Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Yn Llanerchymedd ymddangosodd hen wraig, pedair a phedwar ugain oed, o flaen yr ynadon, gan ddwyn cy- huddiad yn erbyn dau o baisonau. Galwai ar ei thad yr hwn oedd gant a chwech oed, i ddyfod yn mlaen yn dyst, yr hwn a ddywedai nad oedd foddlon i'w "èneth" ef gael cam.
I --aturnwiatto.-----
I aturnwiatto. RHYFEL.—Mynai y Dr. Ben j amin Rush, physygwr enwog yn yr Amerig, yr hwn a fu farw o gylch deng mlynedd ar hugain yn ol, gael yr ymadroddion a gan- lyn yn gerfiedig uwch swyddfa rhyfel y wlad hono yn Washington:— Swyddfa i gigydda yr hil ddynol. Swyddfa i wneuthur gweddwon ac amddifaid. Swyddfa tori esgyrn. Swyddfa i wneuthur coesau pren. Swyddfa i greu drygau personol a gwladol. Swyddfa i greu newyn. Swyddfa i greu heintiau peryglus. Swyddfa i greu tlodi, a dinystrio rhyddid a ded- wyddyd jjwladol. Swyddfa i greu dyled wladol." Y SAITH SACRAMENT.—Pan y darfu i Grist wledda y lluaws a phum' torth a dau bysgodyn, gellir sylwi fod y pum' torth o wneuthuriad pobydd, a'r ddau bysgodyn o wneuthuriad Duw. Y mae y Pabyddion yn dal yn gyndyn fod saith sacrament, sef Bedydd, Swper yr Arglwydd, Pri'odas, Urddau, Penyd, Bedydd Esgob, ac Eneiniad ond sicr ydyw mai y ddau flaenaf yn unig sydd o wneuthuriad Duw; yn y pum' ereill ymddengys cnafeidd-dra y pobydd-y maent o wneuth- uriad y Pab, ac nid Duw. RHYFEDDODAU CELFYDDYD.—Y mae dyn yn LIundain a llygad gwydr ganddo, gwallt gosod, un fraich, dwy goes bren, trwyn wedi ei gysylltu a chroen y talcen, yr in isaf wedi ei gwneuthur o arian, dannedd gosod, rhan .or benglog wedi ei wneuthur o India rubber, taflod y genau, y ddwy glust, a rhan fawr o waelod y bol, o'r un defnydd. Bu gynt mewn gweithfa yn porthi ager-beiriant a thanwydd. Ryw ddiwrnod ymddryll- iodd y peiriant, gan anafu ei gorff yn arswydus; a llwyddodd y meddyg Kemble, megys trwy wyrtli, i achub ei fywyd, a'i wneuthur y peth ydyw yn bresenol, yn ddyn bron oil o gelfyddyd, ac eto yn anadlu. MYG-BWYNTIAD.—Gan fod yr arferiad o fyglys mor gyffredin, a chan fod yr arferiad hono yn anfanteis- iol i gynnal ymddyddan neu i adrodd hanes, heb reolau pennodedig i'r mygwyr, cynnygir y reolau a ganlyn i'w harfer gan bob mygwr, oblegyd, wrth eu dilyn, gall adrodd ystori yn ddealladwy a mygu ei bibell yr un prvd Pwff yn lie Pwff, pwff. yn lie I Pwff, pwff, pwff, yn lie Chwe' pwff. yn lie Dystawrwydd am enyd, a'r bibell yn ysgwyd yn y genau ar y pryd, a arwydda fod rhywbeth pwysig hynod i gael ei adrodd. Symudiad y bibell o'r naill ochr i'r genau i'r ochr arall, a hyny yn araf a phruddaidd, a ar- wydda fod galar yn llenwi meddwl y mygwr. Gwthiad y bys bach i ben y bibell a arwydda ofyniad. Tyniad y bibell o'r genau a arwydda ddiweddiad dosran o'r hanes. Arllwysiad o'r lludw a arwydda fod yr hanes wedi ei gorphen. Dylid cofio bob amser ddechreu y stori a. lloned y bibell, pe amgen byddys mewn perygl o droseddu yn erbyn rheolau moesgarwch, ac yn erbyn y rheolau hyh, a thrwy hyny ymddifedir yr hanes o bob prydferthwch. GALA R-WISGO EDD.-Arferir du yn gyffredin yn Ewrop o herwydd ei fod yn gosod allan dywyllwch, yr hyn y mae angau yn debyg iddo fel ymddifadrwydd bywyd. Yn China arferir gwyn, o herwydd gobeithir fod y trengedig mewn gwlad o burdeb. Yn yr Aifft arferir melyn, o herwydd ei fod yn gosod allan ddarfod- edigaeth coedydd a blodau, y rhai yn tynych a droant yn felyn fel y maent yn darfod. Yn Ethiopia arferir lliw y ddaear, gan mai oddiyno y daethom, ac yno y dychwelwn. Yn Twrci arferir glas, yn arwyddo yr awyr, lie y tybir y mae y marw wedi myned, ac mewn parthau ereiU o'r un wlad arferir purple, cymysgedd o ddu a glas, yn arwyddo tristwch o un ochr, a gobaith o'r ochr arall. OFFEIRIAD ARALL.