Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Pulpud y Seren,

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Pulpud y Seren, VI. GAN PEDIR HIR. loan vi. 53-57. Parharl o'r Rhifyn diweddaf.) 2. Rhaid prysuro bellach at y gwirionedd arall, set, Credu yng Nghrist yn amod bywyd tragwyddol. (1). Y mae'r amod hwn yn hanfodol. Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac oni yfwch ei waed Ef, nid oes gennych fywyd) ynoch. I'r Iddewon oedd yn gwrando yr oedd y geiriau hyn yn darawiadol iawn o herwydd y pwysigrwydd a osodid ar fwyta'r Pasg ar ei fwyta. Yr oedd bwyta'r Pasg yn air cyffredin ganddynt. Afferent ddweyd "gwnellthur Pasg," paratol Pasg,' 'rhostio Pasg,' Iladcl Pasg,' abertli Li Pasg ond ofer lei ladd a'i baratoi heb ei fwyta. Dywedent cadw Pasg,' cynnal Pasg,' end ni ellid ei gynnal na'i gadw heb ei fwyta. Bwyta oedd y prif air. "Pa le y mynni i ni baratoi i ti i fwyta y Pasg." (Matt. 26. 17). "Mi a chwenychais yn fawr fwyta y Pasg hwn cyn dioddef ohonof." (Luc 22. 15). "Ac nid aethant hwy i mewn i"r dadleudy rhag eu halogi, eithr fel y gallent fwyta y Pasg" (loan 18. 28). Yr oedd yn y gyfraith hithau gyfarwyddiad- au manwl ynghylch bwyta'r Pasg:-—pwy oedd i'w fwyta, a pha bryd a pha fodd a bod yn rhaid ei fwyta'n llwyr. Pan Iefar- ai'r lesu yn y synagog am fwyta cnawd ac yfed gwaed Mab y dyn y ddefod o fwyta'r Pasg oedd yn llenwi meddwl y byd cref- yddol Iddewig, a phererinion ar eu ffordd i f w-yta'r Pasg oedd yn gwrando arno a gwy- ddent oil yn dda nad oedd lladd yr oen yn ddigon, 'ond bod ei fwyta'n hanfodol i'r ddefod. Teimlent hefyd y mynnai'r Iesu osod pwysigrwydd ar y bwyta y soniai yntau am dano, a hwnnw'n bwysigrwydd' anrhaethol fawr; yn gymaint ag y cyhoe- ddai Ef y bwyta hwnnw'n hanfodol i fyw- yd tragwyddol. Oni fwytewch gnawd Mab y dyn ac oni yfwch ei waed Ef nid oes gennych fywyd ynoch." Sylwn hefyd ar y difrifoldeb a'r hwn y gwnaeth yr Iesu'r datganiad pwysig. I ddechreu dyweyd "Yn wir, yn wir," ac wedi'r geiriau cryfion yna, galwodd sylw'r bobl at y ffaith ei fod Ef yn dweyd ac yn dweyd wrthynt hwy-" meddaf i chwi," ac yna aeth ymlaen, Oni fwytewch gnawd a-by y dyn ac oni yfwch ei w&ed Ef," ac yna yn lie dweyd beth a fyddai'r canlyniad fel y disgwyliasid, awgrymu'r canlyniad of- nadwy a wnaeth trwy gyf,eirio at gyflwr anianol ei wrandawyr, Nid oes gennych fywyd ynoch eich hunain." Rhaid, gan hynny, oedd oeisio bywyd mewn un arall a chyhoedda'r Iesu mai Efe ei hun oedd yr Un arall hwinnw. Cypanau gweigioll: rhaid wrth Un arall eu llenwi a dyfroedd bywyd. Cydwybodau euog!-rhaid wrth Un arall i lefaru tangnefedd. Personau af- Ian! -rhaid wrth waed Un arall i olchi'n hyfryd wyn. Enwau o waradwydd! -rhaid wrth Ysbryd Un arall er newid o ogoniant i ogoniant. Llef Mab Duw sy'n codi'rmeirw. Nid oes gennych fywyd ynoch eich hunain. (2). Y mae bywyd tragwyddol yn ei holl gyflawnder yn isier ar yr amod o undeb ffydd a Mab Duw. