Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y TRIBUNAL LLEOL.

News
Cite
Share

Y TRIBUNAL LLEOL. CYFARFOD CYTHRYBLUS. Cynhaliwyd nos Fawrth yn y Neuadd Sirol. Presennol Llew Meirion (Cadeirydd Mri. D. R. Mills, E. E. Jones, R. C. Evans, W. Allen, Edward Evans, D. J. Lewis, H. Parry Jones, Rees Morgan a Mr. J. Charles Hughes, (Cyniychiolydd Milwrol), a Mr. R. Barnett (Clerc). Mr.; Guthrie Jones a apeliai dros Mr. T. H. Roberts, am T. Levy, Plumber, Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr. D. J. Lewis parthed yr angenrheidrwydd am, gadw ei wasanaeth yn y dref. Pasiwyd iddo fyned i Wrecsam dan archwiliad meddygol. Apeliai Mr. Guthrie Jones ar ran Mri. Chidlaw Roberts am esgusodiad amodol i John Edward Jones, llifiwr. Yr oedd -wedi pasio yn nosbarth B 1. Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr. Hitchfield Jones fod ) y firm yn gweithio yn gyfan gwbl i'r L1YW-1 odraeth, ac fod gan y bachgen dystysgrif esgusodiad gan y Ministry of AfMM?MMX. Taflwyd yr apel allan gan fod y tystysgrif oedd ganddo yn ei sjcrhau rhag myned tra yn ei wasanaeth presennol. Apeliai Mr. Guthrie Jones dros Richard I Jones, Painter am Wilfred George Green (C.2.) Yr oedd ddwywaith yn flaenorol I wedi ei wrthod. Dywedai Mr. R. Jones nad oedd ganddo ond y gweithiwr hwn yn I weddill yr oedd 5 wedi mynd. Yr oedd wedi priodi a dau o blant a bron yn 41 oed Caniatawyd hyd Rhagfyr 31. Apeliai Mr. Guthrie Jones dros Mr. I D. G. Owen am ei plumber James Jones (C.I.) Dywedai Mr. Owen ei fod yn an- hebgor iddo, yr oedd wedi ymweled a 300 o dai i wneud gwaith ynddynt y flwyddyn hon. Dywedai Jones ei fod yn cynal ei fam. Yr oedd ei ddau frawd yn y fyddin. Gwrthodwyd ef y tro cyntaf gan yr awdur- dodau milwrol. Caniatawyd hvd Rhagfyr 31 Y Cynrychiolydd Milwrol (Mr. J. C i Hughes) a apeliai am John Pugh, clerk Capt. Oswald Davies, yr hwn oedd wedi cael esgusodiad amodol, tra yng ngwas- anaeth Capt. O. Davies. Dywedai Mr. Hughes eu bod oil yn gofidio am farwolaeth Mr. Davies ond oherwydd hynny nid oedd esgusodiad Pugh yn aros. Apeliai Mr. Barnett dros Pugh ar y tir "Fod gwasanaeth Pugh wedi ei gymryd drosodd gennyf fl, a fv mod wedi ymgym- eryd yn ddidal gwirfoddol i .roi ei was- • anaeth ef a minnau i fam y diweddar Capt. Oswald Davies i ddirwvn i fyny ei ystad. Wrth ystyried ei genedlaethgarwch a j barodd iddo roi ei wasanaeth i'r WJad pan dorodd y rhyfel allan yr hyn yn y diwedd fu yn achos i'w fywyd fynd yn aberth, yr wyf yn hyderus yn gofyn i'r Tribunal adnewyddu esgusodiad amodol Pugh neu roddi esgusodiad iddo tra y pery yn fy ngwasanaeth. Fod apel yr awdur- dodau milwrol i dynu yn ol ei esgusodiad • fewn 14 diwrnod i farwolaeth Capt. Diviesr a 10 diwrnod i'w gladdedigaeth yn afresymol. Mae tad Pugh yn glaf ac yn ddibynol arno ef. Mae ei unig ddau frawd yn y fyddin, ac y mae y ddau yn ymadael am y ffrynt yr wythnos hon. Mr. Hughes a ddywedai