Hide Articles List

3 articles on this Page

RHODFEYDD 0 GYLCH CARTREF.…

News
Cite
Share

RHODFEYDD 0 GYLCH CARTREF. I Siencyn, a Sicims, a Sion. I (PARHAD.) I Siaiiis.-Pa ffordd yr ydych chwi yn bwriadu myned heddi, Siencyn ? Siencyn.-Ni waeth gan I pa ffordd, Siams; y mae y wlad yn hyfryd i edrych ami yn mhob man yn awr: ni welais I erioed olwg mwy gobeithlawn ami. Beth meddwch chwi am fyned mor bell a Bryn-yr-adar ? Siams.-Wel de'wch: y mae cetyn o amser er pan y buom y ffordd hono. Carlo-Carlo! Siencyn. Ië, gadewch gael Carlo bach i'r gyf- eillach, beth bynag; y mae Carlo yn wastad vn siriol, ac yn barod i fwynhau y rodfa, gan siglo ei gynffon a gwenu yn ein llygaid: nid oes dim me- lancholy ar Carlo bach un amser, beth bynag, os bydd ei feistr weithiau yn bruddglwyfus. Siams.—0 pe clywech chwi ef yn udo ambell i noswaith os anghofiwn ni ro'i swper iddo! Mae e'n gwneyd swn mor drymaidd a chloch gladdu. Siencyn.—Ha! ha! 'does ryfedd. Ond chwareu teg i Carlo, y mae ef yn well na'i feistr etto, oblegid y mae ei feistr yn bruddglwyfus yn ami er cael swper, a boreufwyd, a chiniaw da, a'r cyfan. Y gwir yw, Siams, y mae gormod yn y cylla cyn waethed, os nid yn waeth, na rhy fychan am godi y pruddglwyf. Siams.- W e1 ie, Siencyn fach, ond y meddwl; yn y meddwl y mae y drwg-isder ysbryd yw y dolur. Siencyn.—Ie, yn narostyngiad y meddwl i'r corff, neu yn llygriad neu gam-drefniad y meddwl. Gydag ymborthiacli, a dillad hyd glydwch, a chyd- wybod dawel, a meddwl goleuedig, dan ofal rhag- luniaeth ddoeth, ac yn ngolwg iechydwriaeth gyflawn, a byd mor deg a hwn i rodio ynddo, pa achos, pa synwyr sydd mewn bod yn bruddglwyf- us? Ie, pa sut na byddem lawen a diolchgar? Fe fydd rhai yn rhyfeddu fod neb yn gorfoleddu am bethau yr iechydwriaeth; yn wir fe fyddaf fi, ambell i ddiwrnod, yn barod i orfoleddu wrth edrych ar y greadigaeth brydferth ei hun. Siams.- Yn wir, Siencyn, y mae yr olwg ami yn hyfryd. Rhwng ei harddwch hi, a'r awel ber- aidd, iachus hon, a dy draethawd siriol dithau, yr wyf yn teimlo yn iachach ac yn llonach yn barod. Wel! dyma gae o gloron! Onid ydynt yn dor- eithiog ? Siencyn.- Ië, a rhyfedd mor gryf eu gafael yw y bobl ynddynt! Cymaint sydd wedi eu planu eleni! Yrwyffiwedibodynmeddwlmorwabanol ydyw plant yn hau am amser ragor wrth hau am dragywyddoldeb. Prin yr hauant i'r ysbryd heb gael yn nesaf peth i weled y ffrwyth yr un amser a hau yr had, ond wrth hau ar gyfer anghenion y corff, hwy a fentrant hau yn helaeth, er gwaethaf yr "haint" a'r cwbl, gan obeithio y goreu; ac ni chollant eu gwobr. Yr wyf fi yn credu y gwna yr afiechyd sydd ar y llysieuyn gwerthfawr hwn wisgo ymaith bob yn dipyn. Ond os gallwn ym- ddiried i'r Rheolwr doeth am y pethau lleiaf, pa faint mwy am y peth mwyaf ? Y mae y llwyddyn hon yn hynod ffafriol i gnydau gleision. Dyma gae o faip yn cychwyn yn dda iawn. Siams.