- Yn ddiweddar ymddangos- odd yn y newyddiaduron hanes yr "Anrhydeddus a'r Parchedig Mr. Fairfax," yn chwareu ei branciau gyda plilwyfolion Rawmarsh. Cymerodd hwnw y goes, a dywedir ei fod yn bresenol yn breintio Ysgotland a'i bresenoldeb anrhydeddus a pharchedig." Ymddan- gosodd un arall o'r Olynwyr," o'r enw y Parchedig Mr. Trollop," fel curad mewn pentref o'r enw Lang- ton. Bu yno am o gylch wyth mis, ac yn y cyfamser blingodd fasnachwyr tref Horncastle o ragor na phedwar cant o bunnau. Pan ymosod wyd arno am dal, rhyng- odd bodd i'r Parchedig Mr. Trollop" ddilyn esiampl yr "Anrhydeddus a'r Parchedig Mr. Fairfax," trwy gymeryd y goes i chwilio am guradiaeth yn rhywle arall i bregethu "olyniaeth apostolaidd." CYFLOGAU SWYDDOGION.—Dywedir na chy- hoeddir yn fuan iawn adroddiad y pwyllgor seneddol fu yn arolygu y cyfrifon amryfath, ond dywedir fod y di- wygiadau a gymellir ynddo yn rhai o'r mwyaf trwyadl. Y mae Meistri Hume, Bowring, &c., wedi bod yn fuddugol yn y pwyllgor. Cynnygir dileu amryw swyddau diles, a gwneuthur cwttogiad anferth yn nghyflogau ereill. Gwna llawer drwyn go sur pan y daw yr adroddiad hwn allan. Y FFORDD I FOD YN DDEDWYDD.—Ni ellir I gosod yn rhy gynar nac yn rhy ddwys yn meddyliau yr ieuanc a'r dibrofiad bod moddion happusrwydd a golud, i raddau mawr, yn nghyraedd pob dyn. Y mae cred ddall mewn tynged neu ffawd yn effeithio fel cefnogydd galluog i syrthineb ac anmhenderfynolrwydd, ac yn peri i ddynion eistedd i lawr a phlethu eu dwylaw mewn segurdod. Nid oes dim yn y byd yn fwy cyffredin nac i bobl esgusodi eu diogi eu hunain trwy brVodoli Hwydd- iant ereill i fympwy ffawd. G vyr pob gwr profiadol fbd llwyadiant yn ganlyniad mor gyffredin i ddiwyd- rwydd ac ymddygiad da, ag ydyw siomedigaeth yn ganlyniad diogi ac anmhenderfynolrwydd. Y mae mil- oedd yn myned trwy fywyd yn ddig wrth dynged, pan y dylent fod yn ddig wrthynt eu hunain. CWYMP Y PAB.—Y mae rhywbeth mor hynod yn ngwymp y Pab, pa un a'i dros dro ynte bythol fydd, fel na allwn gadw oddiwrth ein darllenwyr y ffaith ryfedd fod esboniwr duwiolfrydig yr ysgrythyrau, er's rhagor na saith ugain mlynedd yn ol, wedi pennodi y flwyddyn hon fel yr amser i hyny gymeryd lie, yn ol llyfr y Dat- guddiad. Y mae y rhagfynegiad hwn i'w gael mewn traethodyn o eiddo y Parch. R.Fleming, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1701, o dan yr enw "Codiad a Chwymp Pabyddiaeth." Y mae y gwaith hwn yn un o'r mwyaf hynod a dyildorol a welsom erioed. Trwy gyfrifiaeth manol allan o lyfr y Datguddiad, cynwysa y traethodyn hwn ragfvnegiad o'r erledigaeth ar y Protestaniaid yn Ffrainc yn 1723—o laddiad y Protestaniaid yn Thorn yn 1724—o'r cyffroad yn erbyn y Jesuitiaid tua diwedd y ganrif ddiweddaf-o ddinystr y freniniaeth Ffrengig yn ei diwedd; mewn gair, dilyna yn mlaen nes pennodi y byddai cwymp y Pab yn y flwyddyn hon, 1848. Bu farw Mr. Fleming yn y fiwyddyn 1716, cyn i'r un o'r pethau hyn gymeryd lie, ac felly ni ellir ei gyhuddo ei fod yn proffwydo pethau wedi iddynt gael eu eyflawni. Ail-gyhoeddwyd y traethodyn hwno waith Mr. Fleming