Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

SOSIALAETH.

News
Cite
Share

SOSIALAETH. GAN GWYLFA YN Y TYST. Cynghorau a Chynadleddau'r Sosialiaid sydd heddyw'n tynnu sylw'r byd, ac y mae cyfle'r mudiad mawr Sosialaidd fel pe wedi dod a phob Gweinyddiaeth yn ofni tram- gwyddo'r hyrwyddwyr, ac yn gadael iddynt wneud a dweyd ymron fel fynnont. Rhyfedd yw gweld y breuddwyd mawr cymdeithasol yn dal i ddenu'r gwerinoedd, hyd yn oed pan font chwerwaf eu teim- teimladau cenhedlig. Dyma fyddinoedd pob gwlad wddf yng ngwddf a'r un pryd wele Sosialiaid y gwledydd yn tynnu at ei gilydd, ac yn trefnu i gynadleddu, a son am fuddiannau heddwch a chydfod. Cristionogaeth eglwysig fel pe'n methu cadw'r cenhedloedd rhag ymgynhennu a chweryla a gwaedu ei gilydd ac hyd yn oed yn yr un wlad rhennir Eglwys Dduw yn fan enwadau a phleidiau anodd iawn eu huno, a gwneir yr Eglwys yn nych- lyd a, diddylanwad drwy ei hymraniadau. O'r. ochr arall, dyma Sosialaeth, yn ei gwedd fwyaf bydol-dyma freuddwyd yr 20fed ganrif, er ei holl fateroliaeth yn llwyddo i uno'r gwerinoedd a dwyn meibion llafur ynghyd rhyfel neu beid? a'u rhwvmo'n ddiddatod wrth ei gilydd! Gwelir y mudiad Sosialaidd heddyw'n cymryd at wneud yr hyn ddylai Eglwys Dduwallu ei wneud-awgrymu i'r Gwein- yddiaethau oil b-ethywtelerau heddwch j i fod; pa un a oes cosb i fod ar wlad neu wledydd; a oes iawn i'w hawlio; a oes gydio Ii gwledydd yr ysbail wrth y rhai a'i hysbeil- iodd i'w ganiatau. Galwai'r United Socialist Council yn Leeds ar y Llywod- raeth hon i ddodi ei hun yn llinell y Werin- iaeth newydd sydd yn Rwsia-ac aeth pethau'n rhy bell erbyn hyn i unrhyw Weinyddiaeth allu anwybyddu'r mudiad Sosialaidd yn hir. Y rhyfel yw cyfle mawr Sosialiaeth wedi'r cwbl. Tynged ryfedd! Ond gresyn meddwl, onide, fod Sosial- iaeth yn gallu gwneud yr hyn y dylai ac y gallasai Eglwys Crist ei wneud petai'n unol: Undeb ac unoliaeth y Sosialiaid vw eu nerth a dirgelwch eu llwyddiant —dyna sydd yn ei galluogi i ddweyd beth I mae Ewrop i'w wneud. A'r ffaith alarus fod yr Eglwys Gristionogo], o'r tu arall, I wedi dilyn ymbleidiaeth ymhob man- a throi yma'n Eglwys Roeg, ac acw'n Eglwys Rhufain, ac yn y fan hon yn Eg- lw" vs Brotestanaidd, a hithau drachefn yn ysgyrion ynghanol llu o enwadau bychain gwanllyd—dyna sydd yn, gwneud yr Eglwys Gristionogol yu Ewrop heddyw yn rhy ddibwys i ymgynghori â. hi, ac yn gymdeithas i'w hanwybyddu. Y gallu cryfaf ar v ddaear Duw heddyw ddylai'r Eglwys fod. Yn hytrach na hynhy, ni wrendy'r Gweinyddiaethau arno o gwbl j eithr ymholant: Beth y mae Meibion j LlafuT yn ddweyd? Gwaeth na dim yw fod y mudiad Sosialaidarbyn hyn yn cilgwthio'r Eglwys ac yn trawsfeddiannu ei dydd hi—y Saboth i