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawtd i, sac yn yfed fy, ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol; ac myfi a'i bad- gyfodaf ef yn y dydid, diweddaf. (Adn. 54). "'Sydd ganddo' fywyd tragywyddol nid, a fydd ganddo, ond sydd gandd'o. Sydd ganddo "fywyd tragywyddol "-nid add- ewid, nid gobaith, nid ernes, nid gwystl, nid sicrwydd o'r bywyd, ond y bywyd trag- wyddol ei hun. Rhyfeddol yw hyn. Er ei dloted, er ei ised', er ei waeled, er ei saled yw'r credadyn y mae'r bywyd tragwyddol yn eiddo iddo'n awr. Rhyfeddol yw hyn, ond clyweh y digelwyddog Dduw, er a thafod o bridd, yn ei ddweyd Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragywyddol." (Adn. 47.) Ychwanega'r Iesu,-—" ac myfi (myfi bwys- leisid) a'i hadgyfodaf ef yn y dydd di- weddaf." Clywai ef o'r synagog yng Nghap ernaum ddeunaw can mlynedd a hanner yn ol rywun yn y gynulleidfa hon yn sibrwd -—Ond beth, Iesu mawr, am y miloedd a gredodd ar hyd yr oesoedd meithion, ac a fuant feirw? Cyn sibrwd o neb ei amheu- aeth etyb yr lesu, Myfi a'i hadgyfodaf ef yn y fdydd diweddaf. Ymgymer yr lesu a chyflawni holl fwria-dau gogoneddus y Tad. "A hyn yw ewyllys y Tad a'm hanfonodd I.; o'r cwbl a rodides Efe i mi na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yin y dydd diweddaf (adn. 39). A dyma'r lesu yn ymwybodol o'i dragwyddol. allu yn cyhoeddi ei fwriwdgràJsol ac yn sicrhau y cyflawnild y cwbl yn llwyr,-ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf. Dyma addewid fendigedig a gyflawnir yn ogoneddus. Gawn gyrff ysbrydol wedi eu cyfodi'n anllygredig, mewn gogoniantac mewn nerth-mewn nerth i chware'n hoew a byth heb flino yng ngwasanaeth Duw yn y pur ogoniant maith. Ond nid y eorff a ddywedir, ond, myfi a'i hadgyfodaf 'ef.' Cynnwys yr addewid fwy nag adgyfodiad corff. Myfi a'i had- gyfodaf ef, nid y corff yn unig, ond yr holl ddyn. Fel y dywedir, :nid bod corff hwn a hwn wedi niarNv,, and bod "y dyn" wedi marw; felly y dywed yr lesu a myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf. Y mae meddyliau dwyfol wedi eu photograffio yng ngeiriau a brawddegau iaith, ac y mae pob iaith yn dweyd bod y dyn yn marw-y dyn i gyd mewn rhyw yistyr tywyll i ni yn marw. Ac y mae'r Iesu'n addo ei adgyf- odi ef—-y dyn a gredo. Beth bynnag yw'r niwloedd tewion lle'r ymgudd Brenin y dychryniadau y mae'r cwbl yn oleuni claer o amgylch yr Hiwn a fu farw ac sydd fyw. Beth bynnag yw marwolaeth, 'beth bynnag yw'r ysgariad, beth bynnag yw'r difrod a wneir yn y glyn, pa gyfnewidiad bynnag sy'n mynd tros y corff, a pha gyf- newidiad bynnag sy'n mynd tros yr ysbryd y mae'r dyn oil i gael ei adfer, ymgymer yr Iesu a dwyn holl bersonoliaeth y credad- yn i fyny. Ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf. Y mae bywyd tragwyddol yn ei holl gyflawnder yn sicr ar yr amod o gred u yng Nghrist. (3). Y mae credu yng Nghrist yn amod sicr bywyd tragwyddol am fod' yng Nghrist addasrwydd i gynnal y credadyn "fel na byddo marw yn dragywydd." Canys fy nghnawid i sydd fwyd yn wir"-h.y., sydd yn wir fwyd-—" a'm gwaed i sydd ddiod yn wir," h.y., yn wir ddiod. (Adn. 55). Nid oes dim bwyd ond y bara a ddaeth i waered o'r nef yn cynnal i fywyd tragwy- ddol. Bwyd rhagorol oedd y manna a roddes Moses i'r tadau yn yr anialwch ac ymffrostiai'r Iddewon oedd yn y synagog yn y bara hwnnw. Eithr atebodd yr lesu, Eich tadau a fwytasant y manna yn yr anialwch-—ac a fuant feirw" (adn. 49). Methocld gan y manna eu cadw'n fyw. Er codi'n foreu i'w geisio, er ei geisio a'i gael a'i fwyta, "a