Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
ETA DELTA AT IEUAN GWYNEDD.I
ETA DELTA AT IEUAN GWYNEDD. Fy ANWYL GYFAILL,-Ryw bryd y flwyddyn o'r blaen, ysgrifenais ychydig linellau yn nghylch addysg i'r Cymry, pa rai a ymddangosasant yn Nysyedydd Chewfror diweddaf. Barnu yr oeddwn fod ein hysgrifenwyr talentog a doniol yn rhedeg i eithafion, megys mewn ysbryd plaid, felly yntrin y pwnc braidd yn ochrog a rbagbleidiol; a chy- merais yr hyfdra i ddefnyddio eich enw yn barchus, debygid, fel y canlyn:—" Pwy sydd trwy y wlad yn parchu Ieuan Gwynedd, ac ereill o'r un farn ag ef, yn fwy na myfi? Ond yn y mater hwn nid wyf yn cydweled: nis gallaf ganfod cymaint o niwaid, nac o anghysondeb, i'r Anghydffurfwyr gwirioneddol a gwreiddiol dderbyn eymhorth sen- eddol." A dyma yr unig frawddeg gyfeiriedig atoch yn fy ysgrifau. Nid oedd genyf un bwriad i glwyto eich teimladau, ond tybio fod genyf havl i farnu ychydig yn wahanol yn nghylch pwnc yr oes, a bod yn ddichonadwy i bobl dda fyned i eithafion, neu pimgymeryd. Ond yn yr un mis (Chwefror) daefnoch allan yn fy erbyn i faes yr Amserau, yn gas a chwerw, feddyliwyf, fel i'm clwyfo a'm dlio, yn hytrach nac i'm goleuo. Yna ysgrifenais ychydig o linellau fel esboniad ac am- ddiffyniad, a daethant allan yn Nysgedydd Mai. Ylla, wele lythyryn drachefn oddiwrthych yn yr Amserau, (nid yn y Dysgedydd, fel y dylasech,) yn cynwys pedwar-ar-bymtheg o nodiadau! pa rai ydynt annheg, pigog, angharedig, allymdost iawn, leddyliwn yn sicr. Ymddengys i mi ac ereill mai eich amcan yd- oedd clwyfo fy nheimladau ac iselu fy nghymeriad, yn fwy na dim arall. Gwael ae annheilwng fel yr wyf, cefais yr anrhydedd o annerch y Cymry, trwy wahanol gyhoeddiadau misol, ail-argraffu, a chyhoeddi traethodau, er ys tua chwarter cant o flynyddau; bron, pryd yr oeddych chwi, frawd, yn eich cryd. Fy nghyfaill, dylasech fod yn fwy caredig, ac felly ad-dalu am y caredigrwydtl a ddangosais tuag atoch chwi yn nechreu eich bywyd eyhoeddus. A chofiwch o hyd, fod llawer iawn i ddywedyd gan rai dynion call etto gyda golwg ar addysg i blant tlodion mewn ysgolion dyddiol, fel mater gwladol; ac fod yn rhinwedd mawr, os nad yn ddyledswydd arbenig ar seneddwyr y deyrnas gyfranu o arian y deyrnas at gyraedd y cyfryw addysg, er mwyn cael y tlodion yn well dynion rhesyrnol a deiliaid-er attal troseddau, ac felly yr arbedid traul arianol gyda yr holl g"reharai-i a chospi. Ond yr wyf yn rhoddi y mater heibio. 'Ni ddadleuaf mwy a chwi, ydych yn rhagori arnaf mewn dawn. Ond goddefwch un sylw caredig oddiwrthyf. Wedi clywed fwy nag unwaith eich bod yn dyner a gwan o iechyd, yn gorfod rhoddi y swydd uchelaf yn y byd, ac wedi hyny clywed eich bod yn analluog i gyflawni gwaith mawr a pharcli- us yu Llundain, buaswn yn dysgwyl cael eich ys- grifau oil yn anadlu cariad—yn llawn o ysbryd cref'ydd—ausyddion amlwg o dduwioldeb ddiam- heuol, ac iniaa sanctaidd. Ond Duw a wyr beth ydych chwi a minau, frawd. Ond pa fodd bynag, cefais fy siomi yn fawr yn eich ysgrifau Cymraeg a Saesonaeg. Yn eich llythyrau at Brif Weinidog ein Brenines, a'ch rhai Cymraeg, buaswn I, yn un, yn hoffi o'm calon pe buasent yn fwy gostyngedig, efangylaidd, ac fel o ysbryd mwy sanctaidd. Yn ol fy nhyb fy hun, buasent felly yn fwy grymus, teilwng o weinidog Ymneillduol, ac yn fwy o anrhydedd a gogoniant i Grist. Ond chwi a wellewch; nid ydych ond ieuanc etto.- Eich brawd yn Nghrist, Mehefin 5, 1848. -L^TA DELTA.