gynnal ei gyng- hotau a'i drafodaethau cynadleddol, fel y gwnaed yn Leeds y Sul diweddaf gan Gynghor Unedig y Sosialiaid. Gwrthododd Ribot, Prifweinidog Ffrainc drwyddedu'r Sosialiaid yno i fynd fel cynrvchiolwyr i Gyrigor Stockholm, am fnd matarion heddwch i'w trafod yn y Cynghor, ac na chydnabyddai efe hawl < i unrhyw adran o'r bobl, neu unrhyw ddos- I barth mewn gwlad—y Sosialiaid neu'r Pabyddion neu beth—i geisio setlo'r i anghydfod mawr hwn yn annibynnol a Senedd y wlad nac yng ngwrthgefn yr awdurdodau. Y gallu i ddirwyn cynen Ewrop i ben yw deddfwrfa pob gwlad sydd yn rhyfela, meddai Ribot. 0 dan yr amgylchiadau presennol, digon gwir. Y bobl wnaethyrhyfel ddylai ei setlo, a hynny mewn maes wrthynt eu hunain, a'i setlo a'u gwaed eu hunain. Ond y gwaethaf yw mai gweithwyr y byd sy'n gorfod ymladd y rhyfel allan a gwaedu'n ddiachos wedi i gadcwn melltigedig dynnu y byd i frwydro. Nid annaturiol, ynte, yw gweld cynrychiolwyr y gweithwyr yn dweyd "Ein pobl ni sydd yn dioddef ymhob cyfeiriad, ac yn marw wrth y miliynau heb angen nac achos: am hynny hawliwn lais ynglyn a pharhad y malldod cythreulig hwn sydd yn andwyo nerth y cenhedloedd ac yn ysu bywyd y gwerin- oedd." Protestied Ribot a fynno, i hynny i y daw. Anghyfryd ar ryw ystyr yw cyfansodd- iad y Cyngor sydd wedi dyrysu gwerin- iaeth newydd Rwsia i raddau. Gwneir y Cyngor hwn i fynny o Gynrychiolwyr Gweithwyr a Milwyr (Workmen and Soldiers Delegates). A! dyma agwedd anfiodus ar bethau. Goreu po bellaf i weithwyr y byd gadw oddiwrth Filitariaeth; ac er mai gweithwyr yw'r milwyr, eto i gyd yn eu cymeriad fel gweithwyr yn hytrach nag fel milwyr y mae oreu iddynt anfon eu cynrychiolwyr i gyngor. Nid dau allu cyfochrog. Nid dwy adran wedi ymuno, gobeithio. Nid dau ddosbarth wedi ym- briodi dylai'r gweithwyr a'r milwyr fod. Dileu eu cymeriad milwrol sydd eisiau ¡ a'u cadw yng nghymeriad gweithwyr Ymwrthod a'r bywyd milwrol a'i rwymau fel pethau diangenraid, ac fel pethau I ddaeth i'w rhan a'u hanes drwy ddamwain farbaraidd yn 1914-17-pethau i'w hanghofio cyn gynted ag a ellir. Aros yn weithwyr-dyna ogoniant y gwerinoedd. A pho berffeithiad y gwerinoedd, mwyaf eu gweithgarwch a bri eu llafur. Galwai Cyngor Leeds y Sul diweddaf am sefydlu Cynghorau o Workmen and Soldiers' Delegates yn y wlad hon. Na, gobeithio na chaiff y fath gysylltiad fyth ddod i ) hanes gweithwyr y wlad hon ar ol eleni. j Nid oes angen am gynrychiolwyr a dir- ■ prwyon milwrol yn ein cynadleddau )1 gweithfaol ni. Cawsom ddigon ar draha'r Jj "Cynrychiolydd Milwrol" swyddogol ym- i hob tribunal drwy'r wlad, a bydd yr enw'n ffieiddbeth i filoedd gweithwyr y deyrna am genedlaethau mwy.

I MARW DR. ETHE. ! I -

NEWYDDION.

Advertising