Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
Y mae nifer aelodau y gymdeithas hon yn cynnyddu yn gyfiym, o blith pob plaid wladyddol; a chan fod y cyffelyb gymdeithasau wedi eu ffurflo mewn amryw o brif drefydd y deyrnas, nes y mae cyffroad cyfFredinol yn cymeryd He yn meddwl y wlad, nid oes amheuaeth na orfydd ar y senedd a'r llywodraeth wrando, a chyd- aynio hefyd a chais rhesymol a chyfiawn y bob].
I _ I Neijugtilrton Cram or.…
Neijugtilrton Cram or. AMERICA. I Derbyniwyd newyddion o'r America, hyd y 19eg o Ebrill, gyda'r Hibernia. Y mae pob llywodraeth wladyddol wedi ei drosglwyddo i'r Mexiciaid, yn ninasoedd Mexico, yn ol telerau eu hymheddych- iad a'r Unol Daleithiau. Y mae yr Indiaid yn gwneuthur galanas mawr mewn lie a elwir Tllca- tan. Blaenorir hwynt gan frodor o'r enw Jacinto Pat. Y mae eu bymosodiad yn broffesedig yn I erbyn dynion gwynion. Eu harwyddair ydyw, Angau i bob llwyth ond yr lndiaid;" ac ni ar- bcdir neb ganddynt ond y benywod, pa rai a arbedir i ddioddef poenau gwaeth na marwolaeth. Y mae y newyddion am y cbwyldroad yn Ffrainc yn parhau i beri llawenydd mawr. Cynnaliwyd cyfarfodydd mawrion, a dysglaer-oleuwyd dinas fawr Washington, ar y 13eg o Ebrill: yr oedd areithiau yn cael eu traddodi ar yr achlysur mewn haner dwsin o wahanol ieithoedd. Y mae'r wasg hefyd yn llawn o'r un testyn. Y mae Canada yn Hawn o fywiogrwydd teimlad I yn achos y chwyldroadau ar y cyfandir, ond hyd yn hyn y mae pob peth yn dawel. ISBAEN, I Y mae y frenines, o berwydd cyfyngderau arianol y deyrnas, wedi rhoddi i fynu ei hawl i weddill y swm trefniedig i gynnal ei llys, yr hyn sydd odaeutu 12,500,000. MADRID.-— Y mae terfysg mawr wedi bod yn Madrid, prif ddinas Ysbaen. Y seithfed o'r mis bwn y torodd rhan o'r milwyr allan mewn gwrth- ryfel. Ymunodd y werin yn fuan gyda hwynt. Dechreuwyd ymladd am bedwar o'r gloch y boreu, a pharhawyd hyd wyth; sef am bedair awr. Lladd- wyd cannoedd o ddynion, ond bu y llywodraeth yn y diwedd yn fuddugoliaethus. Cynnelid Ilys milwraidd ar y gwrthryfelwyr; a'r canlyniad a fu saethu chwech-ar-ugain o ddynion. PORTUGAL. x mae Brenines Portugal wedi cael gyru arni, yn ei Ilysoedd eyfreithiol, am gyflogau ei morwyn- ion a'i gweision yn ei chegin a'i stablau, a gwas- anaeth arall e( phalas. Yr oedd wedi rhoddi biliau iddynt yn lie arian, a'r rhei'ny wedi dod yn ddyledus i'w talu er's amryw fisoedd, a'r rhai a'a newidiasant i'r gweinidogion oedd yn gosod cJyf- raith arni. ■ FFRAINC. I i mae y terfysgoedd yn y taleitbiau wedi tawelu. leriynodd yr etholiad seneddol yn newisiad mwy- afiaeth mawr o ddynion cymhedrol. Y mae Ledru Rollin a'i gefnogwyr yn dra dolurus o her- wydd hyn. Y mae tri o esgobion wedi eu hethol yn seneddwyr. Y mae cryn siarad yn Paris, a gwahanol farnau mewn perthynas i pa fath o gyfansoddiad a drefnir gan y senedd newydd. Y dyb gyffredin yw, mai gwerin-lywodraeth, gydag un ty seneddol, If. llyw- ydd, (fel yn yr Unol Daleithiau,) a sefydlir. Y mae y weinyddiaeth ragddarbodol wedi cyhoeddi cynllun o drefniadau y senedd ar ei dechreuad, neu pa fodd i gario yn mlaen ei gweithrediadau i aros sefydliad y cyfansoddiad gwladol. Yr oeddent i ymffurfio yn ddeunaw o