CERDDORIAETH.
CERDDORIAETH. Mr. GOLYGYDD,—Dysgwyliais, er ys amrai flyh- yddau weitliion, weled rhyw gerddor medrus yn cymeryd mewn Haw y gorchwyl o gyfansoddi a chyhoeddi llyfr, er rhoddi eglurad ar gynghanedd a chyfansoddiad ymarferol. Gwir fod genym eisoes amrai lyfrau ar gerddoriaeth, ond y maent oil yn fyr o reolau a hyfforddiadau i gyiaut oddi, ac yn em gadael mewn tywyllwch ar y pwnc hwnw. Uywenydd genyf, gan hyny, oedd deall fod gwaith yn cynwys eglurad ar, a rheolau i, gyfansoddiad ymarferol i ymddangos yn yr iaith Gymraeg; ac weithion wele y mae wedi dyfod allan o'r wasg, sef Y Cannhrodyclcl Cymreiy, ac yr wyf yn llawenâu ly mod yn awr yn ei feddu. Yr oedd gwir angen am ei fath; canys dilys mai annichonadwy ydyw i neb gyfansoddi a chyngbaneddu erddygan yn rhe- olaidd a diwall, yn ol yr hyfforddiadau a roddid yn ein lyfrau blaenorol ar gerddoriaeth ac, yn wir, llld ameanodd yr awdwyr at ddim, braidd, ynddynt, ond yn unig egluro elfenau cerddoriaeth ae am- can a dyben y Cannhrodydd Cymreig ydyw gwneyd y diffyg hwnw i fynu, a hyny yn y modd y gallo pawb a'i darlleno ac a'i efrydo ei ddeall. Afreidiol ydyw i mi ddyweyd dim mewn ffordd o ganmol- iaeth iddo, wedi y cymeradwyaeth uchel a roddas- och chwi iddo mewn rhifyn blaenorol; ond goddef- wch i minau ddyweyd fy mod yn hyderus y rbydd foddlonrwydd helaeth i bob cerddor diduedd a'i darlleno. Gan nad ydyw yr awdwr, fel y tystia, yn gofyn dim ychwaneg o gefnogaeth nag a'i galluoga i fod yn ddigolled, (canys ei amcan penaf yw, diwylliant cerddoriaeth yn mysg ei gyd-genedl y Cymry,) yr wyf yn dymuno llwyddiant i'r Cannhrodydd Gym- reig, ac yn hvderu y myn pob cerddor a garai fod yn gyfansoddwr o fri afael arno. I T. JONES.
GUANO.
