Hide Articles List

19 articles on this Page

[No title]

•.■»»1,—— I -GOHEBIAfiTHAU.

1AT BWYLLGOR CYMANFA DDTRWESTOL…

IATYCYMRY. 'j

'— I Y TRAETHODAU DIRWESTOL.

[No title]

BARA AR WYNEB Y DYFROEDD.

News
Cite
Share

BARA AR WYNEB Y DYFROEDD. BRASLTJN O FYWYD. i Ah, Jacob, chwi welwch yn awrfeI y mae eich holl obeithion wedi diflanu. Dyma ni, wedi gwisgo ymaith gan henaint —ein holl blant wedi eu symud ymaith gan ddwylaw oerion angau, a chyn hir bydd raid i ni fod yn Uettywyr y tlodty. Yn mba le, yn awr, y mae yr holl fara a fwriasoch ar wyncb y dyfroedd ?" Edrychai yr lien wr penwyn i fyny ar ei wraig. Yr oedd, yn wir, wedi erytnu gan henaint, ac yr oedd oedran yn seddu yn grynedig arno. Yr oedd Jacob Manfred wedi bod yn ddyn cyfoethog mewn cydmariaeth, a thra y bu ffawd yn gwenu arno yr oedd bob amser wedi bod yn mysg y cyntaf i roddi benthyg clust o wrandawiad a llaw o gymhorth i lais cyfyngder. Ond yn awr ei eiddo ef ydoedd anftawd. O'i bedwar Lachgen ni adawyd un. Cafodd afiechyd a methiant ef gydag ond ychydig, e gadawsant ef heb geiniog. Daeth gwahanol anffodau mewn dylyniad poenus. Yr oedd Jacob a'i wraig yn unig, a thlodi llym yn syllu yn oeraidd yn eu hwynebau. Nao ymofidiwch, Susan," meddai yr hen wr. Yr ydym yn dlawd, mae'n wir, ond nid ydym wedi ein gadael." Heb ein gadael, Jacob Pwy sydd i n cyn- northwyo yn awr ?" Cododd Jacob Manfred ei fys crynedig tua'r nefoedd. 11 Ab, Jacob! Yr wyf yn gwybod bod Duw yn gyfaill i ni: ond dylem gael cyfeillion yma. Edrychwch yn ol a gwelwch gynifer yr vdych chwi wedi gwneyd cymwynasau iddynt ers llawer o ddyddiau a aetbant heibio. Cliwi a fwriasoch eich bara ar wyneb y dyfroedd gyda llaw hael- ionus, ond nid ydyw wedi dychwelyd atoch eto." Ust, Susan, yr ydych yn annghofio pa beth- yr ydych yn ei ddywedyd. Mae'n wir, gallaswn obeithio y buasai rhyw law garedig o'r ddaear yn fy nghodi o ddyfnderoedd oetUyd eithaf angau, ond nid wyf yn ei ddiswyl fel gwobr am ddim wyf wedi ei wnevd. Os wyf wedi cynnorthwvo 1 yr anffodus mewn dyddiau a aethAYlt i.eioio, yr wyf wedi Oil"! fy Uawn wobr mewn gwybod fy mod wedi gwnevdfynyledswyddtuagatfy nghyd- ddyniou. Oil am yr holl weithredoedd o gym wynasgarweh a wnaethum i'm cydgreaduriaid dyoddefus. ni fynwu er aur gael dileu un o hon- ynt o'm cof. Ah fy anwyl wraig, y coffa o'r dftioni a wnaed mewn bywyd ydyw yr hyn sydd yn gwneyd hen ddyddiau yn ddedwydd. Hyd yn I nod vn awr, yr wyf yn gallu clywed drachefn ddiolchiadau gwresog y rhai y gwnaethum gym- wynasau iddynt, a thrachefn yr wyf yn canfod eu gw(,.nau! le, Jacob," atebai y wraig, mewn to, n is, yr wyf yn gwybod i chwi fod yn dda, ac y gallwch fod yn ddedwydd yn eich coffa; ond, och y mae presenol ar yr hwn y rhaid ni edryoh-y mae guiiredd ar yr hwn y mae yn rhaid i ni aros, Rhaid i ni gardotta lluniaeth neu newynu Swrthneidiodd yr hen wr, a chroesodd arwydd- ion dwfn o boen yn ei wynebpryd. Cardott,ct.f" aiebail gydadychryn sydyn. "Na, Susan,—yr ydym-" Petrusodd, a threiglai deigryn .mawr i lawr ei foch rhvehosr. Yr ydym yn beth, Jacob ? Yr ydym yn myned i'r tlotty Oh, Dduw Yr oeddwn yn meddwl mai felly y byddai!" ddyferasant o wefusau y wraig druan, fel y cuddiai ei hwyneb a'i dwylaw. Meddyliais mai felly y byddai, ac yr wyf wedi ymdrechu dysgyblu fy hun i'r meddwl; ond ni wna fy nghalon druan ei ddwyu Na roddwch i fyny, Susan," annogai yr hen wr yn dyner, gan orphwys ei law ar ei braich. "Nid ydyw yn gwneyd fawr o wahaniaeth i ni yn awr. Nid oes genym amser maith i aros ar y ddaear, a gadewch i ni beidio treilio allan ein dyddiau diweddaf mewn grwgnachiadau ofer. Dowch, dowch." Ond pa bryd-pa bryd-y cawn fyned Yu awr-heddyw." Am hyny Duw gymero drugaredd arnom Efe a wna, sibrydai