Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

[No title]

•.■»»1,—— I -GOHEBIAfiTHAU.

1AT BWYLLGOR CYMANFA DDTRWESTOL…

IATYCYMRY. 'j

'— I Y TRAETHODAU DIRWESTOL.

[No title]

News
Cite
Share

CARTREF AC YSGOLDY BECHGYN Y CENHADON. "Pwy bj-nag a dderbynio y baehgenvn hwn yn fy enw I, sydd yn fy nerbyn I; a phwy bynag a'm derbynio I, sydd yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd L"-IEsu OIIIST. Nid oes odid i Gymro, efallai, yn gwybod am y sef- ydliad rhagorol yma, ac o berwydd hyny nid yw erioed wedi cael y pleser o dderbyn un o'r bechgyn yn enw Iesu, drwy fwrw ei geiniog i'r drysorfa. Dyma ddar- lun o'r adeilad ag sydd yn awr ar waith, sylfaen yr hwn a osodwyd gan Iarll Shaftesbury, Tachwedd 27ain, 1856. Byddai yn dra dyddorawl i'r Cymry gael meddiant o ryw hysbysrwydd am ddechreuad y sefydliad yma, yr hwn sydd, nid yn unig yn ysgol dda i'r plant, lie y derbyniant add/sg bur a gwasanaeth- gar, ond yn G artref iddynt hefyd. Y plant hyny nad oes ganddynt yn y wlad hon yr unrhyw gyfaill i'w derbyn, ac i ofalu am danynt yn ystod y gwyliau, a gant aros yn ddidraul yn y ty, a gwneir eu gwyliau mor gysurus iddynt ag a byddo amgylchiadau yn caniatau; mewn gair, y mae y lie, dros yr amser ag y byddont ynddo, yn GARTBEF mewn gwirionedd idd- ynt. Dechreuwyd y sefydliad j n 1842, a chyfarfu a llawer o rwystrau am y deng mlynedd cyntaf, ond cyrhaeddodd i'w sefydlogrwydd presenol er ys pedair blynedd. Teimlai y cenadon fod angen mawr am sefydliad o'r fatb. Yr oedd dyJanwad llethawl yr hinsawcld drofanol, a dylanwad gwaeth arferion ac eilun addoliaetb y pagan, yn nghyd A'r flaith nad oedd yn y gwledydd hyny yr un ysgol lie gallent gael hy. fforddiant i'r plant, yn galw am iddynt gael eu hanfon tra etto yn ieuainc i Brydain. Y mae yn rhaid ei bod yn gysur mawr i'r rhieni fod ganddynt yn awr gartref dymunol i ddyfod iddo, lie y mae ysgrifenwyr a chyfeillion y prif gymdeitbasau crefyddol yn cymer. yd y gofal mwyaf tadol o honynt, gan ymdiechu, mor bell ag y madrant, i lanw lie rhieni iddynt. Y mae'r Ysgol, &, c., hyd yma, wedi bod yn Morn- ington Crescent; ond penderfynodd y pwyllgor, drwy fod galw am ragor o le, i adeiladu ty pwrpasol yn Blackheath, yr hwn fydd yn ddigon eang i gynwys cant o blant. Bydd traul pryniad y tir ae adeiladu tua 14,000, llawer o'r byn sydd wedi cael eu casglu eisioes ac os gwel darllenwyr y llinellau hyn yn dda i danysgrifio rhywbeth, derbynia y pwyllgor y swm gyda diolchgarwch. Ar osodiad y sylfaen, rhoddes Dr. Tidman fyr-hanes am ddechreuad a cliynydd y sefydliadau, gan ddangos natur yr addysg ag oedd yn cael ei gyfranu i'r plant; sylwai hefyd fod y sefydlnd yn hollol ansectaraidd, ac yn agored i blentyn unrhyw genadwr efengylaidd, o unrhyw barth o'r byd. Nid sefydliad elusenol ydyw vn,-af v gair, canys ?7 m Re traul ychwaith, yn ystyr gyfyngaf y gair. canys y mae traul fwyaf er addysgu y plant yn disgyn ar y rhieni; ond os bydd rhywbeth yn fyr, telir hyny drwy danysgrifiad blynyddol. Y mae'r rhieni yn cael eu cynorthwyo mor