GUANO. SYR,—I Un a fu yn llafurio y ddaear, yn eich Amserau diweddaf. 1. Pa. cnw Cymreig i'w roddi ar y Guano? Y mae y gair Guano wedi ei gymeryd o'r gair Peruaidd Hnanu, yr hwn yn ein hiaith ni ydyw Tail, Tom, Baw, &e. Y gair Seisoneg am dano ydyw Dung. 2. Yn mha le v ceir v Guano ? 0 Peru, yn yr Amerig Ddeheuol; ac o herwydd hyny fe ei gelwir yn Peruvian Guano. Y mae yno lawer o ynysosdd o hono, ae am tua 200 o droed- feddi o duyfnder dros eu gwyneb. Yn y flwyddyn 1843 cafwyd llawer o hono yn ynys Ichaboe, yr bon sydd tua 2i milldir o Affrica. Nid oes yno ddim er y flwyddyn 1844. Yr oedd o 35 i 38 o droedfeddi o ddyfnder. Gwelwyd eymaint a 350 o longau yno ar yr un amser i'w llwytho ag ef. Oddiwrth enw yr ynys hon cafodd yr enw Ichaboe Guano. Tua diwedd y flwyddyn 1844 cafwyd peth mewn ynys arall, set' Malagas, nid pell iawn o Penrhyn Gobaith Da., ae yr oedd o 13 i 24 troed- fedd o ddyfnder, ac am tua wyth milldir o hyd. Gelwir y Guano a ddaw o'r ynysoedd byn yn African Guano. Yn y flwyddyn 1845 cafwyd peth o hono hefyd o Patagonia, yr hwn sydd le yn y rhan ddeheuol o Ddeheuol Amerig. Ac hefyd, fe ddywedir fod rhyw fath o hono i'w gael yn Swydd Surrey, yn yr ynys hon. 3. Hysbysiad o briodoleddaufferyllaidd y Guano Y mae yn cynwys y cyfartalrwydd a ganlyn o'r pethau hyn, sef, 1. Ammonia. 2. Phosphates. 3. Organic matter. Rhoddwn ei ddosraniad, yn nghyd a'r gwahaniaeth sydd rhwng y Guano Peru- aidd a'r Affricanaidd:- Peruaidd. Africanaidd. Water 12 to 15.25 to 30 Organic matter .50 to 60.25 to 30 Containing parts of Ammonia.12 to 15. 5 to 9 Phosphate of Lime.15 to 25.25 to 30 Fixed Silts 8 to 10 Math arall hefyd a gynnwysa y pethau a ganlyn, a elwir yn Guano Celfyddydol (Artificial Guano) bydd yr efFaith o bono tna'r un faint ag un cant o'r Guano naturiol. lós. Bone-dust. 78Î Sulphate of Ammonia. 25 Pearlash J-132J cyfan. Common Salt. 25 Dry Sulphate of Soda 21J Hefyd, y mae yr un carilynol wedi ateb yr un dyben ei ddosraniad sydd fel y canlyn, a rhoddir 500 pwys i bob acre:— Bones dissolved in Spirits of Salts u>s. Î instead of Oil of Vitrol 18^ Charcoal Powder, about. 18 Sulphate of Ammonia (Gas Salt) 9? Common Salt, about ,9A  cvfan. Gypsum. 9x -?Ocy f„an. Wood Ashes, about. ?,9z" Nitrate of Soda (cubic petre) 28 Sulphate of Soda (Glauber Salts) 10 Sulphate of Magnesia (Epsom do.) 10 J Fe ddywedir fod 400 o bwysau o Guano i bob acre cystal a 1,500 o'r tail ac sydd yn cael ei arferyd yn ein ffermydd ni. Y daflen ganlynol a ddengys y gwahaniaeth rhyngddynt. Yr hyn a arferir yn gyffredin at un acre GUANO. lbs. Phoshate of Lime 112 Ammonia. 54 Organic matter 171 Potash, Soda 30 367 D UNG. Phosphate of Lime 100 Ammonia 105 Organic matter 8,505 Potash, Soda, and Silica 1,33.5 Dung 10,135 Guano. 367 Difference .9,768 Ond gwnawd prawf fod 300 pwys o'r Guano Peru- aidd cystal ac 20 tynell o dail da ein flermydd ni. Y mae gwahaniaeth rhwng rhai lleoedd a'u gilydd o ran eu pridd ac felly nid yr un faint a wna y tro i bob tir: os bvdd yn lie oer gellir rhoddi mwy. D. R. DELTA. Trwy g-aredigrwydd. Mr. P. M. Evans, Treffynnon, I cyhoeddydd Geirlyfr yr enwog Caerfalkvch, cefais eiriau rhagorol am Guano sef, Adar- aul. Gwel ynddo am eiriau fferyllaidd hefyd. [Oni fyddai Adardom yn fwy coethedig nag Ad<tl:qaclâ-Go:]