nad oedd gan- ddvnt gwrs arall i'w gymeryd yn gymaint a bod y rheswm am esgusodiad Pugh "fel yn oedd wedi diflanu gyda marwolaeth Capt. Davies. Pasiwyd iddo fyned dan archwiliad meddygol i Wrecsam. Apeliai y Cynrychiolydd Milwrol am Richard George Thompson, Park Row. Y Cadeirydd: Yr ydym wedi pender- fynu y tro diweddaf nad oedd genym locus standi yn yr achos hwn am fod y bachgen yn Americanwr. [ Mr. J. C. Hughes: Nid oes dyfarniad ar yr achos wedi cael ei anfon i mewn. Nid yw eich dyfarniad chwi a dyfarniad yr Arglwvdd Birf Farnwr mewn achos arall cyffelyb yn cydgordio. Y Cadeirydd: Yna buaswn yn hoffi gwybod beth ydyw dyfarniad yr Arglwvdd Brif Farnwr. Mr. Hughes: Lie mae'r bachgen buaswn yn hoffi gofyn cwestiynau ddo cyn rho' dyfarniad yr Arglwydd Biif Farnwr. Y Cadeirydd- -ae yn amlwg fod Mr. Hughes yn gwrthod rhoi dyfarniad y Prif Farnwr, waeth genyf fi felly beth ydoedd efe Cadeirydd y Tribynlys. (Gan fod y bachgen heb gyrhaedd y llys, gohiriwyd yr achos hyd yn ddiwedd- arach yn y cyfarfod.) Apeliai Mr. D. R. Mills am esgusodiad i Berwyn Edwards, Pobydd yn ei wasan- aeth. Yr oedd wedi apelio at amryw o'r awdurdodau. am un yn ei le, ond heb lwydd. Yr oedd ganddynt gontract i gyflenwi y Tloty &c., a gwnant hefyd grasu i'r cy- hoedd. Mewn atebiad i Mr. Hughes, dywedodd Mr. Mills nad oedd y bachgen wedi bod yn Wrecsam. Mr. Hughes: Paham nad aiff pawb i gael eu harchwilio yn feddygol, gwastraff ar amser y llys fyddai gwrando yr achos hwn pe cai ei wrthod yn Wrecsam. Mr. Mills a addawai y cai fyned, yr oedd ef yn meddwl mai n swyddogion milwrol fuasai yn ei alw. Mr. William Allen: Dydi pawb ddim yn hoffi mynd i Wrecsam Mr. Hughes. Mr. Hughes: Buasai yn llawer iawn gewll pe bai pawb wedi bod cyn i'w hachos ddod gerbron. Pasiwyd iddo fyned i Wrecsam' Apeliai Mr. William Owen am ei was, Owen Dafydd Owen. Dywedai Mr. Allen ei fod wedi ei wrthod i ddechreu, ond yr oedd yn awr yn C 2. Yr oedd wedi cau un siop oherwydd prinder dwylaw Yr oedd ei ferch yn myned allan gyda'r ceffyl. Nid oedd ganddo neb arall i symud pwysau. Caniatawyd hyd Medi 30. Y n achos J. R. Lewis, Printer, am ei fod wedi ei basio yn Class C 3, rhoddwyd hawl iddo apelio os y gelwir ef. I Yn achos J. Oswald Edwards pasiwyd i'w ohirio hyd nes iddo fyned i Wrecsam, a thaflwyd achos R. W. Roberts, Bont- yrarran allan am ei fod wedi rei wrthod yn Wrecsam. Apeliai Mr. John Griffith, Caer am R. Morris Williams (C 1) siop Bradleys, Dol- gellau. Dywedai Mr. Grffith fod 170 weel; myned allan o 190 o'u gweision oedd mewn oedran milwrol. Williams oedd yr ail i fyned yn Awst 1914, ond caf- odd ei discharge ar ol bod gyda y fyddin flwyddyn a 16 niwmod. Yr oeddynt wedi hysbysebu mewn 150 o newyddiaduron am ddynion. Yr oeddynt hefyd yn talu llawer i gyllid y llywodraeth, hefyd yr oeddynt yn talu cyfran wythnosol i bob; un o'u gweision oedd yn y fyddin. Cwyn- ai fod yr awdurdodau milwrol