Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

t BWYD Y BOBL AR OL Y RHYFEL.

News
Cite
Share

t BWYD Y BOBL AR OL Y RHYFEL. Go fynuon v Dy foilol- -,7 I Drwy ofal, a threfn, a chynhildeb cadwyd bwyd ymhob cwpwrdd drwy'r deyrnas hon ar hyd y pedair blynedd rhyfel. Bydd yn gofyn yr un gofal, trefn a chynhildeb yn y dyfodol os ydym am gadw y cwpwrdd rhag myned yn wag ar ol cael heddwch. Em Bar a. Defnyddir tua chwe miliwn a hanner o dunelli o flawd bob blwyddyn at wneud bara i drigolion y deyrnas. Nid oeddem cyn y rhyfel yn codi mwy nag un pwys o bob tri a ddefnyddiem. Deuai y gweddill oil o wledydd tramor. Dwy ffordd y sydd i sicrhau cyflenwad digonol o hyn allan :sef yn gyntaf bod yn gynnil mewn defnyddio yr hyn sydd gennym, ac yn ail, gwneud i'r tir gynhyrchu mwy. Gellri cynhilo mewn dwy ffordd sef (1) drwy beidio gwastraffu dim o'r yd a felir; a (2) drwy droi mwy o flawd at was- anaeth dyn a llai ?t wasanaeth anifail. Am (1) enillwyd llynedd 600,000 tunell o flawd a arferid gynt ei droi o'r neilldu at amcanion eraill na gwneud bara. Sonir ymhellfich isod am (2) Mae dwy, ffordd hefyd i wneud i'r tir gynhyrchu mwy, sef (1) drwy hau ychwaneg o dir a (2) drwy wella ein dull o amaethu fel ag i gael' trym- ach cnydau. Gwneir y cyntaf o'r ddau drwy allotments. Ceir dros filiwn o'rcyfrvw na freuddwydiau neb ajbo, danynt cyn y rhyfel. Gwnaeth y miliwn hyn lawer i gynorthwyo ein milwyr dewr i drechu'r Germaniaid. Am yr ail ffordd, dilynir i raddau pell ar I arbrawfiadau dysgedigion. Er engraifft j mae y Proffeswr Priggen yn Nghaer Grawnt wedi llwyddo i gael math newydd. o wenith yr hwn a gynhyrcha aniryw fwsieli yr acer yn fwy o gnwd nag a wna I unrhyw wenith sydd yn awr ar y farchnad. Bydd ychwanegu. dim ond pum bwsiel o- wenith at gnwd presennol pob acer yn gol- ygu ychwanegu miliwn o dunelli bob blwyddyn at gnwd y deyrnas I Ein cig. t Danghoswyd yr wythnos ddiweddaf rai j o'r anhawsterau i gynhyrchu cig gartref. j Dengys profiad y pedair blynedd diwedd- af mai dull treilfawr iawn yw i ni ddadfori bwyd anifeiliaid o wledydcl at besgu ani- feiliaid gartref. Rhatach o lawer ymhob ystyr yw gadael i'r gwledydd tramor lie y I codir y bwyd ei ddefnyddio yno i besgi < :anife,illaidacynaianforicigini. Danghos- wyd dro ar ol tro mai'r anhawster ma wr i gadw'r cwpwrdd bwyd yn llawn yw diffyg llongau i gludo o wledydd pell yr hyn sydd arnom angen. Danghoswyd fod eidion y y wlad hon yn gofyn cael 64 pwys o flawd sych "dryfoder" i gynhyrchu un pwys o gig. Amlwg yw ei bod yn rhwyddach ac yn rhatach i gludo pwys o gig dros y mor nag ydyw. i gludo 64 pwys o fwyd anifeil- iaid. Mae yr un peth o ran egwyddor, e: fod y ffigyrau yn wahanol, am bob math o gig A siarad yn gyffredinol arferem ddadforio dwy dunell o yd at fwyd amifeil- iaid yn y wlad hon am bob tunell a ddad- foriem at fwyd dyn- Dywed synwyr cyffredin felly, os ydym am gynhilo yn ein llongau, mai gadael i'r anifeiliaid gael eu pesgi yn y gwledydd He codir digon o fwyd iddynt yw y peth goreu, ac i ninnau gludo'r cig oddiyno i'r wlad hon Ystordai Cig ac Y sguboria-u Yd Cyfyd hyn drachefn gwestiwn arall a wasgwyd arnom gan y rhyfel--sef pa fodd i ddarparu yn amser llawnder ar gyfer am- ser prinder Gwnaeth Joseph yn yr Aifft gynt ystordai brenhinol i gasglu ynddynt ffrwyth saith mlynedd llawn yn barod at angen am saith mlynedd newyn Gwnai hen drigolion Peru gynt yr un modd Yr oectd ganddynt hwy yn yr ysguboriau eenhedlaethol ddigon o ddefnydd bjira am amryw flynyddoedd i ddod Rhaid i ninnau wneud yn gyffelyb Pe baem wedi gwneud cyn y rhyfel buasai'r Germaniaid wedi torri eu calonnau am ein newynu cyn dechreu gyrru'r submarines allan Mae y cwestiwn o gadw cig yn addas i fod y n fwyd dyn yn un mwy anhawdd Rhaid wrth ddau fath o ddarpariaeth mewn ystordai at gadw cig, sef ystordai oer (cold storage) ac ystordai rhew (freez- ing chambers) Mae gwyddor wedi ein dysgu pa fodd i wneud y ddau. Golyga y cyntaf adeilad lie y gellir cadw cig yn fires am amser penodol, ond byrr. 0 ddiffyg y cyfryw aeth miloedd o dunelli o gig rhagorol yn ofer y llynedd. a gorfu ei ddefn- j yddio yn wrtaith i'r tir yn lie yn fwyd i ddyn. Golyga yr ail yr ystordy rhew, darpariaeth i rewi y cig can gynted ag y lleddir ef; ceidw felly yn ffres, gyda gofal am amser amhenodol. Pan geir digon o ddarpariaeth o'r ddau uchod, dylai ein cig am v dyfodol fod yn ymarferol ddiogel. Beiir Gweinyddiaeth y Bwyd weithiau am ei bod yn rheoli marchnad cynnyrch cartref, megys tatws a ffrwythau, gan or- fodi eu gwerthil yn neu mor agos ag y gellir i'r ardal lie ey'u codir. Amcan y trefniant hwn yw cynhilo cludiad, Gwas- traff i gyd fuasai cludo glo o Gaergybi i'w werthu yng Nghaerdydd, cyffelyb wa- traff fuasai cludo cynnyrch fferm o Gaer- dydd i'w werthu yn Sir Fon.

MARWOLAETH MR. EVAN OWEN,…

iMEWN HIRAETH AM ANEURIN.

Advertising