Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

IUWEII sum VCIKVDIG. I

News
Cite
Share

IUWEII sum VCIKVDIG. I Y mae yr Anrhydeddu-, E. J. Stanley wedi cael yr UTddas gan ei Mawrhydi o fod yn un o bendefigion yr Unol Deyrnas, o dan y teitl Arglwydd Eddisbury, o Winnington, Swydd Gaer. Derbyniodd y rheilffordd rhwng Caer a Birkenhead dros ddwy fit o bunnau yn wythnos y rhedegfa yn Nghaer. Cynnelir cynnadledd y Wesleyaid, am y flwyddyn hon, yn Hull, yn y mis nesaf. Dywedir fod rhwng deuddeg a phymtheg mil o bun- noedd, mewn aur, yn cael eu hanfon, bob wythnos, o'r wlad hon i Holland am gattal, ymenyn, a phethau ereill bwytadwy. Perthyna i gyfeillgarwch, fedr a chraffder y meddyg goreu, diwydrwydd a gwyliadwriaeth y faethes oreu, a thynerwch ac amynedd y fam oreu. Y mae gor-awydd am arian yn cau y galon ac yn cymmylu y deall. Gan hyny gochelwch ddechreuad trachwant, oblegyd ni wyddoch yn mha Je y dibena. "Ymwthiaf i'th lygad" ebe yr edau wrth y nod- wydd. "Rhwygaf dy groen ymaith, a thynaf dy lygaid allan" ebe yr hen wr, 'g wangcus wrth y pytatw. Y mae deg catrawd-ar-hugain o filwyr yn yr Iwerddon. Nid oes ond un catrawd yn Ysgotland. Dywedir fod lifr. Cobden yn credu y gellir gostwng deg miliwn o bunnau o leiaf yn nhraul blynyddol y llywodraeth. Byddai hyny yn ysgafnad bendithiol i wiad bron a chael ei lIethu gan bwysau ei baich. Jemmi, pwy oedd y dyn hynaf?" "Wn i ddim, Syr," "We1 ynte, pwy oedd y ddynes hynaf?" "Hen Aiidcth Syr." Gwyddel pan yn adrodd ei gystudd trwm a ddy- wedai, Yn sicr, syr, bu'm am chwe' wythnos yn holl fis Awst yn methu siarad cymaint a gair ac yn ystod yr holl amser hwn ni pheidiwnddydd a nos a gwaeddi, Nwfr! Dwfr! Y mae y Whigiaid wedi chwanegu pymtheg-ar- hugain o filivnau at y ddyled wladol, ac o dan ryw esgus neu gilydd wedi chwanegu y fyddin i'r cyfan- swm o ragor na phedwar-ugain mil o wyr. Dywed newyddiadur Gwyddelig fod Arglwydd Clonbrook wedi peri tori nifer o goed oddiar ei dir, i'r dyben o'u gwneuthur yn eirch, a'u rhoddi i'r tlouion sydd yn methu claddu en marw yn weddus. Y mae y Dr. Wollaston yn cylrif fod goleuni yr Haul yn agos i ddeg can' mil o weithiau yn fwy na goleuni y Lloer. Mewn ewnapeini a gynnullodd vn ddiweddar yn Wakefield er coifa am ddydd genedigaeth Ysgotiad cant a thair blwydd oed, yr oedd chwech o bersonau yn bresenol unol oed y rhai oedd pum' cant a phedair oed. Cyflwynodd boneddiges yn Llundain o'r enw Miss Fleurean rodd yn ddiweddar i Gymdeithas Gennadol Llundain, o bedair mil a hanner o bunnau. Cymerwyd o siop Llyfrwerthwr yn St. Alban's, yr hwn oedd Ymneillduwr, ac a wrthodai dalu treth eglwys, 6 Llyfr Gweddi, a 23 o Fiblau. Fel hyn yr oedd -'eglwys y dyn tlawd" yn liadrata Ilyfrau gweddi a biblau o siop Ymneillduwr. Y mae yn Llundain ddeuddeg mil o blantyn cael eu dwyn i fynu mewn drygioni, deg-ar-hugain o filoddo ladron, tair mil o garn-lsdron, tair mil-ar-hugain yn cael eu cymeryd i fynu yn fiynyddol oddiar yr heolydd mewn cyflwr o feddwdod, a banner, cant o filodd yn yfwyr cyffredin o gin. Y mae penderfyniad Cymanfa Gennadlaethol Ffrainc yn alltudio Louis Philippe a phob cangen o 1 deulu rhag byth osod troed