Hide Articles List

3 articles on this Page

RHODFEYDD 0 GYLCH CARTREF.…

TEYRNAS NEFOEDD. I

News
Cite
Share

TEYRNAS NEFOEDD. I (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) I Y niwed mwyaf i deyrnas Crist ydyw ei chy- sylltu a theyrnasoedd y byd hwn. Mae pob gorfod ar ddynion i bleidio crefydd yn hollol groes i ysbryd yr efengyl, ac yn sicr o greu gwrthdarawiad yn y rhai mwyaf meddvlgar bob amser. Pan edrychom ar y gwrtbddrychau y mae a wnelo yr efengyl a hwy, sef dyeitbriaid a gelynion, a'i chais hi ar y cyfryw, sef eu cymodi a Duw, gallwn fedd- wl na wna gorfod byth ddwyn y cyfryw i ufudd- dod. Yr hyn a welodd doethineb anfeidrol debyc- af o ddwyn y gwrthryfelwyr i ufudd-dod, ydyw- erfyn dros Grist" ar y cyfryw—" eu cymhell i ddyfod i mewn perswadio dynion dysgu a rhybuddio, a hyny mewn addfwynder." Bydd i bob dull gwahanol i hyn gynhyrfu hyd yn nod yr hyn sydd dda ynddo ei hun, sef hunanamddiffyn- iad, yn erbyn y dirgymhelliad. Darfu i'r Yspaen- iaid, yn ol darganfod America Ddeheuol gan Columbus, anfon eu llynges a'u milwyr i'w medd iannu. Ac fel yr oeddynt yn dyfetha y cynfrodor- ion, yr oedd yr offeiriaid, yn ol y fyddin, yn bed- yddio y rhai a ddelid i ffydd Rhufain. Dywedent wrth yr Indiaid truain am nefoedd ac uffern, yr hyn ni chlywsent hwy erioed o'r blaen, ac addaw- ent nefoedd wen i bawb a ymostyngent iddynt hwy. Gofynai yr Indiaid gorthrymedig, Pa le bydd yr Yspaeniaid ? "0, yn y nefoedd i gyd," meddai yr offeiriaid. Or goreu," meddai y pagan, "mae yn well gan i fod yn uffern, pa waethed bynag a ydyw, na bod yn y nefoedd gyda'r Yspaeniaid." Dyma deimlad diniwed dyn- oliaeth pan yn anwar; ond wedi eu dysgu a'u diwyllio y mae dynion yn teimlo gormes yn llawer mwy anoddefol. Mae cymeryd braich o gnawd i gynnorthwyo yr efengyl yn abl temtio dynion i ammheu a oes rhywbeth mwy na dynol ynddi hi; canys pa raid wrth neb yn "amddiffynwr y ffydd" os ydyw y ffydd yn abl i amddiffyn ei hun, ie, ac amddiffyn pechaduriaid hefyd ? Tybir gan lawer y dylai Cristionogion fod yn un yn eu syniadau, ac yn unffurf yn eu holl ddefos- iynau, ac nad oes un moddion yn debycach o'u gwneyd felly nag i bawb ddilyn ei benadur: os felly, bydd raid i ddyn newid ei grefydd pan new- idio ei wlad. Yn Spaen rhaid iddo fod yn Babydd, yn Twrci yn Fahometan; yn Rwssia hona Eglwys Groeg ei bawl ar ei gydwybod yn yr India caiff gyfranogi o wleddoedd yr eilunod; ac wedi ym- sefydlu yn Brydain caiff ddwyn yr enw Protestant, a than gysgod yr enw hwn gall grynhoi elfenau holl gretyddau y byd o'r bron. Lie mae mwyaf o ymdrech dros unffurfiaetb, mae mwyaf o amryw- iaeth mewn barn ac ymarferiad. Ac nid rhyfedd hyny, gan nad ydyw cyfrifoldeb dyn i Chwiliwr y calonau yn cael ei ddangos mor bwysig a'i gyfrif- oldeb i'w