Hide Articles List

12 articles on this Page

',r ,."",., ,0. '1"'" rr ""l".;"-D"…

TV Y UYFFREDJiN.

I FFRAINC.

News
Cite
Share

I FFRAINC. Megis yr oedd yn y dechreu," felly y mae yn parhau yn Ffrainc aflonydd. Y mae y Uywodnieth a'r Senedd yn awr yn cael eu dychrynu gan fwgan newydd yn mherson y Tywysog Louis Napoleon, nai y diweddar Napoleon Buonaparte. Y mae enw yr hen arvvr etto yn swyn i fyrddiynau yn Ffrainc. Y mae y tywysog uchod wedi gwneyd cais ddwywaith o'r blaen am goron Ffrainc, ond ceisiadau go eiddil oeddent—yn dibenu mewn carchariad ac aUtudiaeth. Y mae pedair neu bump o wahanol ddosparthiadau wedi ei ddewis ef, gyda mwyafrifau mawrion, yn gynnrychiolydd seneddol iddynt. Y werin hwytbau ydynt yn dechreu rhwygo yr awyr ft bloeddiadau, "Byw fyddo Napoleon," a Byw fyddo yr Ymerawdwr Napoleon." Dydd Llun, y 12fed, ymddangosodd papyr newydd yn Paris, dan yr enw Y Napoleon. Bu ambell ysgarmes fechan rhwng y N apoleoniaid a'r milwyr dinasol. Yr oedd gwahanol chwedlau ar led; rhai yn ofni fod y werin-lywodraeth, ar ol y cwb!, ar gael ei llyncu i fynu mewn unbenaeth ymerodrol; ereill yn dyweyd y dewisid Louis Napoleon yn Llywydd y Senedd, &c. Haerai Jerome Buonaparte, un arall o'r teulu, yn y sen- edd, nad oedd Louis, o'i ran ei hun, yn amcanu at ddim o'r fath, ac mae ereill oedd yn cynhyrfu yn ei enw, ac heb ei genad. Rhybuddiai Lamar- tine y Senedd o fwriad y weinyddiaeth i ddwyn i mewn ysgrif er sicrhau alltudiaeth Louis Napole. on. Yr un noswaith cariwyd ysgrif yn arwyddo ymddiried y senedd yn y weinyddiaeth, ac yn can- iattau 100,000 o francs yn fisol at draul eu cyfeis- teddfod. Tranoeth bu dadl fawr i benderfynu pa un a dderbynid Louis Napoleon i'r senedd yn ol ei etholiad ai peidio. Yn nghorph y cyflafaredd, traethid nad oedd ganddo fwriadau ar y goron, ond mai gwerin-lywodraethwr ydoedd. Dywedid hefyd y byddai ei wrthodiad yn gwneyd gwr mwy o hono nag oedd mewn gwirionedd, ac nad oedd achos yn y byd i'w ofni. Y diwedd a fu pender- fynu, gan îwyafrif mawr, ei dderbyn yn aelod sen- eddol i'w plith. Gan fod hyn yn groes i ddymuniad y weinyddiaeth, y mae y penderfyniad, yn enwedig gyda'r fath fwyafiaeth, yn gryn ergyd iddynt. Dywedir fod y Prince de Joinville, mab diweddar frenin Ffrainc, wedi cael 28,000 o bleidleisiau i fod yn gynnrychiolydd seneddol yn Paris. Y mae Ffrainc wedi anfon gwrthdystiad, mewn iaith gref, at lywodraeth Prwssia, yn erbyn uniad un rhan o Poland a'r undeb Germanaidd. Rhif y masnachwyr yn Paris oedd wedi methu, yn niwedd mis Ebrill, oedd 1,500; y maent yn awr yn agos i 6,000. Y mae pum' punt a deugain y cant wedi ei chwanegu at y trethi arferol, gan y weinyddiaeth ragddarbodol, i gyfarfod a'u hanghenion; ond y mae helynt mawr mewn amryw ranau o'r wlad wrth geisio eu hel, a'r treth-gasglwyr yn gorfod ffoi. Tra yr oedd y senedd yn gynnyrfiedig gan yr helynt yn achos etholiad Louis Napoleon, darfu i'r gwr hwnw roddi esmwythad, trwy anfon llythyr i ddyweyd ei fod yn rhoi i fynu yr anrhydedd a osodwyd arno trwy ei etholiad. Ei resymau oedd oblegid fod rhai yn haeru iddo ei enill trwy ddichell ac er mwyn peidio aflonyddu y deyrnas. Bucryn dawelwch, mewn cymhariaeth, ar ol yr hyspysiad hwn. Ond y mae terfysgoedd wedi bod mewn amryw fanau yn y taleithiau, ac ofnid iddynt dori allan eto yn y brif ddinas. Y mae cynllun y cyfansoddiad newydd wedi ei ddwyn allan gan y cyfeisteddfod a drefnwyd i'w ffurfio. Cynnygir ynddo fod llywydd i gael ei ddewis gan bleidlais yr holl ddeiliaid, i arcs yn ei swydd am bedair blynedd. Is-lywydd i'w ddewis gan v senedd, a'r senedd i fod yn gynmvysedig o saithJ cant a haner o aelodau. Nid oes ond un ty seneddol i fod, ond dewisir rhyw gynghorfa o ddeugain o'r aelodau, pa rai ydynt i barotoi cyn- lluniau i'w dwyn ger bron y ty. Y llywydd i ben- nodi y weinyddiaeth. Y gosp o farwolaeth i'w dileu, gyda golwg ar droseddau gwladyddol. Caeth-fasnach i gael ei dileu. Y wasg i fod yn ber- ffaith rydd. Pob crefydd i fod yn rhydd, a'r gweinidogion crefyddol o bob plaid i gael eu cynnal gan y llywodraeth. Addysg gyffredinol i bawb yn rhad, ond dan arolygiad y llywodraeth, &c., &c, Ar ol i ystorom Louis Napoleon fyned trosodd, bu y weinyddiaeth a'r senedd mewn ymdrechfa yn achos y gweithwyr sydd o hyd dan dal y llyw- odraeth. Y mae eu nifer yn 100,000 20,000 o honynt yn garcharorion a drwg-weithredwyr wedi en gollwng yn rhydd. Yr oedd y weinyddiaeth yn gofyn 3,000,000 o francs i'w cynnal; y senedd yn ffyrnig yn erbyn ond nid oedd i wneyd ond eu caniatau, neu ollwng y miloedd hyn yn fleidd- iaid ar hyd heolydd y brif ddinas. Y mae yma ddyryswch, ac y mae yn debyg nas deuir allan o hono heb dywallt gwaed. Y mae yr awdurdodau wedi penderfynu rhoi gwaith iddynt ar dasg ac nid wrth y dydd. Yn lie lleihau y mae trethi yn awr yn cael eu gosod ar holl angenrhcidiau bywyd yn Paris. Nid oes traul ar nwyddau masnachol a moethau i gael cyllid oddiwrthynt. Rhaid trethu angen- rheidiau cyffredin. Y mae byn oil yn ddyrys ddyrys.

C, E R MANI. I

PRWSSIA.

A NVST R IA. i

HANOVER. I

ITALI.

YSBAEN. I

AMERICA OGLEDDOL. I

[No title]

NeUipddion CTartrefoI*