ar dir Fframc, wedi cael ei eirio yn gymhwys yn yr un geiriau a'r penderfyniad flynyddau yn ol yn gv^ahardd teulu Napoleon a theulu Bourbon i wneuthur hyny. Dywedir fod y pender- fyniadau hyny wedi cael eu ffurfio gan Louis Philippe, a diau nad hyfryd iawn i deimladau yr hen gyfrjyysgi ydyw gweled ei eiriau ei hun yn cael eu demyddio yn ei erbyn ei hun a'i deulu. Y mae y geri farwol wedi vmddangos yn rI nwrci a Rwssia, ac yn peri gryn alanastra. Dvgwyd cryn lawer yn ddiweddar o gig eidion hallt i'r wlad hon o Ddeheudir Cymru Newydd. Cymerodd prydydd ieuanc yn ei ben ei fod wedi syrthio mewn cariad at ferch ieuanc, ac annerchodd hi mewn pennillion crach-farddonol, pob pennill yn dechreu gyda'r geiriau Gwelaist ti unwaith, <yc. Vsgrifenodd hithau ateb yn ol iddo y cymerai gymaint gofal ag a allai rhag iddo hyth ei gweled eilwaith. Dvwedwyd am bwt o ddyn go fyr ei fod wedi syrthio mewn cariad a dynes deneu dal. "tyvthiOy ebe rhywun Ilyn hytrach dywedwch ei fod wedi dringo mewn cariad." Dywed Feargus O'Connor nad oesy oiid fft)lineb neu wiriondeb a all rwystro i'r Siarti- ddyfod yn gyfraith y tir ctjfi lien gchydig wylhnosau. Diau iod prophwyd o'r fath Feargus yn cyfrif fod y bob la 1 credant yn hawdd iawn eu twyllo. t" Y mae amryw Ffrancod yn bresenol yn Nghogledd Lloer yn prynu ceffylau i'r meirch-filwyr Ifrengig. Yn mysg amryw hynodion anesbonadwy y natur ddynol gellir rhcsi crintachrwydd y cyfoethog a gwas- praff y tiawd. Y ffir,e ryw sibrwd y daw Syr Robert Peel i swydd 3to yn lled fuan i sefydlu diwygiad trwyadl yn nhraul pob dosparth o'r llywodraeth, ehangiad pleidleisiad, a 3hwttogiad ar barhad y senedd. Y mae pethau mwy mnhebyg na hyn wedi cymeryd lie. Darfn i Fwrdd Gwarcheidwaill y Tlodion yn RTan- hester hennodi fferyllydd i chwilio ansawdd defnyddiau ymborth i'r tlodion yn y ty, rhag iddynt fod wedi eu jymmysgu a phethau amiahur ac afiach. Sonia newyddiadur Seisnig am "sefyIlfa gythryblus lawelwch y wlad." A fedr rhywun ddywedyd beth rdyw "sefyllfa gythryblus dawelwch ?" Sylwai darlithydd athronvddol unwaith nad oedd josibl i ddyn fel creadur rhydd wneuthur dim yn roes i'w ewvllys." a Oes y mae" ebe Gwyddel "aeth y mrawd i Botany Bay yn hollol groes i'w ewyllys." Y mae y Dr. Themont yn cymhell ceirch wedi eu jerwi yn ol dwy lon&id lIaw i dri chwart o ddwir, a i erwi i ddau chwart, fel yn feddyginiaeth effeithiol i r Dywed newyddiadur Gwyddelig yn ffraeth a difrifol awn Y mae cwpan trueni yr Iwerddon yn llifo lrosodd er's blynyddau, ac nid y\v eto yn IlaNvn, Ni ddylem un amser drin pethau nefol mewn rspryd bydol; ond dylem bob amser drin pethau jydol mewn yspryd netol. Cafedd agos i ddau cant o filwyr eu "bedydd esgob" ir foreu abbotn yn ddiweddar gan Lsgob Llundain. f r oedd y teulll breninol, y Dpg Wellington, ac ereill rn dystion o'r ddefod. Cafwyd yn ddiweddar amryw drawstiau pren mor- I vy&d yn adleiliadau Nine-J, yn hollol iach drwyddynt, sr eu bod wedi gorwedd yno o leiat er's saith gant o lynyddau cyn geni Crist. Y mae gorchymyn wedi dyfod i Birmingham o I ywodraethau Ffrainc a Denmarc am gryn lawer o ilodd o arfan newyddion. Nid oes dim Uai na chwe' chant ac