y lleidr. Disgwylir y bydd yn 'I wers i'r lleidr uchod, ac na bydd iddo ganlyn yn mlaen a'r fath waith rhaglaw; canys yr ydym yn meddwl mai dyna y tro cvntaf iddo, onide buasai yn dewis adeg mwy cyfleus, na phan yr oedd eira ar y ddaear, canys olrheiniwyd ol ei draed ar bvd dw, heol. RHIWLAS, GEE CKOESOSWALLT.—Y 4vdd cvfisol, cynaliwyd cyngerdd yn addoldy y T. C. Cymerwyd y gadair gan Mr. Thomas Edwards, Glanoge; ac ar 01 sylw byr gan y cadeirydd, gal wyd ar Mr. John Davies, o ardal Tregeiriog, i ganu Btth sv'n Hardd canodd y gwr ieuanc hwn yn gampus. Yn nesaf galwyd ar gor Rhiwlas i ganu Wyddgrug yna Y Bwthyn Mynyddig, gan Mr. Evan Edwards a John Davies, o Dregeiriog ac ar ei 01 Brwydr y Groes, gan gantorion y lie. Ar ol ychydig o sylw- adau pur ddigrifol a phwrpasol gan Mr. Edward Lewis, Tregeiriog, ga wodd y llywydd ar gor Tre- geiriog i g.i-iu "Mercurialyna gal wyd ar gantorion y Rhiwlas i ganu Y Cyfiawn a Drig yn y Nef," a chor Tregeiriog i ganu Liaweriydd merch Sion" a 1 h'rewch y Symbal," gan y canturion cartrefol. Y I dernyn nesaf a gawsom oedd Long Time Ago," gan wyr ieuaino Tregeiriog. Draehefn, galwyd am Molwch yr Arglwydd," gan holl bobl Rhiwlas, a Mordaith," gan deulu Tregeiriog, y Solo gan John Davies. Cyfarcbwyd y gwyddfodolion gan Mr. Edw. Lewis, eilwaith, a Mr. Thomas Griffiths, Rhiwlas, a Mr. John Davies rhoddes yr olaf i ni sylwadau Ued fanol a gwir ddifyrus, ar gerddonaeth yn ei chysyllt- iad a'r oruchwyliaeth hen a newydd a chymhellodd I ni oil i ganu mawl, yn nghyda rhai o'r pethau sydd yn ein cymhell i hyny. Clywais amryw o bregeth- wyr swydd Drefaldwyn yn tystio mai yn y lie uchod y mae y canu wedi gwellhau fwyaf o un man yn y Sir, wrth ystyried pob cysylltiad a berthyn iddo. Ac yn bendifaddeu, y maent yn canu yn dda a dirodres, os ydynt yn debyg ar y Sabbathau i'r noswaith dan I sylw. Dylent fod yn ddiolchgar, ac yr ydym yn I gwybod eu bod. i Mr. John Davies, am y llafur dj. ¡ flino y mats wedi ei gymeryd i'w gwneuthur yr bye i ydynt; yr ydym yn eredu fod y gwr hwn yn deall ) betii ydyw cerddoriaeth yn drwyad], ac y mae yn gallu rhoddi ei wybodaeth mewn gweithrediad yn ddeheuig. Y mae yn air rhagorol, ac ystyried ei gyfan s < > ddiad.—G WRANDA WE. CONWAY.—Hirhoedledd.—Bernir fod Conwy a'i hinsawdd y Ile mwyaf tymherus a iachusawl o un gymydogaeth yn Ngogledd Cymru; er prawf o hyn, yn nihlith anirvwiol bethau eraill a ellir nodi, y mae hirhoedledd y trigoiion. Y mae un o'r enw William Jones, yn agos i 87 mlwydd oed, ac v mae ei wraig yn dynesu at ei 85, ac wedi priodi ers tros 60 mlynedd. Y mae ganddynt 7 o blant, 40 o wyrion, a 24 o or. wyrion. Y mae i William Jones ddau frawd yn tyw, un yn agos a chyraedd ei 90. a'r llall ei 85. Oedran y tri brawd yn ngbyd, yn agos i ddau cant a dwy fhvydd a thriugain. Y FAKCHNAD.—(jrwenith o 20s. i 21s.; Haidd 0 '145,1 i 15s.; Ymenyn potiau 13ic y pwys Ymenyn flies Is. 4c. y pwys. GWALCHMAI.—Maine Law.-Cafcdd y He uchod ei. anrhydeddu nos Fawrth y 3ydd o'r mis hwn, a dar- lith gampus gan Mr. O. Jones, Manchester, ar y Maine Law. Dilynodd yr areitbydd talentog y sy mudiad o'i darddiad egwan, hyd y sefyllfa ftodeuog y saif yn awr, gyda rhesymau anwadadwy. Gwelir effaith y cyfarfod dyddorol yn y ffaith fod 237 wedi arwyddo eu henwau fel pleidwyr i'r achos. ABERDYFI.