Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

',r ,."",., ,0. '1"'" rr ""l".;"-D"…

TV Y UYFFREDJiN.

I FFRAINC.

C, E R MANI. I

PRWSSIA.

A NVST R IA. i

HANOVER. I

ITALI.

YSBAEN. I

AMERICA OGLEDDOL. I

[No title]

NeUipddion CTartrefoI*

News
Cite
Share

NeUipddion CTartrefoI* I GYMREIG. CYMANFA MOIT.—Cynnelir cymanfa flynyddol yr Annibynwyr yn Mon eleni yn Llanerchymedd, ar ddydd- iau Iau a Gwener, Gorphenhafl3 a 14.-J. ROBERTS. BRYNSIENCYN.—-Dvdd Iau Derchafael, rhoddes yr Odyddion eu presenoldeb yn y pentref hwn a'r gymyd. ogaeth. Ffurfiasant yn orymdaith, a blaenorid hwy gan deulu yn chwareu offerynau cerdd: yr olwg arnynt oedd yn hardd. Anrhegwyd eu Lodge a phresenoldeb W. B. Hughes, Ysw., A.S,, a chyfranodd yn haelionus tuag at ddwyn traul y dydd N. O. NiWBwncn.—Dydd Hun y Suigwyn diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod pregethu gan y Methodistiaid Wesleyaidd yn y dref hon. Y brodyr canlynol a salas- ant i fynu yn gyhoeddus i draddodi y genadwri cfengyl- aidd ;-E(tward Jones a Griffith lioberts, Pwllheli; a John Roberts, Llangollen. Yr oedd y brodyr Hugh Thomas ac Owen Evans, Llangefni, yn bresenol. Yr oedd y pregethau yn rhagorol, a'r hin yn hyfryd, a dangoswyd caredigrwydd nid bychan gan y gymydog- aeth tuag at y dieithriaid. MARWOLAETH DDISVMWTH.—Ceredigion. — Y mae yn gofus gan lawer yn y Dywysogaeth am yr ys- torm o fellt a tharanau a gymerodd le ddydd Sabboth, yr 2fed o Ebrill diweddaf; a hefyd bod dwy fuwch i Timothy James, Liaethdy, plwyf Cilcennin, swydd Aberteifi, wedi eu Hadd gan y mellt yn y beudy. Ond y mae yr ergyd trymaf etto i'w hadrodd boreu dydd Gwener, y 9fed o'r mis hwn, cododd Timothy James o'i wely, oddiwrth ei anwyl wraig, yn iach a siriol fel arfer- ol, i fyned at ei orchwyl, gan gymeryd rhaw yn ei law a dechreu gwasgaru y calch yn y cae ond prin y taft- odd ddwy rawiad neu dair, cyn iddo syrthio yn farw yn y fan Gwelwyd ef gyntaf gan ei forwyn yn gorwedd ar ei gefn yn y cae hysbysodd i'w meistress, ac aeth- ant ato mor fuan ag y gallent, ond ni chaed yr arwydd lleiaf o fywyd ynddo, gan fod y wreichionen fywiol wedi ehedeg i fyd yr ysbrydoedd. Ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angau." Fel hyn y eollwyd o'n mysg un o'r dynion mwyaf diniwed o fewn y plwyf-parotaf i ddiwallu y tlawd a'r anghenog. Tranoeth, cynnaliwyd trengholiad ar y corff, a dychwelwyd y rbeithfarn o farwolaeth trwy ymweliad Duw. Y dyd,d Llun can- lyno), ymgynnullodd tyrfa luosog o'i gyfeillion a'i ber- thynasau i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Traddod- wyd pregeth hynod o briodol ar yr achlysur galarus, oddiar Esai xl. 6-8. Ei oed ydoedd 58 mlynedd.— Un o'r rheithwyr. WAEDDGROG.—Cynnaliwyd cyfarfod pregethu gan y Trefnyddion Wesleyaidd, yn y Waeddgrug, Mehefin II, a chymerodd y brodyr canlynol ran yn y gwasan- actli :-Mr. W. Dykins, Waeddgrug; Mr. D. Wil- liams, Newmarket; Mr. R. Williams, Bagillt; Mr. J. Ellis, Liverpool; Parch. J. Harris, (A.) Waeddgrug; O. Parry, Liverppol. Casghvyd yn yr oedraon udeunaw punt,a swllt. Y dydd canlynol cynnaHwyd cyfarfod te; a thrwy garedigrwydd cyfeillion yr achos, rhoddwyd yr elfenau am ddim; a'r elw a gaed oddiwrtho ydoedd tair punt ar ugain, yr hyn, gyda'r swm uchod, a wna y cyfanswm o X41. Is. Yr oedd y cynnulliad ar yr ach- lysur yn fawr iawn, ac ni welwyd braidd erioed fwy o sobrwydd ac astudrwydd yn gwrando. Tystiai cannoedd fod Duw yn rhoddi arwyddion o'i foddlonrwydd ar bob rhan o'r gwaith. Bydd hir a melus goffa am y gwir- ioneddau pwysfawr a syml a draddodwyd yn y cyfarfod hwn.