Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

-_U_h_U-_UUh_:h -.I

- - ?- -- -I- 11 - ---I YSTYEIEE…

News
Cite
Share

?- I- 11 I YSTYEIEE Y DDWY OCHE, MR. GOLYGYDD,—Soniasoch am beidio a chy- hoeddi ychwaneg o areithiau a thraethodau o burtb y reports, &c ond nid felly y gvvnaethoch cy- boeddasocb rai wedi byny. Ac o'm rban I, tybiaf mai gwell i chwi beidio a'u cau allan yn hollo], ac ar unwaitb, rhag eich bod chwi, a'r areithwyr, wedi bod yn rhy un ochrog, a bod eisiau talu peth sylw i'r ocbr arall, fel y caffo eich darllenwyr fan- tais i ystyried y ddwy oehr. Meddyliwyf mai cyf- iawnder a hwy fyddai hyny. Nid wyf yn gwybod i'r un cyhoeddiad fod mor deg a'r Carnarvon Her- ald. yn y mater yma. Yr wyf yn ofni fod yr areithio a'r ysgrifenu yn erbyn y reports yn gwneyd mwy o ddrwg nag o ddaioni; sef, gwneyd i'r bobl feddwl am danynt eu hunain eu bod yn well nag ydynt, ac am y reports eu bod yn waeth nag ydynt. Yr wyf yn meddwl befyd nad yw yr areithwyr yn gwybod yn ddigon da am sefyllfa y tlodion annysgedig. Y mae y rhai sydd wedi cael dysg, ac o ddygiad i fynu Iledneis a boneddigaidd, mewn cryn anfantais i wybod am sefyllfa a moesau y tlodion, ac felly mewn anfantais i'w hamddiffyn. Gallent hwy foddwl, wrth weled cyfrif y rhai sydd yn medru darllen y Bibl yn yr ysgol Sabbothol, eu bod yn fwy gwybodus nag ydynt: ond pe holent y cyfryw am gynnwysiad y peth a ddarllenent, caent achos i ofidio wrth weled eu hanwvbodaetb. Hefyd, wrth weled cynnulieidfa mor luosog a siriol ar y Sabboth yn gwrando pregetb, ac wrth weled llu- oedd mewn cymdeithasfaoedd, gallent feddwl eu bod yn fwy bucheddol neu rinweddol nag ydynt. end pe byddent yn ffeiriau y Sarnfollteyrn, Pwll- heli, Penmorfa, Clynog, Llanllyfni, y Bontnewydd, Caernarfon, Brynsiencyn, Borthaethwy, a Bangor, a Bethesda hefyd bob Sadwrn setlo, caent weled buchedd eu "hanwyl gyfeilJion" a'u cynnuli- eidfa barchus:" (?) ie, pe buasent yn Nghaernar- f'on, neu yn y Bontnewydd, ddydd LIun y Pasg diweddaf, cawsent achos i ddwys ofidio wrth weled a chlywed y rhai y ceisient eu hamddiffyn, sei llawer o ddoiliaid yr ysgol Sabbothol. Yr wyf yn gwybod am yr ardaloedd a'r lleoe d a enwyd yn lied dda ac y mae yn ddiau genyf y buasai yn well darllen y reports yn y capelydd nag areitbio yn eu berbyn. Cawsai y bobl felly wybod beth yw eu dysg a'u moesau; ac oni fuasai hyny yn fantais i'w hannog i ddiwygio ? Oni fuasai yn gyfiawnder a phobl Amlwch gael clywed tystiol- aeth Mr. W. Eoberts am danynt, yr hon na ddy- wedodd neb (hyd y gwn I) air yn ei berbyn, er ei bod yn un o'r rhai dwysaf i feddwl fod yr un ardal yn ei haeddu ? Ond nid felly y gwnaed. Yn lie cymeryd mantais i anog v bobl i ddiwygio, daeth yr areithwyr allan, megis mam wedi ei ehyifroi, ac yn llawn eiddigedd dros ei pblant, yr hon oedd yn eu dynoethi, eu ffonodio, a'u cernodio, yn ddidru- gareud ei bun ac a ddywedai, Ni wn I beth i feddwl o'r plant yma: y maent yn waeth na plilant neb: nid oes piant neb fel fy inlilaiit I." Ond gocbeled neb arall ddyweyd banner gair am dan- ynt, na chyffwrdd