IADDYSG YN RHYMNEY.-
I ADDYSG YN RHYMNEY. Mai 22, cynnaliwyd cyfarfod tea yn Sion, capel yr Annibynwyr yn y lie uchod, pryd y dangosodd vr ardalwyr, yn Wesleaid, Bedyddwyr, Annibyn- wyr, a Methodistiaid Calfmaidd, gydymdrech o blaid addysg, a'u bod yn gweithfawrogi lies y cyffredin yn fwy nag enw a lies enwadol; a dios y bydd eu cvdymdrech, yn yr amser caled hwn, o blaid achos mor dda ac angenrheidiol ag addysg ansectol, yn elw cymdeithasol iddynt eto mewn amser dyfodol. Yn ystod y prydnawn, bu rhwng pump a chwe' chant yn cyfranogi o'r arlwy; ac erbyn 6 yn yr hwyr, daeth llawer ynghyd yn ychwanegol, er clywed y plant yn cael eu holi, yr hyn a wnawd t gyda manylrwydd, gan Mr. F. H. Roberts, yr athraw. Y gwahanol ddosparthiadau a ddangos- asant wybodaeth belaeth yn y gwahanol bethau yr holwyd hwynt ynddynt, ac yr oedd yn amlwg argraffedig fedrusrwydd a diwydrwydd yr athraw yn atebion cymhwys y plant; a chafodd y gyn- nulleidfa weled, i foddlonrwydd, werth athraw wedi ei addysgu at y gorchwyl, ac hefyd y daioni o ymffurfio yn gymdeithas er helaethu addysg yn y lie. Er prawf o hyn, arwyddasant eu diolch- garwch i Mr. Roberts am ei lafur gyda'r plant, ac o'u boddlonrwvdd a'u penderfyniad i gynnorthwyo ymhellach i gynnal y sefydliad ymlaen. Dechreuwyd yr ysgol hon yn Awst diweddaf, mewn ystafell, a rad roddir gan y Methodistiaid Calfinaidd at y gwasanaeth, yr hon sydd yn rhy fechan i gynwys un ran o dair o blant yr ymofyn- wyr; o ganlyniad, yr ydys yn methu a chyflawn ddwyn i weithrediad y bwriad amcanedig yn sef- ydliad yr ysgol hon; ac erbyn hyn y mae yn amlwg nad oes a ddichon iwystro y sefydliad angenrheidio], pwrpasol, ac ansectarol hwn ymlaen yn y lie hwn, ond diffyg ysgoldy addas. Gan hyny, filoedd llhymnpy 1 erfynir arnoch gynnorth- wyo yn yr ymdrech er cael ystafell eang i'w chyn- nal; ae er tloted yw'r amser, cydweithrediad yn y gorchwyl a'i dygai yn esmwyth i ben; a gresyn os na wneir, gan mai addysg plant pawb a ewyll- ysionL hyny yn ddiwahaniaeth yw'r bwriad amcan- edig, yn y cyfryw foddrhydd, ac na ddichon i neb feddwl ei bod yn wrthwynebol i bethau neillduol eu credo. I CYFAILL ADDYSG.
AT OLYGWYR YR AMSERAU.
AT OLYGWYR YR AMSERAU. BARCHUS OLYGWYR,—Gan nad oes neb wedi ateb y gofyniad a ymddangosodd yn yr Amserau am y nfed o fis Mawrth, yn nghylch pa fodd i an- fon arian i'r America, cymeraf fi yr hyfdra i'w ateb yr adeg bresenol, canys dywed yr hen ddihareb, Gwell hwyr na hwyracli." Pwy bynag fyddo yn dewis anfon swm o arian i unrhyw barth o'r U nol Daleithiau, anfonant bank order am y swm, wedi ei dynu ar un o fankiau Liverpool, i mi; yna, tynaf finau order am yr un swm ar y bank yn America, ac anfonaf yr order hwnw i'r person y bydd yn daledig yn America, ond i'r anfonwr anfon naw postage stamp i dalu traul ei gludiad, ac anfonaf receipt i Gymru iddo yntau am yr un swm gyda throad y post. Cyfeillion yr ymfudwyr a aethant gyda'r Swa- tara," Kalawagoo, "Georgia," a "Wilson Ken- nedy," a deimlant yn gysurus o ddeall eu bod wedi cyrhaedd y porthlarld a ddymunent yn llwyddianus. -Yr eiddoch, yn ostyngedig, T JL/LEAZAR JONES. Prince's Dock Basin, Liverpool.
