Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

PRIODAS MISS OLWEN LLOYD I…

News
Cite
Share

PRIODAS MISS OLWEN LLOYD GEORGE A CAPT. T. CAREY EVANS M.D. 5 ] Ddvdd Mawrth yng nghapel Cymraeg y Bedyddwyr yn Castle Street, Llundain, priodwyd Miss Olwen Lloyd George, yr hynaf o ddwy ferch y Prif Weinidog, a Mrs. Lloyd George a Capt. T. J. Carey Evans, M-D., mab Dr. R. D. Evans, Blaen- au Festiniog. Yr oedd y Capel wedi ■EI lanw a chyfeillion mynwesol y briodas- fereli, a llawer o urddasolion penaf v Deyrnas. ac yr odd y capel wadi ei add- urno yn brydferth a blodeu o bob math. Yr oedd y gwasanaeth yn Gymraeg, y Parch. James Nicholas, gweinidog Eglwys Castle Street a'r Parch. Dr. Owen Davies, Caernarfon yn gweinyddu.— Traddodwyd anerchiad yn Saesneg hefyd gan y Parch. Dr. Clifford. Canodd 4 o gantorion y quartette "0 Perfect Love." Y bridesmaids oeddynt, Miss Megan Lloyd j George, a Miss Gwendy Armstrong Jones, a gwasanaethai Lieut. Gwilym Evans, brawd y priodfab fel gwas. Cyn gadael am y capel derbyniodd y Prif Weinidog y pellebr canlynol oddiwrth y Brenin.— "Mae y Frenhines a minau yn eich llongyfarch chwi, Mrs. Lloyd George a'ch merch ar achlysur ei phriodas, ac yn dymuno i'r priodfab a'r briodasferch bob, cysur posibl.—George R.I." Ym mysg y rhai oedd yn bresennol yr oedd Major Richard Lloyd George a'i briod, Mr. a Mrs. William George, Ar-' j I glwyddes Rhondda, Arglwydd ac Ar- s glwyddes St. Davids, Dr. Addeson, Sir David ac Arglwyddes Brynmor Jones, Mr. Ellis Griffith. A.S., Mr. Haydn Jones, I A.S. &c., &c. @@@

i ; Y RHEOLWR BWYD NEWYDD.…

) ! FFRWYDRIAD MEWN FFATRI.…

1 UN 0 GOLOFNAU'R .WESLEAID.…

Y GWEITHWYR AMAETHYDDOL.

GWYL I'R BANCIAU.

IPRIS Y CA \VS I

Family Notices

ER COF—

CYHOEDDIADAU SABOTHOL. I