gydgreadur. Mae tuedd gref yn y cysylltiad hwn i beri i ddynion ymorpbwys ar gyfres o ffurfiau, gan dyb- ied fod yr oil o grefydd yn gynnwysedig yn hyny. Diammheu y gellir dychryn dynion trwy fwgwth purdan ac uffern arnynt, nes eu cadw dan ddar- ostyngiad. Gwelwn rai yn abl tywys lluoedd wrth eu hewyllys trwy ddichellion fel hyn, heb yr un awdurdod fydol yn eu cynnorthwyo. Eithr oni ellir ennill dylanwad fel hyn ar galonau dyn- ion? Cymaint all dyn ei wneyd ydyw gorfodi arall i ddadgan y gyffes a fyno ef, heb byth effeith- io ar y serch a'r gydwybod; ac os bydd iddo arfer ei nerth anifeilaidd i'r eithaf, nid ydyw hyny yn cyrhaedd ymhellach na "lladd y corff:" eithr cym- hellir ni i ofni yr Hwn wedi y darffo iddo ladd sydd ag awdurdod ganddo i ddinystrio corff ac enaid yn uffern. 0 dragywydd y mae'r efengyl yn tynu ei chymhelliadau i ufudd-dod. Mae cref- ydd wladol trwy y byd paganaidd a Christionogol hefyd fel ffrwyn yn ngenau yr boll genedloedd, yn eu gyru ar gyfeiliorn. Delir dynolryw yn rhwym ganddi hi trwy yr oesoedd; eithr os dygwydd i'r fath reffyn dori, bydd pechaduriaid yn fwy aflyw- odraethus nag erioed, fel y gwelwn yn hanes y chwyldroad yn Ffrainc. Nid ar dybiaethau yr ydym yn seilio yr haeriad mai rhwystr i grefydd ydyw yr hyn a feiwn: oble- gid ceir digon o brofion yn hanes yr eglwys mai felly y bu; ac nid oes debyg na bydd yr un effeith- iau yn ei ddilyn hyd oni ddyddymer yr undeb hwn. Darfu i eglwys Crist fyw a chynnyddu yn y byd am dri chan' mlynedd, heb un awdurdod ddaearol yn blaid iddi, ie, er gwaethaf y rhai hyn oil, ac y mae wedi goroesi pob gelyn fu yn ymosod ami. Pe buasai yr efengyl yn llwyddo mor gyflym rai oesoedd wedi dyddiau yr apostolion ag y darfu yn eu hoes hwy, hi fuasai wedi Ilenwi y byd ymhell cyn hyn. Ond oni lwydda ei lledaeniad yn llawer cyflymach nag yn yr oesoedd hyn, bydd raid iddi gael mwy o amser nag sydd er pan grewyd Adda, er cyrhaedd ei hamcan. Ac anturiwn ddyweyd mai ei chysylltiad hi ag awdurdodau dynol fu y rhwystr mwyaf iddi. Mae yn wir fod olwynion cerbyd y Messiah wedi arafu yn fuan wedi dydd- iau yr apostolion; ond ni lwyr safodd hyd oni Iwythwyd ef a chyfoeth. Nid J dym am gelu ddar- fod anfon yr efengyl i amryw wledydd eilunaddol- gar ymhell wedi i'r eglwys a'r wladwriaeth ymbri- odi; eto buan yr aeth hi i sugno cyfoeth y cenedl- oedd, yn hytrach na dwyn iddynt hwy ragorol olud gras. Ni ryfygwn farnu eyflwr na dyben Cystenyn, ond cymerwn ein hyfdra i ddywedyd nad oedd yn deall natur teyrnas nefoedd gystal ag y buasai yn ddymunol. Pan aeth i adeiladu ty i'r Arglwydd, gosododd ei sail ar adfail eilunadd- oliaeth. Y cyfoeth hwnw fuasai yn dwyn aberthau i'r eilunod ac yn cynnal eu hoffeiriaid, a drowyd at wasanaeth Cristionogaeth. Y gallu a'r dylanw- ad oedd