—Gohebydd. LLANLLECHYD, ARFON.—Cynnaliwyd cyfarfod pregethu yn nghapel Jerusalem, Llanllechid, gan y Trefnyddion Calfinaidd, dydd Sabboth a dydd Llun, Mehefin yr lleg a'r 12fed, pryd y cymerodd y gweini- dogion a'r pregethwyr canlynol Tan yn ngwasanaeth y cyfarfodydd :-Morris Jones, Jerusalem W. Morris, Rhuddlan; W. Roberts, Caergybi; D. Rowlands, Mon; D. H. Thomas, Pont-y-twr; T. Hughes, Mach- ynlleth; R. Hughes, Gaerwen, Mon; David Rowlands, Bala; a W. Roberts, Amlwch. Yr oedd y cynnull- eidfaoedd yn lluosog, a'r pregethau yn oleu a nerthol. PEN MAIN, MYNWY.—Y mae yr eglwys gynnull- eidfaol luosog yn Penmain wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. E. Hughes, Treffynnon, i gymeryd yr ar- olygiaeth arnynt ac yr ydym yn deall fod Mr. Hughes wedi derbyn yr alwad, ac y bydd iddo yn fuan ddechreu ar ei weinidogaeth yn eu plith. Bydd ei symudiad o Dreffynnon yn achosi galar dwys i'r eglwys yno, yn gystal ag i'r ddwy gangen eglwys y gweinyddai iddynt; a theimlir colled ddirfawr ar ei ol gan y gymydogaeth, He y perchir ef yn fawr gan bawb. PFESTINIOG.-Ar noson y 13eg o'r mis hwn, cymerodd damwain angeuol le ar reilffordd Ffestiniog, i ddyn tlawd o'r enw John Jones, yr hwn oedd rhyw- fodd wedi crwydro ar y rheil, pryd y daeth rhes o wagenau lieibio, a lladdwyd ef yn y fan. BANGOR.- Y mae bys coch wedi ei osod ar awrlais yr eglwys gadeiriawl yn y ddinas hon, a'r llythyren G. arno, i ddynodi amser Greenwich, ar y wyneb gyferbyn a phalas yr esgob a'r deondy. Y mae y wyneb sydd gyferbyn a'r heol gyhoeddus wedi ei adael fel o'r blaen, i gamarwain y rhai a ymddiriedant yn ei gyfarwyddyd. CAERGYBt. Damwain Angeuol Wythnos i neith- iwr, (Meh. 21,) fel yr oedd Owen Hughes a William Thomas yn troi dyrwynai (winch), gyda dynion ereill, i godi dwfr-ddorau y graving-dock o'u lie, gorchfygwyd hwy gan y pwysau ar y dyrwynai, pryd y tarawodd yr handle O. Hughes ar ei ben, gan ei daflu drosyresgyn- lawr i ddyfndwr o ddeg llath, fel ag y bu farw yn y fan. Tarawyd W. Thomas gan yr handle arall, drylliwyd ei glyn, ac anafwyd ef i'r fath raddau, fel nas gallai ei gydweithwyr braidd ei gario i'w dy na bu yntau hefyd farw. Gadawodd Owen Hughes weddw a phedwar o blant, a William Thomas weddw ac un plentyn, i alaiu eu colled am danynt. LLAN.BIEILIS. -Damtvain Alaetlius.- Boreu ddydd Gwener diweddaf, yr oedd saith o chwarelwyr, a weith- ient yn nghloddfa llechau Dinorwig, yn myned mewn cwch dros y llyn at eu gwaith, fel y byddent arferol; a phan oeddynt tua haner y ffordd, pryd yr oedd y gwynt yn chwythu yn ddychrynllyd, dymchwelodd y cwch a'i wyneb yn isaf, nes yr oedd y saith yn nghanol y dyfn- der mawr. Cafodd un o honynt afael yn y cwch, a daliodd ei afael nes cael cymhorth o'r lan, ond boddwyd y chwech arall, sef tri o wyr a thri o fechgyn ieuaingc. Gwnaed pob ymdrech i gael y cyrff, ond nid oeddynt wedi eu cael pan anfonwyd yr hanes galarus atom.