—Cynaliodd y Trefnyddion Caltinaidd eu cyfarfod misol yn y lie hwn ddyddiau Mawrth a Mercher diweddaf. Pregethodd y Parchn. canlvnul- Nos Fiwrth, am 6, Wm. Davies, Llanelltvd, oddiar Rhuf. ii. :22, a T. Elwards, Penllwyn, oddiar Gal. iii. 22; boreu dranoeth am 8, cyfarfod eglwysig; ac am 10, pregethodd E. Jones, Corris, oddiar Mica ii. i, ac R. Humphreys, Dyffryn, oddiar Rbuf. vi. 19 am 2, J. F. Jones, B.A., Machynlleth, oddiar loan i. 14, a T. Edwards, oddiar Obed. ?; am (\ J. F. Jones, oddiar Isa. xv. 22, ac R. Humphreys, oddiar Act. iii. l?. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn Iluosocach nag v? buont mewn un cyfarfod o'r blaen yn y lie. a r gwir- ionedd yn cael ei'draddodi gyda'r eglurdeb a'r JVJI]. edd sy'n gweddu i'r efengyl; er y buasai y nawfgfrif o'r gwrandawyr yn cymcradwyo mwy o swn a rhyw beth i foddhau'r teimlad yn hytrach na gwirionedd syml a dirodres. A gwyn fyd na;ddelai cynulleidfa- oedd Cymru o'r diwedd i werthfawrogi sylwedd yn fwy na swn. Fe ellir dweyd, heb ofni carnddweyd, mai dvma'r cyfarfod a'r pregethau difrifolaf ar y gwirionedd yn ddistaw a fu yn y lie hwn a fy ny- muniad yw iddo fod fel y lefain yn y blawd yn troi y cwbl i'r un snsawdd ag of ei hun.—Gohrbydd. ADERDAR.—Prydcawn Mercher, a dydd lau, y 4 a'r 5, cynhaliodd y Trefnyddion Calvinaidd eu Cyfarfod Misol yn Betbania. Society gyffredinol am un i 'r gloch; y Parch. Wm. Evans, Tanyrefail, yn y gadair. Pwnc—"Hanfodion, neu anhebgorion gwir grefvdd." Caed sylwadau pwrpasol, ac ymdriniaeth hplaeth ar y mater pwysig ac angenrheidiol hwn, a buasai vn dda genym ddodi lloffion o'r dywediadau gerbron, oni bae ofn cymeryd mwy na ddylem c Ie: Sicr ydym i ni gael llawer o fwynhad, a lies gobeithiwn, a'n teimlad wrth derfynu oedd mai da oedd bod vne. Am 3, Society y Blaenoriaid a'r Pregethwyr. Am 6, Cyfaifod cyhoeddus. Dechreuwyd gau Mr. John Roberts, (Ieuall Gwyllt), Liverpool, a phregethodd y Parchn. D. Roberts, Pontfaen, a D. Howells, Aber- tawe. Am 8 bore dranoeth, Cyfarfod neillduol eto. Am 10, deehreuodd Cadben Davies, Abertawp, a phregethodd y Parcbn. Wm. Williams, ac R. Lumley. Am 2, dechreuodd y Parch. D. Lewis, Caerffili, a phregethodd y Parchn. B. Evans, Llanilltyd Fawr, a Wm. Evans, Tonyrefail. Am H, dechreuwyd gan y Parch. Wm. Jones, Cwmbychan, a phregethodd y Parchn. S. Jones, Castellnedd, a John Walters, Ys tradgynlais. Ar ddiwedd y cwrdd hwn talwyd diolch- garwch i'r cyfeilJion caredig a agorasant eu tai i dderbyn dieithriaid, gan y brawd ieuanc Mr. David Saunders. Gan fod y lie hwn yn newydd, ac mor gyfleus gan gyd-gyfarfyddiad cledrffyrdd, ofnim y buasai yn dyn arnom am letty i bawb, ond drwy baelfrydedd a llettygai well y bob!, yr oedd llawer mç, y o le nag oedd o bobl i'w lanw. Cawsom gwrdd- au happus, a'n taer weddi yw iddynt fod yn foddion effeitbiol yn llaw Yspryd Duw i ddwynllawer i gredu fel y byddont cadwedig.—G. ABERDA.R.