gyfeisteddfodau, i chwilio i mewn i degwch a sierwydd yr etholiadau seneddol; wedi hyny yr oeddent i ddewis llywydd ac is lywydd am lis o amser; yna yr oedd gwahanol aelodau y weinyddiaeth ragddarbodol i roddi cyfrif ou goruchwiliaeth. Trefnwyd hefyd fod i bob aelod wisgo yr un fath—sef, coat ddu a waistcoat wen, sash tri-lliw am y canol, a ribbon goch, ar ba un y mae arwyddion y weriniaeth ar y fynwes aswy. Rhaid i'r gwyr eglwysig, fyddo yn aelodau, a'r cwbl wisgo yr un fath oblegyd, meddant, y mae cydraddiad yn gofyn gradd o gydffurfiad." Y mae y weinyddiaeth wedi cyhoeddi hollol ddi- lead cnethfasnach yn holl diriogaethau Ffrainc. Nid ydynt, fel y gwnaeth Lloegr, yn cynnyg talu tuag at ddigolledu perchenogion y caethion a rhyddeir. Y mae prif weinidogion y llywodraeth newydd wedi eu dewis, sef y pump canlynol, pa rai oeddent hefyd yn y weinyddiaeth ragddarbodawl:-Lainar- tine, Ledru Rollin, Arago, Marie, a Gamier Pages. Y mae y pump hyn yn brif lywyddion, ac y maent wedi pennodi dynion ereill i fod fel gweinyddiaeth i gario achosion y deyrnas yn mlaen. Y mae mwy o byder yn tyfu yn Ffrainc yn awr ar ol pender- fyniad y llywyddiaeth. Y maent yn gosod eu byddinoedd mewn trefn a pharodrwydd. Tebygir pe byddai i Loegr neu RWSSIR gynorthwyo Awstria yn erbyn Itali, y byddai Ffrainc ddyfod yn mlaen i gynorthwyo yr olaf. GERMANI. DENMARK A HOLSTEIN.—Y mae y rbyfel rhwng Denmark a'r taleithiau gwrthryfelgar yn parhau. Y mae llawer o longau Prwssia wedi eu cymeryd gan y gelynion, a'u trafnidaeth yn y moroedd gog- leddol wedi ei ddyrysu. Y mae y Daniaid yn gorfod cilio o flaen Holstein a'i chynorthwywyr..Dy wedir fod Brenin Denmark wedi erfyn cjnorthwy gan Ymerawdwr Rwssia, ond fod hwnw wedi llvvyr nacau ymyraetb yn yi- helynt. Edrychir yn bry- derus at gyfryngdod Lloegr i adferu heddwch. POLAND. Y mae Kwssia yn parotoi i anfon o 200,000 i 300,000 o filwyr i gyffiniau Poland, i wylio rhag ysbryd y diwygiad. Y mae brwydro mawr a galanas mewn talaeth o Poland a elwir Posen. Yr oedd rhanau o honi yn perthyn i Prwssia. Y mae yn awr yn ceisio ennill ei hannibyniaeth, a Phrwssiayn ceisio ei goresgyn. Y mae dinas fawr Posen bron wedi ei llwvr losgi, a galanas mawr a cliigyddlyd wedi cymeryd lie. I DENMARK A SCHLESWIG. Y mae y cweryl hwn yn debyg iawn o gael ei I benderfynu yn fuan trwy oferynoliaeth Voegr, a heddwch o gael ei sefydlu. I ITALI. I Nid oes fawr wahaniaeth yn y newyddion sydd i'w hadrodd am dywysogaethau Itali, yn eu per- thynas ag Awstria. Bron nad ellid meddwl fod byddinoedd y ddwy ochr yn lied ofni eu gilydd; o'r hyn lleiaf y maent fel yn osgoi brwydr benderfynol. Y fan ag y mae mwyaf o sylw avrio yn bresenol ydyw tiriogaethau y Pab. Y mae y Pab, fel brenin ar dalaeth Rhufain, yn gomedd ymuno a'r gweddill o Itali i fyiie(I yn erbyn Awstria, gan ddywedyd nad all ef gymerycl arfau yn erbyn gwlad Grist- ionogol. Y mae ei weinyddwyr a'i ddeiliaid, o'r ochr arall, yn gwasgu arno i gael myned allan. Y newydd diweddaf yw, fod y Pab yn garcharor yn ei balas rhag ofn y bobl. Bu gair ar led ei fod wedi ei ddiorseddu, a gweriniaeth wedi ei chy- hoeddi yn Rhufain ond nid oes sicrwydd eto, er ei fod yn eitliaf tebyg.
