Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

32 articles on this Page

NODION AR BYNCIAU YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

NODION AR BYNCIAU YR WYTHNOS. (GAN AWSTIM.") I Bob yn dipyn, y mae dolenau eydiol y tytundeb newydd rh wng glowyr a plier- cheuogi-on gweithfeydd yn Neheudir Cymru yn dyfod yn fwy-fwy cyflawn a di- fwleh. Y mae y fargen a wuawd gan Mr. Lloyd George, Mr. Runcimun, a Mr. Walter Henderson wedi ei seilio a'i syl- weddoli erbyn hyn ar air a chydwyboa (chwedl y beirdd), ac er fod gorchwyl pwyoig o flaen swyddogion gweithfeydd a swyddogion y Cynghrair Mwnawl, yn mhob ardal, nid oes eisiau pryderu na ddaw trefnu y manylion lleoi i ben yn union ac yn ddidaro. Gwyr pawb sydd wedi dilyn yr helynt mai cymhoni y dull o gyfrif y cyfiogau, ac wedi hyny roddi i lawr yn eglur ac yn ddigaiusyniol beth ydyw isafbwynt cyflog rhai dosbarthiadau o weithwyr glofaol, ydoedd amcan dyfarniad y Llywodraeth. Gadawyd y gorchwyl o benderfynu y cod- iad hawliedig i'r Bwrdd Canolog, fel arfer, a chan nad oedd y Bwrdd Cymmodi-dyna ei enw swyddogol, hyd yn nod pan fyddo'r ddwy ochr yn ffraeo a'u gilydd fel cwn a moch-gan nad oedd y Bwrdd Cymmodi wedi ei iawn ffurtio hyd nes yr arwyddwyd y cytundeb newydd, dydd Gwener di- -weddaf, prin y gellid disgwyl i bwnc yr 4uriau ga-el ei droi drosodd i oial Arglwydd St. Aldwrn. Erbyn hyn y mae hyny wedi ei wneud yn ffurfcol ac yn swyddogol. Sylwch ar y geiriau olaf a ysgrifenais, os gwelwch yn dda-yn tfurfiol ac yn swyddogol. Er mwyn ceisio rhwyddhau y ffordd i derfynu yr annealltwriaetiiau, yr oedd cynrychiolwyr y gweithwyr wedi cynyg, dro yn ol, am ymgoin gyfeillgar gyda chynrychiolwyr y perchenogion glo, ar gwestiwn y gyflog ddyledns i bob gweithiwr dan yr amgylchiadau presenol ac o dan reolau y cytundeb newydd, oedd y pryd hwnw yn anorphenedig. Yn foesgar a boneddigaidd, cytunodd y perchenogion i gyfarfod a chynrychiolwyr y glowyr, i siarad y mater drosodd yn an-1 ffurfiol ac answyddogol. Ac wedi siarad yn anffurfiol ac answyddogol am awr neu ddwy, cyhoeddodd y cadeirydd, yn an- fiurfiol ac answyddogol, na welai y meistri eu ffordd yn glir i ganiatau yr hyn ofynai y gWeQthwyr. I Wedi i'r cytundeb newydd gael ei terwyddo, rhodd y blitid weithfaoleu hawl i mewn am y oodiad. Cawsant daflen gan y perchenogion yn dangos prisoedd y gio yn y farehnad, ac ar sail hono a phethau tereill, gofynodd y gweithwyr am godiadi uniongyrcbol o 12V y cant-haner coron yi ibUflt ar y gyflog newydd fel y saif yn awr. Gwrthodwyd y cais yn awr, fel o'r Jjlaen, ond rhaid cofio fod y cais, yr ysiyr- taeth a'r gwrthodiad yn awr yn ffurtiol He yn swyddogol. I>yna'r gwahaniaeth. Fel abwydyn bach i ddal pvsgodyn tnawr, cynygiodd y cylalaiwyr, yn y diwedd, bump y cant o godiad, ond Diin busnes heddyw yn wir, Mrs. Jones," ys dywedai y farchnatwraig yn Llandilo, a gwrthododd cynrychiolwyr y gweithwyr y evnygiad yn ffurfiol ac yn .swyddogol—a rhaid i'r ddadl ddyfod o flaen Arglwydd St. Aldwyn, os yr arglwydd a'i myn." Nid yw pawb yn gwybod fod Arglwydd St. Aldwyn wedi gofyn am gnel ei rydd- hau o'r gadair, ac nid oes sicrwydd yr eistedda yn awr. TeimTir y dylai barhau yn ei swydd hyd ddiwedd y rhyfel-a dichon y gwna. Ofnai rhai y ceid tipyn o drafferth gyda }>hwnc cyflogau y peirianwyr a'u c.pwrth- wywyr, gan fod rhai o'r bobl hrny yn penthyn i Gynghrair y Mwnwyr (dros ba rai yr oedd y cytundeb newydd, gyda'r li-il rldadwrdd. wedi ci wneud*. rnno llawer iawn o honvnt yn aelodau o'u cvm- deithas en hunain: ac yn annibynol hollol ar y Cynghrair Mwnawl. Ond dydd Llun gwnaeth swyddogion y gymdeitha." hono gytundeb eu hunain a'r cyfalafwyr, ac