[No title]
GOLYGFA BDYCHKYNLLYD,—Yr wythnos ddi- weddaf, dygwyddodd tro arswydlawn yn Milfa (Mena- gerie) W om bwell, yn Stafford. Yr oedd llew a llewes, y rhai a brynesid yn ddiweddar, newydd gael eu hychwanega at y milgasglfa, a boreu ddydd Gwener, aeth dyn ieuangc, nai i'r perchenog, i mewn atynt i'w ffau, i ddangos i'r edrychwyr yr awdurdod oedd ganddo arnynt; ac nid amlygasant y pryd hwnw un tuedd i'w niweidio. Yn yr hwyr aeth i mewn drachefn, ac ni chafodd braidd orwedd gyda hwynt, cyn i'r llewes neidio arno yn ffyrnig, gan ymaflyd yn ei wddf, a rhwygo y croen oddiar y tu ol i'w ben, ac archolli ei wddf yn ddychrynllyd a"i chrafangc. Ymdaflodd y llew hefyd ar ei gorff, fel na allai symud. Yr oedd gwaedd yr edrychwyr yn ofnadwy pan welsant yr olygfa erchyll, a gwnaed rhuthr ganddynt am ddiangc allan. Un arall o'r ceidwaid a gymerodd ddarn o haiarn yn ei law, a tharawodd y bwystfilod ar eu penau, pan y gadawsant y dyn archolledig, ac felly gallwyd ei symud o'u cyr- haedd. Dysgwylid i'r dyn truan farw bob mynyd. Cafodd yr olygfa effaith ddwys ar lawer o'r edrychwyr. Gresyn na fyddai dynion o'r fath yn llai rhyfygus, wedi cymaint o ddamweiniau cyffeiyb o'r blaen. Y SYMUDIAD AM DDIWYGIAD.— Y mae dy- wediad Arglwydd J. Russell, yn y senedd, sef nad oedd ar y canol-radd a'r isel-radd eisiau dim diwygiad pellach," wedi cyffroi y wlad o ben bwygilydd a chynnaliwyd eisoes luaws o gyfarfodydd mewn amryw o brif ddinasoedd a threfydd y deyrnas, i'r dyben o wrthbrofi y cyfryw ddywediad. mddengys y cam cynnygiad Mr. Hume ei gefnogi a. deisebion lluosog a chryfion oddiwith brif drefydd y deyrnas, a hyderwn na fydd ein tref ninau ddim ar ol yn y gwaith angen. rheidiol hwn. Nid ydym yn cofio gweled iaith mwy nerthol yn cael ei harfer ar un achlysur erioed, a choll- farnir y Whigiaid fel rhai hollSl anghymwys i ymddiried llyw y wladwriaeth i'w llaw. Yn y cyfarfod a gynnaliwyd yn Bath, pasiwyd y penderfyniad canIynol yn unfrydol: "Bod y cyfarfod hwn yn barnu, nad yw Ty* y Cyffredin, yn ol ei gyfansoddiad presenol, yn datgan syniadau y bobl; mewn trefn i gael cyn- nrychiolaeth gyflawn a theg, bod yn angenrheidiol i'r etholfraint gael ei eangu yn ddirfawr ac y dylai yr hawl i ethol aelodau seneddol gael ei rhoddi i bob un y byddo ganddo breswylfa sefydlog." Pesid penderfyn- iad i'r un perwyl mewn manau ereill. YMFUDTAD MERCIIED.-Dydd lau diweddaf, cych- wynodd y Hong Royal George o Plymouth i Sydney, New South Wales, ag arni ddau cant o ferched ieuanc, yn myned yno, yn ddidraul, dan nawdd yr Australian Land and Emigration Commissioners, a'r rhai a ddethol- wvd ganddynt o dai y tlodion yn Iwerddon. 1<;1" USEN LADY HEWI.EY.- W ytbnos 1 ddop, rhoddai yr Is-Ganghellwr ei farn ar gais Presbyteriaid Scotland i gael cyfran o elusen y Lady Hewley, yr hyn a symud aelodau y corff hwnw o bob awdurdod ar yr arian a rhoed ar y meistr i bennodi ymddiriedolwyr newydd o blith yr Ymneillduwyr Seisonig, o enwad y Bedydd wyr, yr Annibynwyr neu Gynnulleidfawyr, a Plires- byteriaid. "Cynghorwn di," ebe ffraethwr wrth eneth bengoch, i osod dy ben mewn twb lliwio y mae braidd yn rhy gôch." Atebodd hithau yn y fynyd, "Cynghorwn chwi i osod eich pen mewn pobty; y mae braidd yn rhy feddal. Sonia y Dr. Edwards, yn y Lancet, am feny w, ger Forfar, yn yr Alban, yr hon a gysgai am ddwy neu dair wythnos heb ddeffro. Yn ngauaf 1820 cysgodd am bum' wythnos, ac yn ngwanwyn 1825 cysgodd am chwe' wythnos. Dywed newyddiadur Gwyddelig, fod dynes a'i merch, yn agos i Galway, wedi ymborthi ar gelain bydredig ci, ac wedi marw ill dwy o fewn pedair awr ar hugain ar ol eu pryd arswydus. Lladrattawyd padell ychydig amser yn ol, ac yn union wedi'n cyhoeddodd y perchenog y gosodai efe y cauad perthynol iddi mewn lie cyfleus wrth y drws, ond i'r lleidr anfon gair pa amser y byddai fwyaf cyfleus gan- ddo i alw am dano.