yn ddiweddar, ac y mae yn deilwng o ddarlleniad ys. tyriol pob un sydd yn credu mai Duw sydd yn Ilywodr. aethu yn mrenhiniaeth dynion. YR YNFYDRWYDD 0 OFIDIO Cafodd cnydau p,9s cynar dau arddwr, y rhai oeddynt gymydogion, eu dyfetha gan y rhew. Daeth un o honynt i gyd-alaru a'r llall. Ah ebe efe, mor anffortunus A wyddoch chwi, gymydog, na wnaethum I ddim ond gofidio er hyny. Bendith arnaf! y mae'n ymddangos fod genych chwi gnwd iachus braf yn dyfod i fynu. Pa beth yw y rhai hyn ? « Wei, y rhai hyn yw y rhai a hauais yn union ar ol fy ngholled." « Pa beth! yn dyfod i fynu yn barod ? ebe y gofldiwr. "Ië," ebe y llall, tra yr oeddych chwi yn gofidio yr oeddwn I yn gweithio." AWYR YR IWERDDO- Dywedai Arglwyddes Carteret, gwraig Arglwydd Raglaw yr Iwerddon yn amser Swift, wrth y deon un diwrnod, Y mae awyr y wlad hon yn dda." Syrthiodd Swift ar ei liniau, a gwaeddai, 11 Er mwyn Duw, madam, peidiwch a dy- weyd felly yn Lloegr-byddant yn siwr o'i drethu." MEDDWDOD.—Y mae meddwdod yn diarddel rheswm-yn boddi'r eôf-yn anhwylioreorff-yn lleiau cryfder-yn poethi'r gwaed-yn achosi clwyfau mewnol, allanol, ac anfeddyginiaethol-yn ddewin i'r synwyrau -yn gythraul i'r enaid-yn llofrudd ir pwrs-yn gyfaill i'r cardottyn-gofid gwraig—tristwch plant-yn ddar- lun o fwystfil-ac hunanleiddiad, yr hwn sydd yn yfed at iechyd da ereill ac yn ysbeilio ei hun o'i eiddo ei hunan. DIOGi.-Gofynai tad unwaith i'w fachgen d'iog, paham y gorweddai yn ei wely cyhyd. 11 Yr wyf yn brysur," ebe efe, "yn gwrando cynghor bob boreu. Y mae diwydrwydd yn fy nghyngori i godi—di'ogi i or- wedd yn llonydd; ac felly y maent yn rhoddi i mi ugain o resymau tros ac yn erbyn. Fy nyledswydd I ydyw gwrando yr hyn a ddywedir o bob ochr ac erbyn y terfynir y ddadl bydd ciniaw yn barod." CYDWYBOD.—Gofynwyd i ddyn ar fin newynu, yr hwn a gyflawnodd ladrad, onid oedd ei gydwybod yn galw arno i ymattal. Och! atebai, pe buasai, yr oedd lIef au fy nghylla cymaint uwch fel ag y lludd. iasant fi i glywed yr eiddo cydwybod." FFRAETHINF..B PAROD.-Sylwai boneddwr unwaith, pan oeddid yn rhoddi clod i fachgenyn am ei barodrwydd yn ateb, Pan bydd plant yn bert mewn maboed y maent yn hurt mewn henaint." Atebai y bachgenyn yn union, Y fath fachgenyn pert rhaid eich bod chwi wedi bod LLADRAD WYTH MLYNEDD YN OL.-Yn Swydd Berk, dygwyd dynes o'r enw Sophia Perrin o flaen yr ynad, o dan y cyhuddiad o fod wedi lladratta papyr deg punt er's wyth mlynedd yn ol. Ymddengys fod Mr. James Goodman, o Wargrave, wedi colli o'i dy, yn y flwyddyn 1840, driugain pennadur a dau bapyr deg punt. Yn amser y golled hon yr oedd y garchares yn byw mewn gwasanaeth yn y ty, ond wedi hyny ym. adawodd, ac ymbriododd. Ni bu unrhyw ddrygdyb am dani erioed hyd yn ddiweddar, pan y talwyd un o'r papyrau colledig i ariandy Lloegr. Ataliwyd y papyr yno, a dilynwyd ef yn ol o law i law nes dyfod at y gar- chares. Y mae hi yn awr yn ngharchar.
Y FFORDD I ACHUB Y BACWN.
