Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

" Y LLYFR DU." (The Black…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y LLYFR DU." (The Black Book.) I Ddarllenwyr! a glywsoch chwi son am y Llyfr flu ? Odid na welodd amryw o honoch ef. Wel, yn wir, un du iawn ydyw. Teitl y llyfr a esyd allan ei gynwysiad, a dyma ydyw" Llyfr Du y Bendefigaeth Brydeinig: neu, Ddynoethiad or Gamwriau Penaf yn y Wladwriaeth a'r Eglwys: gyda Rhestr Ddu o Bensioners- Breiniol, Pendef- igol, Cyfreithiol, Gwladol, Treftadol, Milwrol, Eglwysig, dc." Y mae y Llyfr Du yn codi godrau ac yn dy- noethi gwarth noethder pendefig-lywodraeth y wlad hon, nes ydyw yr olwg arni yn ddigon o syndod a diareb i'r byd. Odid y bu un lywodraeth ar y ddaear erioed mor wastraffus, ac yn beichio ei deiliaid mor orthrymus, i gynnal rhusedd a choeg rodres un dosparth i fynu. Cyfranoga yr eglwys (wladol) yn helaeth iawn yn y trawster hwn rhan a chyfran o hono ydyw—un o'i brif aelodau. Yr eglwys bono, yn ngwasanaeth y bedydd, a ofyna i feichiafon pob baban a fedyddir ymrwymo drosto i "ymwrthod a diafol, a choegrodres, a gorwagedd y byd drygionus hwn," a rydd yr esampl berffeith- iaf ger eu bronau ei hunan o goegrodres a gor- wagedd y byd drygionus hwn" a all "y byd drygionus hwn" ei dangos. Bwriadwn roddi, o dro i dro, holl sylwedd y Llyfr Du ger bron ein darllenwyr; a chant weled petbau na ddaeth erioed i'w calonau ddychymyg am danynt. Dechreuwn gyda dechreu y llyfr:— Y TREFNIANT PENDEFJGOL. Ffynnonell ein holl gamwrion, yn wladwriaetholl ac eglwysig, a hanfoda yn ngwallusrwydd ein cyn- nrychiolaeth, a chyfyngdra ei safon. GwagymfFrostir ein bod yn cael ein lly wodraethu gan benadur, arglwyddi, a chyffredinwyr; ond os edrychwn i'r ffaith, canfyddwn ein bod yn cael ein llywodraethu gan y bendefigaeth yn unig, yr hon a ddefnyddia y penadur fel tegan, a'r bobl fel ysglyfaeth. Yn nwylaw pendefigaeth y tir yn hollol y mae y Ilywodraeth; ac ni phetrusa Arglwydd J. Russell gydnabod bod Ysgrifraith y Diwygiad wedi ei chynllunio yn y fath fodd ag i sicrhau y dylanwad cryfaf i'r tir-feddianwyr yn y Senedd. Ni allwn gael gwelliant ar un gyfraith, didrethu y bara, ysgafnhau beichiau y llafurwyr, na'r briv.s- ion lleiaf o gyfiawnder, beb yn mron fyned ar ein gliniau a deisyf ar y boneddwyr etifeddiaethog hyn eu cyfranu i ni. Wedi'r cwbl, nid yw gwir bwrpas llywodraeth ond peth syml iawn. Amddiffyniad i'r bobl ydyw, drwy eu huno yn nghyd. Y mae pob un yn gyd. gyfranogydd yn y gymdeithasfa ddinesig fawr hon —-ei llwyddiant yn cynwys llesoldeb cyfartal i bob i-in a dylai pob un fod gyfartal gynnrychioledig ynddi, fel y mae mewn cymdeithasau ereill llawer llai eu pwys. Ond gwelwch fel y mae pethau yn bod! Y mae y bendefigaeth wedi cymeryd boll drefniad y llyw- odraeth i'w dwylaw; a chan eu bod yn gweled ei bod yn troi allan yn rhagorol dda iddynt, pender- fynant gadw pethau fel y maent. Mewn ffaith, nid oes dim llai na cbwildroad a'u dychryna i gydsynio a. hawliau a gofyniadau cyfiawnder ac uniondeb. Y mae agos i hon diriogaeth y wlad yn eu meddiant, yr hwn a sicrhant yn eupluoedd, a chyfreitbiau treftadaeth, a chyntafeniftptl Y mae yr eglwys yn eu meddiant, yn nghyd a'i chyllid o yn agos i ddeng iniliwn o bunnau yn flynyddol, i'r hon y gwthiant eu brodyr, eu meibion, a'u cyn ffonau; o herwydd gan fod yr etifeddiaeth dirol yn myned i'r meibion henaf, rhaid gosod y cang- henau ereill ar gefn y bobl, y rhai nad oes ganddynt un modd i'w gwrthsefyll. Cadwant allu milwraidd dirfawr hefyd, yr hwn, oddiar yr un rheswm, a lywyddir gan eu pertbynasau, i'r rhai y telir pen- sions helaeth am goegchwareu mewn huganau cochion ac ysgwyddegau (epattlettes) auraidd. Er eu mwyn hwy hefyd y creir swyddogaethau traul- fawr yn gysylltiedig ar llywodraeth, gyda gwadd- olion helaeth, pan y cymerant arnynt fod yn ry hen neu afiach i'w gweinyddii-rbaglywiaethait comfforddus, a chenadaethau i lysoedd tramor, a lleng o swyddau costus o ddeutu y llys a'r benad- uriaeth. Y bobl sydd yn gorfod