COFFEE o'rTYFIAD RHAGORAF;…
COFFEE o'rTYFIAD RHAGORAF; Ac o gryfder a maethlondeb anarferol, 0 FEWN CYRHAEDD POB TEULU YN Y DEYESAi GYFUNOL. YMAE COFFEE JOHN CASSELL wedi jL dyfod yn wir glodfawro herwydd ei ragoriaethau anghymarol. Y mae o flas addfed liyfrydol, yn gystal ag yn gryf iawn. A] ae yr anhawsder o gael Coffee da yn destyn cwyn yn mhob rhan o'r deyrnas nis gellir ei gael ond mewn ychydig o'r prif drefydd, a hyny am bris syddyn ei osod o gyrhaedd y Iluaws. Wedi ei argyhoeddi fod pobl Lloegr, yr Alban, a Chymru yu awyddus am gael y cnydau goreu yn y byd o Goffee yn eu cyrhaedd, am bridau rliesymol, y mae JOHN CASSEI.L wedi penderfynu pennodi GORUCHWYLWYR yn mhob tref a phentref, y rhai, i'r dyben hwnw, a gyflenwir yn rheolaidd a. Choffee newydd ei falu, wedi ei wneyd i fynu yn ofalus mewn plwm, yn sypynau o ddwy 1*113 i bwys, er cadw yn effeithiol ei flas a'i gryfder. Nid rhaid i'r neb sydd yn hoffi Cwpanaid o Goffee da, gan hyny, ond ymotyn a. Goruchwylwyr JOHN CASSELL er cael ei lawn foddhau. Dechreuer arfer y Coffee hwn mewn teulu, a bydd ei ddefnydfl canlynol yn sicr. A pha beth a all fod yn fwy danteithiol mewn teulu na Choffee pur, blasus y mynyddoerld ? Y mae FFRAINC wedi bod yn nodedig am ragoroideb a pherffeithrwydd ei Choffee; ac y mae JOHN CAS- SELL wedi penderfynu y caiff pobl Lloegr feddiannu cyflensderau cyfartal i'w Cymydogion Ffrengig, er mwyn cael Coffee anghymarol mewn un wlad am add- fedrwydd, bias, a chryfder. Gwerthir Coffee JOHN CASSELL am y PRISIAIT canlynol, yn sypynau dwy wns, pedair wns, haner pwys, a phwys:— Coffee John Cassell, Rhif. 1. Is. 4c. Un da ragorol. Coffee John Cassell, Rhif. 2. Is. 8c. Nis gall fethu rhoddi boddlonrwydd am ei fod yn gymysgedd o gnydau dewisolaf Jamaica. Coffee John Cassell, Rhif. 3. 2s. Oc. I I bob hoffwr Coffee bydd hwn yn dra dymunol, gan ei I fod yn gymysgedd o dyfiadau rhagoraf Turk,, a Jamaica. J YN EISIAU, DWY FIL 0 ORUCHWYLWYR, I I WERTHU COFFEE JOHN CASSELL. Mae y COFFEE hwn, ar gyfrif ei ansawdd a'i bris, yn sicr o gyrhaedd gwerthiant mawr. Heblaw hyn, arferir moddion i wneyd yn hysbys i bob tellIu drwy y deyrnas, fod ganddynt cyfleusdra i brynu y Coffee uchod, gan ORUCHWYLIWR, yn eu cymydogae.'h eu hunain. Gan hyny, gellir honi yn ddiys-og, nad oes ond ychydig fasnachau mwy enilIfawr i bersonaa ';m wneyd ychwanegiad llesiol at eu masnach na gwerth iant Coffee JOHN CASSELL. Gellir gweled yn hawdd y bydd i fasnach gyffredinol y Goruchwyliwr fod yn sicr o dderbyn lleshad, drwy y nifer o brynwyr new- yddion a ddygir i'w fasnachdy, mewn canlyniad fod ei enw yn cael ei gadw o flaen y cyffredin fel Goruch- wyliwr Coffee JOHN CASSELL. Byddai yn dda i bersonau heb fod mewn masnach, ond a chysylltiadau parchus ganddynt, ymofyn am yr Oruchwyliaeth hon, gan nad oes dim trafferth gyda. hi, gan fod y Coffee wedi ei bwyso a'i sypynu rninvH plwm yn barod i'w werthu. Ymofyner yn union- gyrchol am y telerau a JOHN CASSELL, burch Lane, LIundain.