ag un o'u blew. Onid tehyg i byn yna ocdd iaith ein misolion ? sef, ein bod ni, y Cymry, ar 01 i'n brodyr y Saeson yn byn—yr ydym yn warth i'n brodyr y Saeson yn hyn." Ond pan ddaeth y commisrioners i ddywoyd ein bod yn ddiddysg, ac i dynu darlun o honom, dvrna yr ar- eithwyr yn dyweyd nad oedd y darlun yn gywir -nid ydym gan waethed ag y dywedent ein bod," &c. A chaniatau hvnyna, oni nllai yr areithio acblysuro mwy o ddrwg nar reports ? Hefyd, pa ddaioni oedd o'r areithio ? 0 bertbynas i foddion addysg yn y lleocdd a enwyd, y maent yn amddit'ad o ysgolion sydd yn gyrbaeddadwy i'r tlodion, oddieithr ysgol ion llanol; felly, y mae y reports yn fwy o achos iddynt gy- wilyddio nac areithio yn eu berbyn. Y mae Bryn- rodyn yn un o'r lleoedd bynaf, yn Arfon, gan y Methodistiaid; a bu Mr. Phillips yno, yn ddi- weddar, yn cynyg ac yn egluro telerau yr ysgol Frytanaidd; ond gwrthodwyd y eyiiyglact a gwnaed yr un peth yn Llandegfan, Mon. Ac am y Borthaethwy, bu yno ysgol Frytanaidd am belli aiiisei-, tc attiraw rhagorol, Mr. Joseph Griffith; ond yr oedd yn ormod o drafferth gan neb yno i gasglu y tal-ysgrifau, yr hyn a allesid ei wneyd mewn oddeutu dwy awr bob chwarter blwyddyn. Y maent yn y Borth wedi meddwi ar y byd; ni wiw son am ysgol wrthynt. Gresyn na fuasai cylch y commissioners yn eang- ach-i edryeh i sefyllfa gweision a morwynion; nifer yr oriau y maent yn gweithio mewn diwrnod; beth y maent yn ei gael yn fwyd; a swm eu cyf- logau. Pe cawsem report o'r pethau hyn, buasai gwaradwydd y Cymry yn fwy nag ydyw, a cbawsid pethau i'r golwg sydd yn achlysuro llawer o ddrygau. Llawer genethig yn cael ei galw dri neu bedwar o'r gloch y boreu, a'i dal ar ei thracd hyd ddeg neu un-ar-ddeg o'r nos: oes, y mae llawer nad oes ganddynt awr o amser idclynt eu hunain o'r naili bentymor i'r llall. Ac onid yw hyn yn achlysur i rai ymollwng i ff'ordd anweddaidd—i ddibrisio eu diweirdeb, er cae], fel y tybiant, eu rhyddau o'u caethiwed? Dywedant, "Nifyddhi byth ddim gwaeth arnom, pe byddai raid myned i'r caetkdy." Am eu cyflogau, y maent mor iych- ain, fel y mae yn anhawdd genyf feddwl nad ydynt yn achlysuro anonestrwydd. Ac am gyflog y dyn- ion, y mae yn rhy fyohan i gadw tculu. Pa fodd y gall y rbai sydd a'u teulu yn bump neu chwech gael angenrheidiau natur, chwaetbach ysgol i'w plant, a'u cyflog ddim ond o bump swUt i saith swllt yn yr wythnos ? 0 berthynas i'w byrnborth, y mae yn ddigrifweb. ar ryw olygiad, glywed rbai yn son am "ymenyn y llanciau—bara'r dynion, &c., fel pe byddent hwy eu hunain rywbeth uwchlaw dynion. Sonia y Traethodydd am gyboeddiad misol i ad. olygu ymddygiadau y Personiaid: honwn iddo gymeryd golwg ar y petbau ynahefyd. Ymrwyroaf i'w aprhegu a digon o ddefnyddiau. Ond os tewi a son a wnewch chwi, teulu'r Traethodydd, am- ddiflyn a gyfyd i'r caethion o le arall, ac ni fyddwch chwithau yn ddieuog yn nydd y cyfrif. Cadnant, Menai Bridge, ELLIS PARRY. Mehefin 12. Os bu yr ysgrifenwyr a'r areithwyr yn euro gormod ar y reports, fel yr haera ein gohebydd, tebygcm ei fod yntau yn ymddwyn yn