oesoedd o'r blaen yn ceisio llethu achos yr Arglwydd Iesu a drowyd i'w bleidio. Nid rhyfedd ynte i Ysbryd yr Arglwydd gilio, gan nad oedd anghen am ei nerth ef er darostwng y byd i ufudd-dod. Yn mhen ychydig wedi hyny cawn yr hanesion am ddadleuon ac ymraniadau yn prysur amlhau. Yn He ymgynghori a genau yr Arglwvdd, aeth y gwahanol bleidiau i ymryson am ffafr yr ym- herawdwr er amddiffyn eu mympwy, ac ennill hyny a sicrhai y fuddugoliaeth i'r neb a'i caffai, er a allai rheswm na gair Duw. Trwy hyn, tynwyd ymaith yr hyn oedd yn attal ymddangosiad cy- hoedd dirgelwch yr anwiredd, yr hwn oedd yn gweithio yn yr eglwys er dyddiau yr apostolion, ac yna darfu drygioni megys ymgnawdoli, fel nad oedd enw addas i'w roddi arno ond "dyn pechod." Fel hyn y dechreuodd adfaeliad ar yr eglwys, yr hwn aeth rhagddo am ddeuddeg can' mlynedd, heb nemawr o attalfa arno. Trwy hyn aeth yn Babilon mewn eilunaddoliaeth, yn Aipht o ofer- goeledd a gorthrymder, yn Sodom mewn aflendid, ac yn lie hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni mewn angbrediniaoth a pob drygioni. Ie, nid oedd dinas ar y ddaear yn addas gynllun i ddangos yr hon a'i geilw ei hun yn eglwys, am hyny rhaid crynhoi prif ddrygau gwledydd y byd i wneyd drych o honi. Ni cheid un bwystfil yn y goedwig yn ddigon gwrthun a dychrynllyd i'w darlunio wrtho, am hyny rhaid oedd dychymygu anghenfil er gwneyd hyny yn ddigon tarawiadol. Addefas- om fod yn anhawdd penderfynu pa un ai yr eglw'ys ai ynte y llywodraeth sydd fwyaf ei bai a'i pherygl yn y gyfathrach anghyireitblawn hon; ond fel yr ystyriwn y peth wrth fyned rbagom, mae yn amlwg i ni mai y wraig wedi ei thwyllo oedd gyntaf yn y camwedd. Nid ei threisio a gafodd un eglwys i fyned fel hyn, eithr ei thynu a'i llithio gan ei chwant at gyfoeth a moethau. Gyda bren- inoedd y ddaear y dechreuodd hi buteinio, ac y collodd ddiweirdeb ei hieuenctyd, a thrwy hyny yr ennillodd yr enw o "fam puteiniaid a ffieidd- dra y ddaear." Rhaid fod merched i hon, gan ei bod hi yn fam; a phwy sydd deilyngach o'u cyd- nabod felly na rhai sy'n dilyn yr hyn a halogodd yr hen fam? Mae y cwpan a estynir gan frenin- oedd y ddaear i'r eglwys yn effeithio ami hi yn debyg i'r modd y gwna ei gwin cymysgedig hi arnynt hwythau; sef eu meddwi a'u syfrdanu. Am hyny, goreu po gyntaf i roddi heibio y fath gyfeddach, a gocheled eraill gyfranogi o honi, rhag y gorfydd iddynt dalu y shot. Mae Ymneill- duwyr Cymru bellach er ys talm yn gwersyllu yn yr un man, fel Israel gynt ar derfyn Moab, ac wedi profi holl nerth y gelyn yn annigonol i'w gorchfygu. Gochelant rhag i diriondeb a gwobr eu hudo i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod ac i odinebu. Mae cysylltiad gwlad ac eglwys, hefyd, y modd- ion tebycaf i lethu yr egwyddor wirfoddol, ar