edrycha y rhagolygon yri ysgafn ac yn galonog, fel pe byddai heulwen haf" dechreu mis Medi, yn mlwyddyn y rhyfel fawr, yn graddol aeddfcdu ffrwyth llafur caled y misoedd di weddaf yma, fel y caffo'r llafurwr ei hur ddvledus mewn hedd. # # # neill- Gau nad oes unrhyw amgylchiad neill- ilnol i'w groniclo, y dyddiau hyn, mewn pysylltiad a'r rhyfel, gwell peidio amcanu at fanylion. Y mae y Rwssiaid, fel arfer, wedi troi ar y gelyn a rhoddi ergyd ar- ewydus iddo pan oedd byddin aruthrol yr Almaen yn ceisio dilyn rhai a ystyrient yn ffoaduriaid wedi eu gorchfygu. Ond i oni, ac i lawer o'r darilenwyr, o'r dwyrain pell y mae y cyfnewidiad mawr yn ddis- gwyliedig o hyd. Nid yn unig am fod diddordeb dwfn yn cael ei gymeryd yn y manau cyfagos i Ardd Eden, gynt, ac nid am fod yr Iuddewon, rai o honynt, a'u llygaid ar y dychweliad mawr i t, wlad yr Addewid," ond am fod aberth sydd eto heb ei gyfrif, wedi ei wneud eisioes, i gyrhaedd yr andean mewn golwg, sef rhyddhau y ffordd i Rwssia, ac oherwydd mai o'r cyf- eiriad hwnw y ceir yn y man adlais jhyfel-gri fuddugoliaethus a rydd lawen- ydd yn nghalonau miliynau o bobl yma, = yn Ffrainc ac yn Rwssia. Caffed amynedd ei pherffaith waith, a gellir canu Kyda mwy o hwyl nag erioed, ac yn fwy Ilythyrenol-"Bryniau Canaan, bryniau Canaan, ddont i'm golwg yn y man." # Cotf genyf am y son fu ar led yn amser ly Diwygiad fod Mr. Evan Roberts yn Wriadu myned i wlad Canaan, a dywedai rhai gydag awdurdod honiedig fod rhyw foneddiges gyfoethog yn bwriadu talu'r treuliau. Y gwir oedd mai fi fu yn fodd- ion i roddi y cynyg o flaen Mr. Evan Roberts, am fod perchenogion newydd- Sadur yn barod i dalu eu dreuliau ef a minau os ydoedd am fyned. Ar un amser yr oedd wedi dweyd yr hoffai fyned i dalu ymweliad a'r manau cysegredig a wnaed yn, anwrl i fechgyn a merched Cymru gan hanes preseb Bethlehem, a gruddfanau'r Ardd, a phen Calfaria, yn llawn cymaint ag atdyniad gwefreiddio! gAveddillion y Demi yn Jerusalem. Wedi dwys ystyr- iaeth, gwrthododd Mr. Roberts y cynyg, a barnai rhai mai doeth oedd y pender- fyniad, oherrwydd mai siomant irldo fyddfti m-yned i glywed seindorf bres yn chwareu eerddoriaeth y ddawns ar nos Sul yn Ngardd Gethsemane. Ar yr an pryd y mae emynau Cymru swedi dyfod yn rhan o'r bywyd cenecll- aethol, ac y mae Paatycelyn ac oreill- bob anghofio Gomer fawr yn Abertawe, a Tomos Lewis, Talyllychau—wedi eneinio'r emynau a liiraeth am Ben Calfaria/' a'r Wt Arwain i Galfari fryn a'i hoelio ar groes- bran o'i fodd," fel mai tynevach yw'1' teimladau yn myned yn mhlith gwerin Cymru f.1 y mae'r diegwyliad yn oodi am ymlr Twtc fllan o Ewrop. Gwvlier y wmudiada,zi yn y Gorllewin pell, felly, fyda chraffder. it IVrygl sydd- i ddychymyp gymeryd y iffrwyn yn ei ddanedd (ys dvwed v fferm- irr am ai geffyl bywiog) pan yn cvffwrdd a tbestyn sydd a'i gyffiniau mor eang, a rhaid cadw o fewn torfynau pan fo cystudd yn ofiy.s-ta 1 a g-Diiod yn gwttsgu yn dynn ar y sawl, fet myfi, sydd a thuedd ynddo i ymeangu. Fel yr oeddwn yn tmmlo vi? w.vthno'si ?dy!. Nrit ivnettd it, ?it 11 ?c'iH, yr vyi yr wythnos .uùn yn goriod L gadael o'r neilldu rai sylwadau oeddwn am wneud ar Dial Ifan Bwen yn Meirniad haf 1913. Dipyn yn hwyr, m-eddych. Wei, ie, ond teilvnga y stori fechmi, dlas, galon-gvdiol fwy o sylw nag a g-afodd ar y pry<l, nac hyd yma. A phe cyneithid hi i'r iaith fain, gwelai miloedd mwv fod gan -Ntoolona (Miss L. M. Owen, Caerdydd) lvgad treiddgar i weled, calon i deimlo dros wendidau ei chyd- genedl, a'r gallu i roddi allan, yn fyw ac yn darawuidol, ac yn wirioneddol, gymerr iadau Cymreig y mae rhai ysgrifenwyr chwyddedig wedi eu pardduo wrth geisio eu portreadu.