un-ar-bymtheg o veinidogion y Pree-will Baptists yn Ameng wedi g wrth- lystio yn erbyn caethwasiaeth, ac yn ymwrthod a :hynnal cymdeithas Gristionogol ac eglwysig a chaeth- jerchenogion. Dywedir fod y cyffrcad yn mhlith y bobl am gael treth- ad mwy cyfartal ar v boneddigion a'r cyffredm wedi -reu braw ar y weinyddiaeth bresenol, a'u bod yn bwr- adu yn fuan dwyn mesur i'r perwyl hyny gtr bron y Senedd. Cyhoeddir fod Mr. W. O. Hunt, cyfreithiwr rheil- ffordd y Great Western, yn rhoddi ei orchwyl heibio, gan ymneillduo oddiwrth drafferthion gyda'r swm o ddau can' mil o bunnau i fyw arnynt. Rhoddodd Mr. Aneurin Owen, mab y diweddar enwog Dr. Gwilym Owen Pughe, ei swydd i fynu fel Dirprwy- wr Cynnorthwyol Deddf y Tlodion, a hyny ar gyfrif afiechyd. Dvwed Feargus O'Connor nad oes ganddo na, ffydd na hyder yn Joseph Hume. Y mae hyn yn beth an rhydeddus iawn i Mr. Hume. Buasai ffydd a hyder Feargus yn warth iddo. Pennodwyd brawd i Arglwydd J. Russell i swydd es- mwyth iawn o ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn. Y mae yn swydd am oes a thybir fod Arglwydd John yn gofalu am ei deulu, gan ragweled fod yr amser yn nesu pan na all fod yn oruchwiliwr mwy. Segurdod ydyw llygredd ieuenctyd a gwarthrudd henaint. Y mae boneddiges y diweddar Is-gadfnoog Syr James Murray wedi gadael cymun-rodd i Middlesex Hospital o ddeg mil o bunnau, tuag at sefydlu dosran newydd ynddo, i gael ei alw Ymgeleddfa Murray." Rhoddodd y Gwir Anrhydeddus T. M. Gibson, A.S., ei swydd i fynu yn y weinvddiaeth iells-lywydd Bwrdd Masnach. Caiff Cadben John Russell fwy na digon o waith i forio y Hestr am hir amser, gan fod y crew yn rbigweled ei dynged ac yn dechreu ei adael. Y mae Jenny Lind yn Lloegr etto yn ei hoi, ac yn gwirioni y mawrion efo ei chanu. Nid oes ydyw i'n pendefigion ymwneyd Ilawer a chanu, oblegyd ni hu erioed mor isel arnynt ag yn awr. Ond yr oedd raid i Nero er's talm gael dawnsio pan oedd Rhufain ar dan. Y mae dwy a deugain o fwrdeisdrefi yn anfon un ar bymtheg a deugain o aelodau i'r Senedd; acnid yw nifer holl bleidleiswyr y bwrdeisdrefi hyn efo'u gilydd yn ogymaint a nifer pleidleiswyr Manchester yn unig; er hyn nid yw Manchester yn cael anfon ond dau aelod. Y fath gyfnewidiadau a wneir mewn amser JTyb- iodd mam-yn-nghyfraith Franklin, pan oedd y gwr enwog hwnw yn cychwyn ei newyddiadur yn yr Ameng, fod yn anmhosibl iddo Iwyddo yno, a hyny oblegyd— "fod un newyddiadur eisoes yn yr Amerig." Dywedir y bwriedir trosglwyddo, yn yspaid y flwydd- yn hon, bedair mil o fechgyn a genethod tlodion o'r Iw- erddon i Australia; ac yr anfonir deng mil o'r cyfryw o Loegr i'r un trefedigaethau. Y mae calon gwraig weddw, ar ddiwrnod ei hail bri- odas, yn debyg i ystafell wedi ei dodrefnu, yn yr hon, wedi i'r tenant blaenorol ymfmdo, y mae rhyw beth yn perthyn iddo wedi ei adael ar ol.

Family Notices

LIVERPOOL, Dydd Mawrth, Mehefin…

CANOL-BRIS Y GRAWN, Mehefin…

PRISIAU CYNNYRCH AMAETHYDDOL.…

MARCHNAD ANIFEILIAID, Mehefin…

MARCHNAD Y GWLAN. -I

MARCHNAD LLUNDAfN. I

MARCHNAD Y DEULUYDDES. I

PRICES CURRENT, LIVERPOOL,…

PRICES OF MET'AL.S.

LIVERPOOL TIMBER MARKET.

HIGH WATER IN LIVERPOOL.'