Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN DEFOSIWN.

News
Cite
Share

COLOFN DEFOSIWN. AR Y FFORDD. Gan Bererin. <! Eithr rhoddwch eich hunain i Dduw." Nid gorchymyn i bechaduriaid yw yr uchod, ond i saint. Dyledswydd gyntaf y pechadur ydyw derbyn Iesu Grist. Nid oes iddo ddim i'w roddi hyd lies y bydd wedi derbyn. Y mae popeth roddir 1 Dduw cyn derbyn Crist yn annerbyniol. Gwelir mwy o barodrwydd i roiddi nag i dderbyn weith- iau. Ceir idynion caredig yn barod a'u cynorthwy i'r achos, ond yn hollol amharod i dderbyn lesu Grist. Y mae gwerth ys- brydol pob rhodd yn dibynnu ar gyflwr y rhoddwr. Gall rhodd fod yn werthfawr i'r dierbynydd ac yn ddiwerth i'r rhoddwr. Nis gwn ai teg ynom yw derbyn rhoddion sydd heb fod o werth i'r rhoddwr hefyd. Fel damcaniaeth efallai y gellir dadleu fod y dyn sydd yn derbyn Iesu Grist yrun adeg yn rhoddi lei hunan i fyny i Dduw. Diau fod hynny yn gy wir. Y mae derbyn- iad cyflawn o Grist yn cynn wys ymgyfl wyn iad eyfla-wn iddo. Ond y mae'n profiad yn dywedyd wrthyjn yn fynych, er fod yr ew- yllys iweidi ei rhoddi i fYiny, nad yw'r Ar- glwydd wedi cael meddiant llwyr o honom. Nid yw Crist yn ein derbyn am ein bod yn lan, ond er mwyn ein gwneuthur felly. Efe a'n piau or eiliaid y derbynnir Ef, ond y mrue ein gwierth iddo yn dibynnu ar ei lywodraeth arnom. Y tir berchennog biau'r tir o'r foment y caiff y gweithredoedd i'w ddwy law, ond gall rhan helaeth ohono fod yn ddifudd iddo am flynyddoedd hyd nes y'i gwrteithir. Felly hefyd y dyn ysbrydol: y mae yn eiddjo lesu Grist o'r adeg y gwna trwy ffydd ac edifeirwch, dderbyniad ohono. Y mae yna gyfeiriaid at rywbeth ychwanegol yn y geiriau uchod. D:aw dyn sydd wedi derbyn y Gwanedwr i deimlo fod yn rhaid iddo ei anrhydieddu trwy osod ei hunan yn llwyr o idan ei lywodraeth. Dyma'r weith- red fwyaf chwyldroadol yn ei hanes. Pan esyd ei hun ym meddiant Crist y mae yn colli pob meddiant yndd'o ei hunan. Y mae yn hawddach canu Fy lesu ti a'm piau," nag ymddwyn felly. Hon yw'r weithred sydd yn cael lei phortreadu yn y bedydd. Y gwahaniaeth mawr rhw'ng y ddwy or- dinhad yw fod y Swpper yn dangos yr hyn wnaeth Crist i ni, a'r bedydd ein cyflwyniad ni iddo ef. Pobl wedi eu hachub ddylid eu bedyddio. Arwydd allanol o ras mewnol ydyw. Nid anfantais fyddai gosod pwys- lais ychwanegol y dyddiau hyn ar arwydd- ocaid ysbrydol bedydd. Y mae yn hollol anghjyson i ddyn a fedyddiwyd fyw iddo ei hun. Y mae bedyddio i Grist yn golygu perchenogaeth gan Grist. Golyga hefyd berchenogaeth gyfan, hynny yw, meddiant o bob rhan o'r dyn fel y mae" -yn gorff, enaid, ac ysbryd. Y person cyflwynedig i Did,uw ddefnyddir gan Dduw. Y mae dyn yn ei fan cryfajf pan y iiiae yn gwbl yn lla w Diuw. Amiod nerth yw ymgysegriad. Y mjae hanes am un Samuel Pearce o Bir- mingham, er pwysleisio ei ymgysegriad i Dduw, a dorrodld wythien o'i fraich ac a drochodd ei ysgrifbin yn ei waed er arwyddo y cyfamiod. Nid oes angen am hyn. Ni ddywedwn air er hynny yn erbyn unrhyw gynllun sydd yn gynorthwyol i'w wneuthur yn llwyr. Y lruae llawer i'w cael sydd yn dyddio eu nerth a'u llwyddiant o'r dydd y gwnaetliant hyn er iddo gael ei wneuthur ganddynt ymhen hlynydldoedcl ar ol eu bed- ydd. Os bu diffyg yn ein cyflwyniad cyntaf yn y bedydd, nid oes dim yn anghyson mewii gwneuthjir hyny eilwaith. Nid oes angen bed- yddio eilwaith gan nad yn y bedydd y mae y diffyg ond yn ein hymiatebiad ni i'w ofynion. Ymgais yr efengyl yw cael dynion yn eiddo D juwi, nid cael eu heiddo ond eu cael hwy. Nid eu cael i'r eghvys ychw-aitli ond eu cael yn eiddo DiUw. Er mwyn hyn y mae Crist wedi sancteiddio lei hun. Bydd buddugoliaeth Crist yn gyfljawn pan roddo ei hun ar allor ei wasanaeth. Rhoddwch eich corff yn aberth byw, sanctaidd a chymeradwy. ebai yr Apostol Paul. Oruel y corff fel y mae yn gyfaasoddedig o wahanol aelodau yn ogystal a'r meddwl wedi eu darostwng i Grist yw neges yr efengyl. Nid' yw'r tafod sydd yn eidiclo Crist yn traethu brad, na'r llygaid yn edrych ar yr amhur, na'r glust yn gwrando'r annheilwng. Nid yw'r llais ychwaith yn cael ei ddetnyddio mwy i ganu maswedd, na'r bysedid yr offerynydd yn cael eu defnyddio i ddiddori annuwiolion. Y moo y cyfan erbyn hyn yn sanctaidd i'r Arglwydd. Bydded yr emyn Saesneg yn brofiad i bawO)1 o honom: Take my life, and let it be Consecrated Lord, to Thee: Take my moments and my days, Let them flow in ceaseless praise. Take my hands and let them move At the impulse of thy love; Take my feet and let them be Swift and beautiful for Thee. Take my voice and let me sing Always, only for my King; Take my lips and let them be Filled with messages from Thee."

Y LLAWLYFR MOLIANT NEWYDD.

CYMDEITHAS Y ZENANA.

BEDYDD DIDDOROL YN FFLINT.