CYMREIG. I
CYMREIG. I RHUTHIN.—Traddodwyd dyn o'r enw Peter Lang- ley, i garchar yma, am ladratta esgidiau yn mhlwyf Lianfair. fel yr oedd Dr. Jones, o Heol-y-castell, yn dychwelyd adref wedi bod yn ymweled a chlaf, tua'r Graig-fechan, gwelai ddyn a dynes yn agosau, yr olaf yn ymddangos yn gyffrous iawn. Dywedai wrth y doctor fod y dyn wedi myned i dy cymydog a lladratta par o esgidiau, y rhai oedd ganddo yn guddiedig o dan ei gob. Disgynodd y doctor i lawr, ac ar ol peth bygythiad y naill ochr a'r Hall, cafwyd yr esgidiau. Yr oeddynt wedi eu cymeryd o dy llafurwr, yr hwn oedd allan gyda'i orchwyl. Erys i sefyll ei brawf. BANGOR—Yn y blynyddodd 1834, 1835, a 1836, nid oedd treth tlodion plwyf Bangor, yn cyrhaedd pedwar cant-ar-bymtheg o bunnoedd yn y flwyddyn, ac vr oedd o hyny, ragor nag un-cant-ar-bymtheg yn cael ei gwario ar dlodion. Yn y flwyddyn yn dibenu Mawrth 25, yr oedd treth y tlodion yn rhagor na thair mil a phedwar cant o bunnoedd, a'r swm a wariwyi] ar y tiawd oedd o dan bymtheg cant o bunnoedd! Dyma ddeddf y tlodiQon TALGARTH.—Y mae Ysgol Frytanaidd Talgarth, swydd Frycheiniog, wedi ceisio ac wedi cael cymhorth y llywodraeth i glirio y ddyled oddiar yr ysgoldy. Ym- ddengys bod rhai yn gwneuthur cryn orchest o hyn. Ni bu oes erioed na cheid dynion yn ymogoneddu yn eu cywilydd." DOWLAIS.-Y mae y cwmwl fu mor hir yn aros uwchben y lie poblog hwn o'r diwedd wedi myned heibio. Y mae y les wedi cael ei hiidnewyddu i Syr John Guest, ac eir a'r gweithydd yn mlaen o hyn allan gyda grym. Gresyn na buasai hyn wedi cymeryd lie er s talm-ond gwell hwyr na hwyracli. Er's rhagor na deuddeg mis y mae y lie wedi cael ei gadw yn hongian mewn amheuaeth boenus. Yr oedd poblog- aeth o ugain mil yn dibynu am eu bara beunyddiol ar y gweithfeydd hyn. DOLGELLAU.- Y mae sir Feirionydd mewn eyflwr ofnadwy o druenus ac yn arwyddo rhyw chwyldro anferth oddieithr i amgylchiadau ddigwydd i'w atal. Crybwyllasom eisoes nad oedd yma yr un carcharor i'w brofi, na'r un ddadl i'w phenderfynu yn y brawdlys diweddaf. Arwyddai hyn dlodi a thywyli- wch y sir. Y mae genym i'w hysbysu fod y swydd o geidwad carchar y sir wedi dyfod yn wâg yn ddiweddar, a Opd nifer yr ymgeisivyr am y swydd yn lluosocacTt na niJisrcyjfredin carcharorion yn y carchar Ow sir wael ac anheilwng! BINRYCH.—Cyhoeddir yn bresenol, er i ychydig rwystr gyfodi yn ddiweddar, bod Ariandy Cynhilion yn sicr o gael ei agor yn y dref hon, yn niwedd y mis hwn, ESGOB LLANDAF.——Cyflwynodd yr Arglwydd Ganghellydd offeiriad o'r enw Mr. Sampson, i fywol- iaeth Llanandreas, yn swydd Forganwg, ac y mae yr esgob wedi gwrthod ei gadarnau yn y meddiant o'r plwyf, oblegyd nad yw yn deall Gymraeg. Nid ydym yn gwybod pa un o'r ddau arglwydd a drecha- arglwydd cyfreithiwr, ynte arglwydd offeiriad-ond yr ydym yn gwybod os dygwydd peth fel hyn yn fynych, Ctesar a'r eglwys yn ffraeo am y feistrolaeth— rhaid i'r hy.n a gymerodd Ie yn Ysgotland gymeryd ,e yma cyn hir. TREFFYIFNON.