Y FFORDD I ACHUB Y BACWN. Yn gynnar un broeu teg, fel yr oedd Terence O'Fleary yn brysur gyda'i orchwyl yn ei ardd bytatws, cyfarchwyd ef gan ei gyfaill Mick Casey, (yr hwn, fel y gwelai, oedd a'i ddillad Sul am dano). Yn enwr daioni, Terry, ddyn, pa beth ydych yn ei gylch efo'r tatws yna, a chladdedigaeth Phelim O'Loughlin yn myned i gymeryd lie ? Dowch oddiyna, fy nghyfaill, yn siwr fe erys y tatws." Och na, ebe Terry, rhaid i mi gloJdio yn mlaen efo'r rhes yma i frecwest y plant, ac ynayr wyfyn myned i gyfaddef i'r Tad O'Higgins, yr hwn sydd yn dal swydd draw acw yn ei dy ei hun." Yn mhell y bo'r swydd," ebe Mick, "yn siwr fe erys hwna hefyd." Ond nid oedd Terence i'w berswadio. Aeth Mick ymaith at y gladdedigaeth a Therence, wedi gorphen 11 gydar tatws," fel y dywedai, a aeth i 1a. at y Tad O'Higgins, lie y dangoswyd ef i'r gegin i arcs ei dro i gyfaddef. Nid hir y bu yn sefyll yno o flaen y tan, na thynwyd ei sylw at ddarn braf o facwn oedd yn hongian yn nghornel y simnai. Edrychodd Terry arno eilwaith ac eilwaith, gan ddymuno Da byddai ef gartref gan y plant gyda'r tatws." Mwrd wr yn fyw! meddai, a gymeraf fi ef? Yn siwr gall yr offeiriad ei spario, ac fe fyddai yn dreat. braf i Judy a'r plant gartref, heb ddyweyd dim am danaffy hun sydd heb brofi y fath beth er's llawer dydd." Edrychodd Terry arno eilwaith, ac yna trodd ymaith, gan ddywedyd, "Ni chymeraf ef: pa'm y gwnawn, ac yntau heb fod yn eiddo i mi ond i'r offeiriad? ac fe fyddai genyf fi y pechod o hono, bid siwr. Ni chymeraf ef," meddai, u ac nid yw amgen na'r hen fachgen ei hunan yn fy nhemtio. Ond siwr nid oes dim drwg o'i deimlo, modd bynng," meddai, gan ei gymeryd i'w law ac edrych yn awyddus arno. Och y mae yn ddarn braf; a pha'm na chariwn I ef adref at Judy a'r plant ? Ac yn siwr ni fydd yn bechod wedi i mi ei gyfaddef. Ar hyn gwthiodd ef i boced ei gob uchaf. Braidd y gwnaeth ef felly nad dyma'r forwyn yn dyfod i ddywedyd wrtho mai ei dro ef oedd i gyfaddef. Mwrdwr yn fyw! yr wyf wedi fy lladd a'm handwyo! Yn awr, Terry bach, pa beth a wnaf yn y cyfyngder hwn, o gwbl, o gwbl ? Myn y neiniau! rhaid i mi dreio gwneyd y goreu o honi, modd bynag," meddai wrtho ei hun, ac i mewn yr aeth. Penliniai o flaen yr offeiriad-addefodd ei bechodau ac yr oedd ar fedr derbyn maddeuant, pan, ar unwaith, ymddangosai fel wedi adgofio ei hun, a gwaeddai allan- 0! aroswch, aroswch, y Tad O'Higgins anwyl! er mwyn y daioni aroswch: y mae genyf un pechod dirfawr i'w gyfaddef etto, yn unig, syr, bod amaf ofn i'w adrodd, am na wnaethum erioed ei gyffelyb o'r blaen-erioed.11 "Dowch," ebe y Tad O'Higgins, "y mae yn rhaid i chwi ei fynegu i mi." Wei, ynte, eich Fai-chedigaeth, mi a'i adroddaf ond yr wyf yn cywilyddio, rywsut." 0 na ofelwch mynegwch ef," ebe yr offeiriad. Wei, ynte, eich parchedigaeth, aethum heddyw i dy boneddwr ar ychydigjits'lless; a chan ei fod yn brysur ar y pryd, fe'm datifonwyd i'r gegin i aros, Wet, syr, yno y gwelais ddarn braf o facwn yn hongian yn nghornel y simnai. Edrychais arno, eich parchedigaeth, a dechreuodd fy nannedd ddyfrio. Ni wn I ddim sut y bu, syr, ond tybiaf iiiai'r cytlirtul a'm temtiodd, am y rhoddais ef yn fy mhoced; ond, os gwelwch chwi'n dda, syr, mi a'i rhoddafi chwi." a rhoddodd ei law yn ei logell. "Ei ro'i i mi!" ebe yTad O'Higgins, "na wnewch, yn wir roddwch ef yn ei ol i'w berchenog." "W çl, ynte, eich parchedigaeth, syr, mi a'i cynnygiais iddo, opd ni chymerai efe ef." 11 0 na wnai, na wnai?" ebe yr offeiriad; "yna cymerwch ef adref, a bwytewch f eich hunan gyda'ch teulu. "Diolch yn fawr i'ch parchedigaeth," ebe Terence, "mi a wnaf felly yn union, os gwel Duw yn dda ond yn nghyntaf ac yn flaenaf mi gymeraf y faddeuant, os byddwch eys  cystal, syr. Aeth Terence adref yn llawen ganddo ei fed wed .bod yn I abl i achub ei enaid ai facwn ar yr un pi,yd.-Cyf. Moesen.