bell a hyna ond y prif bwnc ganddynt hwy yw, fod yr ysgol yn GARTREF. Y mae Cymdeithas Gen- hadol Llundain wedi rhoddi £200. Y mae y ffaith fod y lie yn Gartref yB tynu sylw pawb, ac yn cael ei fawr holli. Dywedai larll Shaf- tesbury wrth osod y sylfaen Nis gellir ystyried sefydliadau fel hyn megys rhai o haelioni yn unig. Yr wyf fi yn edryeh arnynt fel sefydliadau ag sydd wedi cael eu sylfaenu mewn cyfiawnder a rheidrwydd. Y mae'r gweithiwr yn deilwng o'i gyflog, ac un rhan o'i gyflog yw, mai pan fyddo ef yn rhoddi i fyny gysuron cartref mewn trefn i gyflawni rhyw ddyled- swyddau mawrion, y dylai y rhai sydd yn ei alw i roddi y cysuron hyny i fyny, ac i gyflawni y dyled- swyddan hyny, roddi iddo yntau yn ad-daliad y cyfryw bethau nas gall efe eu cael ei hunan, o herwydd y sefyllfa y mae ynddi. Y mae, meddaf, yn gyawnder I pwysig, ac nid yn bwnc o elusengarweh. Y neb a gymero yr olwg yna ar y sefyllfa, byddai hyny yn diraddio y sefydliad, ac yn gwanhau sefyllfa foesol ac urddas y cenadiaethau. Meddyliwch y fath effaith a raid i'r ysgol yma gael ar feddyliau y cenadon eu hunain, drwy ysgafnhau eu pryderion dyfnaf; a chanfvddir yn amlwg pa mor angenrheidiol yw hyn wrth gofio rhifedi mawr a neillduoldeb eu pryderion o herwydd y sefyllfa y maent ynddi. Ynddynt hwy ychwanegir at raddau cyffredin marwoldeb gan y difrod ag y mae'r hinsawdd yn wneuthur ar eu nerth a'u hiechyd. Y mae doluriau ami yn eu hamgylchu, a threulir eu meddyliau yn y eyflawniad o'u dyled- swyddau uchel a chysegredig, nes y mae llawer o honynt yn wir ferthyron, ae yn disgyn i fedd cynar. Pan yr adfyfyria y cenadwr ar hyn oil, os ca deimlo, yn ychwanegol at byn, na bydd, wedi y symudir ef, yr un parotbadau gyferbyn a'i wraig a'i blant, byddai i ofal cancrol y fath feddwl, o angenrheidrwydd, i'w annghymwyso at ei waith, gan ei rwystro i fyned ihagddo yn ei anturiaeth. Ac, o'r tu arall, fel y mae yn nerthu braich y cenadwr i ymladd yn erbyn dryg-, ioni, hyd y nod pe gorfodid ef i osod ei fywyd i lawr-. yn yr ymdrech, wrth feddwl y bydd i'r rhai sydd mor agos ac anwyl ganddo ag yw ei wraig a'i blant i fwyn- hau pob gofalwch a thiiiondeb." Yr oedd yno amryw foneddion eraill, megys Apslev Pellatt, Ysw., A.S.: yr Anrhyi. a'r Parch. B. NV., Noel; Dr. Porter o Madras; y Parch. C. H. Spur- geon J. C. Harrison; S. Sherman, ac eraill, y rhai a anerchasant y cyfarfod hefyd ar amcanion y sefydl- iad. Y mae yn ddyledswydd loll bob Cristion i gyf- ranu at y sefydliad da hwn; ac wedi clywed o'r Cymry am dano, y mae yn sicr na byddant yn ol j, cymydogion. Darllener yr erthygl bach yma i'r teulu -daugoser y darlun i'r plant, fel y byddo ymdrech yn cael ei greu ynddynt dros sefydliadau crefyddol.

BARA AR WYNEB Y DYFROEDD.

LLOFFION CELYN.I

!NOSWAITH GYNTAF Y SENEDD-DYMHOR.…

Y SENEDD EGLWYSIG. .j

-GOGLEDD. I

-! MAN ION CYMREIG.

"* RHEILFFORDD NEW,

}lHEILFFORDD TAFF YALE. -…

RHEILFFORDD DEHEUDIJl CYMRU,

!RHEILFFORDD NLWPORT A PHONTYT(tV)T.-

j WESTERN A ALLEYS RAILWAY.

iRHE] LfFUHlJn DYFFRYN NEDD.

TY Y CYFFREDIN. |