Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

AT EI IV GOHEBWTB..[

News
Cite
Share

AT EI IV GOHEBWTB. [ Cw Nid oes genym ni fantais i ateb Cymro bach" yn awr end ped anfonai at Yysgrifenydd y Cwmpeini, rhoddid iddo yr hysbysrwydd a ddymuna. Cyfeiried ei lythyr fel hyn: To the Secretary of the Australian Emigration Company, London." iggr* Meddyliem y byddai yn fwy cydweddol a. gwylder y boneddigesau ieuangc heirdd, y rhai y canodd y Cyfaill" mor dlws iddynt, iddo ef gyflwyno y pen- nillion iddynt ei hunan, yn hytrach nag i'w henwau fyned ger broti y wlad. Nid gweddus ydyw cyhoeddi cyfarchion at bersonau anghyhoedd o leiaf dyna fel y barnwn ni. CW Drwg genym fod E. J. yn cael ei boeni a chymaint o holiadau ynghylch papur newidd" ein hen ohebydd. Dïau pe cawsai yr hen wr parch us ddeng mil o rag- dalwyr, y gallasai fyned ymlaen yn bur galonog ond byddai lawn mor resymol iddo ddisgwyl cael mwn- gloddiau o aur ac arian yn nghrombil mynydd Hiraethog, a chael cynifer a hyny o Gymry i rag-dalu am newyddiadur: oblegid y mae genym brofiad chwerw, fod cannoedd yn dra hwyrfrydig i dalu, er iddynt gael coel am dri neu chwe' mis, am yr Amserau. Gwirionedd yw hyna. Daeth ysgrif Un o'r bobl" i law, a chymerwn amser i ystyried ei chynnwysiad. Y LMFT yr hanes a rodda yr Hen Hwsmon" am y stiward drwg," yn debycach o gydweddu ag arch- waiL", yr Hen Ffarmwr," nag a'r eiddom ni: gan hyny cyfarwyddir y llythyr iddo. fw Derbyniasom Englynion diwygiedig D. T.: caiff ein bardd eu gweled. tw Gofyna amryw ohebwyr, Fed argreffid yr Amserau yn Ynys Manaw, oni ellid ei gyhoeddi, yn ei faintioli presenol, am ddwy geiniog?" Gellid, or.d i'r holl dderbynwyr daIu ymlaen am dano.-Efallai y dywedir ychwaneg ar hyn mewn rhifyn dyfodol. gw Diolchwn i Cymro arall" am ei gynghor ond ofnwn godi ysfa rhwng bysedd eiu darilenwyr, os soniwn yn rhy ami am yr ymgrafu." CW Derbyniasom ddoe dalfyriad helaeth o'r ddarlith a draddodwyd yn Aberystwyth, ond o herwydd ei meithder, a bod crybwylliad am dani wedi ei dderbyn yn lfaenorol, goifu i ni ei gadael allan. Ar yr un pryd diolchwn yn fawr i'r Ysgrifenydd am ei garedig- rwydd. Tybid gan rai, ond odid, y byddem yn rhy bleidiol i'n cyfaill a'n cyd-lafurwr pe cyhoeddem gymaint o'i ddarlith yn yr Amserau. fw Bwriadem roddi amser y rhes-gerbydau ar rheilffordd Caer a Chaergybi ond er gwneyd ymholiad am gopi ^n Nghaer ac yma, ni lwyddasom i'w gael etto. Ond gwneir ail gais.

AT EIN DOSPARTHWYR A'N -j…

PRIS HYSBYSIADAU.

[No title]

[No title]

Y SIARTIAID.

I NEWYDDION DIWEDDARAF.

YR EFAIL.

[No title]