Hide Articles List

6 articles on this Page

YR EGLWYS YN NGHYMRU.

YMFUDIAD.

News
Cite
Share

YMFUDIAD. SYR,—Mae llawer o aebwyn ar galedi yr amser- oedd yn Nghymru y dyddiau yma ac amryw yma a thraw yn ymfudo o'u gwlad, i chwilio am fanteis- ion gwell i fyw. Mae'n debyg fod mwy o ysbryd ymfudo yn y byd yn awr nag a fu er ys llawer o amser. Ystyria enwogion, fel Dr. Campbell, Dr. Lang, &c., fod y pwne hwn, yn y dyddiau yma, yn teilyngu sylw a chefnogaeth pob Cristion a dyn- garwr. Tybiant fod yn ddyledswydd arnynt gefn- ogi a hwylysu vmfudiad miloedd o'u cydwladwyr, o balfau tlodi a dinystr tymhorol, i wledydd lie gallant gael manteision i fyw yn gysurus. Mae ein brodyr y Saeson yn enwogfel sefydlwyr gwledychfeydd newyddion. Nid oes achos iddynt hwy betruso o eisiau lie i fyned. Gallant fyned mewn mis at eu cydwladwyr i Canada, Brunswic Newydd, &c., neu i diroedd goreang yr Unol Dal- eitbiau, at bobl o'r uri iaith a hwythau. Neu, os gwell ganddynt America Ddeheuol, gallant forio i Guiana, neu i hinsawdd tebyg yn ynysoedd yr India Orllewinol. Os byddant yn dewis Affriea, mae Penrhyn Gobaith Da, Mauritius, &c., yn agored iddynt. Os Asia fydd eu lie dewisol, gall- ant wneyd y goreu o'u ffordd i Hindostan, Ceylon, Hongkong, &c. Os gwell ganddynt gyfeirio i Oceania, mae y rhan fwyaf o'r parth hwnw o'r byd yn cael ei hawlio gan Victoria. Geill gwahanol wledychfeydd Australia, Tir Van Diemen, a Zea- land Newydd, gymeryd llawer o filoedd o ymfud- wyr bob blwyddyn. Nid ameanir wadu nad yw y llefydd uchod yn agored i'r Cymry; ond nid sef- ydliadau Cymreig ydynt. Pan fo Cymro yn ym- fudo, rhaid iddo ganu yn iacli i'w iaith a'i frwd. frydedd Cymreig, a chyfnewid o fod yn Gymro i fod yn Sais. Hwyrach fod rhai o'n darllenwyr, ar hyn, yn barod i ddywedyd, mai dyledswydd pob Cymro yw aros yn ei wlad, ac nid ymfudo. Ond dymunwn i'r cyfryw ystyried y ffeithiau can- lynol. Mae poblogrwydd Cymru yn ychwanegu dros ddeg mil bob blwyddyn; ond nid yw tir Cymru yn ychwanegu dim. Gwir nadyw Cymru mor boblog yn ol ei maint a Lloegr; ond y mae ynddi, ac ystyried ei maint, lawer mwy o dir nad ellir byth ei lafurio, a llawer llai o dir gorest a ellir ei lafurio. Mae manau lied wastad, megis Swydd Fflint, a'r dyffrynoedd yn mhob man, yn boblog iawn. Addefa pawb fod y Dywysogaeth yn ddigon llawn o drigolion yn awr; gan hyny, beth ddaw o'r cant neu cbwe' ugain mil a ychwan- egir atynt mewn deg mlynedd eto. Rhaid i filoedd ymfudo o'r wlad yn fuan, neu fe ddarostyngir y Cymry i dlodi a tlirueni dirfawr. Mae yn man drefydd y Dywysogaeth yn bre senol orddigonedd o fasnachwyr a chrefftwyr, o bob math, yn defnyddio pob cynllun eill cywrein- deb ddyfeisio, i ymdrechu dal eu penau uwchlaw y dwfr, a llawer o honynt yn mothu. Pan fyddo rhyw fFermwr farw, mae yn beryglus y dyddiau hyny i deithio y flyrdd cyfagos, gan fel mae y cymydogion yn gyru yn drachwyllt at y stiwarcl a'r meistr, i gynyg am ei dyddyn. Gorfodir llu- aws o blant ffermwyr Cymru i ddisgyn bob blwyddyn i sefyllfa gweithwyr bur cytfredin. Ond anaml iawn y gwelir gweitbiwr lulr yn codi i fod yn ffermwr. Cyd-dystia y ffeithiau hyn fod yn ofynol i filoedd o Gymry ymfudo. Ond i ba le yr ant ? Pa le y gallant ymsefydlu yn wladychfa Gymreig? Hyd oni cheir He felly, ni's gellir dysgwyl i'r Cymry ddyfod byth yn chwannog i ymfudo. Dysgwyl i Gymro ymfudo i wlad He na cliaift'gwrdd gweddi, pi-egetb, nae ysgol