Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

',r ,."",., ,0. '1"'" rr ""l".;"-D"…

TV Y UYFFREDJiN.

News
Cite
Share

TV Y UYFFREDJiN. DYDD IA U, Mehefin 15. Mewn atebiad i ofyniad Mr. Banks, dywedai Arglwydd J. RUSSELL fod Cciuiadydd Ysbaen yn y wIaLl hon wedi ymadael oddiyma, nid oblegid ei alw adrcf gan ei lywod- raeth ei hun, ond o herwydd dymuniad y llywodraetli hon, a dracthwyd iddo yn ystod y gyfrinach ag cf yn achos y cweryl diweddar, Rhoddid yr holl gyfrinacli a'r ohebiaeth o flaen y ty yn fuan. Mr. STAFFORD a gynnygiai fod rhybudd newydd i ethol aeneddwyr yn cael ei anfon i Leicester oblegid fod yr etholiad diweddaf wedi ei dileu o herwydd llwgr- wobrwyaeth. Mr. FREWEN a ddywedodd fod ei deulu ef yn dal perthynas a Leicester er's llawer o flynyddoedd ei fod ef yn credu oddiwrth yr hyn a wyddai ei hun, ei bod yn un or bwrdeisdrefi mwyaf llvgredig yn y deyrnas. Yn y flwyddyn 1826 dywedai bod X66,000 wedi eu gwario rhwng y tri ymgeisydc1. Pan y cynnygiodd efe ei hun fel ymgeisydd yn 1839, efe a hyspysodd y byddai yn well ganddo golli ei etholiad na gwario un swllt mown lIwgr- wobrjyyaeth ae aeth yr etholiad yn ei erbyn oblegid fod ei gyfeisteddfod yn gommedd gweithredu fel y gwnelsid yn yr etholiad o'r blaen. Yr oedd of yn siarad teimlad y rhan barchusaf o drigolion Leicester pan y dywedai y dymunent i'r ysgrif-etholiad gael ei gohirio hyd nes y byddo y pleidleiswyr llygredig hyny wedi eu difreinio neu y dosparth etholiadol wedi ei ehangu, nes y byddai y fath fudr-wobrwyaeth yn anmhossibl. Yr oedd ef yn erbyn y cynnygiad. Mr. SEYMER a ddywedai y byddai yn burion i'r holl dystiolaeth yn erbyn yr etholiad diweddaf fod o'u blaenau, cyn dyfod i benderfyniad ar y mater. Arglwydd J. RUSSELL a sylwai fod rhesymau cedyrn yn erbyn y cynnygiad hwn, ac na byddai gweithredu felly, a gohirio etholiad y lie, yn groes igyfansoddiad ein llyw- odraeth nag i arferiad o'r blaen. Ar ol cryn ddadl, rhanwyd y ty, pryd y gwrthodwyd y cynnygiad gan fwyafiaeth o 129 yn erbyn 6. Wedi hyny, symudwyd radd yn mlaen gydag ysgrif lechyd y Cyhoeddus. Yna eisteddodd y ty yn gyfeis- teddfod ar ysgrif yr Etholiadau Bwrdeisdrefol. DYDD GWENER, Mehefin 16. Bu cryn areithio gan Russell, Inglis, Bentinck, a D'ls- raeli mewn perthynas i'r ysgrif oedd gan y weinyddiaeth mewn bwriad gyda golwg ar yr India Orllewinol, sef i'r diben o gynnorthwyo perchenogion y planfeydd siwgr yno, pa rai ydynt bron a'a cwbl lethu oblegid y dyryswch mas- nachol diweddar yn dyfod arnynt yn nghwt masnach rydd. Y mae y weinyddiaeth yn liunio rhoi ychydig dreth ar y siwgr tramor, er mwyn eu ffafrio hwy, a rhoi benthyg rhyw X500,000 iddynt, i'w helpu trwy eu caledi presanol. Symudwyd gam yn mlaen gyda Deddfau Llongwriaeth, sef, trwy ymffurfio yn gyfeisteddfod arno. Yna bu tipyn o ysgarmes lied warthus rhwng rhai o'n cynnrychiolwyr urddasol. Yr oedd un o honynt, o'r enw Mr. Hudson, yn drystfawr ac afreolus, megis dan effeith- iau diodydd meddwol. Cwynid gan yr hybarch Hume o herwydd yr anmhri- odoldeb o ddyfod i'r ty yn y fath gyflwr. Atebai y cyntaf (Hudson) fod Hume yn rhygybyddlyd i fyned i wledd, neu i ro'i ciniaw i gyfaill a bu cryn ffrwgwd rhwng ein seneddwyr parchedig DYDD LLUN, Mehefin 19. Dechreuodd y ddadl mewn perthynas i gynnorthwy i'r India Orllewinol. Areithiodd, yn erbyn cynllun y weinyddiaeth, Mr. Ellice, Syr