—Ar ddydd Gwener y Croglith di- weddaf, cynnaliwyd cyfarfod blynyddol perthynol i'r Annibynwyr yn y dref hon, yn nghapel Heol-y-Capel (y Parch. D. Williams, gweinidog). Y nos Iau flaen- orol, traddodwyd pregeth ragorol gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair; boreu dranoetb, am 10, tra- ddodwyd dwy bregeth ragorol, gan y Parch. D. Loxton, M.A., o Liverpool, a'r Parch., J. Griffiths, o Buckley am 2 o'r gloch, pregethodd y Parch. M. Lewis, o Fan- gor, a'r Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, ddwy bre- geth hynod o fywiog ac adeiladol iawn; am 6 o'r gloch yn yr hwyr, traddodwyd pregethau grymus a hyawdl gan y Parchedigion D. Loxton, M.A., o Liverpool, E. T. Davies, St. Sior, a M. Lewis, Bangor. Dech- reuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchedigion J. Lloyd, o Abergele; E. T. Davies, St. Sior; J. Griffiths, Buckley; ac O. Williams, Waunfawr. Yr oedd yr hin yn hyfryd, y gwasanaeth yn wlithog ac adeiladol, a'r casgliadau yn dda. Yr oedd yn un o'r cyfarfodydd goreu a welsom crioed.-Gohebydd. GLO CYMRU.—Y mae gohebydd yn y Chester Chronicle yn cyfrif gwelyau glo Gogledd Cymru yn. gOrchuddio arwyneb o ddau cant o filldiroedd ysgwar. Pwysa llathen cubic o lo ragor na phedwar cant-ar- bymtheg o bwysau. Gan hyny bydd yr holl lo cynnwysedig yn yr arwyneb uchod yn 5,929,690,000 (pum' mil, naw cant a naw-ar-hugain o filiynau, chwe' chant a deg a-phedwar-ugain o filoedd) o dynelli. Costiai hyn o lo yn ol chwe' swllt yn nghenau'r pwll £ 1,778,907,000, (un mil, saith gant a deunaw-a-thri- ugain o filiynau, naw cant a saith o filoedd o buunau.) I'r dyben o fod v swm hwn o lo yn cael ei ddyfetha, dylid codi dwy filiwn o dynelli yn fiynyddol am dri chant o flynyddoedd. Cyfrifir fod holl lo Lloegr a l/eheudir Cymru yn ddigon i roddi ini ddeugain nnliwii o dynelli yn flynyddol am agos i bedair mil o flynyddoedd. CAERGYBI.—Ail-agorwyd capel y Wesleyaid yn y lie hwn hwyr Mai y 9fed, trwy ddarllen, canu, a gweddio, a phregethodd Mr. O. Ellis oddiwrth Zech. vi. 12, 13. Boreu y lOfed, pregethodd y Parch. W. Owen, gweinidog y gylchdaith, oddiwrth Salm exxvii. I. Yn y prydnawn cyfranogodd o ddeutu 800 o her. sonau o de, wedi ei arJywio yn y dull mwyaf cysurus yr elw deilliedig oddiwrtho oedd oddeutu £35 yn glir. Yr hwyr canlynol areithiodd Mr. H. Jones a Mr. W. Roberts (C.) y Parch. W. Morgans '(B.); a Mr. I. Jones (W.) yn hyawdl ac effeithiol, i dorf luosog. Y mae yr adeilad yn helaeth, ac yn addurn i'r gymydog- aeth y saif ynddi, ac yn gof-adail oesol i fedrusrwydd celfyddydawl Mr. O. 'Thomas, ei adeiladydd. Y mae yn sefyll yn gymhwys yn y fan lie yr oedd y cyntaf,! ond wedi ei helaethu yn fawr. j LLANDDEINIOLEN.