Sabbottio) yn ei iaith ei hun, sydd afresymol, ac yn sarhad ar grefycld a gwladgarwch y Cymry. Onid oes sefydliadau Cymreig yn Unol Daleithiau America? Pa'm nad aent yno ? Oes y mae yno ychydig o sefydliadau gweinion gwasgaredig yma a thraw; ond nid oes yno un sefydliad cryf o Gymry, gwertli yr enw. Pe buasai y Cymry sydd wedi ymfudo i America wedi ymddwyn yn gall, ac wedi ymgasglu at eu gilydd, a ffurfio un wladychfa gref, gallasent gadw eu hiaith, eu crefydd, a'u cymeriad cenedl- aethol yn ddilwgr am oesau; a buasai ganddynt ddrws agored i roesawu pererinion ymfudol o hen Gymru i'w plith. Ond am y sefydliadau Cymreig bychain a ddecbreuwyd yno o bryd i bryd, maent yn cael eu llwyr orchuddio yn fuan gan y llifogydd Sacsonaidd, ac yn diftanu. Gobeitliiwyf y gwel blaenoriaid y gwahanol enwadau crefyddol yn Nghymru, mai eu dyledswydd yw cyduno i osod rhyw sefydliad Cymreig cryf ar droed yn fuan. Mae yn Australia a Zealand Newydd diriogaethau eang a dymunol, ond maent yn mhell iawn, a'r draul yn fawr i fyned yno, os na cheir cymhorth y llywodraeth. Mae yn Canada ddigonedd o dir, ond fod yr hinsawdd yn oer iawn. Mae yn ngor- Uewin yr Unol Daleithiau, yn Nyffr3 n Mississippi a Texas, wmredd o dir lFrwythlawn a hinsawdd iachus. Hwyrach mai yno yn rhywle y byddai oreu i'r Cymry gydnno i wledychu. Ni's gwn am un lie tymherus a cbyfleus dan lywodraeth Lloegr iddynt, ond gwledychfeydd Oceania bell, ac Ynys oedd Falkland. Pe llenwai y Cymry yr ynysoedd byny, byddent yn debycach o aros yn genedl ar wahan mewn lie felly, nag ar gvfmdir America, dan ddirfawr bwys y dylif Sacsonaidd. Beth bynag, penoder ar ryw fan yn fuan. Dir fod mil- oedd yn Nghymru a unent yn ewvllysgar mewn anturiaeth ymfudol, ond iddi gael ei chychwyn yn deg, a hyny gan bersonau cyfrifol. Enwogion Cymru! tybiaf na's gellwch fod yn fFyddlon j'ch Duw, eich gwlad, a'ch cenedl, heb gynnoithwyo gyda'r achos yma. Dylai hwn gael ei wneyd yn bwnc cenhedlaethol genym fel llwyth o bobl. Nid rhesymol na chyfiawn i ni aros yma i fathru traed ein gilydd, pan mae gwledydd eang a bras yn angbyfanedd a didriniaeth o eisiau pre- swylwyr. Dylem ddangos i'r byd fod eto ddigon o ysbryd anturiaethol yn mysg y Cymry, i fFurfio gwledychfa gref mewn rhyw gwr neu gilydd o'r byd. Gallwn gael eangder o dir fFrwythlon yn Texas, yr lion sydd yn dalaeth gyfleus iawn at lasnach ar agendor Mecsico, rhwng y wlad hono a'r Unol Daleitbiau. Mae yno ychydig o sefydl- wyr yn awr mewn rhai manau, ond gellir cael yno eangder dirfawr o dir heb ei feddiannu, a gailai gwaith y Cymry yn sefydlu yno fod yn offerynol yn llaw Duw I roddi ergyd marwol i gaethwasan- aeth yn America. Ynysoedd Falkland ydynt yn gorwedd yn N ghefnfor y Werydd, yn agosi ben tir America. Ddeheuol. Maent o ran hinsawdd yn debyg i r doyrnas hon. Mae yno ychydig o Saeson yn cyfaneddu yn ?" Meddant amryw borth- ria?ddo-? ed?d ? cyfleus. Arfera Ilongau sy'n tramwv o'r WeryU ? Cfnfor Tawel alw Jn fynych. Mae yr ynysoedd hyny, o ran maint, tua haner cymamt a chymru, a gallent gynwys pobl- ogaeth fawr, oblegid eu bod ar fan cyfleus i fas- nachu a thaleithiau La Plata, Chili, Brazil, &c A gallai gwaith y Cymry yn ymsefydlu ynddynt, fod yn foddion yn ilaw Duw i efencryleiddio tir- oedd Del Fuego, Patagonia, &e. Arosaf yn awr nes gweled tynged y Ilythyrhwn. I -> DAFYDD O'R DE.

IDIRWESTWR..I..

I FFEIRIAU CYMRU YN GORPHENHAF.

[No title]

AT OLYGWYE YH AMSEEAU.