Jacob. Eisteddai yr hen gwpl am onyd mewn distaw- rwvdd. Pan y cynhyriwyd hwy o'u myfyrdodau poenus, yr oedd trwy arosiad cert ysgafn o flaen y drws. Aetb dyn i mewn i'r ystafell lie yr oeddynt yn eistedd. Cludydd y tlodty ydoedd. Dowch, Mr. "Manfred," dywedai, mae y gwarcheidwaid wedi trefnu i'ch gwthio i'r tiodty. Y mae'r gert wrth y drws, a gallwch wncyd eich hunain yn barod mor fuan ag y maeu bosibl. Nid oedd Jacob Manfred wedi cyfrif y nerth oedd yn angen arno at y prawf hwn. Yr oedd oerfelgarwch yn hyd yn nod ton ac ymddygiaa y dyn a ddaethai i'w ymofyn ac acth fel ia-saeth i'w galon, a chydag ochenaid ddofn syrthiai yn ol yn ei sedd. •• Deuwch—brysiwrb." cymholla: y cludydd yn d diamyneddgar. I Y foment hono gyrid cerbyd i fyny at y drws. Ai hwn yw ty Jacob Manfred ?" Gofynid y cwestiwn gan ddyn a ddaethai i mewno'r cerbyd. Yr oedd yn ddyn o olwg tyner. ddeutu deugain mlwydd oed. Dyna yw fy enw," meddai Jacob. Yna dywedasant y gwir wrthyf," ebai y new- ydd-ddyfodiad. A ydych chwi o'r tlodty ?" par- liaai, gan droi tua'r cludydd. Ydwyf." "Yna galhvch ddychwelyd. Nid a Jacob Man- fred i'r un tlodty tra byddaf fi byw." Syllai y cludydd yn ymofyngar ar wynebpryd y dyu a'i cyfarchai, ac yna gadawai y ty. A ydych chwi ddim yn fy nghofio ?" croch- lefai y dyeithrddyn a'i cyfarchai, gan ymaflyd yn Haw yr hen wr. Yr wyf yn methu eich galw i'm cof yn awr." A ydych chwi yn cofio Lucius Williams ?" Williams!" ail-adroddai Jacob, gan godi yn sydyn o'r gadair yr eisteddai ynddi, a chan syilu yn ddifrifol ar wyneb y dyn o'i flaen. Ie, Jacob Manfred-Lucius Williams. Y bachgen bychan hwnw yr hwn, deng mlynedd ar- bugain yn ol, a waredasoch chwi o'r cerydd-dy y bachgen truenus hwnw y darfu i chwi mor dyner ei waredu o rwymau y gyfraith, a'i osod ar un o'ch llongau eich hun." Ac ai chwi ydyw" Ie-ïe-myfi ydyw'r dyn a wnaethoch chwi. Chwi a'm cawsoch yn gareg arw o ddwylaw tlodi ac esampl ddrwg. Chwi oedd yr hwn a ys- gubasoch ymaith y drwg, a'r hwn a'm harweiniodd at ddyfroedd peraidd bywyd moesol a dedwydd- wch. Yr wyf wedi elwa trwy y gwersi a roddas- och i mi yn moreu fy oes, ac y mae y wreichion- en yr hon a gyneuodd eich caredigrwydd yn mynwes wedi cynyddu yn oleuacb, oleuach, byth er hyny. Gyda llawnder am fy oes yr wyf wedi eistedd i lawr i fwynhau gweddill fy nyddiau mewn heddwch a llonyddwch, gyda'r cyfryw waith da ag y daw fy nwylaw o hyd iddo i'w wneuthur. Clywais am eich colledion a'ch amddifadrwvdd. Yl: wyf yn gwybod fod cioii cunwa eich hun r.u .y:l¡ uiyned, ond yr ydwyf fi yn blentyn hael- ioni—plentyn eich caredigrwydd; ac, yn awr, cewch barhau i fod fy rhiaint. Deuwch, y mae genyf gartref a chalon, a gwna eich presenoldeb bob un o'r ddau yn gynhesach, yn ddisglaeriach, a dedwyddach. Deuwch, fy mwy na thad—a chwi, fy mam, deuwch. Gwnaethoch fy ieuenctyd i gyd yn ddysglaer, ac ni fynaf weled eich hen ddyddiau wedi eu tynghedu i dywyllwch." Honciai Jacob Manfred yn mlaen ac ymollyngai ar fynwes ei waredydd. Ni allai barablu ei ddiolchgarwcb, canys yr oeddynt yn rhy ddyfnion i eiriau. Pan edrychodd i fyny draehefn. can- fvddai ei wraig. Susan," dywedai mewn tonlindagol, grynedig, mae fy mara wedi dyfod yn ol i mi!' Maddeuwch i mi, Jacob." Na, na, Susan. Nid myfi yw yr hwn raid faddeu,—Mae Duw yn ein dal yn ei ddwylaw." Ah sibrwdai y wraig. fel y codai ei llygaid ffrvdiol tua'r nefoedd, "Nid amheuaf Ef byth mwyach."

LLOFFION CELYN.I

!NOSWAITH GYNTAF Y SENEDD-DYMHOR.…

Y SENEDD EGLWYSIG. .j

-GOGLEDD. I

-! MAN ION CYMREIG.

"* RHEILFFORDD NEW,

}lHEILFFORDD TAFF YALE. -…

RHEILFFORDD DEHEUDIJl CYMRU,

!RHEILFFORDD NLWPORT A PHONTYT(tV)T.-

j WESTERN A ALLEYS RAILWAY.

iRHE] LfFUHlJn DYFFRYN NEDD.

TY Y CYFFREDIN. |