—Arholiad yr YsyolDdyddioL- Sefydhvyd yr ysgol hon, yn ysgoldy IJlanddeiniolen1 tua phymtheng mis yn ol; a chymerodd yr arholiad cyntaf o honi le ar y 6ed o'r mis hwn. Yr oedd yn wyddfodol ar yr achlysur y Peirch. R. Ellis, Ysgoldy i. Edwards, Ebenezer; Mr. E. Ellis, athraw Bryt- anaidd Dinorwig; Mr. H. Williams, diweddar athraw Brytanaidd Pandy Tudur; a'r Parch. G. Davies, athraw yr ysgol, a lluaws o drigolion yr ardal. Hol- wyd y plant yn fanol gan yr amrywiol bersonau a enwyd, mewn gwahanol ganghenau gwybodaeth, a chaed yr atebion mwyaf boddlonol, yr hyn a barai syndod nid bychan i'r gwrandawyr weled y fath gyn- nydd mewn dysgu mewn amser mor fyr. Canwyd amryw donau gan y plant, rhwng holiadau y gwahanol ddospeirth, er mawr sirioldeb i'r gynnuileidfa. Yr oedd yn amlwg fod Hafur a ffyddlondeb neillduol wedi eu harfer gan yr athraw teilwng. Hyderir y bydd y cyfarfod hwn yn foddion i gyftroi yr ardal yn fwy i werthfawrogi cyfleusdra mor rhagorol i roddi addysg fuddiol i'r genedl ieuanc. Na chaed neb gymaint a He i awgrymu fad neb o drigolion y gymydogaeth hon heb weled ond ychydig o werth dysgeidiaeth.—-C?eTan- rJawr. RHOSGADFA, SWYDD GAERNARFON.—Tua dau fis yn ol, llydnodd dafad fynyddig oen tra hynod yn yr ardal hon: y mae iddo chwech o draed dau ymlaen a phedwar yn ol. Ymddengys nad ydyw y ddau droed gormodol yn prifio cymaint a'r lleill, o herwydd y maent wedi myned i hongian; ond ar y cyntaf yr oeddynt oil yn gydwastad a'u gilydd. Y mae yn pori yn bresenol ar dir Wernlasddu, plwyf Llanwyndaf, yn y swydd uchod. Y mae yn dyfod rhagddo yn weddol dda, ac yn wrthddrych o sylw neillduol.—Eryriwr. LIVERPOOL. I TRENGHOLIADAU.—Yr wythnos ddiweddaf, cyn- naliwyd trengholiad ar gorff Margaret Critchley, Down. street. Aethai i fynu i'w gwely nos Sadwrn yn feddw: yn mhen ychydig clywid twrf, a chaed hi yn gorwedd wrth waelod y grisiau. Aed a hi drachefn i'r lloft; ond yn mhen y ddwy awr syrthiodd eilwaith i lawr y gris- iau, pryd y cwynai bod ei gwddf wedi ei briwo. Cy- merwyd hi i'r clafdy, He y bu farw yn mhen y ddwy awr.Un arall ydoedd Margaret Inglis, 43 oed, yr hon a fu farw mewn canlyniad i niwed a gafodd ar y 19eg o Ionawr diweddaf, pan wrth fyned heibio i fwrdd yn ei thý, yn Hunter-street, ar yr hwn yr oedd canwyll oleu. iedig, ac y cymerodd y mam afael yn ei gwisg, a llosg- wyd ei chefn yn dost. Bu er hyny tan law meddyg, a dydd Llun bu farw. DYFODIAD AKARFEROL 0 LONGAU.—Wythnos i'r Sabboth diweddaf daeth i'r porthladd hwn bedair-ar- ddeg a deugain o longau o wledydd tramor, bron i gyd yn llestri mawr; a thranoeth tua deg.ar-ugain ychwaneg. Ac yn yr un amser daeth i mewn'gant a deg a thriugain o lestri o wahanol barthau yr ynys hon ac Iwerddon, yn gwneyd yn nghyd 254 mewn deuddydd CENADAETH DRAMOR YREGLWYS RYDD.— Nos Iau, Mai 4, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn eg- lwys Bresbyteraidd Myrtle-street, i wrando ar genadon anfonedig o Scotland yn gosod ger bron ac yn dadleu achos y genadaeth dramor perthynol i'r Eglwys Rydd, Yr oedd yr addoldy eang yn orlawn. Y cenadon oedd- ynt Dr. Begg, Dr. Hetherington, a Dr. Candlish, y rhai a draddodasant areithiau goleu a thra difritol, a gafaelgar iawn yn nghydwybod pob dyn a'i gwrandaw- ent. Rhoddwyd hanes dechreuad yr ymdrechion cen- adol ya eglwys Scotland a dywedid yr ystyrid mil o bunnau yn y flwyddyn yn gasgliad da ugain mlynedd yn ol; ond fod y casgliad yn ugain mil y flwyddyn cyn yr ymrwygiad; a'r