Hide Articles List

6 articles on this Page

YR EGLWYS YN NGHYMRU.

News
Cite
Share

YR EGLWYS YN NGHYMRU. AT OLYGWYB YR AMSERAU. FONEDDIGION,-Er fy mod yn gwybod mai Ym- neillduwyr trwyadl yw pob un o honoch, yr ydwvf ar yr un pryd yn hyderu bod cich cenedlgarwch yn gyfryw, ag a'ch tuedda i godi eich llais yn erbyn pob cam ae annhegwch a wneir a Chymry, hyd yn nod ag Eglwyswyr, sef bod Saeson yn cael eu penodi i'r bywiolaethau goreu yn Eglwys Sef- ydledig ein gwlad. Y mae cenedlgarwch a gwlad- garwch yn gryfach ymhob meddwl goleuedig a rhydd, na chariad at unrbyw blaid grefyddol; ac nid oes un Cymro diledryw nad yw ei waed yn borwi o'i fewn, pan welo ei gydwladwyr yn cael ei sarhau a'i ddirmygu: eithr dywed yn y fan, gyda'ch bardd clodwiw chwi, Pedr, Ni fynaf i anfwynion Guro FY MRAWD ger fy mron." Y mae yn hybys i chwi ddarfod i'r Arglwydd Ganghellwr yn ddiweddar gyflwyno bywoliaeth yn esgobaeth Llandaff i Sais, a bod yr esgob wedi gwrtbod awdurdodi y cyfryw un i gymeryd medd- gwrtbod awdiirdodi y i.in i on,mei,y d raedd- iant o'i fywoliaeth, am nad oedd yn deall yr iaith Gymraeg. Gallesid meddwl fod hyn yn rheswm digonol; ac edryebasid arno felly, pe buasai Cymro nen Wyddel, heb fedru Saesoneg, yn cael ei gyflwyno i un o blwyfydd Lloegr. Buasai byd yn nod y John Bull, y Church and State Gazette, ie, bron bob newyddiadur yn Mrydain, vn hwtio ac yn condemnio y cyfryw gyflwyniad yn unllais. Ond yr oedd yr Arglwydd Gangellwr yn amddiffyn ei waith, ac yn beio yr esgob yn llym, yn NIIY yr Arglwyddi, am feiddio peidio awdurdodi y Sais i gymeryd y fywoliaeth a gyflwynasai efe iddo ac y mae yn dra thebygol y gorfodir yr esgob cyd- wybodol i wneyd wedi'r ewbl. Meddyliwyf y cyd synia pob Cymro, pa un bynag ai Eglwyswr ai Ymneillduwr fyddo, fod gosod Saeson yn beriglor- ion ar blwyfydd Cymreig, yn sarbad ar y genedl Gymreig, ae yn anghyfiawnder a holl aelodau yr Eglwys Wladol yn y Dy wysogaeth a bvdclaf yn rhyfeddu pa fodd y maent yn dyoddef peh fel hyn mor dawel er ys oesoedd bellach. Pe buasai boll esgobion Cymru yn Gymry, nid fel hyn y buasai pethau. Y mae yn debygol mai y feddyginiaeth a adganmolech chwi i'r pethau hyn, Meistri Golr., fyddai ysgar yr eglwys oddiwrth y wladwriaeth. Addefaf y byddai hyny yn llwybr tra efFeithiol i gael ymwared o bob Sais a Gwyddel o blwyfydd Cymru. Ond gan na ellir dysgvvyl i'r cyfryw ys- gariad gymeryd lie yn fnan, oni 'ddylai y Cymry, fel renedl, arfer rhyw foddion er rhoddi terfyniad dioed ar yr anghyfiawnder a nodwyd? A oes rhyw reswm i'w roddi dros i guradiaid Cymreig ddyoddef bod fel caetbweision yn eu gwlad eu hunain, yn gorfod llafurio yn galed i wasanaethu dwy neu dair o eglwysydd, am braidd ddigon i gael ymborth iddynt eu hunain a'u teuluoodd ? Goddefwch i mi awgrymu, fy mod yn barnu y dylid cynnal cyfarfodycld cyhoeddus yn mhob tref ac ardal yn y Dywysogaeth, ac yn nhrefydd mawr- ion Lloegr hefyd, lie y preswylia miloedd o'n cvd- wladwyr, i osod yr achos yn llawn o flaen y Cymry; a diau genyf y byddai barn a tlieimlad pob un o honynt yn erbyn gosod Sais na Gwyddel mewn perigloriaeth nac esgobaeth yn Nghymru. Ai tybed fod un Cymro a wrthodai roddi ei gymliorth mewn ymdrech mor resymol ? Y mae genyf well 0, meddwl am fy rnrodyr Ymneillduol, nag y gwnaent hwy ymddwyn fel Meroz yn yr achos hwn. Yn awr, onid oes rhyw loygwyr parchus a gymer y mater hwn i fynu, os yw y clerigwyr yn teimlo yn rhy anmharod i gymeryd y blaen? Gwnaed rhywun gycbwyn y cynhyrfiad, a diam- meu y cerid ef ymlaen yn gyflym. Oni wnewch chwithau eich rhan yn hyn, Mr. Amserau, yn gystal a'r Protestant a'r Cymro ? Yr wyf yn ym- ddiried i'ch gwladgarwcli. Anfoner deisebion o bob man, am gael deddf bendant yn gwahardd gosodiad un Sais i unrhyw le yn yr eglwys yn Nghymru, os na ellir cael ymwared heb hyny. Pe byddai y wlad yn benderfynol, dïau y llwyddid. Yr eiddoch, &c, EGLWYSWR CYMREIG. CJ" Diolchwn i'n gohebydd parchns am ei feddyliau car- edig am danom a sicrhawn iddo ein bod yn barod i wneuthur a allom er gwrthwynebu pob camwri a wneir a'n cenedl. Rhaid i ni, ar yr un pryd, ddy- weyd v byddai lawn mor ddymnnol genym i'r ys- gariad a sonia gymeryd lie ond ni wnai hyny ein lluddias i godi ein ]lais, ac i law-nodi hefyd, yn erbyn yr hyn a ystyriwn yn anghyfiawnder hollol a'n cyd- wladwyr—Got.

YMFUDIAD.

IDIRWESTWR..I..

I FFEIRIAU CYMRU YN GORPHENHAF.

[No title]

AT OLYGWYE YH AMSEEAU.