[No title]
PEIRIANT RHYFEDD.—Y mae Mr. R. E. Ro. berts, Factory, Dolbenmaen, wedi dyfeisio peiriant i wneyd preniau traed at wasanaeth cryddion, yr hwn a wna dri chwpl mewn pum' munud o amser, yn barod i'w defnyddio at wneuthur esgidiau. GAVENIAITH.—Yr oedd arth unwaiih o dan ofal athraw yn derbyn gwersi i ddawnsio. Gan ei fod yn tybied ei hun yn ddawnsiwr rhagorol, ac yn deilwng o gael ei ganmol, gorphwysodd am fynyd ar ei goesau ol, a gofynai i eppa pa fodd yr oedd yn hoffi ei ddawns. "I ddywedyd y gwir i ti, fy nghyfaill," ebe hwnw, cfnid wyf yn dy hoffi fodd yn y byd yr wyt yn llawer ry drwm i fod yn ddawnsiwr da." Digiodd yr arth yn arw iawn wrtho; dechreuodd ddawnsio eilwaith mewn tramgwydd wrth yr eppa. Daeth asyn heibio ar y pryd, a gwaeddodd "Hwre ni welais erioed ddawnsiwr rnwy prydferth nid oes ei fath yn bod Yr oedd y gan- iiioliaeth hon yn ormod i'r arth i'w lyncu, er cymaint oedd yn ei feddwl o hono ei hun a dywedodd ynddo ei hun, Pan oedd yr eppa yn fy meio, amheuais ond yn awr, pan y mae yr asyn yn fy nghanmol, yr wyf yn sicr mai dawnsiwr gwael dychrynllyd ydwyf." Gyf- eillion, cymerwch hyn o gynghor pan y mae chwaeth dda yn condemnio, arafwch, amheuwch ond pan y mae ynfydrwydd yn canmol, byddwch sicr eich bod ar gyf, eiliorn. JESUITIAETH.—A ganlyn ydynt yn mhlith eg., wyddorion cyffreditiol Jesuitiaeth:-Go?-??zesiaiti,)C mae ewyllys penaeth yr urdd yn oruchel: gydag of y gorphwysa pob awdurdod llywodraethol, cyfarwyddiad- ol, abarnol. Ymhona ei fod yn sefyll i'r sefydlhd yn lie Crist—yn lie Duw. Ni bu tra-awdurdod aiioed mwy cyflawn na'r eiddo ef. Ufudd-dod diymhoiiad, dirwgnach, a chyflawn, ydyw calon, enaid, a ffynonell y gyfundrefn. CoIlfernir pob dynesiad at feddwl anni- bynol fel cabledd, a darostynga i ysgymundod heb ym- wared. Ymivahaniad.—Byd y Jesuit ydyw ei urdd. Murir ef o fewn iddo gan wahaniad mor gyflawn a pile na byddai byd oddiallan. Caloi wag i bawb a phob- peth ond ei urdd ydyw perffeithrivydd bodolaeth Jesu- itaidd. Sychwyd i fynu ei ffynonell o serch naturiol trwy ymfarweiddiad mor gas ag ydyw ddwys. Cys- sylltiad perthynasol nid oes ganddo; torodd, tafiodd, sathrodd hwynt o dan ei draed. Dywed Jesuit, a'r hyn a ddywed ef a ddywed pawb o honynt—" Pe gorchyra- ynai Duw i mi, trwy fy mhenaeth, i roddi tad, neu fain, neu frodyr, neu chwïorydd i farwolaeth, mi a'i gwnawn gyda llygad mor sych a clialon mor dawel a phe eistedd- wn wrth wledd oen y pasg