Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

Advertising

Heddwch ! Heddwcfe ! !| -..…

News
Cite
Share

Heddwch Heddwcfe !| ■' ■ i in » I Gan y Parch. Dr. R. Gwylfa Roberts. Rhyddid tawel—dyna yw Hedd- wch" meddai Cicero gynt. Dyma ynte beth nad yw'r byd wedi ed fwyn- hau. ers blynyddocdd bellach. Mewn llyffetheiriau yr ydym wed; bvw. Cyfyngid arnom yma ac acw. Gwes- gid jai gan ryw ddeddf filwrol neu gil- ydd yn barhaus. Ni chamat-eid i ni nac ysgrifenu na siarad na phrynu na gwerth u na theithio na, gweithio fel y mynem. Dug y rhyfel ein Rhyddid oddi ar- nom. Eithr wele Heddwch, a daw hwn a'r hen ryddid yn oIl Cawn ei fwynhau mewn llonyddwch eto. Cawn fasnachu a goleuo ein tai, a mynd yn ol a blaen, a gohebu a gwledydd er- aill,-heb fod yr. un ddeddf orthrymus o dan yr enw DORA yn ein gwyhed. Gwyn ein byd! Ond er llonned a ddylem fod o achos hyn, rhaid peidio cam-ddefnyddio ein Rhyddid. Dyna. yw'r perygl nesaf—i'n Rhyddid dyfu yn wyllt, a throi yn benrhyddid hun- anol ac anystyriol. I werinoedd drrii yn fwy gorthrymus na brenhinoedd; ac i raib am elw, ac i uchelga^s fater- ol, ac i'r awch am feddianu'r pethau a fu gynt yn eiddo i'r goludog yn un- ig,-sef mwy o amser i segura, a phlesera, a mwy o adnoddau i brynu moethau a melusion—i'r pethau hyn wneyd brad y cyfnod newydd a throi yn fwy o felldith nac o fendith. Y mae cyfle mawr wedi dod i gyrraedd y deyrnas hon. Llwyddodd i weithio ei ffordd drwy erchylldra'r rhyfel heb derfysg oddi mewn iddi gwerth son am dano. Rhaid cadw yn unol eto, a meithrin natur dda a moesgarweh. Rhaid i bob dosparth ymegnio law yn llaw i ddiogelu'r dyfodol. Na throer yr Heddwch yn gyfle i ymrafoelio: ond i vmgadarnhau a dod allan yn wir fuddugoliaethus o'r anhawsterau v dug y rhyfel ni iddynt. Mae genym Gynhaeaf mawr i'w gasglu i mewn. Mae genym Arweinydd digymar, a hwnw'n Gymro. Mae genym Nef a Daear yn disgwyl am ein goreu.

Family Notices

[No title]

NOTES OF THE DAY »

HALFWAY SPORTS TO-MORROW.

I HIPPODROME.I

I ACCIDENT AT .THE STEEL WORKS.…

I I DEATH OF AN OLD INHABITANT.I

Advertising

Our Cosy Cinema.I ——0-——

IASTERISKS 0.-

 . ]  ' i irtAft ;i:iuum…