flwyddyn ddiweddaf yr oedd wedi cyrhaedd pump a thriugain o filoedd o bunnau, yn yr Eglwys Rydd yn unig. Yr oedd y cenadon yn y gwled- ydd tramor oil wedi ymuno a'r eglwys hono ac 0 her- wydd bynpyr oedd yr eglwys wladol yn cymeryd oddi- arnynt eu tai, eu hysgoldai, a'u haddoldai; ac amcan yr ymdrech presenol yw codi ugain mil o bunnau, i ad- eiladu rhai newydd yn eu lie. AGER-L YNGES. Y mae yn debygol na allesid gweled y fath olygfa o ager-longau mewn un porthladd yn y byd ag a welsid yn y Coburg Dock bythefnos i heddyw, o'r hyn lleiaf mewn can lleied o le. Yr oedd yn un clwstwr gyda'u gilydd saith o agen-lestri, yn cario dros un mil ar ddeg o dunnelli, ac yn bum' mil o ceffyl- nerth (horse-pewer) sef, Tunnelli. Ceffyl-nerth. Great Britain. 3500 1200 Niagara. 1700 800 Hibernia. 1400 1 600 Caledonia 1200 450 Hibernia. 680 370 Alphonso (frigate). 600 300 United States. 2000 1000 Cyfanswm 11080 4720 Adeiladwyd y chwech gyntaf yn y wlad hon, a'r olaf yn New York. CYMANFA Y BEDYDDWYR.—Cynnaliwyd y gy- manfa hon eleni ar yr 21ain a'r 23ain o Ebrill. Dech* reuid y nos Iau flaenorol, (20fed,) yn y tri addoldy, Y gweinidogion a weiniasant ar yr achlysur oeddynt y Peirch. E. Evans, Cefnmawr; W. Morgan, Caergybi J. Pritchard, Llangollen H. Williams, Amlwch J. Roberts, Llangefni; O. Owens, Llanrwst; J. Robin. son, Rhydwyn a B. Williams, Merthyr. Cawsom gyfarfod da; a cbafodd y gweinidogion gymaint p rwyddineb ag arferol i bregethu efengyl Mab Duw. Ymddangosai y gwrandawyr yn siriol a gwrandawgar ac yr oedd y cynnulleidfaoedd, ar y cyfan, yn lluosocs- ach nag yr arferent fod.-Golebydd. HUNAN-LADDIAD.-Tua chanol dydd, wythnos i'r Llun diweddaf, cafwyd dyn o'r enw Henry Rimmer, saer troliau, vr hwn oedd yn byw gyda'i fab, yn Ray- street, wedi ymgrogi yn y Uofft. Galwyd meddyg yn ddioed, ond yr oedd yr enaid wedi myned i wyddfod Duw, ei farnwr. Ni ellid gwybod pa beth ydoedd yr achos o gyflawniad y weithred ryfygus. I IWERDDON. H H'. Y mae Mr. Mitchell, un o'r tertysgwyr Gwyddelig ag oedd i gael ei brofi gyda Mr. S. O'Brien a Mr. Meagher, wedi ei gymeryd i fynu am ysgrifati brad- wrusa gyhoeddodd yn y newyddiadnron, ar ol i'r llywodraeth ddechreu yr erlyniad yn ei erbyn ef a'r ddau arall. Traddodid ef i garchar Newgate i aros ei brawf, yr hwn a ddysgwylir a ddaw yn mlaen ar yr 20fed o'r mis hwn; ac os ceir ef yn euog, odid nad aIltudiaeth am ei oes fydd y gosp. Deuai prawf O'Brien yn mlaen ar y 15fed, a dygir prawf Meagher yn mlaen yn union wedi hyny. Yr oedd Dublin yn gwbl dawel. Dywedir bod y llywodraeth yn pender- fynu erlyn amryw bersonau eto, o dan y cyhuddiad o derfysg. -=
[No title]
Yn y flwyddyn ddiweddaf gwasgarodd y Bibl Gym- deithas dros bedwar cant-ar-ddeg o filoedd o gopïau o'r ysgrythvrau. Y mae hyny yn hedwarcant o filoedd yn rhagor nag yn un flwvddyn o'r blaen er ei dechreuad, ond yn unig yn 1845. Y mae y swm a dderbyniodd yn fwy nag yn un flwyddyn erioed. Nid yw nemawr lai na chwe' ugain o filoedd o bunnau. Arwydda hyn yn dda er lies a rhinwedd y byd.
I IMWGWD NATUR.