yr hon y mae teyrnas Crist i'w dwyn ymlaen. Mae gorfod talu at grefydd nad ydynt yn cael nac yn dysgwyl dim lies oddiwrthi, yn tlodi pobl, fel na allant wneyd a fynont; yna y maent yn myned yn fwy difater am gyfranu. Ystyria rhai yr hyn maent yn orfod roddi yn haeddu gwobr cystal a'r hyn a wneir yn wirfoddol. Ond nid ydyw y niwed hwn yn haeddu ei gymharu a'r hyn a effeithiai tal o'r llywodraeth ar yr eglwysi a'u gweinidogion. Boddiai hyn yr holl gybyddion duwiol, os na byddai y genfigen at y cyfryw fugeiliaid ag a dder- bynient yr arian cyffredin yn eu blino. Llanwai yr eglwysi a'r fath ag a welir eisoes yn barotach i roddi eu gweddiau a'u barnau, nag i ymadael ag arian at grefydd. Mae talu at achos yr Arglwydd yn magu cariad ato cystal ac yn ffrwyth cariad; ac nid rhyfedd fod rhai nad ydynt yn cyfranu at y weinidogaeth, yn cwyno nad ydynt yn cael dim trwyddi. Trwy gyfraniadau gwirfoddol y gwelwn yr efengyl yn cael ei lledanu, hyd yn nod gan y rhai a bleidiant fwyaf ar orfodaeth; a'r eglwysi hyny sydd heb orfod ar neb dalu atynt, eithr a gynnelir yn unig gan eu haelodau, ydyw y rhai mwyaf llewyrchus dan y gyfundrefn esgobawl. Gwirfoddol ydyw pob peth a berthyn i eglwys Crist i fod o'r cynghor tragwyddol hyd y dydd y rhoddo efe i fynu y deyrnas i Dduw a'r Tad. Yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef, mae y cynllun. Rhyngu bodd" a barai ddadguddio'r deyrnas i rai by chain. Rhoddi ei einioes i lawr heb i neb ei dwyn oddiarno ddarfu ein Gwaredwr. Hael Ysbryd yr addewid ydyw ein Sancteiddydd. O'i wir ewyllys mae Crist yn ennill ei ddeil- iaid ac ewyllysgar fyddant hwythau yn nydd ei nerth ef. 0 law pob un ewyllysgar ei galon y cymerir offrwm; a "rhoddwr llawen mae yr Arglwydd yn ei garu." Onid all crefydd fyw ar a ennillo hi, gadawer iddi di-en, gu, a chladder hi mewn angof oesol; a phrysured preswylwyr y ddaear wybod, nad trwy lu na thrwy nerth, ond trwy ei Ysbryd y bydd i Frenin Sion ennill ei fuddugoliaethau a sefydlu ei achos er pob an- hawsder. Crefydd sefydledig, a zel drosti, a gododd erlid yn mhob oes a gwlad. Mae yn wir ddarfod i an- ffyddwyr proffesedig wneyd llawer o ddirmyg ar yr hyn a elwid yn grefydd yn Ffrainc a manau eraill, ac nid rhyfedd byny chwaith. Ond yr hwn a aned yn ol y cnawd a erlidia yr hwn a aned yn ol yr Ysbryd, y rhan amlaf. Yr erlid cyntaf ar Gristionogion a godwyd gan Iuddewon; a gofal am yr elw a'r hen sefydliadau oedd yn cynhyrfu yno. Yr oedd apelio at Cassar i'w gael rhag hyny; ond wedi i'r gorthrwm ddyfod o orsedd Rhufain yr oedd yn llawer trymach a mwy cyffredinol. Ond pan y daeth rhai yn dwyn yr enw Cristionog- ion i orthrymu, yr oedd ffrewyilau paganiaid yn cael eu cywilyddio gan yr ysgorpionau a arferid gan y rhai hyn. Ar orsedd y ddraig, sef yr