NEWYDDION LLEOL A CHYFFREDINOL.

I PONTARDAWE. j

AMMANFORD SOLDIER'S HOME-…

[No title]

TAMEIDIAU AMRYWIOL. I

BODY IN SWANSEA DOCK.

WAR TRAGEDY. j

GERMAN FIRM'S CLAIM. 1

TRADE OF THE PORT.I

"TRUST LORD KITCHENER." I

CWMFELIN MAN WOUNDED.I

IPRAISE TOR GOWER 1 GUARDIANS.…

I CLOSING OF A GOWER ROAD.

EISTEDDFOD AT FELINFOEL.I

LIEUT. SHUTTLEWOOD WOUNDED.

AN EXPENSIVE THROW.I

DETECTIVES' LAW ACTION. I

! -GIRL'S DEATH. I

IWOUNDED CANADIAN HONOURED.…

GORSEINON FUNERAL.I

LUCKY FINDS AT LOUGHOR. I

RADIUM CHEAPER. I

SWANSEA ODDFELLOW'S DEATH.I

ANOTHER AMMANFORD CASUALTY.

HATPIN AS A WEAPON.I

[No title]

Advertising

MYCOLOGICAL SOCIETY'S VISIT.

TIP FOB RATEPAYERS.

REFU'G.:c; AT SWANSEA.

A MANSELTON QUARREL.,