INewrbbion (rartrefol.
duedd o flaen meddyliau y gynnulleidfa am yn agos i dair awr, nes enyn bloeddiadau uchel o gymeradwyaeth o bob tu, y rhai a ataliai ac a roddai seibiant mynych i'r traddodwr medrus. Yn mysg y gynnulleidfa yr oedd saith o ddeiliaid y sefydliad uchod, ynghyd a'u hathraw Mr. Rhind, ar gais pa un ar ddiwedd y cyfarfod y rhoisant y fath brofion o'u cynnydd mewn dysgeidiaeth nes creu syndod cyffredinol yn y lie. At- tebodd y ddarlith werthfawr ddau ddiben daionus, sef dyfod a choffadwriaeth y "per ganiedydd" yn fendigedig yn ein golwg, a chefnogi ysgol ddyngarol a haeddiannol o gefnogaeth y mud a'r byddar. Hir oes i'r darlithiwr parchus i wasanaethu ei Dduw a'i genedl.-J. W. LL AN ARMON-YN-IAL,—Dyddiau Iau a Gwener, y laf a'r 2fed cyfisol, cynnaliwyd cyfarfod yn y lie hwn i'r dyben o neillduo Mr. William Parry, diweddar o Athrofa y Bala, i gyflawn waith y weinidogaeth yn Philadelphia, Graian-ryd a'r Blaenau, yn swydd Dinbych, pryd y gweinyddodd y parchedigion canlynol ar yr achlysur: W. Jones, Amlwch; M. Jones, Bala; J. Harris, Wyddgrag; D. Price, Dinbych O. Owens, Rhes-y-cae; T. Ridge, Jerusalem; W. Roberts, Rhydlydan; W. Lloyd, Wern, ac R. Parry, Brynsiencyn, Mon, brawd y neillduedig. Cafwyd cyfarfod tra chysurus i deimladau gweinidogion a gwrandawyr; a hyderir y bydd sefydliad y brawd ieuangc yn gysur iddo ei hun, yn fendith i'r ardal, ac yn ogoniant i Dduw.-Ewyllysiwr da. LIVERPOOL. I MARWOLAETH DISYMWTH.-Boreu ddydd Mer- cher, tuag un-ar-ddeg o'r gloch, cymerai trafaeliwr masnachol o'r enw James Scott, docyn yn swyddfa y rheilffordd, yn Lime-street, i fyned i Manchester; a thra yn cerdded tua'r cerbydau, efe a syrthiodd i lawr yn farw ar yr yard. Yr achos o'i angau oedd toriad un o lestri y gwaed wrth y galon. DAMWEIKIAU AUGEDOI.—Wythnos i'r Sabboth diweddaf, aeth dau fachgen i ymdrochi i'r afon gyfer- byn ag Aigburth, ac aeth y mwyaf o'r ddau i bwll dwfn, ac wrth ei weled yn ymdrechu am ei fywyd, aeth y llall i'w gynnorthwyo ond boddwyd y ddau.—Yr un diwrnod, taflwyd geneth dair-a-hanner oed, merch Mr. Taylor, London-road, allan o gerbydan, ac aeth yr olwyn dros ei phen, fel y lladdwyd hi yn y fan. MEDDWDOD.—Yr wythnos ddiweddaf, ar yr ach- lysur o gyhuddo tafarnwr am oddefmeddwdod yn ei dy, dywedai Mr. Rushton, nad oedd dim llai na thri chant-a-thri-ugain o bersonau wedi eu dwyn o'i flaen y ddau dydd Llun diweddaf, y rhan fwyaf o honynt am feddwdod, neu am droseddau a gyflawnwyd ganddynt pan yn feddw. Y TRETHI BWRDEISIOL Y mae Cynghor Bwrdeisiol y dref hon wedi anfoddloni y trigolion yn gyffredinol, o herwydd y trethi trymion aosodantarnynt; ac yn enwedigol y rhai sydd yn byw yn nghyffiniau y dref, allan o blwyf Liverpool. Nid oes un feddyginiaeth nac yiriwared, ond trwy ddewis dynion mwy cydwybod- ol, ac ystyriol o amgylchiadau gwasgedig pob iectspartb yn bresenol, yn aelodau o'r cynghor; canys y mae yn ymddangos fod y boneddwyr sydd yno yn awr, sef y rhan fwyaf o honynt, yn benderfynol o daflu cymaint o o draul a'r allont ar y dref. Cynnaliwyd eisoes am- rywiol gyfarfodydd ar yr achos, yn mha rai y siarwyd yn groeyw ac uehel yn erbyn anghyfiawnder y trethion hyn. Yn Kirkdale, y mae y trethion a arferent fod yn 9c. y bunt, wedi hyny yn Is. 9c., yn awr yn 3s. y bunt; a'r unrhyw yn y dref yn Is. 10c. y bunt. CYMDEITHASFA Y TREFNYDDIOS CALFIN- AIDD.