yn rhv galed gyda hwy, y dydd o'r blaen mewn sir arall, galwyd un o'u dynion oedd heb roi rhybudd i fewn mewn pryd i fynu ar ddydd Sadwrn » gan nad oedd ganddynt neb i roi yn ei le, anfonasant ato i beidio myned y diwrnod hwnnw. Dydd Sul yr oedd yr awdurdod- au milwrol yn ei ymofyn. Aeth Mr. Griffith at Mr. J. C. Hughes, i ateb cwestiwn iddo, ond galwodd y Cadeirydd ef i drefn a dywedodd mae hwy fel tribunal oedd y dynion iddo ef ddelio a hwy. Wedi gofyn am weled discharge card Williams dywedodd y Cadeirydd mai 16 niwrnod fu Williams gyda'r fyddin. Nid oedd yna 1 o' flaen y gair blwyddyn, tick ydi hwn, tick ydi'r Hall, a tick ydi hwna. Addefai fod un tick yn debyg i one. j Mr. Griffith: Goreu yn y byd i'n apel i, mae Williams y tro diweddaf wedi tori I, i lawr mewn 16 diwrnod o dan ddisgyblaeth filwrol yn lie blwyddyn a 16 diwrnod. I Caniatawyd hyd Rhagfyr 31. Apeliai Mr. Thomas Morgan, Victoria í Bids., am ei weithiwr, Boaz W, Rowlands (C 2). Yr oedd mwy o waith trwsio o ) lawer yn awr oherwydd drudaniaeth es I gidiau newyddion. Caniatawyd hyd- Rhagfyr 31. rl'. I Dywedodd Mr. Barnett ei fod wedi cael rhybudd o apel gan David H. Evans, (C 2) postman Arthog. Nid oedd yr apel wedi bod o flaen yr awdurdodau milwrol. Yr oedd yn hwyr yn dod i mewn, ac yr oedd Evans wedi ei alw i fyny. Yr oedd gan y tribunal hawl i wrando yr apel er ei fod yn hwyr, ac awgrymai alw cyfarfod arall cyn dyddiad galwad Evans i fyny, wedi'r awdurdodau milwrol weled yr apel Cytunwyd a hyn. I ACHOS THOMPSON ETO. Gan fod George Thompson wedi cyr- raedd, aed vmlaen a'i achos ef. Mewn atebiad i Mr. Hughes dywedodd Thompson ei fod yn 19 yn mis Mawrth diweddaf. Bu ei dad farw yn America, Ionawr 13 nid oedd yn cofio pwy flwyddyn. Yr oedd ei dad yn Americanwr ac yno y ganwyd yntau- Ym mhen 6 neu 9 mis ar ol marwolaeth ei dad daeth ei fam a 5 o blant drosodd yma i fyw i 2, Park Row, Dolgellau. Pan yn gofyn cwestiynau, ynglyn a'i Registration Card ataliwyd Mr. Hughes gan y Cadeirydd, dywedodd eu bod wedi i cael digon, nid oedd yn credu eu bod yn iawn yn myned i'r achos y noswaith hono. Yna caed ymrafael rhwng Mr. Hughes a'r Cadeirydd, yr hyn a barodd i Mr. Hughes ddweyd,— "Llew, yr ydych yn gofyn cwestiynau ynfyd. Y Cadeirydd: "Ydwyf, wrth gwrs mi rydwyf. Dywedodd y Clerc mai y safle yr oeddynt hwy yn ei gymeryd i fyny fel Tribynlys ydoedd gan fod y bachgen yn hawlio ei fod yn ddinesydd Americanaidd mai nid hwy fel tribynlys oedd i setlo y cwestiwn hwnnw. Mater i'r awdurdodau milwrol i'w gael allan ydoedd. Mr. Hughes: Mae'n rhaid i mi gael eich dyfamiad, os na chan- iatewch i mi ofyn cwestiynau iddo sut y gallaf gael hynny allan. Beth sydd yn erbyn i rhywun arall ddod yma. a dweyd ei fod yn ddinesydd o Timbucktoo? Aelodau y Tribunal: Mae'r bachgen yma wedi rhoi ei bapurau i mewn. Mr. Hughes; Beth sydd yn erbyn i ryw- un roi papyrau twyllodrus i mewn, nid Gwel tudalen 8