awdur- dodau cenedlig, yr oedd y bwystfil yn eistedd; ei gallu a'i hawdurdod hi oedd ef yn ei weinyddu, gan ychwanegu llawer at hyny. Ni buasai modd i'r butain fawr gael y fath doraeth o gyfoeth i'w gwychu, ac o waed i'w meddwi, oni b'ai fod y bwystfil y mae yn ei farchogaeth yn defnyddio ei gyrn i'w gwasanaetbtr a'r hyn sydd at ei blys. Gallwn weled mai yr un niwed sydd yn tarddu o gysylltu pob enwad o Gristionogion gyda'r wlad- wriaeth. Y prif wahaniaeth rhwng Eglwys Rhuf- ain ac eraill sydd yn ei dynwared ydyw, ei bod hi wedi gallu hynodi ei hun yn yr hyn mae eraill yn ymgyrhaedd ato. Pan newidiodd yr eglwys ei phen a'i henw yn Lloegr, ni newidiwyd ei chalon drachwantus. Yr un gwaed oedd yn rhedegtrwy- ddi, a'r nn bywyd oedd yn ei hysgogi. Yn amser y werin-lywodraeth, nid oedd ond ychydig yn ys- gwyd eu dwylaw rhag derbyn gwobr, er bod yn olynwyr y Puritaniaid. Ac yn ol adferu esgob- yddiaeth gyda Charles, hi brofodd nad oedd wedi dysgu cyfiawnder, trwy garcharu a llethu i farwol- aeth tua deng mil o ffyddloniaid, heblaw tynu ei llygad ei hunan a'i bys ei hun. Yr ydym yn edrych ar y ffeithiau a awgrymwyd yn debyg i hanes rhyw gaethwas o ddyn gwyn oedd wedi dianc oddiar ei orthrymwr. Aeth y meistr ar ei ol, ac wedi ei oddiweddyd, baerai pob un o'r ddau mai efe oedd y meistr. Gan na allai y swyddog yr oeddynt ger ei fron benderfynu pa un oedd y meistr na'r gwas,.fe barodd i'r ddau estyn eu pen- au trwy y ffenestr, a thynodd y darn uchaf o honi ar eu gyddfau; yna gwaeddodd allan, "Ddien- yddwr, tor ymaith ben y caethwas," ac yna nid oedd yn anhawdd gweled pa un oedd yn ymgyn- hyrfu. Y drwg gwreiddiol yno oedd bod neb yn cadw caethwas; eto pe buasai y gwas a'r barnwr hefyd yn gwadu yr hawl oil, yn lie dadleu gan bwy yr oedd hi, fe allesid rhyddhau y ddau. Felly, pe buasai Ymneillduwyr yr ail-ganrif-ar-bymtheg yn cydwrthwynebu yr hawl i uchafiaeth y naill ar y llall, mae yn debyg na buasai gwasgu eu gyddf- au na bwgwth tori eu penau. Nid oedd y byd y pryd hwnw wedi deall anghyfiawnder y gaetbwas- iaeth ysbrydol hon; eithr wedi dyfod goleuni ar hyn, nid oes le i ddadleu pwy fydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd, gan y dangosir mai un ydyw ein Hathraw ni, sef Crist, a ninnau oil brodyr ydym. Mae teyrnas Crist i'w dwyn ymlaen yn y byd ar yr un cynllun ag yn y sant unigol: llywodraeth gair ac Ysbryd Duw ar enaid pechaduriaid ydyw, a'r fath yma wedi ymgasglu ynghyd yn gymdeithas i wasanaethu yr Arglwydd yn ol ei osodiadau ef ei hun ydyw y freniniaeth y mae efe yn ymogoneddu ynddi. Mae yn anhawdd dysgu dyn i ddeall yn iawn pa fath ydyw teyrnas Crist, oni bydd ganddo brofiad o deyrnasiad gras ar ei enaid ef ei hun; eithr mae yr eneiniad a dderhyniodd deiliaid teyrnas nefoedd yn eu dysgu yn hyn