-Cynnaliwyd y cyfarfod blynyddol eleni, fel arferol, y Sulgwyn, yn y dref hon, sef yr unfed-a-thii- ugain er agoriad y capel bychan cyntaf yn Pall Mall, yr hwn ydoedd tuag un llathen-ar-ddeg pedryal (square), fceb yr un oriel. Yr oedd nifer y gweinidogion a'r pregethwyr yn fawr, y cynnulleidfaodd yn dra lluosog, a'r pregethau yn rhagorol, a dylanwad hyfryd yn dilyn y gwirionedd. Yn y cyfarfod eglwysig boreu ddydd Llun, darllenid swm y casgliadau a wnaed yn yspaid y flwyddyn ddiweddaf ar wahanol achosion, y rhai a gyrhaeddent y, cyfanswm, rhwng y saith addoldy, o ychwaneg na thair mil a deg-a-deugain o bunnoedd. Yn yspaid y saith mlynedd olaf, casglwyd dros ddwy fil-ar-ugain Nifer yr aelodau eglwysig, a chyfrif y plant, yw tua 2180. Y mae Iluaws o'r Cymry wedi gorfod gadael y dref hon oblegid diffyg gwaith, lyr hyn yw yr achos o fod y nifer yn ymddangos yn llai na'r llynedd. LLADRONEs Az;FrODUS.-Tua banner awr wedi naw, nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd dynes yn gorwedd ar lawr yn ymyl ystordy yn Tower-gardens, yn gwaedl1 yn ddirfawr o'i phen. Yr oedd wedi cael ei chloi i fynu yn yr ystordy, meddai, ac i'r dyben o gael yn rhydd, ymollyngasai wrth y rhâff a ddefnyddir i godi a sr llwng nwyddau ond yn anffodus druan, yr oedd wedi ei sicrhau yn rhy fyr i gyrhaedd y gwaelod ac ymollyngodd ddeg Hath i'r llawr, a chwmpodd ar ei phen. Ysgydwyd ei natur yn fawr. Cymerwyd hi i'r clafdy yn ddioed. Tybir mai nid ar neges gonest yr oedd hi yn yr ystordý. DAMWAIN DDYCHRYNLLYD Boreu ddydd Sad- wrn diweddaf, tua naw o'r gloch, cymerodd damwain ddychrynllyd le gyferbyn ag eglwys St. James. Yr oedd tri boneddwr mewn cerbydan yn dyfod i lawr St. James's Place, a tharawodd yn erbyn olwyn trol gerig torodd b eichiau, a rhedodd y ceffyl yn ddychrynedig a rhadQpr gerbydan ar ei ol, a phan ar gongl heol Parliament, taflodd ddwy wraig a basiai ar y pryd, ac aeth olwyn y darn cerbyd dros y ddwy. Daliwyd y ceffyl yn fuan. Cymerwyd y ddwy wraig i'r clafdy get Haw. Yr oedd un o honynt, Mrs. Wade, wedi cael briw tost ar ei phen, tori un asen, a briwo ei hwyneb a chafodd y llall, Mrs. Canny, ei niweidio yn fawr, ond nid cymaint a'r gyntaf. PA FAINT A WNA DYN YN FEDDW ?—Dygid gvir trwsiadus o flaen yr ynad yr wythnos ddiweddaf, o dan y cyhuddiad o fod yn feddw ar yr heol y nos o'r blaeri. Wedi i'r trosedd gael ei hysbysu, dywedai y carcharor mewn dull uchelaidd, "Cymaint a yfais I oedd dau wydryn o whisci a dwfr. Mr. Rushton: A wnaeth hyny chwi yn feddw ? Carcharor Gadawaf at ystyriaeth eich anrhydedd pa un a wnai hyny un dyn yn feddw." Hysbysai ceidwad y carchar ei fod yn feddw pan ddygpwyd ef yno. Dywedai Mr. Rushton wrth y carcharor, Yna rhaid i chwi dalu y dirwy, a chymeryd un gwydriad rhagllaw." YMFUDIAD CUDDIEDIG.—Yr wythnos o flaen y ddiweddaf, yr oedd un o swyddogion Manchester wedi dyfod i lawr i'r dref hon, i wneyd ymchwil am ddyn a ddiangasai o'r dref hono, ac aeth ar fwrdd y llong ym- fudol West Point i'r dyben hwnw. Cafodd wely ptu, yr hwn a deimlai yn drymach nag arferol, ac agorodd y tick yn y fan, a chafodd ynddo ddyn wedi ei guddio. Yr oedd y creadur wedi cael ei wni'o yn y gwely gan ryw oruchwyliwr ymfudol drygionus, i'r dyben o'i dros- glwyddo i'r America fel clud-lwyth (luggage). Yr oedd Ran y dyn ddau bapyr punt Gwyddelig a phum' swllt. Yr oedd yn synn eu bod wedi dyfod o hyd iddo; ac er el fawr siomedigaeth, rhoddwyd ef ar y 14ti yn gynt nag y dysgwyliasai.J TRENGHOLIADAU.