Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y DIWEDDAR GWERYDD WYLLT,…

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR GWERYDD WYLLT, BETHESDA Drwg gennym gofnodi marwolaeth Mr. E. W. Jones (Gwerydd Wyllt), Bethesda, yr hyn a gymerodd le Mai 13, ac yntau yn 82 oed. Daearwyd y rhan farwol ohono y dydd Sadwrn dilynol, pryd y gweinyddwyd gan ei hen gyfaill y Parch. W. R. Saun- ders, Bangor. Gadawodd ar ol amryw blant y rhai sydd yn teimlo hiraeth ar ei ol, Parch i'w goffadwriaeth, a nuvwrygiad o'r esiampl. Meibion iddo ydyw'r Parchn. D. Jones, M.A., Oxford, a J. A. Jones, Mer- thyr; a Mr. E. Carey Jones, Bethesda. Y„r oedd ein diweddar frawd yn ddyn o ddi- wylliant helaeth, ac o gryn allu, a chyr- haeddodd radd dda fel bardd a lienor. Ysgrifennodd gryn lawer i'r Greal fiynyddau yn ol, yn rhyddiaith a barddoniaeth. Uwch- law hynny yr oedd yn Fedyddiwr eiddgar, ac yn Gristion gloyw, a theimlir chwithdod mawr ar ei ol gan gylch eang, Yng nghanol prysurdeb gyda'i fasnach mynnai hamdden i ddiwyllio ei feddwl, ac i wasanaethu yr achos goreu. achos goreu. H. C. W. [Estynnwn ninnau ein cydymdeimlad lawfu â'r teulu. Y mae gennym barch i gofla- dwriaeth Gwerydd Wyllt. Bu'n gyfaill, ac nid ar air yn unig, i lawer myfyriwr tlawd. -GOL. ]

MARWOLAETH A C" LAD,DEDIGAETH…

MRjS. HOPKINS, GADLYS I

EDWARD WILLIAMS, TRYDDYN,…

Advertising