DIOLCHGARWCH DIFFUANT Aeth gwraig barch- us trwy amgylchiad gyfyng am y bedwaredd gwaith ar bymtheg, a darfu i'w gwr teimladwy anfon Hythyrvn at y gweinidog lie yr oedd yn aelod, yn cynwys a ganlyn Y mae Mrs. A. wedi cael ei dwyn i'w gwely am y bedwaredd gwaith ar bymtheg, ac y mae hi, phryod, yn dymuno cyflwyno eu diolcb diffuai-it i'r HoII- alluog Dduw am y ffafr fawr hon, ac yn .gostyngedig ofyn am bar ad, o'i fendithion." GWYDD DRA HYNOD—Y mae gviydd ryfedd gan John Jones, Croespenmain, yn mhlwvf Mynyddyslwyn, swydd Fynwy yr hon sydd yn dodwy ac yn eistedd i ddeori ddwywaith yn y flwyddyn, ers tair blynedd bellach. Ar ol iddi eistedd a deor unwaith, cymer ei chywion i'w maethu am ychydig amser, ac yna gad hwynt dan ofal ei chydmar, sef y ceiliogwydd, tr;, byddo hi yn eistedd eilwaith. Bydd y ceiliogwydd yn ofalus iawn am y cywion, gan eu maethu a'u dyogclu, fel yr wydd ei hun ac os bydd perygl gerllaw yn peri iddo wneyd stwr, ac i'r wydd glywed, cyfyd oddiar ei hwyau gyda brys i'w cynorthwyo. Par gwerthtawr i'w perchenog yw y rhai hyn D.
I NEWYDDIADUR YR HEN FFARMWR.
y wlad oil wedi myned yn higil-di-pigil o'r naill gwr i'r llall. Beth a all y canlyniad o'r chwildroad fod, nid oes dewin a ddichon ddychymygu. Dyn a helpo poblach druain os daw yr Hen Ffarmwr ar eu traws cyrhaedda ei ewynedd hebogaidd yn mhellach nag y mae llawer yn ei feddwl; a chaiff anil i hen gadno gortbrymus deimlo awchlymder ei grafangau gerwin. Oud peidiwch a digaloni, oblegid ni wna ei bapyr niwed yn y byd i'r Am- serau, pe deuai allan; canys cyn nemor o amser, ar ol ei ymddangosiad, cewch weled gorchestwaith rhai o blant yr awen yn marwnadu ar ei ol. Y mae yn sicr y gall yr Hen Ffarmwr wneyd peth daioni, a rhoddi llawer o bleser, yn y dull y mae wedi ysgrifenu hyd yma: ac wrth edrych ar ei lesiant yntau hefyd, gwell iddo daro ei gynnygiad yn ei ben, rhag ofn i Sidn ae yntau, yn eu ben ddyddiau, neidio o'r badell ffrio i'r tan, a chusanu eu gofidiau ar ol bod yn achlysur i gynbyrfuteiml- adau drwg rhwng pobl a'u gilydd. Byddai yn dda i bawb o bonom, pe gallem, fyw yn nghanol pawb, a pheidio "deudud" dim am neb. Anfynych y byddaf yn tresbasu ar ddalenau yr Amserau, ac efallai na wnaf rhawg ar hugain eto.-Ydwyf, eicb ewyllysiwr da o galon. Os gofyn rhywrai pwy a'i gwnaeth, Yr ateb ffraeth sydd ba,rod- MYFI, wrth deithio'r werddlas ddol, Yn nghanol dwys fyfyrdod A braidd na dd'wedwn, yn ddisen, AMEN ar ddiwedd pennod.