-Dydd Llun, Mehefin 5, cyn- naliwyd trengholiad ar gorff dyn ieuanc o'r enw William White, a fuasai yn byw yn Parliament-street, yr hwn a godasid o'r afon. Yr oedd efe wedi myned, prydnawn y dydd o'r blaen, gyda gwr o'r enw Paton, i ymdrochi ar lan y m6r, yn y cwr deheuol i'r dref, pryd yr aeth- ant yn ddamweiniol yn rhy bell i'r dwfr, a boddodd y ddau. Ni chawsid corff y Ilall. Dedfryd, marwolaeth ddamweiniol.—Nos Llun, fel yr oedd un Margaret Shuttleworth, Barter-street, yn cyrhaedd llestr ired oddiar shelf, hi a syrthiodd i lawr, ac a niweidiodd ei phen mor dost nes y bu farw y noson hono. MANYLRWYDD NODEDIG Pan oedd Capten Judkins, llywydd yr agerlong America, yn gadael ei westy ar y 15fed o Ebrill, i gychwyn ei fordaith i New York, efe a orchymynodd i wraig y ty barotoi ciniaw iddo, erbyn chwech o'r gloch prydnawn ddydd Llun, Mai 22, gan ddywedyd y byddai efe yno ar y pryd i'w fwyta; ac felly y bu, oblegid cyrhaeddodd yno ryw bum' munud cyn yr amser pennodedig Gyda'r fath gysondeb y mae y llestri ardderchog hyn yn cyflawni en mordeithiau i'r America ac yn ol TAN YN MARYBONE.—Tua hanner awr wedi dau boreu ddydd lau diweddaf, canfyddwyd fod ystafell yn nhy Mr. Thomas, yn Marybone, ar dan, yn yr hon ystafell yr oedd ei ferch yn cysgu. Cafwyd cymhorth yn ddioed, ac achubwyd yr eneth cyn iddi gael llawer o niweid, a diffoddwyd y tân. Yr oeddid wedi gadael canwyll yn oleu, a rhjw fodd rhoddodd hono ddiUad y gwely ar dan. FFOADUR CREULOW.—Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd dau filwr yn arwain ffoadur (deserter) yr hwn oedd newydd gael ei lanio o agerles o'r Iwerddon, yn y Clarence Dock; a phan yn cael ei dywys tua'r dref, cymerai fantais o'r dorf oedd ar y quay i geisio ysgoi y milwyr ac fel yr oeddynt yn nesau i'w amgylchu, cododd ei ddwy fraich i fynu, (y rhai oeddynt wedi eu haiarnu yn nghyd,) ac ymosododd ar un o honynt, gan ei daro yn ei wyneb a'i holl nerth. Syrthiodd y milwr anfFodus i lawr; a phan gyfodwyd ef, gwelwyd fod as- gwrn ei en wedi ei dori. Gyrai ei gydymaith ei fidog yn ddioed i gorff y ftoadur; a phan yr ymyrodd y policeman ag ef, dywedai y milwr wrtho y cai yntau deimlo rhai modfeddi o ddur oer, os na chadwai draw a chymerodd y policeman druan y rhybudd. IWERDDON. RHEITHWYR MITCHEL.—Y mae y rheithwyr a eisteddent ar brawf y brad-derfysgwr Mitchel, ac a roddasant y ddedfryd euog yn ei erbyn-a'r unig dded- fryd a allesid ei rhoddi gan ddynion gonest-yn cael llythyrau bygythiol yn fynych, yn y rhai y dywedir y cymerir eu bywydau yn ddiffael. Dengys y dull yr ysgrifenir y llythyrau cableddus a dychrynllyd hyn, yr ysbryd gwaedlyd a lywodraetha y dynion terfysglyd a aflonyddant y wlad annedwydd hono. Dyma un o'r llythyrau hyny: u "EICII RHYBYDD OLAF." "Myn y lJ- mawr a bywiol, myfi a wnaf gorff 0 honoch am eich ymddygiad Hofruddiog at Mitchel druan. Yr wyf yn danfon eich arch, [sef darlun o honi,l a myn fy ngwaed yr hwn a'i Iliwia, ceiff eich gwaed chwithau yn fuan redeg o'ch gwythenau, trwy law eich gelyn mwyaf marwol. Peidiwch a meddwl y cewch chwi ddiangc, nac y eciff eich gwraig lla'ch plant ddiangc. Pe byddai bosibl, y mae rhai o'r llythyrau yn fwy erchyll a chableddus na hwn yna. Hawdd gweled bod bywydau dynion yn hollol ddiwerth yngolwg y fath greaduriaid creulon; ac nid oes yn eu hattal rhag rhoddi eu bygythion mewn gweithrediad, ond ofn y gosb yn nnig. IWERDDON lEUANGC A HEN.