I MWGWD NATUR. Pwy yw y forwyn hawddgar hon sydd yn dynesu, gwedi ei hamwisgo mewn mantell werdd oleu ? Y mae ganddi am ei phen goron-bleth o flodau, a blodau a dardd- ant i fynu lie bynag y sang ei tliroed. Yr eira a orchuddiai y meusydd, a'r rhew ag oedd yn yr afonydd, a ddadmerant pan anadla arnynt. Cryehneidiant yr vvyn bach o'i hair.- gylch, ac ymbynciant yr adar yn eu gyddfau bychain i hawddamori ei dyfodiad a phan y'i gwelant, dechreuant ddewis eu cymaroedd ac adeiladu en nythod. Lanciau a merched, a welsoch chwi y forwyn hawddgar hon ? Os ,do, mynegweh im' pwy yw, a pha beth yw ei lienw. Pwy yw hon sydd yn dyfod o'r deau, gwedi ei theneu- ddilladu mewn gwisg oleu dryloew? Ei hanadl sydd dwymn a brw d ymchwilia am adloniant v cysgodie oer argeisia y ffrydiau gloewon, a'r aberoedd grisialaidd, i ym- drochi ei haelodau nychlyd. Yr aberoedd a'r neint a ffoant rhagddi, ac ymsychant ar ei dyfodiad. Hi oera ei gwefusau eraslyd ag aeron, ae a surni dymunawl pob ffrwythvdd—y pompiwn hadaidd, yr afal blasus. a mwvd- icnyn coch y ceiriosen îraidd-y rhai a fwrir yn helaethlawn o'i hamgylch. Y gwair-gyweiriwr heul-losgog, a'r ddafad- gneifiwr, yr hwn a docia y cnit oddiar ei ddiadell gyda gwellaif soniarus, a hawddamorant ei dyfodiad. Pan ddel, gadawer i mi orwedd o dan dew-gysgod ffawydden ym- ledaenawg; gadawer i mi ymrodio gyda hi ar y wawrddydd cynar, tra y gwlith eto ar y glaswellt; gadawer i mi ym- grwydro gyda hi yn y cyfnos tawel, pan gaua y bngail ei orlan, ac yr ymddengys seren yr hwyr. Pwy yw hon sydd yn dyfod o'r dean ? Lanciau a merched, mynegwch im', os gwyddoch, pwy yw, a pha beth yw ei henw. Pwy yw hwn sydd yn dynesu gyda chamrau sobr, gan ddyfod arnom yn lledradaidd a diarwybod? Ei wisg sydd goch gan waed y grawnwin, a'i arleisiau ydynt wedi eu rhwymo gydag ysgub o wenith aeddfed. Ei wallt sydd deneu, ac yn dechreu syrthio, ac y mae'r gwineu wedi ei gymysgu a llwyd-wyn trist. Ysgydwa y cnau gwineu oddiar y goeden chwyth y corn, a geilw yr helwyr at eu difyrwch. Seinia y dryll. Y betrisen grynedig, a'r ceiliog coed prydferth, a ehedant, dan waedu, yn yr awyr, a syrthiant yn farw wrth draed yr adarwr. Pwy yw ef sydd wedi ei goroni a'r ysgub wenith ? Lanciau a merched, mynegweh im', os gwyddoch, pwy yw, a pha beth yw ei enw. Pwy yw hwn sydd yn dyfod o'r gogledd, gwedi yinwisgo mewn ffwrw a gwlan cynhes? Amblyga ei fantell yn dyn o'i amgylch. Ei ben sydd foel; ei farf svdd wedi ei wneyd o gl ych-ia llymdost. Ef a gar y tan fflamiol uchel- dyredig ar yr aelwyd, a'r gwin gwreichionllyd yn yr l'olwrch. Rhwyma lithr-wadnau wrth ei draed, a chwim- lithra dros y Ilynau rhewedig. Ei anadl sydd dostlym ac oer, ac ni faidd yr un blodeuvn bach gip-edrych uwch ar- wyneb y llawr pan y byddo ef yn wyddfodol: a pha beth bynag yr ymgyffyrdda, ef a droir i rew. Ond iddo eich ddylofi a'i law oer, byddech gwbl annhyblyg a marw- tebyg i ddarn o farmor. Lanciau a merched, a welwch chwi ef? Y mae yn brysur ddyfod arnom, ac yn fuan efe a fydd yma. Mynegweh im', os gwyddoeh, pw* y yw, a pha beth yw ei enw.-CvF. MOESEN.
[No title]
UN O'R OLYNWYR.—Y mae plwyf Rawmarsh ger Sheffield, wedi cael ei daflu yn ddiweddar i gyifro mawr. Yn Tachwedd diweddaf, meddyliodd y Parch W. R. Mahon, periglor y plwyf, fyned trosodd am rai misodd i'r Iwerddon, a dechreuodd feddwl am rywun cymhwys i lanw ei bwlpud yn ei absenoldeb. Trwy hysbysiad yn cynnyg ei wasanaeth yn yr Ecclesiastical Gazette, dygwyd ef i ohebiaeth a gwryn galw ei hun Yr anrhydeddus a'r Parchedig B. C. D. F. Fairfax," a daethant i gytundeb heb weled eu gilydd. Aeth Mr. Mahon i'r Iwerddon, a daeth Mr. Fairfax i Rawmarsh. Gwr ieuanc ydoedd, o gylch