fuant feirw" oedd di- wedd y rhai a'i bwytaodd. Ac ni chaed erioedun math arall o fauna a allai gadw'n fyw. Er cael aur ac arian a thiroedld, digonedd o bleser a mwynder ac esmwyth- yd a phob dididanwteh, er dorbyil anrliydedd a gogoniant penna'r byd; a fuant feirw oedd diwedd pawb a'u cafodd. Er cael gwybodaethau lawer, or cael hufen doethin- eb yr oesoedd ynghyda phob diwylliant corff a meddwl, er pob rhyw fanna a gafodd dynion erioed, a fuant feirw fu diwedd eu hanes. Ond fy nghnawd i sydd wir fwyd a'm gwaed i sydd wir ddiod: y mae yn lesu Grist a hwnnw wedi ei groeshoeHo addaster i fod yn War-edwy dyn. Caed trefn i faddeu pechod, yn yr lawn, Mae iachawdwriaeth barod, yn yr lawn, Mae'r ddeddf o dan ei choron, Cyfiawnder yn dweyd digon, A'r Tad yn gweiddi boddlon, yn yr lawn; A diolch byth medd Seion, am yr lawn. (4). Y mae undeb cyfriniol Crist a chred- adyn yn sicrhau bywyd tragwyddol. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau." (Adn. 56). Y mae credu yng No-hrist gan dderbyn o rinwedd- au'r lawn, yn dwyn .y credadyn i undeb mwy nac undeb agos, i undeb byw a Mab Driw; ac er na iddeall y credadyn mo ddir- gelwch yr' unjdeb eto ymglyw trwy ei holl natur a grym yr unideb cyfrin hwn. Y mae rhyw gyffelyb undeb rliwng dyn- ion a'u gilydd ar y ddaear, yr hwn a ddygir i fed trwy ddylanwad meddwl ar feddwl, ysbryd ar yisbryd. Trwy eiriau a gweithredoedd, trwy berswad ac esiampl, ymddiddanion ac ymddygiadau dylanwlada idy ni* on ar eu gilydd a idont i undeb syn- iad, oalon ac ysbryd. Y mae pob gwr a gwrag teilwng o'r enw yn gwybod am yr undeb hwn acyn byw i raddau anhygoel y naill er mwyn y llall. Dylanwada Crist yntau'n gyffelyb i enill y credadyn yn eiddo. iddo Ef ei ihun, a rhydlcl yntau ei hun yr un pryd yn eiddo i'r credadyn. Caiff y credadyn wrthrych ei hyfrydwch yng Nghrist a Christ yntau wrthrych ei hyfrydwch yn y credadyn. Caiff calon y credadyn wrth- rych ei ehariad yng- Nghrist, a Christ yntau wrthrych cariad ei galon yn y cred- adyn. Cyrhaedda bodolaeth y credadyn ei ham can yng Nghrist, a bodolaeth Cyfryng- dod Crist ei ham can yn y credadyn. Y mae'r iindeb cyfrin y dywed Cristam dano yn y testyn yn gyfryw ag nad ollir ei ddisgrifio oherwydd nad ellir ei ddirnad. Y credadyn "yn aros ynof fi aminnau ynddo yntau. Nid cyffyrddiad na chys- ylltiad yw, ond undeb llwyr a hollol: pwy a'i deall? Nid calon wrth galon, ond calon yng nghalon, a mwy na hynny. Fel dau wlithyn a fo ar yr un ddalen gan gyffro awel fwyn yn lhthro'r naill i'r llall ac yn mynd yn un, felly trwy gyffroad yr Ysbryd Glan yr aiff ysbryd y credadyn yn ag ysbryd yr Arglwydd Iesu Grist. Ynun yn wir, ond heb ymgolli yn eu gilydd fely gwlith, ond cadw bob un ei hunaniaoth ber- sonol. Undeb ysbrydol yw. Dyma wybod- aeth ry ryfedd i mi, uchel yw ac ni fedraf oddiwrthi. 0, am fod yn brofiaJdol ymwyb- odol ohoni. Undeb cyfrin yw hwn a'i Fab Ef Iesu Grist. A phan ystyriom mai "Hwn ywy gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol nid oes le i betrusdod bod y neh sy'n brofiadol o'r undeb yn meddu ar y bywyd tragwyddol. (5). Sicrwydd arall neu olwg arall ar yr un sicrwydd, bod bywyd tragwyddol i'r credadyn yw Cyfryngdod Crist. Addas- ter y Gwaredwr yw prif bwynt y geiriau