fel pob peth canys y maent hwy oil wedi eu heneinio yn fren- inoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef. Nid ydym yn tueddu i ddysgu neb o'r cyfryw beidio talu ufudd-dod i bob dynol ordinhad, er efallai na bydd hono yn gyfiawn bob amser; a dangoswn fod deddfau Brenin Sion yn gofyn hyny, hyd oni ddileir y gorthrwm. Eithr yn achos crefydd, ys- tyriwn iawnderau pob dyn yn gyfartal a'u gilydd. Dywed llawer ei bod yn fraint i ni gael goddefiad i addoli fel y mynom. Nid ydym yn ammheu hyn, ac ar yr un pryd ni chydnabyddwn hawl gan neb i'n gwabardd. Mae mor afresymol i'r naill ddyn roddi goddefiad i'r llall wasanaethu yr Arglwydd, ag a fyddai iddo roddi cenad i'w gydgreadur anadlu; ae nid ystyriem gael byw trwy oddefia.d nemawr amgen na chysgod marwolaetb. Eto, efallai mai esmwythach i ni wneyd fel y darfu i'r anturiaethwr enwog William Penn, pan oedd ef a'i ganlynwyr ar ymfudo i'r America. Er ei fod o ysbryd mor annibynol, fel na chymerai wasgu ar ei gydwybod serch gadael ei wlad er mwyn ei ryddid, darfu iddo ef brynu y tir gan Frenin Lloegr, a dywedai yn ei wyneb nad oedd ganddo ef un hawl i'w werthu; ac y prynai efe yr un peth drachefn gan yr Indiaid. A chafodd y "cyfaill" lonydd gan bawb. Rhaid i ninau roddi i lawr ein hiawnderau mewn pethau dibwys, ac yna bydd yn haws i ni eu hamddiffyn mewn pethau mawr. Tybygem fod yr alwad, "Deuwch allan o'i chanol hi, fy mhobl i," yn cael ei ddeall yn effeith- iol gan rai yn y blyneddau hyn, pryd y mae eraill yn ymgasglu i'r fan a nodwyd i'w dyfetha, fel y gwnai yr Iuddewon anghrediniol i Jerusalem cyn ei dinystr. Ac onid ydyw hyn yn rhyw argoel fod dinystr Babilon yn agosau ? Nid ydyw ond ofer dysgwyl am hir heddwch tra byddo elfenau terfysg yn ein mysg; oblegid, gwaith cyfiawnder fydd heddwch, ie, gweithred cyfiawnder fydd llonydd- wch a dyogelwch hyd byth." Ynfyd yw dysgwyl i hen gestyll oesol amddiffynfeydd a gormes, ddy- fod i lawr heb gynhwrf; a'r peth goreu i'r sawl a fyn lonydd, ydyw cilio ymhell oddiwrth y cyfryw, pryd mae arfau y filwriaeth yn curo arnynt. Pe buasai Lutber yn ymwrandaw a'i deimladau, ac a chais rhai o'i gyfeillion, llonydd a gawsai gorsedd y bwystfil; yna hi fuasai mor ddigryn pan fu y gwr hwn farw, ag oedd hi pan aned ef. Eithr dywedai ef, Ni adawai Duw na dynion lonydd i mi heb fyned ymlaen." Yr ydym yn barnu fod gair yr Arglwydd, ynghyd ag arweiniadau rhag- lumaeth, yn ein cymhell ninnau i fyned ymlaen yn y dyddiau hyn, er gorphen yr hyn a ddechreu- wyd gan Luther a'i gyd-lafurwyr. Er y gall fod yn rhaid dymchwelyd gorseddau teyrnasoedd, a dmystrio cryfder breniniaethau y cenedloedd, ie, ysgwyd nefoedd a daear, gweddiwn, "Deled dy deyrnas;" a gwyliwn rhag iddo ein cael yn cysgu pan y delo.

! CYNNADLEDD BLYNYDDOL Y CYNGRAIR…