—Y mae y ddwy blaid hon yn awr wedi ymuno a'u gilydd, er mwyn ffurfio cyfundeb o derfysgwyr: y maent am gladdu eu dygasedd at eu gilydd, yn eu gelyniaeth ddofn at y Saeson. Galwant eu cymdeithas u Y Cyfundeb Gwyddelig (The Irish League)." Dywedir y bydd yn berffaith gyfreithlon; y gochelir pob gair a gweithred croes i gyfreithiau y wlad: y ffurfir hi er mwyn uno holl repealers Iwerddon yn un corff, i gael senedd anni- bynol i'r Iwerddon trwy rym llais y wlad. Ond y mae yrf eglur fod y cyfraniadau at yr hen gymdeithas wedi syrthio ymaith i'r fath raddau, fel nas gall ddal i fynu ddim yn hwy. Swm y rhent, fel ei gelwir, yr wythnos ddiweddaf, ydoedd tair punt-ar-ddeg, a deuddeg punt yr wythnos cyn hyny. Dengys hyn fod y bobl naill ai yn blino ar y swn am repeal, neu yn gweled eu bod yn cael eu twyllo gan eu blaenoriaid lladronllyd. JOHN MITCHEL.—Y mae y llywodraeth, o herwydd afiechyd y gwr hwn, wedi gorchymyn iddo gael ei gymeryd i Madeira dros ryw yspaid, cyn ei anfon ymlaen i Norfolk Island.—Y mae y tiriondeb hwn at ddyhirwr o'r fath yn anrhydedd i'n llywodraethwyr, ac yn brawf nad am ddial arno yr oeddynt. TERFYSG FILWRAIDD YN DUBLIN.- Nos Sadwrn a nos Sabboth, wythnos i'r diweddaf, cymerodd ysgarmes ddychrynllyd le yn Dublin rhwng milwyr yn perthyn i wahanol gatrodau. Dechreuai y ffrau mewn tafarndy, o herwydd bod milwr yn perthyn i'r 31st gatrod yn pleidio Mitchel, ac un arall yn perthyn i'r 55 yn ei wrthwynebu yr oedd y gatrawg gyntaf yn W yddelod, a'r Hall yn Saeson. Aethant allan i'r heol, a bu vn ymladdfa gyff- redinol rhwng dynion yn perthyn i'r naill a'r llall. Ond ni wnaethant ddefnydd o arfau yn y byd heblaw eu dymau a'u beltiau. MR. SMITH O'BRIEN Dydd Gwener, wythnos i'r diweddaf, cyhoeddodd y gwr hwn gyfarchiad, yn enw Cynghor y Gynghreiriaeth Wyddelig, at bobl Iwerddon, o'r hwn y rhoddwyd nifer ar barwydydd Dublin, yn galw yn gyhoeddus ar y bobl i ymarfogi. Arfera yr iaith grefaf a mwyaf cynhyrfiol, er m wyn cyffroi nwvdau digofus y Gwyddelod. Dywed wrthynt: "Gatholiciaid Iwerddon plygwch eich penau mewn cywilydd. Yr ydych wedi eich gwarthnodi fel yn anheilwng o gymeryd rhan yn ngweinyddiad cyfiawnder yn eich gwlad enedigol. Cathweis ydych—caethweision yr haeddwch chwi a'ch plant fod, os na wrthwynebwch y dirmyg hwn fel un gwr. Ni wna neb ein gwrthwynebu pan haerwn, fod Mitchel wedi ei ddwyn yn eltog gan rheithwyr a bigwyd nid i'w brofi, ond i'w euog-farnu." Dywed drachefn ymlaen Teimlwn yn ddyledus arnom eich hysbysu, yn ddigel, bod y dirmyg a roddir arnom, a'r camwri a wneir i ni, yn ein cyflymu at y cyfnod hwnw, pan y bydd gwrthwynebiad arfog i orthrymwyr ein gwlad, yn ddyledswydd gysegredig, yn cael ei chefnogi gan awdurdod uwchaf dyledswydd gyhoeddus." Pa un a adewir y gwr O'Brien yn llonydd gan y Cyfreithiwr Cyffredinol, sy'n bur annhebyg; ac yn wir y mae ei waith yn her.feiddio awdurdod y gvfraith fel hyn, yn galw am iddo yntau hefyd gael proliad o'i gallu. Y CLERIGWYR PABAIDD Y mae cyfarcheb oddi. wrth offeiriaid pabaidd archesgobaeth Tuam, wedi ei hanfon at y Frenines, yn yr hon y dywedant; Yr ydym ni yn ostyngeiddiaf a pharchusaf erfyn ar fod i'ch Mawrhyd1, yn yr ymarferiad o'ch hawlfraint freninol, alw i'ch cynghor ddynion o duedd gonest am wneyd cyfiawnder ag Iwerddon, trwy achosi diddymiad deddf yr undeb, ac adferu i'r Iwerddon ei hawl hen a chyfiawn ei scnedd gartrefol."