talu am y cyfan Aresyd y bendefigaeth y trethi-tala y bobl hwy. Telir dwy ran o'r tair o holl dretboedd ymherodr- aeth Prydain gan y mwyafrifiant dirfawr hwnw na chynnrychiolir mo hono o gwbl yn y Senedd Brydeinig. CYFYNGDER Y GYNNRYCHIOLAETH. Cyfanrif yr etholyddion yn Prydain Fawr a'r Iwerddon, nid ydyw, at ei gilydd. uwchlaw un fil. iwn, dros wyth miliwn ar hugain o bobl. Yn Lloegr nid yw yr bawl bleidleisiol yn meddiant ond 1 o bob 19 o'r boblogaeth; yn Scotland, 1 o 30; ac yn Iwerddon, 1 o 43. Yn Lloegr ni chyn- nrychiolir ond 1 gwrryw o 7; yn Scotland, 1 o 11; ac yn Iwerddon, 1 o 174 Efelly y mae uwchlaw 7 o bob 8 o'r dynion mewn oed o boblogaeth Prydain Fawr heb eu cynnrychioli o gwbl, a gor- fodir hwy i ymostwng i'r cyfreithiau a thalu y trethi, a ffurfir ac a drefnir gan gynnhrychiolwyr y 11eill Wele yma yn sicr halogiad ar elfenau symlaf union deb a chyfiawnder. Etto: nid yn unig y mae corff mwyaf y boblog- aeth yn cael ei gau allan o'r gynnrychiolaeth, ond darbodir hefyd na byddai gan y ran fechan a gyn- nrychiolid nemawr i ddim dylanwad yn y ty; ond gorlethir hwy gan y lleng o gynnrychiolwyr a an- fonir i mewn gan y bendefigaeth. Gynllunid Ys- grifraith Ddiwygiadol Arglwydd J. Russell yn y modd mwyaf effeithiol i'r dyben hwn, fel y rhaid i bawb addef. ANWASTADRWYDD Y GYNNRYCHIOLAETH. Y mae y trefniant presenol wedi ei ffurfio yn y fath fodd, fel ag y ma ey mwyafrif o'r Ty Cyffredin yn cael ei ethol mewn gwirionedd gan un ran o bump o holl etholyddion cofrestredig Prydain Fawr! Y bummed ran hon, neu islaw 200,000 o ethol- yddion, sydd gymaint o dan fawd y bendefigaeth, fel y mae gweithrediad rhydd ac annibynol yn beth na ellir ddysgwyl oddiwrthynt. Caethion ydynt, ac fel caethion y gweithredant. Y 200,000 hyn ydynt y man drefi yn nghymyd- ogaethau palasau pendefigaidd; ac os bydd wasog- rwydd slafaidd y pleidleiswyr droi yn ystyfnigrwydd anhydyn weithiau, yna dygir dylanwadau bygyth- ion a llwgrwobrwyon i weithredu arnynt yn en Hawn nerth—dylanwadau na phetrusa y bendefig- aeth un amser eu defnyddio. Rhoddodd Ysgrifraith y Diwygiad y bleidleisiaeth i'r trefydd mawrion, y mae'n wir; ond gofalodd ei ffurfwyr adael cynifer o'r man fwrdeisdrefi heb eu diddymu ag a fyddent agos yn sicr o wrth-weithio eu dylanwad yn y ty. Addefai Arglwydd J. Russell, fel y crybwyllem, bod hyn mewn golwg ganddynt. Dywedai cynllunwyr Ysgrifraith y Diwygiad, nad oedd un fwrdeisdrefi hanfodi heb fod ynddi 300 o bleidleiswyr ond dangosai Mr. Hume nad oes dim llai na 35 o fwrdeisdreti yn fyr o'r rhifedi hwnw. Ond dangosir anghyfartalweli ae anghyf- iawnder y trefniant presenol yn fwy eglur yn y daflen ganlynol o fwrdeiscirefi a anfonant ddau aelod, yr hon a ddengys ar unwaith fel y mae cyn- nrychiolaeth y trefydd mawrion yn cael eu gwrth- weithio mor effeithiol Trefydd. -§ Etholwyr Poblogaeth y ,.s yn yn 1842-3. 1841. Llundain-y ddinas. 4 20030 120702 Finsbury. 2 14038 265043 Marylebone. 2 13361 287465 Towerhamlets. 2 16246 419730 Westminster. 2 14801 219930 Southwark. 2 5353 142620 Lambeth I 2 9083 197413 Ll' 1 21 1 r. r. r. () <)8')6 r; L i verpool. 2 15559 282656 Manchester. 2 10423 240367 Leeds. 2 6298 151063 Sheffield. 2 4199 109597 Birmingham I. 2 j 6129 181116 Bristol 2 10416 123188 EdiJ" 2 6201 132977 G' 2 8516 255650 -i- Cyfanswm 32 160653 3129517 Trefy" dd. li Etholwyr Poblogaeth y -2 yn yn 1842-3. 1841. Andover.1 2 240 4997 Bodmin.1 2 435 5901 Bridport. 2 571 7166 Buckingham. 2 393 7078 Chippenham. 2 278 6606 Cirencester 2 496 5804 Cockermouth. 2 322 6420 Dorchester. 2 396 5402 Evesham 2 420 4245 Guildford i 2 475 5925 Harwich 2 233 3730 Honiton. 2 414 3773 Huntington. 2 374 5500 Knaresboro 2 293 4926 Leominster 2 553 4846 Malton. 2 557 6875 Marlbro 2 256 4139 Marlow. 2 357 6237 Peterboro. 2 553 6991 Richmond. 2 262 4300 T,tvistock 2 264 6075 Thetford. 2 192 3849 Totness 2 424 4240 Totness 2 342 4607 Wells .2 342 Cyianswm. 48 9100 129627

IRHODFEYDD 0 GYLCH CARTREF.I

* Y GWAHAN1AETH HANFODOL SYDD…

[No title]

ADDYSG CYMRU.