-Darlithiau Mr. l'incent -Nos lau a nos Wener cawsom yr hyfrydwch o wrando y cyfaill talentog Henry Vincent, Ysw., yn tiuJaodi dwy o ddarlithoedd campus. Y laf, nos lau y 5ed. yn Nghapel y Bedyddwyr Cilmreig. Test un- Our young men and women." Geo. Adams, Ysw., cashier, Abernant, yn y Gadair. Yr 2ii, nos Wener, yn Siloah, capel yr Annibynwyr. Testun—" Y Bobl yn eu perthynas a'u dvledswyddau masnachol, &c., a'u bymddygiadau fel dinaswyr llywodraeth rydd," &e. Elid i mewn drwy docynau swllt am y ddwy, yr elw at y Ddarllenfa. Yr oedd yn hynod dda genym weled cynifer o ddynion yngbyd yn gwrando synisdau nas gallant lai na bod yn ieebyd corpb a meddwl. ( Yr oedd un peth yn arbenig yn peri boddlonrwydd mawr i ni, sef yr elfen foesol a chrefyddol a redai drwy y ddwy ddarlith. Tybiem fod yno rai yn ym- wrando am bethau uchaf dyn, na cheir hwy i'w swn, ond ar nmgylchiadau o'r fatb; ac o'r berwydd yr ceddei-n yn falch o'r dyn athrylithgar à safai o'n blaen. Yr ydym yn ddioleligar i Bvnlligoi- y IidarlJenfa am ei gvfiogi. ac yn gobeithio y mynant ef, neu un cvffelyb iddo ar fyr eto. Sicr ydym fed dyn o fath hwn yn rhwym o wneyd lies. Gweisom amryw yn dod i mewn y nos gyntaf dipyn \n ddiwrddar a iI deallasom mai o Gyfarfod Bethania y deuent: buy brodyr hyn mor ddoech a chynal en cwrdd diweddaf ar awr gynar, sef I), er mwyn (os clywsom yn iawn;, bod o'r ffordd erbyn 8, pryd y dechreuai Mr. Vincent: j ac nid llawer gollwyd o Loni debygem gan y rhai | oedd yn caru y ddau orchwyl. Y mae ymddygiadau o'r fath hyn yn ganmoladwv. ac i'n tyb ni yn gyfryw ag y dylid eu gwneyd. Cymerid rban yn y cyfarfod- ydd gan amrtw a foueddwvr a gweinidogion yr ardal Thos. Joseph, Ysw., oedd cadeiry* dd y ewrdd nos Wener.—G. CAPEl, EVA-Dydd lau v 29ain o'r mis diweddaf, cynaliwyd cyfarfod blyTnyddol, yr ysgolion Sabbathol perthynol i'r Eglwys Annibynol yn y pentref uchod. Am dechreuwyd trwy weddi. gan y Parch. J. Wil liams, gweinidog y lie yna holwyd y gangen-ysgol a elwir ysgol Llainfwyell oddiar Ephes. y (i benod. gan y Parch. D. Davies, Aberteifl. Ac ar ol hyny nolwyd y gangen berthynol i ardal Clyde, oddiar loan 20fed benod, gan y Parch. Isaac Williams, Trtdecb. Yn ganlynol, holwyd cangen y Gelli, oddiar Luc 2, 1-20, gan y Parch. R Jones, Aberteifi. Ac yn olaf holwvd y fam ysgol yr hon a gedwid yn yr fiddoldy, oddiar Luc 2, 20 hyd y diwedd, gan y Parch. D. Davies, Aberteifi. Difyrwyd y gynulleidfa yn fawr iawn pan oddeutu deg o feohgvn, a dwy fercb, perthynol i'r ysgol Frytanaidd a gynelir yn y Ile, in adrodd yr hanes hynod a gawn yn y tair ]>enod gyntaf o I Sam. a darluniai pob un ei ran yn LJgoroi. Canwvd um- rywiol donau gan y gwahanol gorau yn dda iawn, a rhai Jurnau pur effeitbiol. A gorphenwyd y cyfarfod trwy weddi. gan y Parch. J.Jones T.C,.) Castell- newydd. Y mae llafur yr Egb.vvs yn y lie bwn. uwcblaw canmoliaeth, yn eu hj mdrech i nddysgu yr oes sv('td i,n codi %L ddyddiol a Sabbath01, a diau y cuut eu t;<lu i'w mynwes, trwy weled flrwyth eu llafur, mewn ed'eithiau daionu yn mucheddau eu plant tilu hwyrion eto mewn amser dyfodol.—Jonathan.

-! MAN ION CYMREIG.

"* RHEILFFORDD NEW,

}lHEILFFORDD TAFF YALE. -…

RHEILFFORDD DEHEUDIJl CYMRU,

!RHEILFFORDD NLWPORT A PHONTYT(tV)T.-

j WESTERN A ALLEYS RAILWAY.

iRHE] LfFUHlJn DYFFRYN NEDD.

TY Y CYFFREDIN. |