lied gyffelyb tuag atynt hwy- thau yn y llythyr blaenorol. Clywsom rai o'r Cymry galluocaf, mwyaf brwdfrydig a gwladgarol, yn traddodi areithiau nerthol yn erbyn y cam-dystiolaethau a gy- hoeddwyd yn yr adroddion hyny ond nid oedd neb o honynt yn gwadu nad oes peth gwir ynddynt, ie, lawer gormod, ysywaeth, am ddiffyg manteision dysg- eidiaeth yn Nghymru yn gyirredino], yn gystal ag ani iselder mocsau llawer o'r trigolion. Ond yr ydym nj, a'r areithwyr hefyd, yn parhait i achwyn ar yr ad- roddion hyny, o herwydd eu bod yn annheg, yn un- ochrog, ac yn cynnwys liawer o haeriadau disail, a wrthbrofir gan (ieithiau amvadadwy. Ai tegwch, at- olwg, ag un genedl o ddynion, ydyw cymeryd vm- ddygiadau ei gwchilion yn safon i farnu ei chymeriad cenediaethol ? Ai eyfiawnder a. benywod diwair Cyraru ydyw eu rhestru hwy ymysg ysgarthion yr ystlen? A ydyw bod ambell ddyn anonest a thwyll- odrus i'w gael mewn ardal, yn ddigonol sail i daflu sarhad ar onestrwydd a chywirdeb yr holl ardalwyr ? Ai iawn ydyw i Gymro uniaith gael ei farnu yn ddyn diddysg ac anvvybodus, yn unig am na fedr ddeall Saesoneg ? Fell}', i raddau mawr, y gwnaeth y dir- prwywyr hyny a. cheneel y Cymry a hyny i'r dyben o wasanaethu amcan penodol eu hanfoniad i'n gwlncl, sef gwneyd case digon cryf i'r llywodraeth ymyraeth ag addysg y genedL Gan hyny nis gallwn feddwl i ysgrii'enwyr, nag areithwyr, ddywedyd dim gorn:od yn erbyn y dirprwywyr na'u hadroddion." Y mac y dos- peirth gweithiol yn Nghymru yn helaethach eu gwy- bodaetb, a gwell eu rnoesau, na'r cyffelyb ddospeirth yn Lloegr; a rhaid priodoli hyny i'r addysg grelyddol a dderbyniant yn yr Ysgolion Sabbothol, a'r pregethau a wrandawant. Dichon fod llawer o ddeiliaid yr Ysgolion Sabbothol yn fwy anwybodus nag y gellid dysgwyl iddynt fod, fel y dywed ein gohebydd a bod rhai yn llai rhinweddol nag y dylent fod, fel yr aw- gryma yn drahaus-frwnt; er hyny nid cyfiawn iddo gymeryd yr eithriadau hyny yn brawf fod y mwyafrif felly. Oddiar hanner can' mlynedd o brofiad a sylw, gallwn sierhau i'n gohebydd, pwy bynag ydyw, fod mwy o wir wybodaeth yn cael ei chyfranu, a moesoldeb a moesau purach yn cael eu dysgu, yn y sefydliadan gwerthfawr hyny, nag mewn unrhyw ysgolion ereill, pa un bynag ai cenedlaethol, ai Brytanaidd, ai athro- fäol, fyddont, am fod yr holl addysg a roddir yn yr Ysgolion Sabbothol yn seiliedig ar anffaelcdig wirion- edd Daw. Gwnaethom y gymwynas a'n gohebydd o adael allan rai pethau o'i lythyr. Ond rhaid i ni, wrth derfynu, ddatgan ein bod yn barnu mai da fyddai tra- fod ychydig ar y mater sydd yn niwedd ei lythyr a theimlem yr hyfrydwch mwyaf pe gallem, trwy ddal yr achos o flaen y wIad, linaru a gwellau rhyw gvmaint ar sefyllfa gweision a morwynion y Dywysogaeth a di'au y byddai "telllu y Ti-aethody(ld yn barod i wneyd eu rhan yn y gwaith da hwn.- -GOL.

YSGOL FRYTANAIDD DWYRAN, MON.I

BUDD GYMDEITHAS LLANGEINWEN.I

Y "SAINT" A'R AMSERAU.

IEUAN GWYNEDD AT ETA DELTA.

GOFYNION.

GUANO.

7"AMDDIFFYNIAD Y SAINT."

AT OLYGWYE YH AMSEEAU.

! CYNNADLEDD BLYNYDDOL Y CYNGRAIR…