J. Packington, Syr E. Buxton, Mr. Seymor, Mr. Hume ac o blaid yr ysgrif, Canghellydd y Drysorfa. Darllenwyd ysgrif yr Iechyd Cyhoeddus y drydedd waith, a phasiodd y ty. DYDD MA WRTH, Mehefin 20. I Ar ol cyflwyno rhifedi mawr o eirchion o blaid diwygiad, Cyfodai Mr. HUME, ac a gynnygiail "Nad yw y ty hwn yh cynnrychioli yn deg na phoblogaeth, na meddian- nau, na llafur y wlad ac o herwydd hyny fod anfodd- lonrwydd mawr yn meddyliau y bob! a bod yn angen- rheidiol, gan hyny, estyn y pleidleisiad i bob ty annedd fod pleidleisio i fod yn ddirgel fod parhad y senedd i fod yn ddim hwy na thair blynedd a bod i'r aelodau gael eu dosparthu yn fwy cyfartal i'r boblogaeth." Areithiai yn rymus o blaid ei gynnygiad. Dangosai fod yn berygl oedi iawnderau y bobl, yn agwedd bresenol y cyfandir. Fod camddarlunio y bobl yn y senedd, yn waeth na bod heb eu cynnrychioli. Fod yn bresenol bump o bob chwech o ddeiliaid y goron (oedd mewn oed) heb eu cyn- nrychioli. Dywedai y byddai i'w gynllun ef chwanegu dau filiwn at bleidleiswyr y deyrnas, ac felly cadarnhau wmeefydiiadau. Chwanegai at bcdwar pen ci gynnygiad uit araU, sef- na byddai y cymhwysder meddiannol yn angenrhoiaiolyn y cynnrychiolydd seneddol. Dibenodd araetlvo oddeutu dwy awr trwy rybuddio y weinyddiaeth tCs ty o'r perygl o oedi diwygiadau rhesymol a chyfiawn. Mr. DRUMMOND a areithiodd yn erbyn, gan ddadleu na wnai unrhyw gyfnewidiadau gwladyddol ddim lleihau trueni y werir. Arglwydd J. RUSSELL a wrthwynebai y cynnygiad. Dechreuodd trwy ddibrisio yr crfyniadau a gyfUvynid i'r ty, a'r cyfaifodydd mawrion diwygiadol a gynhaliwyd mewn amrywiol fanau. Dadleuai mai y Siartr, os dim, ac nid cynllun Mr. Hume, oedd y wlad yn ei ddymuno. Dywedai fod y cyfansoddiad gwladyddol wedi gweithio yn bur hapus hyd yn hyn, ac y byddai yn beryglus cyff- wrdd (ig ef. Canmolai ysgrif y diwygiad 1832. Haerai fod Ty y Cyffredin yn gwir gynnrychioli y wlad er hyny, a bod y ty wedi profi ei hun yn alluog ac yn barod i bob symudiad gwir dda. Yn olaf. os oedd eisiau diwygiadau pellach, mai nid dyma yr amser priodol i'w gwneyd, ond yn arafdeg, ac ar ol i'r terfysgoedd presenol ddarfod. Areithiodd Mr. W. J. Fox yn ardderchog a grymus o blaid y cynnygiad. Dangosai nad oedd y werin yn bre- senol ond megis caethion mewn gwlad a ehvid yn rhvdd. Dadleuai fod y werin, o ran gwybodaeth, yn gymhwys i gael y pleidlais. A hacrai y tueddai y diwygiadau hyn i leihau llygredigaeth, i buro ac urddasoli y senedd, ac i gadarnhnu y deyrnas, trwy greu undeb a gwladgarvvch yn ci dciliaid, i wrthsefyll pob ymosodiadau allanol. Yna areithiai Mr. D'ISRAELI am ddwy awr yn erbyn. Hacrai mai cynllun y canolradd ac nid yr iselradd ydoedd, ac nad oedd dim nulleb rhyngcldynt. Dywedai mai ysbryd diwygiad oedd yn dyrysu y byd. Haerai mai y bonedd- igion oedd naturiol a chymhwys arweinyddion y bobl, a llawer o bctlsau cyffelyb. Yna gohiriwyd y ty. I DYDD MERCHER, Mehefin 24. Bu amryw faterion o sylw Ueol ger bron y ty ni I byddaieuhadroddynddifyriGymry. I DYDD IAU, Mehefin 25. Parhawyd y ddadi am Drcth y Siwgr a chynnorthwy i'r India Orllewinol. Areithiwyd yn erbyn cynllun y weinyddiaeth gan Mr. Gladstone, ac (j'i blaid gan Mr. Wilson, a gohiriwyd y ddadl eilwaith.

I FFRAINC.

C, E R MANI. I

PRWSSIA.

A NVST R IA. i

HANOVER. I

ITALI.

YSBAEN. I

AMERICA OGLEDDOL. I

[No title]

NeUipddion CTartrefoI*