—Pethau trafferthus iawn yw y rhai yna: y mae y pryf wedi dyfetha llawer eleni, a gorfuwyd ail hau, a dwbl helynt a chost. Siencyn.- Trafferth! Pa beth a geir sydd werth ei gael heb drafferth? A pha beth a dal i'r amaeth- ydd am ei drafferth yn well na chnydau fel hyn ? Trafferth, llafur, yw defnydd elw yr amaethydd. Gallech feddwl wrth lawer tyddynwr yn Nghymru, ond cael gafael mewn tir fod y cyfan ar i fynu iddo fel amaethydd. Ychydig sydd yn meddwl, gyda chael tyddyn, mai ar y cyfartaledd o arian ac o lafur a thrafferth iddo y dibyna y llwyddiant. Y mae y tir salaf, gyda moddion digonol ac ysbryd a medr i'w lafurio, yn gystala'r tir goreu hebddynt. Y mae ychydig o dir gyda chyfartaledd o lafur yn well na llawer wedi hanner ei drin. Cyfle i'r amaetbydd i elwa ar ei lafur yw y tir. Y mae ei ffyniant yn ymddibynu ar swm a doethineb cy- mhwysiad y llafur yn gymaint, ie, yn fwy nag ar y tir ei hun. Dwbl drafferth a drebla y cynnyrch, heb chwanegu nag ardreth na threth. Y mae am- bell i amaethydd yn blysio am dyddyn mwy, ac erwau o dan ei ofal o gornelau ac ochrau heb eu diwyllio erioed un arall yn cyrchu guano, &c., ar draul mawr, o beli, a tbalarau helaeth ar hyd ei gaeau yn ymdyru ar hyd y blynyddoedd heb eu defnyddio, a ellid eu troi yn wrtaith cystal ag yntau. Yr wyf fi yn meddwl fod ar bob tyddyn foddion digonol i'w wrteithio ei hun, ond cymhwyso llafur digonol ato. Siams.- Wel, yn wir, gresyn fod neb heb wybod, neu heb ystyried pa fodd. Siencyn.-Dyna un llwybr arbenig i gael hyny i ben ydyw, trwy gymeryd trafferth i godi cyflawn- der o gnydau gleision; trwy hyny gellid cadw mwy o dda byw, yn enwedig ar hyd misoedd y gauaf, a'u cadw yn well, a chael gwell, yn gystal a llawer iawn mwy, o dail. Beth os byddai llai o yd am ddwy flynedd neu dair, nid yw yd ddim yn debyg o fod yn brin werth sylw yr amaethydd yn y wlad hon yn fuan, ond y mae da byw yn dal eu prig yn rhyfedd. Ond y gwir yw, wedi dilyn yr arfer uchod am ychydig, ceir mwy o yd hefyd, yn Symaint ac y bydd y tir yn llawer mwy cynnyrch- fawr oblegid y driniaeth well a'r gwrteithiad helaethach. Siams.-Wel, y mae hynyna yn rhesymol iawn; ac yn lie hanner llewygu gwartheg ar wellt trwy y Rauaf, na chant hwy mo'u cefnau atynt hyd ddi- wedd yr haf, fe fyddent yn galonog ac yn farch- ?'?ol, ac yn ?o?:<? o hyd, ac a besgent vn rholiau yn yr haf. Siencyn '-Siwr iawn; ac heblaw byny, mor awdd, ar flwyddyn fel hon, y gallesid gael dau gnwd yn olynol yr un tymor. Dyna Gruffydd, eiri cymydog, wedi hau "ffadbys Gwyl Mihangel di IddaLf, wedi eu lladd a'u defnyddio yn barod, ac Wedl hau maip a phlanu bresych ar eu hoi, ac y mae yn siwr 0 gnwd da eto. Siarns.Dyna 'fe; dau drafferth, ond un rhent. Wel, Y" siwr, dyma Sion. Pa stori sydd gan SinnM, di, ys gwn I i ■ Ion eddi, Y8 gwn Ii

TEYRNAS NEFOEDD. I

! CYNNADLEDD BLYNYDDOL Y CYNGRAIR…