pump-ar-hugain oed, a thybiai y merchetos am dano ei fod yn lied hardd. Dywedai wrth y plwyfolion ei fod o deulu urddasol, ei fod yn un o gedyrn y ddaear, a'i fod o werth ugain mil y flwyddyn o'i eiddo ei hun. Yr oedd yn hynod o hael ar ei ddyfodiad, gwleddai blant yr ysgolion a gwinodd, &c., galwai fel bugail gofalus ar yr holl ddefaid, ac yr oedd yn hynod o ofalus am y defaid nad oeddynt yn perthyn i'w gorJan ef. Os byddai arnynt eisiau rhyw ddilledyn ar y pen, y traed, neu y cefn, yr oedd i'w gael yn union trwy haelfrydedd diderfyn ei barchedigaeth. Wedi i'w barchedigaeth fod fel hyn am fis yn ei le newydd, gwelodd fod gan y masnachwyr ymddiried diderfyn ynddo, a gwnaeth yntau ddefnydd o hyny. Cafodd ddillad newydd tlysion—go lwyd-ddu oedd y rhai a guddient ei gefn apostolaidd pan y daeth yno gyntaf. Chwanegodd hefyd at nifer ei deulu. Daeth bach. genyn ieuanc yno o rywle, na wyddai neb yn y byd pwy ydoedd ac yn luan wedi'n, daeth ato un arall, mewn dillad mab, ond tybid- yn gryf mai merch ydoedd. Er fod yr Anrhydeddus a'r Parchedig Mr irf. yn wr mawr iawn, ymddangosai mai go bnmon oedd llwch gwael y ddaear ganddo, a bod y pur ychydig y talai am dano, yn cael eu talu mewn darnau grot, y rhai a dderbyniai pob pythefnos fel taliadau tlodion at glwh dillad. Derbyniai oddiwrth hwn o gylch saith bunt y pythefnos. Fel yr oedd amser yn myned rhagddo, yr oedd y masnachwyr yn dechreu dytod i wasgu ar yr anrhydeddus a'r parchedig" i dalu ei ddyledion iddynt. Dychwelodd y periglor adref o r Iwerddon, a chymerodd y Parchedig a'r Anrhydeddus Mr. Fairfax," y goes yn mhen deuddydd neu dri wediln, gan gymeryd gydag ef sypynau anferth o eiddo wedi eu cael ar goel oddiwrth fasnachwyr yn Sheffield, Rotheram, &c. Gwnaed yno ddau gasgliad yn yr eglwys yn ystod gweinidogaeth yr "Anrhyd. eddus a'r Parchedig Mr. Fairfax," un er cynhorthwyo tiodion yr Iwerddon, a'r llall i'r Gymdeithas er Taenu yr Efengyl. Ond penderfynodd yr "Anrhyd- eddus a'r Parchedig Mr. Fairfax" ei fod ef mor dlawd a neb yn yr Iwerddon, a'i fod ef yn taenu yr efengyl gystal a'r gymdeithas, ac felly cvmhwysodd swm y casgliadau at ei augenrheidiau apostolaidd ei hun. Ymddengys hefyd fod swm o ugain i ddeg punt-ar- hugain o arian y clwb dillad wedi mvned at wasanaeth yr u Anrhydeddus a'r Parchedig Mr. Fairfax." Fel hyn terfynodd y llith i blwyfolion Rawmarsh. TRIODD I DEITHWYR.—Tri phleser o deithio yn Nghymru-merlen gref, cwmpeini siriol, a digon o arian. I ri pheth ag y mae pob teithiwr yn Nghymru yn sicr o gymeryd ymaith gydag ef-esgidiau wedi eu gwisgo allan, het sal erchyll, a choffadwriaeth hyfryd o r wlad. Tri pheth heb y rhai ni all neb fwynhau ymdaith yn Nghymru-iechyd da, ysprydoedd da, a thymher dda. Tri pheth ffieiddiaf yn Nghymru- llaeth-ymenyn, cwrw da, a bacwn ag wyau. Tr; pheth na ddylai teithiwr ei wneuthur—teithio yn y tywyllwch, aros yn y ty oblegyd ei bod yn wlawog, a cheisio cadw ei draed yn sych. Tri chymhwysder i iawn acenu yr iaith Gymraeg, anwyd yn v pen, cwlwm ar y tatod, a chibyn heidden yn y gwddf Y tair iaith y gall dyn ei siarad yn Nghymru heb ddeali Cymraeg-y Chineaidd5 Cherokeaidd, a Hougnghms. Tair iaith a garia dyn trwy Gymru heb fedru Cym- raeg-iaith y breichiau, iaith y llygaid, ac iaith v Hogelw—Blachwooa s Magazine• Bu cyiarfbd o ofynwyr diweddar Brenin Ffrainc, i gyd-ystyried beth a wnacnt er cael eu dyledion i law. Dywed un o newyddiaduron Amerig am areithiwr fel y canlyn "Siaradodd am awr a hanner, a phariiodd yn ei synwyr hyd y tynyd olaf." Gwerthwyd y cyflwyniad nesaf i berigloriaeth plwyf VVilmslow yn arwerthfa Llundain am bedair mil o ginis. Y mae y fywoliaeth yn werth o gylch deuddeg cam yn y flwyddyn.